
2025 No. 864 (Cy. 150)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Senedd Cymru
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025
Gwnaed 9 Gorffennaf 2025
Yn dod i rym  18 Gorffennaf 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(2), 13(1), (2) a (4) a 157(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a chan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Yn unol ag adran 7(1) a (2)(f) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol cyn i’r Gorchymyn gael ei wneud ac, yn unol ag adran 8(2) a (3)(b) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi gweithredu ar argymhelliad y Comisiwn i gyfyngu ar dreuliau etholiad ymgeiswyr o dan adran 13(2)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn unol ag adran 13(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn, dirymu a darpariaeth arbed
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Gorffennaf 2025.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) a rheol 70(3) o Atodlen 5, mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 12 wedi eu dirymu.
(4) Er bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym o dan baragraff (2), nid yw’n cael effaith mewn perthynas â’r canlynol—
(a) etholiad cyffredinol y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny;
(b) Senedd a ddychwelir mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny;
(c) dychwelyd aelod i Senedd a grybwyllir yn is-baragraff (b), mewn etholiad cyffredinol neu fel arall.
(5) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “anghymhwyster cyfreithiol” (“legal incapacity”) yw unrhyw anghymhwysiad rhag pleidleisio a osodir gan y Gorchymyn hwn neu gan unrhyw ddeddfiad arall;
 mae “anabledd” (“disability”), mewn perthynas â gwneud peth, yn cynnwys yr anallu tymor byr i’w wneud;
 ystyr “ar gael i edrych arno” (“available for inspection”) yw ar gael i edrych arno yn ystod oriau swyddfa arferol;
 ystyr “ardal heddlu” (“police area”) yw ardal heddlu yng Nghymru a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf yr Heddlu 1996 (ardaloedd heddlu);
 bernir bod “arian” (“money”), ac eithrio yn erthyglau 43, 80 ac 81 ac Atodlen 6, a “gwobr ariannol” (“pecuniary reward”) yn cynnwys—
(a) unrhyw swydd, lle neu gyflogaeth,
(b) unrhyw sicreb werthfawr neu unrhyw beth arall sy’n cyfateb i arian, ac
(c) unrhyw gydnabyddiaeth werthfawr,
 ac mae ymadroddion sy’n cyfeirio at arian i gael eu dehongli yn unol â hynny;
 ystyr “arwyddlun cofrestredig” (“registered emblem”) yw arwyddlun sydd wedi ei gofrestru gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”)—
(a) mewn perthynas ag erthyglau 25, 113(1)(b), 124(1)(b) a 124(2) a pharagraff 6 o Atodlen 3, yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru, a
(b) ym mhob achos arall, yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 mae “y Clerc” (“the Clerk”) i’w ddehongli yn unol ag adran 26 o Ddeddf 2006;
 mae “cofnod dienw” (“anonymous entry”), mewn perthynas â chofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 9B o Ddeddf 1983;
 ystyr “cofnod o gofnodion dienw” (“record of anonymous entries”) yw’r cofnod a lunnir yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd paragraff 8A o Atodlen 2 i Ddeddf 1983;
 ystyr “cofrestr” (“register”) a “cofrestr etholwyr” (“register of electors”) yw’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol a gynhelir o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983;
 mae i “cyfeiriad cymhwysol” yr un ystyr â “qualifying address” yn adran 9(8)(b) o Ddeddf 1983;
 ystyr “darparwr gwasanaeth cyffredinol” (“universal service provider”) yw darparwr gwasanaeth cyffredinol o fewn ystyr “universal service provider” yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011;
 ystyr “datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd” (“statement of parties and persons nominated”) yw datganiad a lunnir yn unol â rheol 17 o Atodlen 5;
 ystyr “datganiad ynghylch treuliau etholiad” (“declaration as to election expenses”) yw datganiad a wneir o dan erthygl 55 neu 56;
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “Deddf 2011” (“the 2011 Act”) yw Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011;
 ystyr “Deddf Pleidiau Gwleidyddol 2000” (“the 2000 Political Parties Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;
 ystyr “deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd” (“Senedd election petition”) yw deiseb a gyflwynir yn unol â Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “dinesydd cymhwysol o’r Gymanwlad” (“qualifying Commonwealth citizen”) yw dinesydd o’r Gymanwlad naill ai—
(a) nad yw’n berson y mae’n ofynnol iddo gael caniatâd o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, neu
(b) sy’n berson o’r fath ond sydd, am y tro, â chaniatâd o’r fath o unrhyw ddisgrifiad, neu sydd yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad i’w drin fel pe bai ganddo ganiatâd o’r fath o unrhyw ddisgrifiad,
 ond nid yw person yn ddinesydd cymhwysol o’r Gymanwlad os nad yw’n ofynnol i’r person hwnnw gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi dim ond yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Mewnfudo 1971 (esemptiadau rhag y gofyniad am ganiatâd mewn achosion arbennig);
 ystyr “dinesydd perthnasol o’r Undeb” (“relevant citizen of the Union”) yw dinesydd o’r Undeb nad yw’n ddinesydd cymhwysol o’r Gymanwlad nac yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon, ac mae “dinesydd o’r Undeb” (“citizen of the Union”) i’w ddehongli yn unol ag erthygl 20(1) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd;
 ystyr “dinesydd tramor cymhwysol” (“qualifying foreign citizen”) yw person—
(a) nad yw’n ddinesydd o’r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon nac yn ddinesydd perthnasol o’r Undeb, a
(b) naill ai—
(i) nad yw’n berson y mae’n ofynnol iddo gael caniatâd o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, neu
(ii) sydd yn berson o’r fath ond sydd, am y tro, â chaniatâd o’r fath o unrhyw ddisgrifiad, neu sydd yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad i’w drin fel pe bai ganddo ganiatâd o’r fath o unrhyw ddisgrifiad;
 ystyr “dirprwy sy’n pleidleisio drwy’r post” (“proxy postal voter”) yw person sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy mewn etholiad;
 mae i “dyddiad caniatáu esgus awdurdodedig” (“date of the allowance of an authorised excuse”) yr ystyr a roddir gan erthygl 60(10);
 mae “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf 2006;
 ystyr “etholaeth Seneddol y DU” (“UK Parliamentary constituency”) yw etholaeth a bennir mewn Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 4 o Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986;
 ystyr “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu” (“police and crime commissioner election”) yw etholiad o dan Bennod 6 o Ran 1 o Ddeddf 2011;
 ystyr “etholiad cyffredinol i’r Senedd” (“Senedd general election”) yw cynnal etholiadau ar gyfer dychwelyd holl aelodau’r Senedd;
 ystyr “etholiad etholaethol” (“constituency election”) yw etholiad i ddychwelyd aelod o’r Senedd ar gyfer un o etholaethau’r Senedd;
 ystyr “etholiad i’r Senedd” (“Senedd election”) yw etholiad etholaethol i’r Senedd;
 ystyr “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yw etholiad a restrir yn erthygl 15(2);
 ystyr “etholwr” (“elector”), ac eithrio yn erthyglau 9, 10 a 67 a rheol 36 o Atodlen 5, yw unrhyw berson y mae ei enw am y tro ar y gofrestr sydd i’w defnyddio mewn etholiad i’r Senedd neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw, ond nid yw’n cynnwys y rhai y mae’r gofrestr yn dangos eu bod o dan yr oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y pôl;
 mae i “is-asiant” (“sub-agent”) yr ystyr a roddir gan erthygl 40(1);
 ystyr “llys etholiadol” (“election court”) yw llys arbennig o farnwyr llywyddu a gynullir i benderfynu’r ddeiseb yn erbyn canlyniad etholiad i’r Senedd;
 mae “Llywydd y Senedd” (“Presiding Officer of the Senedd”) i’w ddehongli yn unol ag adran 25 o Ddeddf 2006;
 ystyr “oedran pleidleisio” (“voting age”) yw 16 oed neu’n hŷn;
 ystyr “papur enwebu” (“nomination paper”) yw papur enwebu unigolyn neu bapur enwebu plaid;
 ystyr “papur pleidleisio drwy’r post” (“postal ballot paper”) yw papur pleidleisio a ddyroddir i bleidleisiwr drwy’r post;
 ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” (“registered political party”), yn ddarostyngedig i reolau 10 a 76 o Atodlen 5, yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000;
 ystyr “pleidleisiwr” (“voter”) yw person sy’n pleidleisio mewn etholiad i’r Senedd ac mae’n cynnwys person sy’n pleidleisio fel dirprwy ac, ac eithrio yn Atodlen 5, person sy’n pleidleisio drwy ddirprwy, ac mae “pleidlais” (“vote”) a “pleidleisio” (“vote”) i’w dehongli yn unol â hynny, ac eithrio, yn yr Atodlen honno, fod unrhyw gyfeiriad at etholwr sy’n pleidleisio neu bleidlais etholwr yn cynnwys cyfeiriad at etholwr sy’n pleidleisio drwy ddirprwy neu bleidlais etholwr a roddir drwy ddirprwy, ac mae pleidlais absennol i’w ddehongli yn unol â hynny;
 ystyr “pleidleisiwr absennol” (“absent voter”) yw etholwr sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy ddirprwy, neu etholwr neu ddirprwy sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post, ac mae “pleidlais absennol” (“absent vote”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
 ystyr “pleidleisiwr drwy’r post” (“postal voter”) yw etholwr neu ddirprwy sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post;
 ystyr “pleidleisiwr gwasanaeth” (“service voter”) yw person sydd wedi gwneud datganiad o wasanaeth yn unol ag adran 15 o Ddeddf 1983 ac sydd wedi ei gofrestru neu sydd â hawlogaeth i gael ei gofrestru yn unol ag ef;
 ystyr “proses gyfreithiol” (“legal process”) yw ffurflen hawlio, hysbysiad o gais, gwrit, gwŷs neu broses debyg arall;
 ystyr “rheolau etholiadau’r Senedd” (“Senedd election rules”) yw’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau’r Senedd a nodir yn Atodlen 5;
 ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001;
 mae i “rhestr dirprwyon” (“list of proxies”), mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd, yr ystyr a roddir gan erthygl 8(3);
 ystyr “rhestr plaid” (“party list”) yw rhestr o ddim mwy nag wyth ymgeisydd, ond caiff fod yn rhestr o un ymgeisydd yn unig, i fod yn aelod o’r Senedd neu’n aelodau o’r Senedd ar gyfer un o etholaethau’r Senedd, sydd i’w chyflwyno neu sydd wedi ei chyflwyno i swyddog canlyniadau gan blaid wleidyddol gofrestredig;
 ystyr “rhestr pleidleiswyr drwy’r post” (“postal voters list”) yw’r rhestr a gedwir o dan erthygl 8(2);
 ystyr “rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”) yw’r rhestr a gedwir o dan erthygl 10(8);
 ystyr “rhif etholiadol” (“electoral number”) yw rhif person yn y gofrestr sydd i’w ddefnyddio yn yr etholiad neu, hyd nes y cyhoeddir y gofrestr, rif y person hwnnw, os oes rhif, yn y rhestrau etholwyr ar gyfer y gofrestr honno;
 mae i “Senedd” (“Senedd”) yr un ystyr ag yn adran 1(1) o Ddeddf 2006;
 ystyr “swyddog canlyniadau” (“returning officer”) yw’r swyddog sydd, yn unol ag erthygl 18, yn swyddog canlyniadau ar gyfer un o etholaethau’r Senedd;
 ystyr “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yw swyddog cofrestru etholiadol o dan adran 8 o Ddeddf 1983;
 mae “swyddog cofrestru perthnasol” (“relevant registration officer”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 42(1) a 44(1) i (3) a (5) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006;
 ystyr “swyddog enwebu cofrestredig” (“registered nominating officer”) yw’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 fel y swyddog sydd â chyfrifoldeb am y materion y cyfeirir atynt yn adran 24(3) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â phlaid wleidyddol gofrestredig;
 ystyr “swyddog llywyddu” (“presiding officer”), mewn perthynas â gorsaf bleidleisio, yw person a benodir o dan reol 35 o Atodlen 5;
 mae “taliad” (“payment”) yn cynnwys unrhyw wobr ariannol neu unrhyw wobr arall;
 ystyr “ymgeisydd” (“candidate”) yw ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid i’w ddychwelyd fel aelod o’r Senedd;
 ystyr “ymgeisydd rhestr plaid” (“party list candidate”) yw ymgeisydd sydd wedi ei gynnwys ar restr plaid;
 ystyr “ymgeisydd unigol” (“individual candidate”) yw ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd ac eithrio ymgeisydd rhestr plaid.
(2) At ddibenion y Gorchymyn hwn, rhaid barnu nad yw person wedi cyrraedd oedran penodol tan gychwyn pen-blwydd perthnasol diwrnod ei enedigaeth.
RHAN 2 Etholfraint Senedd Cymru a’i harfer
Cofrestru a phleidleisio absennol
3 

(1) Yn ddarostyngedig i roi hysbysiad am yr apêl yn unol â pharagraff 13(1) o Atodlen 1, mae apêl sy’n deillio o unrhyw benderfyniad gan y swyddog cofrestru o dan y Gorchymyn hwn i wrthod cais person i bleidleisio—
(a) drwy ddirprwy neu drwy’r post fel etholwr, neu
(b) drwy’r post fel dirprwy,
yn fater i’r llys sirol mewn unrhyw achos pan na fo’r cais wedi ei wneud ar gyfer etholiad penodol i’r Senedd yn unig.
(2) Nid oes apêl yn deillio o benderfyniad y Llys Apêl ar apêl sy’n deillio o benderfyniad y llys sirol o dan yr erthygl hon.
(3) Os yw apêl o dan yr erthygl hon neu o dan adran 56 o Ddeddf 1983 yn yr arfaeth pan roddir hysbysiad am etholiad i’r Senedd—
(a) nid yw’r apêl yn rhagfarnu gweithrediad y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn ar gyfer yr etholiad hwnnw, a
(b) bydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r penderfyniad cystal â phe na bai apêl o’r fath wedi ei dwyn.
(4) Rhaid anfon hysbysiad at y swyddog cofrestru yn y dull a ddarperir gan reolau llys am benderfyniad y llys sirol neu’r Llys Apêl yn dilyn unrhyw apêl yn rhinwedd yr erthygl hon, a rhaid i’r swyddog cofrestru wneud unrhyw addasiadau—
(a) yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4), neu
(b) yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 10(6),
sy’n ofynnol i roi effaith i’r penderfyniad.
(5) Pan fo addasiad yn y gofrestr neu’r cofnod, o ganlyniad i benderfyniad yn dilyn apêl o dan yr erthygl hon neu o dan adran 56 o Ddeddf 1983, yn cymryd effaith o dan yr erthygl hon neu o dan adran 13(5), 13A(2) neu 13B(3) neu (3B) o Ddeddf 1983 ar ddyddiad y pôl neu cyn hynny, nid yw paragraff (3) yn gymwys i’r apêl honno mewn cysylltiad â’r etholiad hwnnw.
(6) Yn dilyn apêl a ddygir o dan yr erthygl hon, bernir bod y swyddog cofrestru yn barti i’r achos, a rhaid i’r costau cofrestru sy’n daladwy i swyddog cofrestru gynnwys unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn briodol gan y swyddog cofrestru o dan y paragraff hwn.
Dosbarthau pôl a mannau pleidleisio yn etholiadau’r Senedd
4 

