
2025 Rhif 966 (Cy. 167) (C. 46)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 6) 2025
Gwnaed 18 Awst 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 6) 2025.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym ar 1 Medi 2025—
(a) Rhan 4 o Atodlen 3 (asesu addysg uwch: corff dynodedig);
(b) paragraff 13(1), (2)(b) a (3) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Medi 2025 i’r graddau a bennir
3 
Daw adran 87(5) (polisi ar bwerau cyllido) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym ar 1 Medi 2025 i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 89 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau) o’r Ddeddf honno.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
18 Awst 2025