
2025 Rhif 981 (Cy. 173)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 27 Awst 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 29 Awst 2025
Yn dod i rym 31 Awst 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a) a (2)(c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2025.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 6.
Amnewid rheoliad 5
4 
Yn lle rheoliad 5 (cyrsiau dynodedig) (ond nid y pennawd o’i flaen) rhodder—“
5. 
Yn y Rheoliadau hyn (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”)), mae cwrs yn gwrs dynodedig os yw’n bodloni—
(a) pob un o’r amodau yn rheoliad 6(1) ac nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 7(1), neu
(b) y gofynion a nodir yn Atodlen 1A.”
Diwygio rheoliad 40
5 
Yn rheoliad 40 (swm benthyciad at ffioedd dysgu), ym mharagraff (2)(c)(i), ar y diwedd mewnosoder “neu ddarparwr a bennir yng ngholofn 2 o Dabl 14A yn Atodlen 1A i’r graddau y mae’n darparu’r cwrs a ddisgrifir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3”.
Mewnosod Atodlen newydd 1A
6 
Ar ôl Atodlen 1 (dehongli) mewnosoder—“
ATODLEN 1A
Cyrsiau dynodedig
Rheoliad 5(b)
1. 
Cwrs a ddisgrifir yng ngholofn 3 o Dabl 14A—
(a) a ddarperir gan ddarparwr y cwrs a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2,
(b) sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir gan y corff a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1, ac
(c) sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2026.

Tabl 14A
Colofn 1: Y corff dyfarnu Colofn 2: Darparwr y cwrs Colofn 3: Disgrifiad o’r cwrs
Bath Spa University Boomsatsuma Education Ffotograffiaeth ac Argraffu Dogfennol – BA (Anrh)
Gwneud Ffilmiau (Cynhyrchu) – BA (Anrh)
Circomedia Syrcas Gyfoes gyda Theatr Gorfforol – FdA
Elizabeth School of London Busnes a Rheoli gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig (Birmingham) – BA (Anrh)
Buckinghamshire New University Dancebox Studios and Theatre Works Dawns Broffesiynol a Theatr Gerdd – BA (Anrh)
Canterbury Christ Church University Elizabeth School of London Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen (Llundain) – BSc (Anrh)
De Montfort University National Design Academy Dylunio Mewnol – BA (Anrh)
National Motorsport Academy Peirianneg Chwaraeon Moduro – BSc (Anrh)
Falmouth University DBS Institute (DBS Falmouth Limited) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig (Bryste) – BA (Anrh)
Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig (Manceinion) – BA (Anrh)
Celf Gemau (Bryste) – BA (Anrh)
Sain Fyw (Bryste) – BA (Anrh)
Sain Fyw (Manceinion) – BA (Anrh)
Cerddoriaeth a Sain ar gyfer Ffilmiau a Theledu (Bryste) – BA (Anrh)
Cerddoriaeth a Sain ar gyfer Ffilmiau a Theledu (Manceinion) – BA (Anrh)
Cynhyrchu Cerddoriaeth a Pheirianneg Sain (Bryste) – BA (Anrh)
Cynhyrchu Cerddoriaeth a Pheirianneg Sain (Manceinion) – BA (Anrh)
Dylunio Sain (Bryste) – BA (Anrh)
Fashion Retail Academy Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer Ffasiwn – BA (Anrh)
Fourth Monkey Actio – BA (Anrh)
WaterBear Education Limited Cynhyrchu Cerddoriaeth Greadigol – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Broffesiynol (Busnes) – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Broffesiynol (Cerddoriaeth Electronig) – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Broffesiynol (Cerddoriaeth Electronig) gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Broffesiynol (Perfformio) – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Broffesiynol (Cynhyrchu) – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Broffesiynol (Ysgrifennu Caneuon) – BA (Anrh)
Ysgrifennu Caneuon a Pherfformio Cerddoriaeth – BA (Anrh)
Health Sciences University College of Esports Hyfforddi a Rheoli E-chwaraeon – BA (Anrh)
Kingston University Boomsatsuma Education Gwneud Ffilmiau: Ôl-gynhyrchu – BA (Anrh)
Gwneud Ffilmiau: Cynhyrchu – BA (Anrh)
Dylunio a Chynhyrchu Gemau – BA (Anrh)
Leeds Trinity University Scholars School System Busnes a Rheoli gyda Blwyddyn Sylfaen ym maes Busnes (Manceinion) – BSc (Anrh)
Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen ym maes Iechyd a Gofal (Llundain) – BSc (Anrh)
London Metropolitan University QA Higher Education Manchester Rheoli Busnes – Tystysgrif Addysg Uwch