(1) At ddibenion etholiadau’r Senedd rhaid rhannu pob etholaeth yn ddosbarthau pôl.
(2) Rhaid bod man pleidleisio ar gyfer pob dosbarth pôl, oni bai bod maint neu amgylchiadau eraill dosbarth pôl yn golygu nad yw lleoliad y gorsafoedd pleidleisio yn effeithio’n sylweddol ar y cyfleustra i’r etholwyr, na’r cyfleustra i unrhyw gorff ohonynt.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i ddosbarthau’r pôl a’r mannau pleidleisio a ddynodir o dan yr erthygl hon fod yr un fath â’r rhai a ddefnyddir neu a ddynodir o dan adrannau 18A a 18B o Ddeddf 1983 (dosbarthau pôl a mannau pleidleisio mewn etholiadau seneddol).
(4) Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol, neu awdurdodau lleol, ar gyfer ardal dosbarth pôl neu fan pleidleisio ei bod yn ddymunol i ryw ddosbarth pôl arall neu fan pleidleisio arall gael ei ddynodi at ddiben etholiad i’r Senedd, caiff yr awdurdod lleol ddynodi’r dosbarth pôl neu’r man pleidleisio arall hwnnw felly.
(5) Ni chaniateir cwestiynu etholiad am y rhesymau a ganlyn—
(a) unrhyw achos o fethu â chydymffurfio â darpariaethau’r erthygl hon, na
(b) unrhyw afreoleidd-dra yn ymwneud â dosbarthau pôl neu fannau pleidleisio.
Y dull o bleidleisio yn etholiadau’r Senedd
5 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i bennu dull pleidleisio person (“P1”) a chanddo hawlogaeth i bleidleisio fel etholwr mewn etholiad i’r Senedd.
(2) Caiff P1 bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd i P1 o dan y Gorchymyn hwn, oni bai bod gan P1 hawlogaeth fel etholwr i bleidlais absennol mewn etholiad i’r Senedd.
(3) Caiff P1 bleidleisio drwy’r post os oes gan P1 hawlogaeth fel etholwr i bleidleisio drwy’r post mewn etholiad i’r Senedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff P1 bleidleisio drwy ddirprwy os oes gan P1 hawlogaeth i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad i’r Senedd.
(5) Os na ddyroddwyd papur pleidleisio i P1 i bleidleisio drwy ddirprwy, caiff P1 wneud cais yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd i P1 o dan y Gorchymyn hwn am bapur pleidleisio i bleidleisio’n bersonol, a chaiff bleidleisio’n bersonol yno.
(6) Caiff P1 bleidleisio’n bersonol mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn etholaeth y Senedd y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer os—
(a) nad oes gan P1 hawlogaeth fel etholwr i bleidlais absennol yn yr etholiad, ond
(b) na ellir disgwyl yn rhesymol i P1 fynd yn bersonol i orsaf bleidleisio a neilltuwyd i P1 o dan y Gorchymyn hwn oherwydd cyflogaeth P1 ar ddyddiad y pôl, naill ai yn gwnstabl neu gan swyddog canlyniadau, at ddiben sy’n gysylltiedig â’r etholiad.
(7) Ym mharagraff (6), mae’r cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
(8) Nid yw dim yn narpariaethau blaenorol yr erthygl hon yn gymwys i berson (“P2”)—
(a) y mae adran 7 o Ddeddf 1983 (preswyliad: cleifion mewn ysbytai meddwl nad ydynt yn droseddwyr a gedwir yn gaeth neu ar remánd) yn gymwys iddo, a
(b) sy’n atebol, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, i’w gadw yn yr ysbyty meddwl o dan sylw,
pa un a yw P2 wedi ei gofrestru yn rhinwedd y ddarpariaeth honno ai peidio.
(9) Pan fo paragraff (8) yn gymwys, caiff P2 bleidleisio—
(a) yn bersonol, pan fo caniatâd wedi ei roi i P2 i fod yn absennol o’r ysbyty a phan na fo pleidleisio’n bersonol yn torri unrhyw amod sydd ynghlwm â’r caniatâd hwnnw, neu
(b) drwy’r post neu drwy ddirprwy, pan fo gan P2 hawlogaeth fel etholwr i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy yn yr etholiad.
(10) Nid yw dim yn narpariaethau blaenorol yr erthygl hon yn gymwys i berson (“P3”) y mae adran 7A o Ddeddf 1983 (preswyliad: personau sydd ar remánd yn y ddalfa etc.) yn gymwys iddo, pa un a yw P3 wedi ei gofrestru yn rhinwedd y ddarpariaeth honno ai peidio.
(11) Pan fo paragraff (10) yn gymwys, ni chaiff P3 ond pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy pan fo gan P3 hawlogaeth fel etholwr i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy yn yr etholiad.
(12) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan berson a chanddo hawlogaeth i bleidleisio fel etholwr mewn etholiad i’r Senedd hawlogaeth i bleidleisio—
(a) drwy’r post os dangosir yn y rhestrau pleidleiswyr drwy’r post a grybwyllir yn erthygl 8(2) fod gan y person hwnnw hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post mewn etholiad;
(b) drwy ddirprwy os dangosir yn y rhestr dirprwyon a grybwyllir yn erthygl 8(3) fod gan y person hwnnw hawlogaeth i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad.
(13) Nid yw paragraff (2) yn atal person rhag marcio papur pleidleisio a dendrwyd yn unol â rheol 50 o Atodlen 5 yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd i’r person hwnnw.
Pleidlais absennol yn etholiadau’r Senedd ar gyfer cyfnod penodol neu amhenodol
6 

(1) Pan fo person yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau’r Senedd, pa un ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol a bennir yn y cais, rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais—
(a) os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod y ceisydd wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn y gofrestr etholwyr, a
(b) os yw’r cais yn cynnwys llofnod a dyddiad geni’r ceisydd, ac yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(2) Pan fo person yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau’r Senedd, pa un ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol a bennir yn y cais, rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais—
(a) os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod y ceisydd yn gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau’r Senedd,
(b) os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod y ceisydd wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn y gofrestr etholwyr, ac
(c) os yw’r cais yn cynnwys llofnod a dyddiad geni’r ceisydd, ac yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(3) At ddibenion yr erthygl hon, mae person (“P”) yn gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau’r Senedd—
(a) os yw P wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn bleidleisiwr gwasanaeth,
(b) os oes gan P gofnod dienw yn y gofrestr etholwyr,
(c) os na ellir disgwyl yn rhesymol i P, oherwydd amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall—
(i) mynd yn bersonol i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd neu sy’n debygol o gael ei neilltuo i P o dan y Gorchymyn hwn, neu
(ii) pleidleisio heb gymorth yno,
(d) os na ellir disgwyl yn rhesymol i P fynd yn bersonol i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd i P oherwydd natur gyffredinol galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth P, neu alwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth priod neu bartner sifil P,
(e) os na ellir disgwyl yn rhesymol i P fynd yn bersonol i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd i P oherwydd bod P, neu briod neu bartner sifil P, ar gwrs a ddarperir gan sefydliad addysgol, neu
(f) os na all P fynd yn bersonol o gyfeiriad cymhwysol P i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd i P heb wneud taith drwy’r awyr neu dros fôr.
(4) Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw cofnod o’r personau y rhoddwyd caniatâd i’w ceisiadau o dan yr erthygl hon gan ddangos—
(a) ai ceisiadau oeddent i bleidleisio drwy’r post ynteu drwy ddirprwy am gyfnod amhenodol ynteu gyfnod penodol, gan bennu’r cyfnod hwnnw,
(b) yn achos y rhai y caniateir iddynt bleidleisio drwy’r post, y cyfeiriadau a ddarperir ganddynt yn eu ceisiadau fel y cyfeiriadau y mae rhaid anfon eu papurau pleidleisio iddynt, ac
(c) yn achos y rhai y caniateir iddynt bleidleisio drwy ddirprwy, enwau a chyfeiriadau’r rhai a benodwyd yn ddirprwyon iddynt.
(5) Rhaid i’r swyddog cofrestru dynnu person oddi ar y cofnod a gedwir o dan baragraff (4)—
(a) os yw’r person hwnnw’n gwneud cais i’r swyddog cofrestru am gael ei dynnu oddi arno,
(b) yn achos person sy’n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy yn rhinwedd y ffaith fod ganddo gofnod dienw, os yw’r person hwnnw’n peidio â bod â chofnod dienw,
(c) yn achos person cofrestredig, os yw’r person hwnnw’n peidio â bod yn gofrestredig neu’n peidio â bod yn gofrestredig yn yr un cyfeiriad cymhwysol, neu’n peidio â bod yn gofrestredig neu’n dod yn gofrestredig yn unol ag—
(i) datganiad o wasanaeth, neu
(ii) datganiad o gysylltiad lleol,
(d) yn achos unrhyw berson y dangosir yn y cofnod ei fod yn pleidleisio drwy ddirprwy, os yw’r swyddog cofrestru yn rhoi hysbysiad bod gan y swyddog cofrestru reswm dros gredu bod newid sylweddol wedi bod mewn amgylchiadau, neu
(e) yn achos person sy’n gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy am gyfnod penodol, unwaith y bydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben.
(6) Caiff person y dangosir yn y cofnod a gedwir o dan baragraff (4) ei fod yn pleidleisio drwy’r post wneud cais pellach i newid y dull pleidleisio i bleidleisio drwy ddirprwy yn lle hynny, pa un ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol fel a bennir yn y cais.
(7) Pan fyddai’n ofynnol i swyddog cofrestru ganiatáu cais a wneir o dan baragraff (6) pe bai’r cais hwnnw’n gais i bleidleisio drwy ddirprwy a wnaed o dan baragraff (2), rhaid i’r swyddog cofrestru ddiwygio’r cofnod yn unol â hynny.
(8) Caiff person y dangosir yn y cofnod a gedwir o dan baragraff (4) ei fod yn pleidleisio drwy ddirprwy wneud cais pellach i newid y dull pleidleisio i bleidleisio drwy’r post yn lle hynny, pa un ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol fel a bennir yn y cais.
(9) Os yw cais a wneir o dan baragraff (8) yn bodloni gofynion Atodlen 1, rhaid i’r swyddog cofrestru ddiwygio’r cofnod yn unol â hynny.
(10) Caiff y swyddog cofrestru hepgor y gofyniad o dan baragraffau (1)(b) a (2)(c) i’r ceisydd ddarparu llofnod os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni nad yw’r ceisydd yn gallu—
(a) darparu llofnod oherwydd unrhyw anabledd sydd gan y ceisydd,
(b) darparu llofnod oherwydd nad yw’r ceisydd yn gallu darllen nac ysgrifennu, neu
(c) llofnodi mewn ffordd gyson ac unigryw oherwydd unrhyw anabledd neu anallu o’r fath.
(11) Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw cofnod o’r personau y rhoddwyd caniatâd i’w ceisiadau o dan yr erthygl hon gan ddangos—
(a) eu dyddiadau geni, a
(b) eu llofnodion, ac eithrio mewn achosion pan fo’r swyddog cofrestru yn unol â pharagraff (10) wedi hepgor y gofyniad i ddarparu llofnod.
(12) Rhaid i’r swyddog cofrestru ddal gafael ar y cofnod a gedwir o dan baragraff (11) am y cyfnod a ragnodir ym mharagraff 4 o Atodlen 1.
Pleidlais absennol mewn etholiad penodol i’r Senedd
7 

(1) Pan fo person yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru i bleidleisio drwy’r post mewn etholiad penodol i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais—
(a) os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod y ceisydd wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn y gofrestr etholwyr, ac
(b) os yw’r cais yn cynnwys llofnod a dyddiad geni’r ceisydd, ac yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(2) Pan fo person yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais—
(a) os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni y bydd amgylchiadau’r ceisydd ar ddyddiad y pôl yn golygu na ellir disgwyl yn rhesymol i’r ceisydd bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo, i’r ceisydd o dan y Gorchymyn hwn, neu fod ei amgylchiadau’n debygol o fod felly,
(b) os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod y ceisydd wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn y gofrestr etholwyr, ac
(c) os yw’r cais yn cynnwys llofnod a dyddiad geni’r ceisydd, ac yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(3) Pan fo person a chanddo gofnod dienw yn y gofrestr etholwyr yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais os yw’n bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(4) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sydd wedi ei gynnwys yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 8 (rhestrau pleidleiswyr absennol yn etholiadau’r Senedd), ond caiff person o’r fath, mewn cysylltiad ag etholiad penodol i’r Senedd, wneud cais i’r swyddog cofrestru—
(a) i bapur pleidleisio’r person hwnnw gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol i’r cyfeiriad a ddangosir yn y cofnod, neu
(b) i bleidleisio drwy ddirprwy,
os dangosir yn y cofnod hwnnw fod y person hwnnw’n pleidleisio drwy’r post yn etholiadau’r Senedd.
(5) Rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu cais o dan baragraff (4)—
(a) yn achos unrhyw gais, os yw’n bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1, a
(b) yn achos cais i bleidleisio drwy ddirprwy, os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni y bydd amgylchiadau’r ceisydd ar ddyddiad y pôl yn golygu na ellir disgwyl yn rhesymol i’r ceisydd bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo, i’r ceisydd o dan y Gorchymyn hwn, neu fod ei amgylchiadau’n debygol o fod felly.
(6) Caiff y swyddog cofrestru hepgor y gofyniad o dan baragraffau (1)(b) a (2)(c) i’r ceisydd ddarparu llofnod os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni nad yw’r ceisydd yn gallu—
(a) darparu llofnod oherwydd unrhyw anabledd sydd gan y ceisydd,
(b) darparu llofnod oherwydd nad yw’r ceisydd yn gallu darllen nac ysgrifennu, neu
(c) llofnodi mewn ffordd gyson ac unigryw oherwydd unrhyw anabledd neu anallu o’r fath.
(7) Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw cofnod o’r personau y rhoddwyd caniatâd i’w ceisiadau o dan yr erthygl hon gan ddangos—
(a) eu dyddiadau geni, a
(b) eu llofnodion, ac eithrio mewn achosion pan fo’r swyddog cofrestru yn unol â pharagraff (6) wedi hepgor y gofyniad i ddarparu llofnod.
(8) Rhaid i’r swyddog cofrestru ddal gafael ar y cofnod a gedwir o dan baragraff (7) am y cyfnod a ragnodir ym mharagraff 4 o Atodlen 1.
Rhestrau pleidleiswyr absennol yn etholiadau’r Senedd
8 

