
2025 Rhif 936 (Cy. 161) (C. 43)
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Rheoliadau Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025
Gwnaed 30 Gorffennaf 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 17(4)(a) ac (c) o Ddeddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2025—
(a) adran 3 (cynlluniau lleihau digwyddiadau llygredd), i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
(b) adran 5 (datrysiadau sy’n seiliedig ar natur), i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
30 Gorffennaf 2025