Newcastle College Group OLC Europe Limited – yn corffori Eettec Limited Rheoli Busnes – Tystysgrif Addysg Uwch
Plymouth Marjon University City of London College (Campws Bryste) Busnes – BSc (Anrh)
Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen – BSc (Anrh)
Southampton Solent University QA Higher Education Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen (Manceinion) – BSc (Anrh)
University for the Creative Arts London College of Contemporary Arts Limited Rheoli Busnes ac Entrepreneuriaeth – BA (Anrh)
Rheoli a Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh)
London College of Contemporary Music Cerddoriaeth Fasnachol gyda Blwyddyn Sylfaen – BA (Anrh)
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Gyfoes – BMus (Anrh)
Rheoli Busnes ym maes Cerddoriaeth – BA (Anrh)
University of Chichester Italia Conti Arts Centre Limited Actio – BA (Anrh)
Actio – Tystysgrif Addysg Uwch
Theatr Gerdd – BA (Anrh)
Theatr Gerdd – Tystysgrif Addysg Uwch
ROM Theatre Arts Theatr Gerdd Broffesiynol – Tystysgrif Addysg Uwch
University of East London Italia Conti Arts Centre Limited Theatr Gerdd – BA (Anrh)
University Campus of Football Business Limited Busnes a Chyllid Pêl-droed (Manceinion) – BA (Anrh)
Busnes a Chyllid Pêl-droed (gyda Blwyddyn Sylfaen) (Manceinion) – BA (Anrh)
Busnes a Marchnata Pêl-droed (Manceinion) – BA (Anrh)
Busnes a’r Cyfryngau Pêl-droed (Manceinion) – BA (Anrh)
Busnes a’r Cyfryngau Pêl-droed (Wembley) – BA (Anrh)
Busnes Pêl-droed (Manceinion) – BA (Anrh)
Hyfforddi a Rheoli Pêl-droed (Manceinion) – BA (Anrh)
Hyfforddi a Rheoli Pêl-droed (Wembley) – BA (Anrh)
Hyfforddi a Rheoli Pêl-droed (gyda Blwyddyn Sylfaen) (Wembley) – BA (Anrh)
Hyfforddi a Datblygu Talent Pêl-droed (Manceinion) – BA (Anrh)
Hyfforddi Pêl-droed – BA (Anrh)
Busnes Pêl-droed Rhyngwladol (Manceinion) – BA (Anrh)
Newyddiaduraeth Chwaraeon Amlgyfrwng (Manceinion) – BA (Anrh)
Newyddiaduraeth Chwaraeon Amlgyfrwng (Wembley) – BA (Anrh)
Newyddiaduraeth Chwaraeon Amlgyfrwng (gyda Blwyddyn Sylfaen) (Manceinion) – BA (Anrh)
Addysg Gorfforol (Manceinion) – BA (Anrh)
Busnes a Hyfforddi Chwaraeon (Wembley) – BA (Anrh)
Busnes Chwaraeon a Darlledu Chwaraeon (Manceinion) – BA (Anrh)
Rheoli Chwaraeon (Manceinion) – BA (Anrh)
University of Greater Manchester Shockout Arts Dawns Broffesiynol a Masnachol – BA (Anrh)p
Dawns Broffesiynol a Masnachol – Tystysgrif Addysg Uwch
Dawns Broffesiynol a Masnachol – FdA
Dawns Broffesiynol a Masnachol – (atodol) – BA (Anrh)
Dawns Broffesiynol a Masnachol gyda Blwyddyn Sylfaen – BA (Anrh)
Dawns Fernaciwlar Stryd a Hip-Hop – FdA
UoB Manchester (enw masnachu LCA Education Limited) Rheoli Busnes Rhyngwladol – BSc (Anrh)
Rheoli Busnes Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig – BSc (Anrh)
University of Lancashire Spirit Studios Peirianneg Sain Fyw a Chynhyrchu Cerddoriaeth – BSc (Anrh)
Cynhyrchu Cerddoriaeth – BA (Anrh)
Cerddoriaeth Boblogaidd, Ysgrifennu Caneuon a Pherfformio – BA (Anrh)
University of Northampton Stella Mann College of Performing Arts Y Celfyddydau Perfformio – BA (Anrh)
Virtual Learning UK (Universal Centre of Sport) Hyfforddi Chwaraeon (Campws Lydney) – BA (Anrh)
University of Staffordshire Wilkes Academy of Performing Arts Theatr Gerdd – BA (Anrh)
University of the West of England Bristol City Robins Foundation Busnes ac Entrepreneuriaeth Chwaraeon – BA (Anrh)
Bristol Old Vic Theatre School Y Celfyddydau Cynhyrchu (y Llwyfan a’r Sgrin) – BA (Anrh)
Actio Proffesiynol – BA (Anrh)
Bristol, Clifton and West of England Zoological Society Limited (Bristol Zoological Society) Cadwraeth Bywyd Gwyllt Integredig – FdSc
University of West London Addict Dance Academy Perfformio Dawns – BA (Anrh)
Perfformio Dawns – FdA
Dawns (atodol) – BA (Anrh)
Perfformio Theatr Gerdd – BA (Anrh)
Perfformio Theatr Gerdd (atodol) – BA (Anrh)
Creative Academy Dawns – BA (Anrh)
Drama Studio London Actio Proffesiynol – BA (Anrh)
Met Film School Actio ar gyfer y Sgrin – BA (Anrh)
Cynnwys, y Cyfryngau a Chynhyrchu Ffilmiau (Leeds) – BA (Anrh)
MPAA Perfformio Theatr Gerdd – BA (Anrh)
School of Ballet Theatre UK Perfformio Bale – BA (Anrh)
UK College of Business and Computing Limited Rheoli Adnoddau Dynol gyda Blwyddyn Sylfaen – BSc (Anrh)”
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
27 Awst 2025