(1) Mewn cysylltiad â phob etholiad i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru gadw dwy restr arbennig—
(a) y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, a
(b) y rhestr dirprwyon.
(2) Mae’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post yn rhestr—
(a) o’r personau hynny y dangosir am y tro yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6 eu bod yn pleidleisio drwy’r post yn etholiadau’r Senedd, ac eithrio’r rhai y caniatawyd eu ceisiadau o dan erthygl 7(4)(b) i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad, a
(b) o’r personau hynny y caniatawyd eu ceisiadau o dan erthygl 7(1) i bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad,
ynghyd â’r cyfeiriadau a ddarperir ganddynt yn eu ceisiadau o dan erthygl 6 neu 7(4)(a) fel y cyfeiriadau y mae eu papurau pleidleisio i’w hanfon iddynt.
(3) Mae’r rhestr dirprwyon yn rhestr o’r personau hynny y dangosir am y tro yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6 eu bod yn pleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau’r Senedd, neu’r personau hynny y caniatawyd eu ceisiadau o dan erthygl 7(2) i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad, ynghyd ag enwau a chyfeiriadau’r rhai a benodwyd yn ddirprwyon iddynt.
(4) Yn achos person a chanddo gofnod dienw yn y gofrestr, ni chaiff y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr dirprwyon ond dangos mewn perthynas â’r person hwnnw—
(a) ei rif etholiadol, a
(b) y cyfnod y mae’r cofnod dienw yn cael effaith amdano.
Dirprwyon yn etholiadau’r Senedd
9 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, mae unrhyw berson yn alluog i gael ei benodi’n ddirprwy i bleidleisio dros un arall (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon ac yn erthygl 10 fel “yr etholwr”) mewn unrhyw etholiad i’r Senedd a chaiff bleidleisio yn unol â’r penodiad.
(2) Ni all yr etholwr fod â mwy nag un person ar y tro wedi ei benodi’n ddirprwy i bleidleisio dros yr etholwr mewn etholiad i’r Senedd.
(3) Nid yw person yn alluog i gael ei benodi i bleidleisio, nac yn alluog i bleidleisio, fel dirprwy mewn etholiad i’r Senedd—
(a) os yw’r person hwnnw’n destun unrhyw anghymhwyster cyfreithiol (ar wahân i oedran) i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw fel etholwr, neu
(b) os nad yw’r person hwnnw—
(i) yn ddinesydd cymhwysol o’r Gymanwlad,
(ii) yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon,
(iii) yn ddinesydd perthnasol o’r Undeb, neu
(iv) yn ddinesydd tramor cymhwysol.
(4) Nid yw person yn alluog i bleidleisio fel dirprwy mewn etholiad i’r Senedd oni bai fod y person hwnnw ar ddiwrnod y pôl wedi cyrraedd 16 oed.
(5) Nid oes gan berson hawlogaeth i bleidleisio fel dirprwy mewn unrhyw etholaeth yn yr un etholiad i’r Senedd ar ran mwy na dau etholwr nad yw’r person hwnnw’n briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn daid/tad-cu neu’n nain/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn, yn ŵyr neu’n wyres iddynt.
(6) Pan fo’r etholwr yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru ar gyfer penodi dirprwy i bleidleisio dros yr etholwr yn etholiadau’r Senedd (pa un a yw hynny am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol a bennir yng nghais yr etholwr), rhaid i’r swyddog cofrestru wneud y penodiad os yw’r cais wedi ei lofnodi gan y ceisydd a’i fod yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 a bod y swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod yr etholwr, neu y bydd yr etholwr—
(a) wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr, a
(b) wedi ei ddangos yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6 fel un sy’n pleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiadau o’r fath,
a bod y dirprwy yn alluog i gael ei benodi, a’i fod yn barod i gael ei benodi, i bleidleisio fel dirprwy mewn etholiadau o’r fath.
(7) Pan fo’r etholwr yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru ar gyfer penodi dirprwy i bleidleisio dros yr etholwr mewn etholiad penodol i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru wneud y penodiad os yw’r cais yn cynnwys llofnod a dyddiad geni’r ceisydd, yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1, a bod y swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod yr etholwr, neu y bydd yr etholwr—
(a) wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr ar gyfer yr etholiad hwnnw, a
(b) â hawlogaeth i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwnnw yn rhinwedd cais o dan erthygl 7,
a bod y dirprwy yn alluog i gael ei benodi, a’i fod yn barod i gael ei benodi.
(8) Mae penodiad dirprwy o dan yr erthygl hon i’w wneud drwy bapur dirprwy a ddyroddir gan y swyddog cofrestru.
(9) Caniateir canslo’r penodiad drwy i’r etholwr roi hysbysiad i’r swyddog cofrestru.
(10) Bydd y penodiad yn peidio â bod mewn grym—
(a) adeg dyroddi papur dirprwy sy’n penodi person gwahanol i bleidleisio dros yr etholwr mewn etholiad i’r Senedd neu yn etholiadau’r Senedd, pa un a yw hynny yn yr un etholaeth Senedd neu yn rhywle arall, a
(b) pan oedd y penodiad am gyfnod penodol, unwaith y daw’r cyfnod hwnnw i ben.
(11) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), bydd y penodiad yn parhau mewn grym—
(a) yn achos penodiad ar gyfer etholiad penodol, ar gyfer yr etholiad hwnnw, a
(b) mewn unrhyw achos arall, tra dangosir bod yr etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6 yn unol â’r un cais o dan yr erthygl honno.
(12) Mae paragraff 14 o Atodlen 1 (canslo penodiad dirprwy) yn darparu ar gyfer y camau i’w cymryd o ran penodiad dirprwy—
(a) pan fo wedi ei ganslo o dan baragraff (9),
(b) pan fo’n peidio â bod mewn grym o dan baragraff (10), neu
(c) pan na fo bellach mewn grym o dan baragraff (11)(b).
(13) Caiff y swyddog cofrestru hepgor y gofyniad o dan baragraff (6) neu (7) i’r ceisydd ddarparu llofnod os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni nad yw’r ceisydd yn gallu—
(a) darparu llofnod oherwydd unrhyw anabledd sydd gan y ceisydd,
(b) darparu llofnod oherwydd nad yw’r ceisydd yn gallu darllen nac ysgrifennu, neu
(c) llofnodi mewn ffordd gyson ac unigryw oherwydd unrhyw anabledd neu anallu o’r fath.
Pleidleisio fel dirprwy yn etholiadau’r Senedd
10 

(1) Caiff person a chanddo hawlogaeth i bleidleisio fel dirprwy mewn etholiad i’r Senedd wneud hynny’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd i’r etholwr o dan y Gorchymyn hwn oni bai fod gan y person hwnnw hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy dros yr etholwr yn yr etholiad, ac os felly caiff y person hwnnw bleidleisio drwy’r post.
(2) Pan fo gan berson hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy dros yr etholwr mewn unrhyw etholiad i’r Senedd, ni chaiff yr etholwr wneud cais am bapur pleidleisio at ddiben pleidleisio’n bersonol yn yr etholiad.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran person a chanddo hawlogaeth i bleidleisio fel dirprwy dros rywun arall mewn etholiad i’r Senedd, mae ganddo hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post os yw’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan baragraff (8) mewn cysylltiad â’r etholiad.
(4) Pan fo person yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy—
(a) yn etholiadau’r Senedd, pa un a yw hynny am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol a bennir yng nghais y person, neu
(b) mewn etholiad penodol i’r Senedd,
rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff (5).
(5) Yr amodau yw—
(a) bod y swyddog cofrestru wedi ei fodloni bod yr etholwr wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn y gofrestr etholwyr,
(b) bod penodiad y ceisydd mewn grym fel dirprwy i’r etholwr i bleidleisio dros yr etholwr yn etholiadau’r Senedd neu yn yr etholiad o dan sylw i’r Senedd,
(c) bod y cais yn cynnwys llofnod a dyddiad geni’r ceisydd, a
(d) bod y cais yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(6) Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw cofnod o’r personau y rhoddwyd caniatâd i’w ceisiadau o dan baragraff (4)(a) gan ddangos—
(a) ai ceisiadau oeddent i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol, gan bennu’r cyfnod hwnnw, a
(b) y cyfeiriadau a ddarperir ganddynt yn eu ceisiadau fel y cyfeiriadau y mae eu papurau pleidleisio i’w hanfon iddynt.
(7) Pan fo person sydd wedi ei gynnwys yn y cofnod a gedwir o dan baragraff (6) yn gwneud cais i’r swyddog cofrestru, yn achos etholiad penodol, i’w bapur pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol i’r hyn a ddangosir yn y cofnod, rhaid i’r swyddog cofrestru ganiatáu’r cais os yw’r cais yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(8) Mewn cysylltiad â phob etholiad i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru gadw rhestr arbennig (“y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy”)—
(a) o’r rhai sydd am y tro wedi eu cynnwys yn y cofnod a gedwir o dan baragraff (6), a
(b) o’r rhai y caniatawyd eu ceisiadau o dan baragraff (4)(b) mewn cysylltiad â’r etholiad o dan sylw,
ynghyd â’r cyfeiriadau a ddarperir ganddynt yn eu ceisiadau o dan baragraff (4)(a) neu (7) fel y cyfeiriadau y mae eu papurau pleidleisio i’w hanfon iddynt.
(9) Yn achos person a chanddo gofnod dienw yn y gofrestr, ni chaiff y rhestr arbennig o dan baragraff (8) ond cynnwys rhif etholiadol y person a’r cyfnod y mae’r cofnod dienw yn cael effaith amdano.
(10) Rhaid i’r swyddog cofrestru dynnu person oddi ar y cofnod a gedwir o dan baragraff (8)—
(a) os yw’r person hwnnw’n gwneud cais i’r swyddog cofrestru am gael ei dynnu oddi arno,
(b) yn achos person a wnaeth gais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy am gyfnod penodol, unwaith y daw’r cyfnod hwnnw i ben,
(c) os yw’r etholwr yn peidio â bod wedi ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr, neu
(d) os yw penodiad y person o dan sylw fel dirprwy i’r etholwr yn peidio â bod mewn grym, pa un a ailbenodir y person hwnnw ai peidio.
(11) Nid yw paragraff (2) yn atal person, yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd iddo, rhag marcio papur pleidleisio a dendrwyd yn unol â rheol 50 o Atodlen 5.
(12) Caiff y swyddog cofrestru hepgor y gofyniad o dan baragraff (5)(c) i’r ceisydd ddarparu llofnod os yw’r swyddog cofrestru wedi ei fodloni nad yw’r ceisydd yn gallu—
(a) darparu llofnod oherwydd unrhyw anabledd sydd gan y ceisydd,
(b) darparu llofnod oherwydd nad yw’r ceisydd yn gallu darllen nac ysgrifennu, neu
(c) llofnodi mewn ffordd gyson ac unigryw oherwydd unrhyw anabledd neu anallu o’r fath.
(13) Rhaid i’r swyddog cofrestru hefyd gadw cofnod mewn perthynas â’r personau y rhoddwyd caniatâd i’w ceisiadau o dan baragraff (4)(a) neu (b) gan ddangos—
(a) eu dyddiadau geni, a
(b) eu llofnodion, ac eithrio mewn achosion pan fo’r swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad i ddarparu llofnod yn unol â pharagraff (12).
(14) Rhaid i’r swyddog cofrestru ddal gafael ar y cofnod a gedwir o dan baragraff (13) am y cyfnod a ragnodir ym mharagraff 4 o Atodlen 1.
Llofnodion etholwyr a defnyddio gwybodaeth dynodyddion personol
11 

(1) Rhaid i gais am bleidlais absennol neu bleidlais drwy’r post drwy ddirprwy a wneir yn unol ag erthygl 6, 7, 9 neu 10 gydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1 (sy’n ymwneud â dynodyddion personol).
(2) Caiff person sy’n parhau ar y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4) neu 10(6), ar unrhyw adeg, ddarparu llofnod newydd i’r swyddog cofrestru.
(3) O ran unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud at ddibenion unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â llofnod y mae’n ofynnol ei ddarparu yn unol â darpariaethau pleidlais absennol y Gorchymyn hwn, rhaid iddo gael ei wneud gan ddefnyddio llofnod a ddarperir o dan baragraff (2) yn hytrach nag mewn perthynas â llofnod a ddarparwyd ar unrhyw achlysur cynharach.
(4) Rhaid i’r swyddog cofrestru—
(a) darparu i’r swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad i’r Senedd gopi o’r wybodaeth a gynhwysir mewn cofnodion a gedwir gan y swyddog cofrestru yn unol ag erthyglau 6(11), 7(7) a 10(13) mewn perthynas ag etholwyr yn yr etholiadau, neu
(b) rhoi mynediad i’r swyddog canlyniadau hwnnw at wybodaeth o’r fath.
(5) Caiff swyddog cofrestru ddatgelu gwybodaeth a gynhwysir mewn cofnodion a gedwir gan y swyddog cofrestru yn unol ag erthygl 6(11), 7(7) neu 10(13), yn ddarostyngedig i’r amodau a ragnodir ym mharagraffau 18 a 19 o Atodlen 1—
(a) i unrhyw swyddog cofrestru arall (“S”) os yw’r swyddog cofrestru’n meddwl y bydd gwneud hynny yn cynorthwyo S i gyflawni dyletswyddau S;
(b) i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â pharatoi neu gynnal achos cyfreithiol o dan Ddeddfau Cynrychiolaeth y Bobl neu’r Gorchymyn hwn;
(c) unrhyw bersonau eraill at unrhyw ddibenion eraill yn ymwneud ag etholiadau a ragnodir ym mharagraffau 18 a 19 o Atodlen 1.
(6) At ddibenion paragraff (5)(b), y canlynol yw “Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl”—
(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983,
(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985, ac
(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.
Trosedd: gwybodaeth ffug
12 

(1) Mae person sydd wedi cyrraedd oedran pleidleisio ac sy’n darparu gwybodaeth ffug mewn cysylltiad â chais y mae erthygl 6, 7, 9 neu 11 yn gymwys iddo yn euog o drosedd.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr “gwybodaeth ffug” yw llofnod—
(a) nad yw’n llofnod arferol, neu
(b) a ysgrifennwyd gan berson ac eithrio,
y person y mae’n honni bod yn llofnod iddo.
(3) Mae person yn ddieuog o drosedd o dan baragraff (1) os nad oedd y person hwnnw’n gwybod ac nad oedd ganddo reswm dros amau bod yr wybodaeth yn ffug.
(4) Pan fo tystiolaeth ddigonol yn cael ei dwyn i godi mater mewn cysylltiad â’r amddiffyniad o dan baragraff (3), rhaid i’r llys dybio bod yr amddiffyniad wedi ei fodloni oni bai bod yr erlyniad yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw wedi ei fodloni.
(5) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod—
(a) i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 6 mis, neu
(b) i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,
neu’r ddau.
(6) Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, rhaid i’r cyfeiriad ym mharagraff (5)(a) at 6 mis gael ei gymryd fel cyfeiriad at 51 o wythnosau.
Troseddau eraill yn ymwneud â phleidleisio absennol
13 

(1) Mae person (“P”) yn euog o drosedd—
(a) os yw P yn cymryd rhan mewn gweithred berthnasol a bennir ym mharagraff (2) mewn etholiad i’r Senedd, a
(b) os yw P yn bwriadu, drwy wneud hynny—
(i) amddifadu rhywun arall o gyfle i bleidleisio,
(ii) gwneud i P, neu i rywun arall, ennill pleidlais nad oes gan P na’r llall hawlogaeth iddi fel arall, neu
(iii) gwneud i P, neu i rywun arall, ennill arian neu eiddo.
(2) Y gweithredoedd perthnasol yw—
(a) gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy fel rhyw berson arall, pa un a yw’r person arall hwnnw’n fyw neu’n farw, neu’n berson ffug,
(b) gwneud datganiad anwir fel arall mewn cais, neu mewn cysylltiad â chais, am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy,
(c) cymell y swyddog cofrestru i anfon papur pleidleisio drwy’r post, neu unrhyw gyfathrebiad yn ymwneud â phleidlais drwy’r post neu drwy ddirprwy, i gyfeiriad nad yw’r person a chanddo hawlogaeth i’r bleidlais wedi cytuno iddo,
(d) achosi nad yw cyfathrebiad yn ymwneud â phleidlais drwy’r post neu drwy ddirprwy, neu gyfathrebiad sy’n cynnwys papur pleidleisio drwy’r post, yn cael ei ddanfon at y derbynnydd arfaethedig, ac
(e) y gweithredoedd hynny a restrir yn erthygl 31.
(3) Ym mharagraff (1)(b)(iii), mae eiddo’n cynnwys unrhyw ddisgrifiad o eiddo.
(4) Ym mharagraff (2), mae cyfeiriad at bleidlais drwy’r post neu bapur pleidleisio drwy’r post yn cynnwys cyfeiriad at bleidlais drwy’r post drwy ddirprwy neu bapur pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy.
(5) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) neu sy’n neu’n helpu, annog, cwnsela neu beri cyflawni trosedd o’r fath yn euog o arfer lwgr ac yn agored ar euogfarn yn unol ag erthygl 121.
Pleidleisio absennol yn etholiadau’r Senedd: amrywiol
14 

(1) Mae adran 59 o Ddeddf 1983 (darpariaethau atodol ynghylch aelodau o’r lluoedd a phleidleiswyr gwasanaeth) yn gymwys at ddibenion etholiad i’r Senedd yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
(a) yn is-adran (3) (yr hawl i gofrestru a phleidleisio’n bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy), mae “this Act” i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â’r hawliau a roddir gan y Gorchymyn hwn i berson a chanddo gymhwyster gwasanaeth yn rhinwedd adran 14(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf honno (cymhwyster gwasanaeth fel aelod o’r lluoedd neu fod yn gyflogedig yng ngwasanaeth y Goron mewn swydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig o unrhyw ddosbarth neu ddisgrifiad rhagnodedig) mewn perthynas â gwneud a chanslo penodiadau dirprwy, ac mewn perthynas â phleidleisio’n bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy, a
(b) yn is-adran (3A) (hawl aelodau o’r lluoedd a phleidleiswyr gwasanaeth i wybodaeth am eu hawl i bleidleisio), mae “this Act and any regulations made under it” i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gorchymyn hwn.
(2) Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phleidleisio absennol yn etholiadau’r Senedd.
(3) Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post.
Cyfuno polau yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol
15 

