
2025 Rhif 937 (Cy. 162) (C. 44)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025
Gwnaed 29 Gorffennaf 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer sydd wedi ei gynnwys yn adran 30(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 31 Gorffennaf 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 31 Gorffennaf 2025—
(a) adran 16 (adolygiadau o ansawdd aer gan awdurdodau lleol);
(b) adran 17 (cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ardaloedd rheoli ansawdd aer);
(c) adran 18 (pwerau cyfarwyddo Gweinidogion Cymru);
(d) adran 19 (rheoleiddio mwg a thanwydd mewn ardaloedd rheoli mwg);
(e) adran 20 (canllawiau i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ardaloedd rheoli mwg);
(f) adran 21 (darpariaeth bellach sy’n ymwneud â rheoli mwg);
(g) Atodlen 1 (rheoli mwg).
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2025