(1) Pan fo’r polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad llywodraeth leol a restrir ym mharagraff (2) yn digwydd ar yr un diwrnod, caniateir eu cynnal ynghyd.
(2) Yr etholiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i lenwi swydd cynghorydd ar gyfer cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n digwydd dod yn wag;
(b) etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i lenwi swydd sy’n digwydd dod yn wag ymysg cynghorwyr cymuned.
(3) Pan fo’r polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad llywodraeth leol wedi eu cyfuno o dan baragraff (1), rhaid dosrannu’r gost o gynnal y polau cyfunol, ac eithrio unrhyw gost y gellir ei phriodoli i un etholiad yn unig, ac unrhyw gost y gellir ei phriodoli i’w cyfuno, yn hafal ymhlith yr etholiadau.
(4) Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â chyfuno polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.
Cyfuno polau yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
16 

(1) Pan fo’r polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad cyffredin comisiynwyr heddlu a throseddu i’w cynnal ar yr un dyddiad, rhaid eu cynnal ynghyd.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae i “etholiad cyffredin comisiynwyr heddlu a throseddu” yr un ystyr ag “ordinary election of police and crime commissioners” yn adran 50 o Ddeddf 2011.
(3) Pan fo’r polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd cysylltiedig i’w cynnal ar yr un dyddiad ond nad yw’n ofynnol gan baragraff (1) iddynt gael eu cynnal ynghyd, caniateir eu cynnal ynghyd serch hynny os yw’r swyddog canlyniadau ar gyfer pob etholiad yn meddwl bod hynny’n briodol.
(4) At ddibenion paragraff (3)—
(a) mae i “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu” yr un ystyr ag yn adran 51 o Ddeddf 2011 (etholiad i lenwi swydd wag comisiynydd), a
(b) mae dwy ardal yn gysylltiedig os yw un yn gyd-derfynol â’r llall neu os yw un yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn y llall.
(5) Pan fo’r polau mewn unrhyw etholiadau wedi eu cyfuno o dan yr erthygl hon, rhaid dosrannu’r gost o gymryd y polau cyfunol, ac eithrio unrhyw gost y gellir ei phriodoli i un etholiad yn unig, ac unrhyw gost y gellir ei phriodoli i’w cyfuno, yn hafal ymhlith yr etholiadau.
(6) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â chyfuno polau yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu.
Rheolau ar gyfer etholiadau’r Senedd
17 

(1) Rhaid cynnal y gweithdrefnau yn etholiadau’r Senedd, gan gynnwys dychwelyd aelodau’r Senedd, yn unol â rheolau etholiadau’r Senedd a nodir yn Atodlen 5.
(2) Yn ogystal â’r swyddogaethau a roddir fel arall i swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd neu a osodir arno, dyletswydd gyffredinol swyddog o’r fath yw gwneud unrhyw weithred sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal yr etholiad yn effeithiol yn y dull a ddarperir gan y rheolau hynny.
(3) Nid yw unrhyw etholiad i’r Senedd i’w ddatgan yn annilys oherwydd unrhyw weithred neu anweithred gan swyddog canlyniadau, nac unrhyw berson arall, sydd naill ai’n torri dyletswydd swyddogol y swyddog canlyniadau hwnnw mewn cysylltiad â’r etholiad, neu’n torri’r rheolau hynny, os yw’n ymddangos i’r tribiwnlys sy’n ystyried y mater o dan sylw—
(a) bod yr etholiad wedi ei gynnal yn y fath fodd fel ei fod yn cydymffurfio’n sylweddol â’r gyfraith o ran etholiadau’r Senedd, a
(b) nad yw’r weithred neu’r anweithred wedi effeithio ar y canlyniad.
Swyddogion canlyniadau
18 

(1) At ddiben etholiadau’r Senedd rhaid bod swyddog canlyniadau ar gyfer pob un o etholaethau’r Senedd, a rhaid i bersonau o’r fath ddal eu swyddi yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn yr erthygl hon.
(2) Swyddog canlyniadau yw’r person—
(a) a benodir o dan adran 35(1A)(a) o Ddeddf 1983 i fod yn swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau cynghorwyr sir neu fwrdeistref sirol sydd wedi ei lleoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn etholaeth y Senedd, a
(b) sydd, mewn achos pan fo mwy nag un person o’r fath, am y tro wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholaeth.
(3) Rhaid i ddynodiad a wneir o dan yr erthygl hon fod mewn ysgrifen.
(4) Mae swydd y swyddog canlyniadau ar wahân i’r swydd y daw’r person yn swyddog canlyniadau yn ei rhinwedd.
(5) Pan fo person yn cymryd unrhyw swydd y daw’r person hwnnw yn swyddog canlyniadau yn ei rhinwedd, rhaid i’r person hwnnw, ac nid deiliad y swydd sy’n gadael, gwblhau’r gwaith o gynnal unrhyw etholiad sydd yn yr arfaeth yn unol â rheolau etholiadau’r Senedd.
Swyddogion cynghorau i’w rhoi at ddefnydd swyddogion canlyniadau
19 
Rhaid i gyngor pob sir neu fwrdeistref sirol roi gwasanaethau ei swyddogion at ddefnydd unrhyw swyddog canlyniadau ar gyfer un o etholaethau’r Senedd sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn ei ardal, at ddibenion cynorthwyo’r swyddog canlyniadau i gyflawni unrhyw swyddogaethau a roddwyd i’r swyddog hwnnw mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd.
Swyddogion canlyniadau: cyflawni swyddogaethau
20 
Caiff swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd benodi, mewn ysgrifen, un neu ragor o bersonau i gyflawni ei holl swyddogaethau neu unrhyw rai ohonynt.
Swyddogion canlyniadau: cywiro camgymeriadau gweithdrefnol
21 

(1) Caiff swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd gymryd unrhyw gamau y mae’r swyddog hwnnw’n meddwl eu bod yn briodol i unioni unrhyw weithred neu anweithred ar ran y swyddog hwnnw, neu ar ran person perthnasol—
(a) sy’n codi mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth sydd gan y swyddog canlyniadau neu’r person perthnasol mewn perthynas â’r etholiad, a
(b) nad yw yn unol â’r rheolau neu ag unrhyw ofynion eraill sy’n gymwys i’r etholiad.
(2) Ni chaiff swyddog canlyniadau, o dan baragraff (1), ailgyfrif y pleidleisiau a roddwyd mewn etholiad ar ôl i’r canlyniad gael ei ddatgan.
(3) Y personau perthnasol yw—
(a) swyddog cofrestru,
(b) swyddog llywyddu,
(c) person sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau i’r swyddog canlyniadau, a
(d) dirprwy i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) a (b), neu berson a benodir i gynorthwyo person o’r fath, neu sy’n cynorthwyo person o’r fath yng nghwrs ei gyflogaeth, mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth sydd gan y person hwnnw mewn perthynas â’r etholiad.
Swyddogion canlyniadau: cyffredinol
22 

(1) Nid yw etholiad i’r Senedd yn agored i gael ei gwestiynu oherwydd diffyg yn nheitl person sy’n llywyddu yn yr etholiad neu’n ei gynnal, neu oherwydd nad oes teitl gan y person hwnnw, os oedd y person hwnnw ar y pryd mewn gwirionedd yn dal y swydd sy’n rhoi’r hawl i lywyddu yn yr etholiad neu ei gynnal, neu os oedd yn gweithredu yn y swydd honno dros dro.
(2) Nid yw person yn ddarostyngedig i unrhyw anghymhwyster i bleidleisio mewn etholiad i’r Senedd oherwydd ei fod yn swyddog canlyniadau, neu’n gweithredu fel swyddog canlyniadau, yn yr etholiad hwnnw.
Taliadau gan y swyddog canlyniadau ac iddo
23 

(1) Mae gan swyddog canlyniadau hawlogaeth i adennill ei daliadau mewn cysylltiad â threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad i’r Senedd, neu mewn cysylltiad ag etholiad i’r Senedd, pan fo wedi mynd i dreuliau o’r fath o reidrwydd, er mwyn cynnal yr etholiad yn effeithlon ac yn effeithiol.
(2) Mae gan swyddog canlyniadau hawlogaeth i adennill, ar ran gweinyddwyr etholiadol, daliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer cynnal etholiad i’r Senedd, neu mewn cysylltiad â hynny, pan fônt wedi mynd i dreuliau o’r fath o reidrwydd er mwyn cynnal yr etholiad yn effeithlon ac yn effeithiol.
(3) At ddiben paragraff (2), mae’r “gweinyddwyr etholiadol” yn cynnwys—
(a) swyddog canlyniadau a benodwyd o dan erthygl 18,
(b) dirprwy swyddog canlyniadau a benodwyd o dan erthygl 20, ac
(c) swyddogion cynghorau sy’n gyfrifol am gyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiad i’r Senedd o dan erthygl 19.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn—
(a) pennu’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy ar gyfer taliadau o dan baragraffau (1) a (2),
(b) darparu dull o gyfrifo’r cyfanswm mwyaf na chaiff y taliadau hynny fod yn fwy nag ef,
(c) pennu, neu ddarparu dull ar gyfer cyfrifo, y cyfansymiau mwyaf y caniateir eu hadennill ar gyfer gwasanaethau neu dreuliau o fathau penodol, a
(d) gwneud darpariaeth o ran yr amser y mae cyfrifon i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer talu taliadau o’r fath, a’r dull a’r ffurf ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon hynny.
(5) Ni chaiff swyddog canlyniadau adennill mwy nag unrhyw gyfanswm mwyaf a nodir gan orchymyn o dan baragraff (4), oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn rhesymol i’r swyddog canlyniadau hwnnw ddarparu’r gwasanaethau neu fynd i’r treuliau, a bod y taliadau’n rhesymol.
(6) Caiff gorchymyn o dan baragraff (4)—
(a) gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion, amgylchiadau neu ardaloedd gwahanol,
(b) amrywio, diwygio neu ddirymu unrhyw reoliadau a gorchmynion blaenorol, ac
(c) cynnwys unrhyw ddarpariaethau ddeilliadol, darpariaethau atodol, darpariaethau arbed neu ddarpariaethau trosiannol,
a bennir gan Weinidogion Cymru.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae unrhyw symiau y caniateir eu hadennill yn unol â’r erthygl hon i’w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru, a’u talu allan ohoni, ar gyfrif sy’n cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.
(8) Pan fo’r cyfraniadau blwydd-daliad y mae’n ofynnol i awdurdod lleol eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw berson yn cael eu cynyddu gan unrhyw ffi a delir o dan yr erthygl hon yn rhan o daliadau swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd, yna ar gyfrif sy’n cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, rhaid codi swm sy’n hafal i’r cynnydd ar Gronfa Gyfunol Cymru a’i dalu allan ohoni i’r awdurdod.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn meddwl ei bod yn addas, wneud cais i gyfrif gael ei asesu yn unol ag erthygl 24 cyn gwneud unrhyw daliad o dan yr erthygl hon.
(10) Ar gais gan swyddog canlyniadau am flaenswm ymlaen llaw oherwydd taliadau, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw delerau y meddyliant eu bod yn addas, dalu blaenswm o’r fath.
(11) Mae’r pŵer i wneud gorchmynion o dan baragraff (4) yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac at ddiben adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, mae’r ddarpariaeth hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan y Senedd.
Asesiad manwl o gyfrif swyddog canlyniadau
24 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i gyfrif swyddog canlyniadau gael ei asesu.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud i’r llys sirol (“y llys”).
(3) Ar ôl derbyn cais o’r fath, mae gan y llys awdurdodaeth—
(a) i asesu’r cyfrif yn y fath ddull ac ar unrhyw amser ac ym mha le bynnag y mae’r llys yn meddwl eu bod yn addas, a
(b) i benderfynu’r swm sy’n daladwy i’r swyddog canlyniadau.
(4) Rhaid i’r llys hysbysu’r swyddog canlyniadau pan wneir cais o dan baragraff (1), a chaiff y swyddog canlyniadau wneud cais i’r llys i archwilio’r hawliad a wneir yn erbyn y swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â materion a godir yn y cyfrif.
(5) Rhaid i’r llys roi cyfle i’r swyddog canlyniadau i ddarparu tystiolaeth mewn perthynas â’r hawliad a wneir yn erbyn y swyddog canlyniadau, a chaniateir darparu’r dystiolaeth hon ar lafar ac mewn ysgrifen.
(6) Wrth asesu cyfrif, rhaid i’r llys—
(a) ystyried unrhyw dystiolaeth a ddarperir gan y naill barti neu’r llall,
(b) caniatáu, gwrthod neu leihau’r cyfrif, ac
(c) gwneud gorchymyn o ran costau’r cais.
(7) Nid oes hawl i apelio yn bodoli mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan y llys o dan yr erthygl hon.
Rhoi benthyg cyfarpar ar gyfer etholiadau’r Senedd
25 
Rhaid i unrhyw flychau pleidleisio, ffitiadau a chompartmentau a ddarperir gan awdurdod lleol neu sy’n perthyn iddo, pan ofynnir am hynny (os nad oes eu hangen i’w defnyddio ar unwaith gan yr awdurdod hwnnw), gael eu rhoi ar fenthyg i swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd ar unrhyw delerau ac amodau y cytunir arnynt.
Effaith cofrestrau
26 

(1) O ran unrhyw gofnod yn y gofrestr etholwyr, os yw’n nodi dyddiad yn ddyddiad y bydd y person a enwir yn cyrraedd oedran pleidleisio arno, at unrhyw un neu ragor o ddibenion y Rhan hon sy’n ymwneud â’r person fel etholwr, bydd y cofnod hwnnw yn ddiwrthbrawf nad yw’r person hwnnw, hyd nes y dyddiad a roddir yn y cofnod, wedi cyrraedd oedran pleidleisio ac nad oes ganddo hawlogaeth i gael ei drin fel etholwr ac eithrio at ddibenion etholiad i’r Senedd y mae’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y pôl yr un dyddiad â’r dyddiad hwnnw, neu yn ddyddiad diweddarach.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir eithrio person sydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol, neu sydd wedi ei gofnodi yn y rhestr o ddirprwyon, rhag pleidleisio mewn etholiad i’r Senedd ar unrhyw un o’r seiliau a nodir ym mharagraff (5).
(3) Nid yw paragraff (2) yn atal gwrthod y bleidlais yn sgil craffu, nac yn effeithio ar atebolrwydd y person am unrhyw gosb am bleidleisio.
(4) Nid yw paragraff (2) yn atal gwrthod pleidlais person os caiff y bleidlais honno ei herio yn unol â Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn, nac yn effeithio ar atebolrwydd y person hwnnw am unrhyw gosb am bleidleisio.
(5) Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), o ran y person, yw—
(a) nad yw wedi cyrraedd oedran pleidleisio,
(b) nad yw, neu nad oedd, ar y dyddiad perthnasol neu ar ddyddiad penodiad y person—
(i) yn ddinesydd cymhwysol o’r Gymanwlad,
(ii) yn ddinesydd tramor cymhwysol,
(iii) yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon, na
(iv) yn ddinesydd perthnasol o’r Undeb, neu
(c) ei fod yn ddarostyngedig fel arall, neu y bu ar y dyddiad perthnasol neu ar ddyddiad penodiad y person yn ddarostyngedig fel arall, i unrhyw anghymhwyster cyfreithiol arall i bleidleisio.
(6) Ym mharagraff (5), ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad perthnasol at ddibenion adran 4 o Ddeddf 1983.
(7) Mae paragraff (1) yn gymwys i gofnod yn y rhestr o gofnodion dienw fel y mae’n gymwys i gofnod yn y gofrestr etholwyr.
Effaith camddisgrifio
27 
Nid yw unrhyw achos o gamenwi nac unrhyw ddisgrifiad anghywir o unrhyw berson na lle a enwir—
(a) yn y gofrestr etholwyr, neu
(b) mewn unrhyw restr, cofnod, papur dirprwy, papur enwebu, papur pleidleisio, hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ofynnol at ddibenion y Gorchymyn hwn,yn effeithio ar weithrediad llawn y ddogfen mewn cysylltiad â’r person hwnnw neu’r lle hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r disgrifiad o’r person neu’r lle yn ddealladwy yn gyffredinol.
Cyflawni dyletswyddau cofrestru
28 

(1) Caniateir cyflawni ac arfer unrhyw un o ddyletswyddau a phwerau swyddog cofrestru o dan y Gorchymyn hwn gan unrhyw ddirprwy sydd wedi ei gymeradwyo am y tro gan y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol a benododd y swyddog cofrestru, ac mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw ddirprwy o’r fath i’r graddau y maent mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswyddau neu bwerau i’w cyflawni neu eu harfer gan y dirprwy, fel y maent yn gymwys i’r swyddog cofrestru.
(2) O ran unrhyw weithredoedd yr awdurdodir eu gwneud neu y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y swyddog cofrestru, neu mewn cysylltiad â’r swyddog cofrestru, o dan y Gorchymyn hwn, os na fydd y swyddog hwnnw yn gallu gweithredu neu os yw’r swydd yn wag, caniateir iddynt gael eu gwneud gan swyddog priodol o’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y penodwyd y swyddog cofrestru ganddo, neu mewn cysylltiad â’r swyddog priodol hwnnw.
(3) Rhaid i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y penodir swyddog cofrestru ganddo neilltuo unrhyw swyddogion i gynorthwyo’r swyddog cofrestru sy’n ofynnol wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog cofrestru o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i swyddog cofrestru gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau cyffredinol neu benodol y caniateir i Weinidogion Cymru eu rhoi o dan adran 52 o Ddeddf 1983 (cyflawni dyletswyddau cofrestru) pan fo’r cyfarwyddydau hynny wedi eu dyroddi ar argymhelliad y Comisiwn Etholiadol ac yn unol â’r argymhelliad hwnnw.
(5) Mewn perthynas â pharagraff (2), ystyr “swyddog priodol” yw swyddog priodol o fewn yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Talu treuliau swyddog cofrestru
29 

(1) Rhaid i unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn briodol gan swyddog cofrestru wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog hwnnw o dan y Gorchymyn hwn (y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn fel “treuliau cofrestru”) gael eu talu gan y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y penodwyd y swyddog cofrestru ganddo.
(2) Rhaid i’r swyddog cofrestru roi cyfrif am unrhyw ffioedd a delir i’r swyddog hwnnw o dan y Gorchymyn hwn a’u talu i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y penodwyd y swyddog cofrestru ganddo.
(3) Pan fydd swyddog cofrestru yn gofyn am flaenswm ymlaen llaw oherwydd treuliau cofrestru, caniateir i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y penodwyd y swyddog cofrestru ganddo, os yw’n meddwl ei bod yn addas, wneud unrhyw flaenswm i’r swyddog cofrestru o unrhyw swm ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n eu cymeradwyo.
Cambersonadu
30 

(1) Mae person (“P”) yn cyflawni trosedd arfer lwgr os yw P yn cyflawni, neu’n helpu, annog, cwnsela neu beri cyflawni, trosedd cambersonadu.
(2) Mae P yn euog o gambersonadu os yw P—
(a) yn pleidleisio yn bersonol neu drwy’r post fel rhyw berson arall, pa un ai fel etholwr neu fel dirprwy, a pha un a yw’r person arall hwnnw’n fyw neu’n farw neu’n berson ffug, neu
(b) yn pleidleisio’n bersonol neu drwy’r post fel dirprwy—
(i) dros berson y mae P yn gwybod ei fod wedi marw neu ei fod yn berson ffug, neu fod ganddo sail resymol dros dybio hynny, neu
(ii) pan yw P yn gwybod nad yw ei benodiad fel dirprwy bellach mewn grym, neu fod ganddo sail resymol dros dybio hynny.
(3) At ddibenion yr erthygl hon, bernir bod person sydd wedi gwneud cais am bapur pleidleisio at ddiben pleidleisio yn bersonol neu sydd wedi rhoi marc, pa un a yw’n farc dilys ai peidio, ar bapur pleidleisio a ddyroddwyd at ddiben pleidleisio drwy’r post, a’i ddychwelyd, wedi pleidleisio.
(4) Nid yw adran 24A o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (arestio heb warant: personau eraill) yn caniatáu i berson ac eithrio cwnstabl arestio person, y tu mewn i orsaf bleidleisio, sy’n cyflawni trosedd neu yr amheuir ei fod yn cyflawni trosedd o dan ddarpariaethau blaenorol yr erthygl hon.
Troseddau pleidleisio eraill
31 

(1) Mae person (“P1”) yn euog o drosedd—
(a) os yw P1 yn pleidleisio yn bersonol neu drwy’r post, pa un ai fel etholwr neu fel dirprwy, neu’n gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy neu drwy’r post fel etholwr mewn etholiad i’r Senedd neu yn etholiadau’r Senedd, gan wybod bod P1 yn ddarostyngedig i anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio yn yr etholiad, neu mewn etholiadau o’r math hwnnw,
(b) os yw P1 yn gwneud cais i benodi dirprwy i bleidleisio ar ran P1 mewn etholiad i’r Senedd, neu yn etholiadau’r Senedd, gan wybod bod P1 neu’r person sydd i’w benodi yn ddarostyngedig i anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio yn yr etholiad, neu mewn etholiadau o’r fath, neu
(c) os yw P1 yn pleidleisio, pa un ai yn bersonol neu drwy’r post, fel dirprwy dros ryw berson arall mewn etholiad i’r Senedd, gan wybod bod y person hwnnw yn ddarostyngedig i anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw cyfeiriadau at y ffaith fod person yn ddarostyngedig i anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio, mewn perthynas â phethau a wneir cyn diwrnod y pôl yn yr etholiad neu yn yr etholiad cyntaf y gwneir hwy ynddo neu ar ei gyfer, yn cynnwys y ffaith fod y person o dan yr oedran pleidleisio os bydd y person wedi cyrraedd oedran pleidleisio ar y diwrnod hwnnw.
(3) Mae person (“P2”) yn euog o drosedd—
(a) os yw P2 yn pleidleisio fel etholwr, ac eithrio drwy ddirprwy, naill ai—
(i) fwy nag unwaith yn yr un etholaeth mewn unrhyw etholiad i’r Senedd,
(ii) mewn mwy nag un etholaeth mewn etholiad i’r Senedd, neu
(iii) mewn unrhyw etholaeth mewn etholiad i’r Senedd pan fo penodiad person mewn grym i bleidleisio fel dirprwy dros P2 yn yr etholiad mewn rhyw etholaeth arall,
(b) os yw P2 yn pleidleisio fel etholwr yn bersonol mewn etholiad i’r Senedd y mae gan P2 hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post ynddo,
(c) os yw P2 yn pleidleisio fel etholwr yn bersonol mewn etholiad i’r Senedd, gan wybod bod person a benodwyd i bleidleisio fel dirprwy dros P2 yn yr etholiad naill ai eisoes wedi pleidleisio yn bersonol yn yr etholiad neu fod ganddo hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad, neu
(d) os yw P2 yn gwneud cais i berson gael ei benodi yn ddirprwy i P2 i bleidleisio dros P2 yn etholiadau’r Senedd mewn unrhyw etholaeth heb wneud cais i ganslo penodiad blaenorol trydydd person sydd mewn grym ar y pryd mewn cysylltiad â’r etholaeth honno neu etholaeth arall, neu heb dynnu cais sydd yn yr arfaeth yn ôl ar gyfer penodiad o’r fath mewn cysylltiad â’r etholaeth honno neu etholaeth arall.
(4) Mae person (“P3”) yn euog o drosedd—
(a) os yw P3 yn pleidleisio fel dirprwy dros yr un etholwr naill ai—
(i) fwy nag unwaith yn yr un etholaeth mewn unrhyw etholiad i’r Senedd, neu
(ii) mewn mwy nag un etholaeth mewn etholiad i’r Senedd,
(b) os yw P3 yn pleidleisio yn bersonol fel dirprwy dros etholwr mewn etholiad i’r Senedd y mae gan P3 hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy dros yr etholwr hwnnw ynddo, neu
(c) os yw P3 yn pleidleisio yn bersonol fel dirprwy dros etholwr mewn etholiad i’r Senedd gan wybod bod yr etholwr eisoes wedi pleidleisio yn bersonol yn yr etholiad.
(5) Mae person (“P4”) yn euog o drosedd os yw P4 yn pleidleisio mewn etholiad i’r Senedd mewn unrhyw etholaeth fel dirprwy dros fwy na dau berson nad yw P4 yn briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn daid/tad-cu neu’n nain/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr neu wyres iddynt.
(6) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw’n fwriadol yn cymell neu’n peri i ryw berson arall (“P5”) wneud gweithred sy’n drosedd gan P5 o dan baragraffau blaenorol yr erthygl hon, neu a fyddai’n drosedd felly oni bai am ddiffyg gwybodaeth P5.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), at ddibenion yr erthygl hon bernir bod person sydd wedi gwneud cais am bapur pleidleisio at ddiben pleidleisio yn bersonol, neu sydd wedi rhoi marc, pa un a yw’n farc dilys ai peidio, ar bapur pleidleisio a ddyroddwyd at ddiben pleidleisio drwy’r post, a’i ddychwelyd, wedi pleidleisio.
(8) At ddiben penderfynu a yw cais am bapur pleidleisio yn gyfystyr â throsedd o dan baragraff (5), bydd cais blaenorol a wnaed mewn amgylchiadau nad ydynt ond yn rhoi hawlogaeth i’r ceisydd i farcio papur pleidleisio a dendrwyd yn cael ei anwybyddu os nad yw’r person hwnnw yn arfer yr hawl honno.
(9) Nid yw person yn euog o drosedd o dan baragraff (3)(b) na (4)(b) dim ond oherwydd bod y person wedi marcio papur pleidleisio a dendrwyd yn unol â rheol 50 o Atodlen 5.
(10) Mae person a geir yn euog o drosedd o dan yr erthygl hon yn euog o drosedd arfer anghyfreithlon, ond—
(a) caniateir i’r llys yr euogfernir person o unrhyw drosedd ger ei fron, os yw’r llys yn meddwl ei bod yn gyfiawn yn amgylchiadau arbennig yr achos, liniaru neu ddileu yn llwyr unrhyw anghymhwyster a osodwyd yn rhinwedd erthygl 124, a
(b) ni fydd ymgeisydd yn atebol, ac ni chaiff etholiad yr ymgeisydd ei ddirymu, am arfer anghyfreithlon o dan yr erthygl hon gan unrhyw asiant i’r ymgeisydd ac eithrio trosedd o dan baragraff (6).
Torri dyletswydd swyddogol
32 

(1) Os yw person y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, heb achos rhesymol, yn euog o unrhyw weithred neu anweithred gan dorri dyletswydd swyddogol y person hwnnw, mae’r person hwnnw’n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Ni fydd unrhyw berson y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo yn agored i unrhyw gosb yn y gyfraith gyffredin am dorri dyletswydd swyddogol y person hwnnw, ac ni fydd unrhyw achos am iawndal yn deillio mewn cysylltiad â thorri dyletswydd swyddogol person o’r fath gan y person hwnnw.
(3) Y personau y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt yw—
(a) unrhyw swyddog cofrestru, swyddog canlyniadau neu swyddog llywyddu,
(b) unrhyw berson arall y mae’n ddyletswydd arno i fod yn gyfrifol ar ôl etholiad i’r Senedd am y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ac am ddogfennau eraill, gan gynnwys ffurflenni a datganiadau ynghylch treuliau,
(c) unrhyw swyddog a ddynodir gan ddarparwr gwasanaeth cyffredinol, a
(d) unrhyw ddirprwy i berson a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (a) i (c), neu unrhyw berson a benodir i gynorthwyo person a grybwyllir felly, neu yn ystod cyflogaeth y person hwnnw sy’n cynorthwyo person a grybwyllir felly, mewn cysylltiad â dyletswyddau swyddogol y person hwnnw.
(4) Pan—
(a) bo swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad i’r Senedd yn euog o weithred neu anweithred gan dorri dyletswydd swyddogol y swyddog canlyniadau, ond
(b) bo’r swyddog canlyniadau yn unioni’r weithred honno neu’r anweithred hwnnw yn llawn drwy gymryd camau o dan erthygl 21(1),
ni fydd y swyddog canlyniadau yn euog o drosedd o dan baragraff (1).
(5) Nid yw paragraff (4) yn effeithio ar unrhyw euogfarn sy’n digwydd, nac unrhyw gosb a osodir, cyn y dyddiad y caiff y weithred neu’r anweithred ei hunioni neu ei unioni yn llawn.
(6) At ddibenion yr erthygl hon, ni fydd “dyletswydd swyddogol” yn cynnwys dyletswyddau a osodir ac eithrio gan y gyfraith sy’n ymwneud ag etholiadau’r Senedd neu gofrestru etholwyr llywodraeth leol.
Ymyrryd â phapurau enwebu, papurau pleidleisio etc.
33 

(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, mewn etholiad i’r Senedd—
(a) yn difwyno neu’n dinistrio yn dwyllodrus unrhyw bapur enwebu, unrhyw ffurflen cyfeiriad cartref neu unrhyw gydsyniad ag enwebiad,
(b) yn difwyno neu’n dinistrio yn dwyllodrus unrhyw bapur pleidleisio, neu’r marc swyddogol ar unrhyw bapur pleidleisio, neu ddatganiad pleidlais drwy’r post neu amlen swyddogol a ddefnyddir mewn cysylltiad â phleidleisio drwy’r post,
(c) heb awdurdod dyladwy yn cyflenwi unrhyw bapur pleidleisio i unrhyw berson,
(d) yn rhoi’n dwyllodrus, mewn unrhyw flwch pleidleisio, unrhyw bapur ac eithrio’r papur pleidleisio y mae’r person hwnnw wedi ei awdurdodi gan y gyfraith i’w roi yn y blwch,
(e) yn cymryd allan o’r orsaf bleidleisio unrhyw bapur pleidleisio yn dwyllodrus,
(f) heb awdurdod dyladwy yn dinistrio, yn cymryd, yn agor neu’n ymyrryd fel arall ag unrhyw flwch pleidleisio neu becyn o bapurau pleidleisio sydd ar y pryd yn cael eu defnyddio at ddibenion yr etholiad, neu
(g) yn dwyllodrus neu heb awdurdod dyladwy yn ceisio gwneud unrhyw un o’r gweithredoedd a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (f).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i’r canlynol—
(a) swyddog canlyniadau,
(b) swyddog llywyddu, ac
(c) person a benodwyd i gynorthwyo—
(i) i gynnal y pôl,
(ii) i gyfrif y pleidleisiau, neu
(iii) mewn gweithdrefnau mewn cysylltiad â dyroddi neu dderbyn papurau pleidleisio drwy’r post.
(3) Os yw person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn euog o drosedd o dan yr erthygl hon, mae’r person hwnnw’n agored—
(a) ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau, neu
(b) ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.
(4) Os yw unrhyw berson arall yn euog o drosedd o dan yr erthygl hon, mae’r person hwnnw’n agored ar euogfarn ddiannod—
(a) i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,
(b) i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.
(5) Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae’r cyfeiriad ym mharagraffau (3)(a) a (4)(b) at 6 mis i’w gymryd fel cyfeiriad at 51 o wythnosau.
Datganiadau anwir mewn papurau enwebu etc.
34 

(1) Mae person (“P1”) yn euog o arfer lwgr os yw P1, mewn etholiad i’r Senedd, yn achosi neu’n caniatáu cynnwys y canlynol mewn dogfen a ddanfonir at swyddog canlyniadau neu a roddir fel arall i swyddog canlyniadau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r etholiad—
(a) datganiad o enw neu gyfeiriad cartref ymgeisydd yn yr etholiad y mae P1 yn gwybod ei fod yn ffug,
(b) unrhyw beth sy’n honni ei fod yn llofnod person sy’n rhoi ei enw wrth droed papur enwebu ond y mae P1 yn gwybod—
(i) nas ysgrifennwyd gan y person y mae’n honni iddo gael ei ysgrifennu ganddo, neu
(ii) os cafodd ei ysgrifennu gan y person hwnnw, nas ysgrifennwyd gan y person hwnnw at ddibenion rhoi ei enw wrth droed y papur enwebu hwnnw, neu
(c) tystysgrif o dan reol 7 o Atodlen 5 (papur enwebu plaid: enw plaid wleidyddol neu ddisgrifiad ohoni) sy’n awdurdodi defnyddio disgrifiad gan blaid wleidyddol gofrestredig, os yw P1 yn gwybod bod ymgeisydd ar restr ymgeiswyr y blaid honno hefyd yn ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig arall yn yr etholiad hwnnw i’r Senedd.
(2) Mae person (“P2”) yn euog o arfer lwgr os yw P2, yn achos ymgeisydd unigol, yn gwneud y canlynol mewn unrhyw ddogfen y mae P2 yn rhoi cydsyniad ag enwebiad fel ymgeisydd ynddi—
(a) datganiad o ddyddiad geni P2,
(b) datganiad ynghylch cymhwystra P2 i fod yn aelod o’r Senedd,
(c) datganiad nad yw P2—
(i) yn ymgeisydd unigol mewn unrhyw un arall o etholaethau’r Senedd, na
(ii) yn ymgeisydd rhestr plaid mewn unrhyw un o etholaethau’r Senedd,
y mae’r pôl ar ei chyfer i’w chynnal ar yr un diwrnod â’r pôl yn yr etholiad y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef,
(d) datganiad ynghylch aelodaeth P2 o blaid, neu
(e) datganiad ynghylch etholaeth y Senedd y mae P2 wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol ynddi,
y gŵyr P2 ei fod yn ffug.
(3) Mae person (“P3”) yn euog o arfer lwgr os yw P3, yn achos ymgeisydd rhestr plaid mewn etholiad i’r Senedd, yn gwneud y canlynol mewn unrhyw ddogfen y mae P3 yn rhoi cydsyniad ag enwebiad fel ymgeisydd ynddi—
(a) datganiad o ddyddiad geni P3,
(b) datganiad ynghylch cymhwystra P3 i fod yn aelod o’r Senedd,
(c) datganiad nad yw P3—
(i) yn ymgeisydd unigol mewn unrhyw un o etholaethau’r Senedd, na
(ii) yn ymgeisydd ar unrhyw restr plaid arall a gyflwynwyd mewn cysylltiad ag unrhyw un o etholaethau’r Senedd,
y mae’r pôl ar ei chyfer i’w chynnal ar yr un diwrnod â’r pôl yn yr etholiad y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef,
(d) datganiad ynghylch aelodaeth P3 o blaid, neu
(e) datganiad ynghylch etholaeth y Senedd y mae P3 wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol ynddi,
y gŵyr P3 ei fod yn ffug.
(4) At ddibenion paragraffau (2) a (3), mae datganiad ynghylch cymhwystra’r ymgeisydd yn ddatganiad, hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred, nad yw wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol o dan adran 16(A1) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd).
(5) At ddibenion paragraffau (2) a (3), mae datganiad ynghylch aelodaeth yr ymgeisydd o blaid yn ddatganiad a wneir yn unol â rheol 10 o Atodlen 5 (datganiadau o aelodaeth plaid).
Gofyniad cyfrinachedd
35 

(1) Ac eithrio pan y’u hawdurdodir gan y gyfraith, rhaid i’r personau a ganlyn gynnal cyfrinachedd pleidleisio, a chynorthwyo i’w gynnal, mewn perthynas â’r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2) hyd nes i’r pôl gau—
(a) swyddog canlyniadau neu aelod o staff swyddog canlyniadau,
(b) swyddog llywyddu neu glerc a benodir o dan reol 35 o Atodlen 5,
(c) ymgeisydd, asiant etholiad neu asiant pôl, neu
(d) unrhyw berson sy’n bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000.
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a) enw unrhyw etholwr neu ddirprwy i etholwr sydd wedi gwneud cais am bapur pleidleisio neu sydd heb wneud cais am bapur pleidleisio, neu sydd wedi pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu sydd heb bleidleisio,
(b) rhif unrhyw etholwr, ar y gofrestr etholwyr, sydd wedi gwneud cais am bapur pleidleisio neu sydd heb wneud cais am bapur pleidleisio, neu sydd wedi pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu sydd heb bleidleisio felly, neu y mae ei ddirprwy wedi gwneud neu heb wneud felly, neu
(c) y marc swyddogol ar unrhyw bapur pleidleisio.
(3) Rhaid i bob person sy’n bresennol wrth gyfrif y pleidleisiau gynnal cyfrinachedd y pleidleisio, a chynorthwyo i’w gynnal, ac ni chaiff—
(a) canfod, na cheisio canfod, wrth gyfrif y pleidleisiau, y rhif na marc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio, na
(b) cyfleu unrhyw wybodaeth a gafwyd wrth gyfrif pleidleisiau ynghylch sut y rhoddir unrhyw bleidlais ar unrhyw bapur pleidleisio penodol.
(4) Ni chaiff neb—
(a) ymyrryd â phleidleisiwr, na cheisio ymyrryd â phleidleisiwr, pan fydd yn pleidleisio,
(b) cael fel arall, na cheisio cael, mewn gorsaf bleidleisio, wybodaeth ynghylch sut y mae pleidleisiwr yn yr orsaf honno ar fin pleidleisio neu wedi pleidleisio,
(c) cyfleu ar unrhyw adeg i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd mewn gorsaf bleidleisio ynghylch sut y mae pleidleisiwr yn yr orsaf honno ar fin pleidleisio neu wedi pleidleisio, nac ynghylch y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn papur pleidleisio a roddir i bleidleisiwr yn yr orsaf honno, na
(d) ysgogi pleidleisiwr arall yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol i arddangos papur pleidleisio ar ôl i’r pleidleisiwr ei farcio er mwyn ei gwneud yn hysbys i unrhyw berson sut y mae’r pleidleisiwr wedi pleidleisio neu heb bleidleisio.
(5) Rhaid i bob person sy’n bresennol yn y gweithdrefnau mewn cysylltiad â dyroddi neu â derbyn papurau pleidleisio ar gyfer personau sy’n pleidleisio drwy’r post gynnal cyfrinachedd y pleidleisio, a chynorthwyo i’w gynnal, ac ni chaiff—
(a) ac eithrio at ryw ddiben a awdurdodir gan y gyfraith, gyfleu i unrhyw berson, cyn i’r pôl gau, unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y gweithdrefnau hynny ynghylch y marc swyddogol,
(b) ac eithrio at ryw ddiben a awdurdodir gan y gyfraith, gyfleu i unrhyw berson ar unrhyw adeg unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y gweithdrefnau hynny ynghylch y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio a anfonwyd at unrhyw berson,
(c) ac eithrio at ryw ddiben a awdurdodir gan y gyfraith, geisio canfod yn y gweithdrefnau mewn cysylltiad â derbyn papurau pleidleisio y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio, na
(d) ceisio canfod yn y gweithdrefnau mewn cysylltiad â derbyn y papurau pleidleisio sut y rhoddir unrhyw bleidlais ar unrhyw bapur pleidleisio penodol, na chyfleu unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y gweithdrefnau hynny yn hynny o beth.
(6) Ni chaiff unrhyw berson sydd wedi ymgymryd i gynorthwyo pleidleisiwr ag anableddau gyfleu unrhyw wybodaeth i unrhyw berson ar unrhyw adeg ynghylch sut y mae’r pleidleisiwr hwnnw’n bwriadu pleidleisio neu wedi pleidleisio, nac ynghylch y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio a roddir at ddefnydd y pleidleisiwr hwnnw.
(7) Os yw person yn gweithredu gan dorri’r erthygl hon, mae’r person hwnnw’n agored ar euogfarn ddiannod—
(a) i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu
(b) i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 6 mis.
(8) Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, rhaid i’r cyfeiriad ym mharagraff (7) at 6 mis gael ei gymryd fel cyfeiriad at 51 o wythnosau.
Gwahardd cyhoeddi arolygon barn ymadael
36 

(1) Cyn i’r pôl gau ni chaiff unrhyw berson gyhoeddi—
(a) unrhyw ddatganiad yn ymwneud â’r ffordd y mae pleidleiswyr wedi pleidleisio yn yr etholiad pan fo’r datganiad hwnnw yn seiliedig ar wybodaeth, neu y gellid yn rhesymol gymryd ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, a roddwyd gan bleidleiswyr ar ôl iddynt bleidleisio, na
(b) unrhyw ragolwg ynghylch canlyniad yr etholiad sy’n seiliedig ar wybodaeth, neu y gellid yn rhesymol gymryd ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, a roddir felly.
(2) Mae person sy’n gweithredu gan dorri paragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod—
(a) i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,
(b) i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 6 mis.
(3) Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, rhaid i’r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 6 mis gael ei gymryd fel cyfeiriad at 51 o wythnosau.
(4) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “cyhoeddi” (“publish”) yw rhoi ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol, neu unrhyw ran o’r cyhoedd, ar ba ffurf bynnag a thrwy ba bynnag fodd,
 mae “rhagolwg” (“forecast”) yn cynnwys amcangyfrif, acmae unrhyw gyfeiriad at ganlyniad etholiad yn gyfeiriad at ganlyniad yr etholiad naill ai yn ei gyfanrwydd neu i’r graddau y mae unrhyw ymgeisydd penodol neu ymgeiswyr penodol yn yr etholiad yn y cwestiwn.
RHAN 3 Yr ymgyrch etholiadol
Dehongli Rhan 3
37 

(1) Yn y Rhan hon—
 ystyr “at ddibenion ethol yr ymgeisydd” (“for the purposes of the candidate’s election”) yw gyda’r bwriad o hyrwyddo neu beri ethol yr ymgeisydd yn yr etholiad, neu mewn cysylltiad â hynny fel arall;
 mae i “cyfnod rheoleiddiedig” (“regulated period”) yr ystyr a roddir gan erthygl 49;
 ystyr “ffurflen ynghylch treuliau etholiad” (“return as to election expenses”) yw ffurflen (gan gynnwys y biliau a’r derbynebau sydd i’w danfon gyda hi) sydd i’w gwneud o dan erthygl 54;
 mae i “hawliad y mae anghydfod yn ei gylch” (“disputed claim”) yr ystyr a roddir gan erthygl 52(1) fel y’i hestynnir gan erthygl 53;
 mae “ymgeisydd” (“candidate”) i’w ddehongli yn unol â pharagraff (2).
(2) Mae person (“P”) yn dod yn ymgeisydd mewn perthynas ag etholiad cyffredinol i’r Senedd—
(a) ar ddyddiad diddymu’r Senedd os yw P wedi ei ddatgan, ar neu cyn y diwrnod hwnnw, naill ai gan P neu gan bobl eraill, yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
(b) fel arall, y diwrnod—
(i) y mae P yn cael ei ddatgan, gan P neu gan bobl eraill, yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
(ii) y mae P yn cael ei enwebu’n ymgeisydd yn yr etholiad,
pa un bynnag sydd gynharaf.
(3) Materion a gynhwysir fel treuliau personol yw—
(a) treuliau teithio;
(b) treuliau byw mewn gwestai neu rywle arall.
Cyfrifo amser at ddibenion Rhan 3
38 

(1) Pan fo’r diwrnod neu’r diwrnod olaf y mae’n ofynnol i unrhyw beth gael ei wneud neu y caniateir i unrhyw beth gael ei wneud, gan y Rhan hon neu yn unol â hi, yn ddiwrnod eithriedig—
(a) bernir bod y gofyniad neu’r caniatâd yn ymwneud â’r diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod hwnnw nad yw’n ddiwrnod eithriedig, a
(b) wrth gyfrifo unrhyw gyfnod heb fod yn fwy na 7 niwrnod at ddibenion y Rhan hon, mae unrhyw ddiwrnod eithriedig i gael ei anwybyddu.
(2) At ddibenion paragraff (1), diwrnod eithriedig yw—
(a) dydd Sadwrn;
(b) dydd Sul;
(c) noswyl Nadolig;
(d) dydd Nadolig;
(e) dydd Gwener y Groglith;
(f) diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
(g) diwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus.
Yr Asiant Etholiad
Penodi asiant etholiad
39 

(1) Dim hwyrach na’r amser hwyraf ar gyfer cyhoeddi’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd (rheol 1(1) o Atodlen 5)—
(a) rhaid i berson gael ei enwi gan bob ymgeisydd unigol, neu ar ei ran, yn asiant etholiad i’r ymgeisydd, a
(b) rhaid i enw a chyfeiriad asiant etholiad yr ymgeisydd gael eu datgan mewn ysgrifen gan yr ymgeisydd neu gan ryw berson arall ar ran yr ymgeisydd i’r swyddog canlyniadau.
(2) Caiff ymgeiswyr unigol eu henwi hwy eu hunain yn asiant etholiad iddynt eu hunain.
(3) Dim hwyrach na’r amser hwyraf ar gyfer cyhoeddi’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd—
(a) rhaid i berson gael ei enwi gan bob plaid wleidyddol gofrestredig sy’n cyflwyno rhestr plaid, neu ar ran bob plaid o’r fath, yn asiant etholiad i’r blaid honno mewn perthynas â’r rhestr honno, a
(b) rhaid i enw a chyfeiriad asiant etholiad plaid gael eu datgan mewn ysgrifen, gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid honno, neu ar ei ran, i’r swyddog canlyniadau.
(4) Caniateir i ymgeisydd sydd wedi ei gynnwys ar restr plaid plaid wleidyddol gofrestredig gael ei enwi’n asiant etholiad i’r blaid honno mewn perthynas â’r rhestr plaid honno.
(5) Pan fo ymgeisydd, yn unol â pharagraff (1) neu (3), yn cael ei enwi’n asiant etholiad a phan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n mynd gyda phapur enwebu’r ymgeisydd hwnnw yn cynnwys datganiad o dan reol 8(4) o Atodlen 5 na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd—
(a) ni chaniateir cynnwys cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr hysbysiad cyhoeddus o dan baragraff (11), a
(b) rhaid cynnwys yr wybodaeth a roddir yn ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd o dan reol 8(5) o Atodlen 5 yn yr hysbysiad cyhoeddus yn lle hynny.
(6) Pan fo ymgeisydd, yn unol â pharagraff (1) neu (3), yn cael ei enwi’n asiant etholiad a phan fo’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd yn dangos enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw, rhaid i’r hysbysiad cyhoeddus o dan baragraff (11) ddangos yr enwau blaen neu’r cyfenwau hynny a ddefnyddir yn gyffredin yn lle’r enwau blaen neu’r cyfenwau a nodir yn y papur enwebu yn unol â rheolau 5(4)(a) a 6(6) o Atodlen 5.
(7) Pan fo ymgeisydd yn cael ei enwi’n asiant etholiad, i’r graddau y mae’r amgylchiadau’n caniatáu, mae’r ymgeisydd hwnnw yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, fel ymgeisydd ac fel asiant etholiad ac, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at asiant etholiad fel cyfeiriad at yr ymgeisydd yn gweithredu fel asiant etholiad.
(8) Un asiant etholiad yn unig y caniateir ei benodi ar gyfer—
(a) pob ymgeisydd unigol, a
(b) pob plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid,
ond caniateir i’r penodiad, pa un a yw’r asiant etholiad a benodir yn ymgeisydd ai peidio, gael ei ddirymu.
(9) Cyn yr etholiad, yn ystod yr etholiad neu ar ôl yr etholiad, os caiff penodiad, neu benodiad tybiedig (gweler erthygl 42(1) neu (2)), asiant etholiad ei ddirymu neu os bydd asiant etholiad yn marw, rhaid penodi asiant etholiad arall yn ddiymdroi, a rhaid datgan enw a chyfeiriad yr asiant hwnnw mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau.
(10) Ni fydd datgan person ac eithrio—
(a) ymgeisydd unigol, neu
(b) mewn perthynas â phlaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid, yr ymgeisydd y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y rhestr,
yn asiant etholiad yn cael effaith o dan yr erthygl hon oni bai bod y datganiad wedi ei wneud ac wedi ei lofnodi gan y person hwnnw, neu fod datganiad derbyn ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan y person hwnnw yn mynd gydag ef.
(11) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), ar ôl i enw a chyfeiriad asiant etholiad gael ei ddatgan i’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad cyhoeddus o’r enw a’r cyfeiriad hwnnw ar unwaith.
Enwebu is-asiant
40 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, caiff asiant etholiad a benodir yn unol ag erthygl 39 benodi un dirprwy asiant etholiad, y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn fel is-asiant, i weithredu mewn unrhyw ran o etholaeth y Senedd.
(2) Pan benodir is-asiant yn unol â pharagraff (1)—
(a) bernir bod unrhyw beth a wneir at ddibenion y Gorchymyn hwn, gan yr is-asiant neu i’r is-asiant, yn cael ei wneud gan yr asiant etholiad neu i’r asiant etholiad,
(b) bydd unrhyw weithred neu ddiffyg gan is-asiant a fyddai’n arfer anghyfreithlon neu’n drosedd arall o dan y Gorchymyn hwn, pe bai’r is-asiant yn asiant etholiad, yn arfer anghyfreithlon neu’n drosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnir gan yr is-asiant, a bydd yr is-asiant yn agored i gosb yn unol â hynny, ac
(c) bydd ymgeisydd unigol, neu bob ymgeisydd ar restr y blaid wleidyddol gofrestredig, yn ddarostyngedig i’r un anghymhwyster â phe bai’r weithred honno neu’r diffyg hwnnw wedi bod yn weithred neu’n ddiffyg gan yr asiant etholiad.
(3) Pan fo plaid wleidyddol gofrestredig yn cyflwyno rhestr plaid o ymgeiswyr dros etholiad etholaethol—
(a) rhaid i asiant etholiad yr ymgeiswyr hynny, os yw’r asiant etholiad yn penodi is-asiant ar gyfer unrhyw ran o ardal yr etholaeth yn achos unrhyw un neu ragor o’r ymgeiswyr hynny, benodi’r un person ar gyfer y rhan honno o’r etholaeth mewn cysylltiad â’r holl ymgeiswyr, a
(b) dim ond mewn cysylltiad â’r holl ymgeiswyr y caniateir dirymu unrhyw benodiad o’r fath.
(4) Dim hwyrach na’r ail ddiwrnod cyn diwrnod y pôl, rhaid i asiant etholiad ddatgan mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau enw a chyfeiriad unrhyw is-asiant a benodwyd yn unol â pharagraff (1), a rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad cyhoeddus ar unwaith o enw a chyfeiriad pob is-asiant a ddatgenir felly.
(5) O ran penodiad is-asiant—
(a) nid yw’n dod yn wag os bydd yr asiant etholiad a benododd yr is-asiant yn rhoi’r gorau i fod yn asiant etholiad, ond
(b) caniateir iddo gael ei ddirymu gan bwy bynnag yw’r asiant etholiad am y tro.
(6) Os bydd penodiad is-asiant yn cael ei ddirymu neu os bydd is-asiant yn marw, caniateir penodi is-asiant arall, rhaid i enw a chyfeiriad yr is-asiant hwnnw gael eu datgan yn ddiymdroi mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad cyhoeddus ar unwaith o enw a chyfeiriad yr is-asiant hwnnw.
(7) Rhaid i’r datganiad sydd i’w wneud i swyddog canlyniadau, a’r hysbysiad cyhoeddus sydd i’w roi gan y swyddog canlyniadau, o dan baragraff (4) neu (6) bennu’r rhan o etholaeth y Senedd y penodir unrhyw is-asiant i weithredu ynddi.
Swyddfa asiant etholiad ac is-asiant
41 

(1) Rhaid i bob asiant etholiad a phob is-asiant fod â swyddfa lle y caniateir anfon pob hawliad, hysbysiad, proses gyfreithiol a dogfen arall, a rhaid i gyfeiriad y swyddfa—
(a) cael ei ddatgan i’r swyddog canlyniadau pan ddatgenir penodiad yr asiant etholi neu’r is-asiant i’r swyddog canlyniadau, a
(b) cael ei ddatgan yn yr hysbysiad cyhoeddus o dan erthygl 39(11) neu 40(4).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys—
(a) pan fo ymgeisydd, yn unol ag erthygl 39(1) neu (3), yn cael ei enwi’n asiant etholiad,
(b) pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n mynd gyda phapur enwebu’r ymgeisydd hwnnw yn cynnwys datganiad o dan reol 8(4) o Atodlen 5 na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd, ac
(c) pan fo cyfeiriad y swyddfa y mae’n ofynnol ei ddatgan o dan baragraff (1) hefyd yn gyfeiriad cartref yr ymgeisydd.
(3) Os nad yw’r ymgeisydd, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel asiant etholiad, yn dymuno i gyfeiriad y swyddfa gael ei gynnwys yn yr hysbysiad cyhoeddus o dan erthygl 39(11), rhaid i’r ymgeisydd, yn ogystal â datgan cyfeiriad y swyddfa, ddarparu i’r swyddog canlyniadau gyfeiriad arall yng Nghymru neu Loegr i’w ddefnyddio ar gyfer gohebiaeth (“cyfeiriad gohebiaeth”).
(4) Pan fo’r ymgeisydd, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel asiant etholiad, yn darparu cyfeiriad gohebiaeth o dan baragraff (3)—
(a) ni chaniateir cynnwys cyfeiriad y swyddfa yn yr hysbysiad cyhoeddus o dan erthygl 39(11), a
(b) rhaid cynnwys y cyfeiriad gohebiaeth yn ei le.
(5) Rhaid i swyddfa asiant etholiad fod—
(a) yn etholaeth y Senedd y mae’r ymgeisydd y mae’r asiant yn ei gynrychioli yn sefyll ynddi neu yn un o etholaethau cyffiniol y Senedd, neu
(b) mewn sir neu fwrdeistref sirol a gynhwysir yn rhannol yn etholaeth y Senedd y mae’r ymgeisydd y mae’r asiant yn ei gynrychioli yn sefyll ynddi neu sy’n gyffiniol â hi.
(6) Rhaid i swyddfa is-asiant fod yn yr ardal y penodir yr is-asiant i weithredu ynddi.
(7) Bernir bod unrhyw hawliad, hysbysiad, proses gyfreithiol neu ddogfen arall a ddanfonir i swyddfa’r asiant etholiad neu’r is-asiant, neu a ddanfonir i gyfeiriad gohebiaeth a ddarperir o dan baragraff (3), ac a gyfeiriwyd at yr asiant etholiad neu’r is-asiant, wedi ei gyflwyno neu wedi ei chyflwyno i’r asiant etholiad neu’r is-asiant.
(8) Caniateir i bob asiant etholiad neu is-asiant, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r etholiad y mae’r asiant etholiad neu’r is-asiant yn gweithredu ynddo, gael ei siwio mewn unrhyw lys sydd ag awdurdodaeth lle y mae swyddfa’r asiant etholiad neu’r is-asiant wedi ei lleoli.
Effaith diffyg wrth benodi asiant etholiad
42 

(1) Os nad oes enw a chyfeiriad unrhyw berson wedi ei roi yn unol â gofynion erthygl 39 yn asiant etholiad i ymgeisydd unigol sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys ar yr amser hwyraf ar gyfer danfon hysbysiadau bod ymgeisyddiaeth yn cael ei thynnu’n ôl, bernir bod yr ymgeisydd bryd hynny—
(a) wedi ei enwi’n asiant etholiad, a
(b) wedi dirymu penodiad unrhyw berson arall yn asiant etholiad i’r ymgeisydd.
(2) Os nad oes enw a chyfeiriad unrhyw berson wedi ei roi yn unol â gofynion erthygl 39 yn asiant etholiad i blaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid ar yr amser hwyraf ar gyfer danfon hysbysiadau bod ymgeisyddiaeth wedi ei thynnu’n ôl—
(a) bernir bryd hynny fod yr ymgeisydd y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y rhestr plaid wedi ei enwi’n asiant etholiad, a
(b) bernir bod penodiad person arall yn asiant etholiad i’r blaid honno wedi ei ddirymu.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) os bydd y person y rhoddwyd ei enw a’i gyfeiriad fel asiant etholiad ar gyfer ymgeisydd unigol, nad yw’n ymgeisydd, neu ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig, yn marw, a
(b) os na wneir penodiad newydd ar ddiwrnod y farwolaeth neu drannoeth.
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys—
(a) yn achos marwolaeth asiant etholiad ar gyfer ymgeisydd unigol, bernir bod yr ymgeisydd wedi ei benodi o adeg y farwolaeth, a
(b) yn achos marwolaeth asiant etholiad ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid—
(i) bernir bod yr ymgeisydd y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y rhestr wedi ei benodi o adeg y farwolaeth, neu
(ii) pan fo paragraff (3) yn gymwys oherwydd marwolaeth ymgeisydd o’r fath, bernir bod yr ymgeisydd y mae ei enw’n ymddangos y nesaf uchaf ar y rhestr wedi ei benodi o adeg y farwolaeth.
(5) Os dirymir penodiad asiant etholiad heb i benodiad newydd gael ei wneud—
(a) yn achos ymgeisydd unigol, bernir bod yr ymgeisydd wedi ei benodi, neu wedi ei ailbenodi, yn asiant etholiad, a
(b) yn achos plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid, bernir bod yr ymgeisydd y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar restr y blaid honno wedi ei benodi, neu wedi ei ailbenodi, yn asiant etholiad.
(6) Caniateir i benodiad tybiedig asiant etholiad gael ei ddirymu fel pe bai’n benodiad gwirioneddol.
(7) Pan fo ymgeisydd yn rhinwedd yr erthygl hon i’w drin fel asiant etholiad, bernir mai’r cyfeiriad a roddir at y diben hwnnw yng nghydsyniad yr ymgeisydd â’i enwebiad o dan reol 9 o Atodlen 5 yw swyddfa’r ymgeisydd.
(8) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, o gael ei fodloni bod person yn rhinwedd yr erthygl hon i’w drin fel asiant etholiad, roi hysbysiad ar unwaith fel pe bai enw a chyfeiriad y person a chyfeiriad swyddfa’r person wedi eu rhoi i’r swyddog canlyniadau o dan erthyglau 39 a 41.
Rhoddion i Ymgeiswyr
Rheoli rhoddion i ymgeiswyr unigol
43 

(1) Yn achos ymgeisydd unigol mewn etholiad i’r Senedd, rhaid i unrhyw arian neu eiddo arall a ddarperir, pa un ai fel anrheg neu fenthyciad—
(a) gan unrhyw berson ac eithrio’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, a
(b) at ddibenion talu treuliau etholiad yr eir iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran,
gael eu darparu i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw arian nac eiddo arall a ddarperir felly at ddibenion talu unrhyw dreuliau y caniateir eu talu’n gyfreithlon gan berson ac eithrio’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd.
(3) Mae person sy’n darparu unrhyw arian neu eiddo arall gan dorri paragraff (1) yn euog o arfer anghyfreithlon.
(4) Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rhoddion i ymgeiswyr unigol mewn etholiad i’r Senedd.
(5) Yn yr erthygl hon, mae “eiddo” yn cynnwys eiddo o unrhyw ddisgrifiad, ac mae cyfeiriadau at ddarparu eiddo yn cynnwys cyflenwi nwyddau.
Ymgeiswyr unigol: talu treuliau gan asiant etholiad neu drwyddo
44 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw—
(a) ymgeisydd unigol mewn etholiad i’r Senedd, na
(b) unrhyw berson arall,
i wneud taliad mewn cysylltiad â threuliau etholiad yr eir iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran oni bai ei fod yn cael ei wneud gan asiant etholiad yr ymgeisydd neu drwyddo.
(2) Rhaid darparu tystiolaeth o bob taliad a wneir gan asiant etholiad mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau etholiad, ac eithrio pan fo’n llai nag £20, ar ffurf bil sy’n nodi’r manylion neu dderbynneb.
(3) Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau (1) a (2) at asiant etholiad i’w cymryd fel cyfeiriadau at yr asiant etholiad yn gweithredu’n bersonol neu drwy is-asiant.
(4) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys i’r canlynol—
(a) unrhyw dreuliau a delir gan yr ymgeisydd yn unol ag erthygl 45(2) neu (3) (treuliau y caniateir eu talu ac eithrio gan asiant etholiad), 51(9) (treuliau a delir yn unol â gorchymyn caniatâd llys) neu 52(4) (treuliau a delir mewn perthynas â hawliad y mae anghydfod yn ei gylch),
(b) unrhyw dreuliau a delir yn unol ag erthygl 45(5) (treuliau a delir mewn perthynas â deunyddiau ysgrifennu etc.) gan berson a awdurdodir fel y’i crybwyllir yn y ddarpariaeth honno,
(c) unrhyw dreuliau a gynhwysir mewn datganiad a wneir gan yr asiant etholiad o dan erthygl 46(2) (treuliau yr eir iddynt ac eithrio at ddibenion etholiad),
(d) unrhyw dreuliau yr eir iddynt oherwydd unrhyw fater sy’n dod o fewn erthygl 47 (gwahardd treuliau nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan asiant etholiad etc.) gan berson a awdurdodir fel y’i crybwyllir yn y ddarpariaeth honno, neu
(e) unrhyw dreuliau etholiad a ystyrir yn rhai yr aed iddynt gan neu ar ran yr ymgeisydd yn rhinwedd erthygl 48(2).
(5) Mae person sy’n gwneud unrhyw daliad gan dorri paragraff (1) yn euog o arfer anghyfreithlon.
Ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr rhestr plaid: treuliau y caniateir eu talu ac eithrio gan asiant etholiad
45 

(1) Caniateir i ymgeisydd ar restr plaid mewn etholiad i’r Senedd (“P”) dalu unrhyw dreuliau personol yr eir iddynt gan P oherwydd yr etholiad neu mewn cysylltiad ag ef neu sy’n deillio ohono, ond ni chaiff y swm y caniateir i P ei dalu fod yn fwy na £900, a rhaid i unrhyw dreuliau personol pellach yr eir iddynt gan P gael eu talu gan drysorydd y blaid wleidyddol gofrestredig y mae P wedi ei gynnwys ar ei rhestr plaid fel ymgeisydd rhestr plaid.
(2) Caniateir i ymgeisydd unigol mewn etholiad i’r Senedd (“Y”) dalu unrhyw dreuliau personol yr eir iddynt gan Y oherwydd yr etholiad neu mewn cysylltiad ag ef neu sy’n deillio ohono, ond ni chaiff y swm y caniateir i Y ei dalu fod yn fwy na £900, a rhaid i unrhyw dreuliau personol pellach yr eir iddynt gan Y gael eu talu gan asiant etholiad Y.
(3) Caniateir hefyd i Y dalu unrhyw dreuliau etholiad, ac eithrio treuliau personol sy’n dod o fewn paragraff (1), yr aed iddynt gan Y neu ar ran Y ac y mae’r taliad mewn cysylltiad â hwy i fod i gael ei wneud cyn y dyddiad y mae Y yn penodi asiant etholiad, neu y bernir ei fod wedi penodi asiant etholiad.
(4) Rhaid i Y anfon at yr asiant etholiad o fewn yr amser a ganiateir gan y Gorchymyn hwn ar gyfer anfon hawliadau i mewn (gweler erthygl 51), ddatganiad ysgrifenedig o swm y treuliau a dalwyd fel a grybwyllir ym mharagraff (2) neu (3) gan Y.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caniateir i unrhyw berson, os yw wedi ei awdurdodi mewn ysgrifen gan asiant etholiad Y, mewn etholiad i’r Senedd, dalu unrhyw dreuliau angenrheidiol ar gyfer deunyddiau ysgrifennu, costau postio, cyfathrebu teleffonig, neu unrhyw ddull cyfathrebu tebyg arall, a mân dreuliau eraill, hyd at gyfanswm nad yw’n fwy na’r hyn a enwir yn yr awdurdod.
(6) Rhaid i unrhyw swm sydd i’w dalu mewn cysylltiad â’r materion a gynhwysir ym mharagraff (5) uwchlaw’r swm a enwir yn yr awdurdod gael ei dalu gan asiant etholiad Y.
(7) Rhaid i ddatganiad o fanylion taliadau a wneir o dan baragraff (5) gan unrhyw berson a awdurdodir gael ei anfon at asiant etholiad Y o fewn yr amser a ganiateir gan y Gorchymyn hwn ar gyfer anfon hawliadau i mewn, a rhaid darparu tystiolaeth ohonynt ar ffurf bil sy’n cynnwys derbynneb y person hwnnw.
(8) Nid yw erthyglau 51 a 52 yn gymwys i dreuliau sydd, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn yr erthygl hon, yn cael eu talu ac eithrio gan asiant etholiad Y.
Ymgeiswyr unigol: treuliau yr eir iddynt ac eithrio at ddibenion etholiad
46 

(1) Nid yw erthyglau 44, 51 a 52 yn gymwys i dreuliau etholiad—
(a) yr eir iddynt gan ymgeisydd unigol neu ar ei ran ac eithrio at ddibenion ethol yr ymgeisydd, ond
(b) sydd yn rhinwedd erthygl 65(1) i’w hystyried yn dreuliau etholiad oherwydd yr eir iddynt mewn cysylltiad ag eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau sy’n cael eu defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
(2) Rhaid i asiant etholiad yr ymgeisydd wneud datganiad o swm unrhyw dreuliau etholiad sy’n dod o fewn paragraff (1).
Ymgeiswyr unigol: gwahardd treuliau nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan asiant etholiad etc.
47 

(1) Yn ystod y cyfnod rheoleiddiedig, dim ond ymgeisydd unigol, ei asiant etholiad a phersonau a awdurdodir mewn ysgrifen gan yr ymgeisydd hwnnw neu ei asiant etholiad y caniateir iddynt fynd i’r treuliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) sef treuliau yr eir iddynt â’r bwriad o hyrwyddo neu beri ethol yr ymgeisydd hwnnw.
(2) Y treuliau yw’r rhai yr eir iddynt mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) cynnal cyfarfodydd cyhoeddus neu drefnu unrhyw arddangosiad cyhoeddus,
(b) cyhoeddi hysbysebion, cylchlythyrau neu gyhoeddiadau, neu
(c) cyflwyno i’r etholwyr mewn modd arall yr ymgeisydd neu safbwyntiau’r ymgeisydd neu raddfa neu natur cefnogaeth neu ddirmyg yr ymgeisydd tuag at ymgeisydd unigol arall, neu tuag at blaid wleidyddol gofrestredig neu unrhyw un neu’r cyfan o’i hymgeiswyr ar ei rhestr plaid.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2)(c) yn cyfyngu ar gyhoeddi unrhyw fater sy’n ymwneud â’r etholiad—
(a) mewn papur newydd neu gyfnodolyn arall,
(b) mewn darllediad gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig neu gan Sianel Pedwar Cymru, neu
(c) mewn rhaglen a gynhwysir mewn unrhyw wasanaeth a drwyddedir o dan Ran 1 neu 3 o Ddeddf Darlledu 1990 neu Ran 1 neu 2 o Ddeddf Darlledu 1996.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan unrhyw berson—
(a) nad ydynt yn fwy na’r swm a ganiateir, ac nad eir iddynt gan y person hwnnw yn rhan o gynllun gweithredu cydunol, neu
(b) wrth deithio neu fyw oddi cartref, neu dreuliau personol tebyg.
(5) At ddibenion paragraff (4)(a)—
(a) ystyrir bod person wedi mynd i dreuliau “yn rhan o gynllun gweithredu cydunol” os yw’r person hwnnw wedi mynd iddynt yn unol ag unrhyw gynllun neu drefniant arall lle mae’r person hwnnw ac un neu ragor o bersonau eraill, â’r bwriad o hyrwyddo neu beri ethol yr un ymgeisydd, i fynd i dreuliau sydd, gan anwybyddu paragraff (4)(a), yn dod o fewn paragraff (1), a
(b) “y swm a ganiateir” yw £1000.
(6) Pan fo person yn mynd i unrhyw dreuliau mewn cysylltiad ag ymgeisydd unigol y mae’r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu hawdurdodi gan yr ymgeisydd neu’r asiant etholiad—
(a) rhaid i’r person hwnnw, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y datgenir canlyniad yr etholiad, ddanfon ffurflen at y swyddog canlyniadau sy’n nodi—
(i) swm y treuliau;
(ii) yr etholaeth yr aed i’r treuliau mewn cysylltiad â hi;
(iii) yr ymgeisydd unigol yr aed i’r treuliau i’w gefnogi, a
(b) rhaid i ddatganiad fynd gyda’r ffurflen, wedi ei wneud gan y person hwnnw, neu, yn achos cymdeithas neu gorff o bersonau, gan gyfarwyddwr, rheolwr cyffredinol, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r gymdeithas neu’r corff, yn gwirhau’r ffurflen ac yn rhoi manylion y materion yr aed i’r treuliau ar eu cyfer.
(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys i unrhyw berson a gymerir ymlaen neu a gyflogir am daliad neu am addewid o daliad gan ymgeisydd unigol neu gan asiant etholiad ymgeisydd unigol.
(8) Rhaid i’r ffurflen a’r datganiad sy’n ofynnol o dan baragraff (6) fod ar ffurfiau 25 a 26 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10, a rhaid i’r awdurdod a gafwyd oddi wrth yr ymgeisydd neu’r asiant etholiad gael ei atodi i’r ffurflen, a bernir ei fod yn rhan o’r ffurflen.
(9) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon at y swyddog cofrestru perthnasol bob dogfen a gyflwynir yn unol â pharagraff (6), ac mae rheol 70(1) o Atodlen 5 (cadw dogfennau) yn gymwys i unrhyw ddogfen a anfonir at y swyddog cofrestru perthnasol o dan y paragraff hwn.
(10) Mae person yn euog o arfer lwgr os bydd y person hwnnw—
(a) yn mynd i unrhyw dreuliau gan dorri’r erthygl hon, neu’n helpu, yn annog, yn cwnsela neu’n peri i unrhyw berson arall fynd i unrhyw dreuliau sy’n torri’r erthygl hon, neu
(b) yn gwneud y datganiad sy’n ofynnol o dan baragraff (6) gan wybod ei fod yn ffug.
(11) Os bydd person yn methu â danfon neu anfon unrhyw ddatganiad neu ffurflen, neu gopi ohonynt yn unol â gofynion yr erthygl hon, mae’r person hwnnw’n euog o arfer anghyfreithlon.
(12) Pan fo llys y mae person wedi ei euogfarnu ger ei fron o dan baragraff (10) neu (11) yn meddwl bod hynny’n deg o dan amgylchiadau arbennig yr achos, caiff liniaru neu ddileu yn llwyr unrhyw anghymhwyster a osodir yn rhinwedd erthygl 124.
(13) Ni fydd ymgeisydd unigol yn atebol am arfer lwgr neu anghyfreithlon o dan baragraff (10) neu (11) a gyflawnir gan asiant heb gydsyniad neu ymoddefiad yr ymgeisydd unigol ac ni chaiff etholiad yr ymgeisydd ei ddirymu oherwydd arfer o’r fath.
(14) Pan fo unrhyw weithred neu anweithred gan gymdeithas neu gorff o bersonau, corfforedig neu anghorfforedig, yn drosedd y datganwyd ei bod yn arfer lwgr neu anghyfreithlon o dan baragraff (10) neu (11), bernir bod unrhyw berson (“P”) a oedd, adeg y weithred neu’r anweithred, yn gyfarwyddwr, rheolwr cyffredinol, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r gymdeithas neu’r corff, neu’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y swydd honno, yn euog o’r drosedd honno, oni bai bod P yn profi—
(a) bod y weithred neu’r anweithred wedi digwydd heb gydsyniad nac ymoddefiad P, a
(b) bod P wedi arfer pob diwydrwydd i atal cyflawni’r drosedd y dylai P fod wedi ei arfer, o roi sylw i natur swyddogaethau P yn rhinwedd y swydd honno a’r holl amgylchiadau eraill.
Ymgeiswyr unigol: cyfyngu treuliau etholiad
48 

(1) Ni chaniateir i’r treuliau etholiad yr eir iddynt gan ymgeisydd unigol mewn etholiad i’r Senedd neu ar ei ran yn ystod y cyfnod rheoleiddiedig fod yn fwy na’r uchafswm a bennir ym mharagraff (6).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys—
(a) pan eir i dreuliau etholiad, ar unrhyw adeg cyn dechrau’r cyfnod rheoleiddiedig, gan neu ar ran ymgeisydd unigol mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau, a
(b) pan wneir defnydd o’r eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau gan neu ar ran yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod rheoleiddiedig mewn amgylchiadau lle y byddent, ped eid i’r treuliau hyn yn ystod y cyfnod hwnnw, yn dreuliau etholiad yn unol ag erthygl 65.
(3) Rhaid ymdrin â’r gyfran briodol o’r treuliau a grybwyllir ym mharagraff (2) at ddibenion yr erthygl hon, erthygl 65 ac Atodlen 7, fel treuliau etholiad yr eir iddynt gan neu ar ran yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod rheoleiddiedig.
(4) At ddibenion paragraff (3), y gyfran briodol o’r treuliau a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) yw’r gyfran honno o’r treuliau hynny y gellir yn rhesymol ei phriodoli i’r defnydd a wnaed o’r eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(b).
(5) Pan eir i unrhyw dreuliau etholiad uwchlaw’r uchafswm a bennir ym mharagraff (6), mae ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yn euog o arfer anghyfreithlon—
(a) os aeth i’r treuliau etholiad, neu awdurdodi mynd iddynt, a
(b) os oedd yn gwybod neu os yw’n rhesymol y dylai fod wedi gwybod y byddid yn mynd i’r treuliau uwchlaw’r uchafswm hwnnw.
(6) Yr uchafswm yw £52,500.
(7) Nid yw’n ofynnol i’r uchafswm a bennir ym mharagraff (6) ar gyfer ymgeisydd unigol mewn etholiad i’r Senedd gynnwys treuliau personol yr ymgeisydd hwnnw.
(8) Ni fydd y newid yn amseriad etholiad i’r Senedd nac mewn unrhyw gam yn y gweithdrefnau mewn etholiad i’r Senedd yn effeithio ar yr uchafswm a bennir ym mharagraff (6) ar gyfer ymgeisydd unigol.
Ymgeiswyr unigol: y cyfnod rheoleiddiedig
49 

(1) Yn achos ymgeisydd unigol, mae’r cyfnod rheoleiddiedig mewn etholiad i’r Senedd—
(a) o dan adran 3 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol cyffredin), neu
(b) o dan adran 5 o’r Ddeddf honno (etholiadau cyffredinol eithriadol),
yn dechrau â’r dyddiad priodol ac yn dod i ben â dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiadau hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y dyddiad priodol” ar gyfer etholiad o dan adran 3 o Ddeddf 2006 yw’r dyddiad sy’n syrthio 4 mis cyn dyddiad y pôl—
(a) pan bennir dyddiad y pôl gan adran 3(1) o Ddeddf 2006;
(b) pan fo dyddiad y pôl, nid llai na 5 mis cyn y diwrnod y byddai’r pôl wedi digwydd o dan adran 3(1) o’r Ddeddf honno, yn cael ei ddwyn ymlaen o dan adran 4(1) o’r Ddeddf honno (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol cyffredin);
(c) pan fo dyddiad y pôl, nid llai na 4 mis cyn y diwrnod y byddai’r pôl wedi digwydd o dan adran 3(1) o’r Ddeddf honno, yn cael ei ohirio o dan adran 4(1) o’r Ddeddf honno,
ond pan fo dyddiad y pôl yn cael ei ddwyn ymlaen neu ei ohirio ac eithrio fel y’i crybwyllir yn is-baragraff (b) neu (c), ystyr “y dyddiad priodol” yw’r dyddiad sy’n syrthio 4 mis cyn y dyddiad y byddai’r pôl wedi digwydd o dan adran 3(1) o’r Ddeddf honno.
(3) Ym mharagraff (1), ystyr “y dyddiad priodol” ar gyfer etholiad o dan adran 5 o Ddeddf 2006 yw’r dyddiad y mae Llywydd y Senedd yn cynnig diwrnod ar gyfer pôl yr etholiad o dan adran 5(1) o’r Ddeddf honno.
Pŵer i amrywio darpariaethau ynglŷn â threuliau etholiad
50 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn amrywio unrhyw un neu ragor o’r symiau y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt.—
(a) pan fyddant o’r farn bod yr amrywiad yn hwylus o ganlyniad i newidiadau yng ngwerth arian, neu
(b) er mwyn rhoi effaith i argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw un neu ragor o’r symiau a bennir am y tro yn erthygl 44(2), 45(1) a (2), 47(5)(b) neu 48(6).
(3) Mae’r pŵer i wneud gorchymyn o dan baragraff (1) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(4) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd, ac at ddiben adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 mae’r ddarpariaeth hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn un o Ddeddfau’r Senedd.
Amser i anfon hawliadau i mewn a’u talu
51 

(1) Bydd pob hawliad yn erbyn ymgeisydd unigol neu asiant etholiad ymgeisydd unigol mewn cysylltiad â threuliau etholiad sydd heb ei anfon i mewn at yr asiant etholiad o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y datgenir canlyniad neu ganlyniadau’r etholiad, yn cael ei wahardd ac ni chaiff ei dalu.
(2) Rhaid i’r holl dreuliau etholiad gael eu talu dim hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod cau ar gyfer cyflwyno hawliadau o dan baragraff (1).
(3) Mae unrhyw berson sy’n talu hawliad gan dorri paragraff (1), neu sy’n gwneud taliad gan dorri paragraff (2), yn euog o arfer anghyfreithlon.
(4) Pan fo’r llys etholiadol yn rhoi adroddiad y profwyd i’r llys fod unrhyw daliad a wnaed gan dorri paragraff (1) wedi ei wneud gan asiant etholiad heb gydsyniad nac ymoddefiad yr ymgeisydd unigol—
(a) ni fydd etholiad yr ymgeisydd yn cael ei ddirymu, a
(b) ni fydd yr ymgeisydd yn ddarostyngedig i unrhyw anghymhwyster o dan y Gorchymyn hwn dim ond am fod y taliad hwnnw wedi ei wneud gan dorri’r erthygl hon.
(5) Caiff person perthnasol wneud cais naill ai i’r Uchel Lys neu i’r llys sirol am ganiatâd i dalu hawliad am unrhyw dreuliau etholiad a fyddai fel arall yn cael eu gwahardd gan baragraff (1) ar y naill neu’r llall o’r seiliau a nodir ym mharagraff (6).
(6) Dyma’r seiliau—
(a) bod yr hawliad wedi ei anfon i mewn ar ôl y cyfnod o 21 o ddiwrnodau, neu
(b) bod yr hawliad wedi ei anfon i mewn at ymgeisydd unigol ac nid at yr asiant etholiad.
(7) At ddibenion paragraffau (5) ac (8), person perthnasol yw—
(a) hawlydd,
(b) ymgeisydd unigol, neu
(c) asiant etholiad ymgeisydd unigol.
(8) Pan fo person perthnasol yn gwneud cais i lys o dan baragraff (5), caiff y llys, drwy orchymyn, roi caniatâd i’r hawliad gael ei dalu pan fydd wedi ei fodloni bod rheswm dros wneud hynny.
(9) Caniateir i unrhyw swm a bennir yn y gorchymyn caniatâd o dan baragraff (8) gael ei dalu gan ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yr ymgeisydd, ac o’i dalu yn unol â’r caniatâd ni fernir ei fod yn torri paragraff (2).
Hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch
52 

(1) Os bydd asiant etholiad ymgeisydd unigol yn codi anghydfod ynghylch unrhyw hawliad a anfonir i mewn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn erthygl 51(1), neu’n gwrthod neu’n methu â thalu’r hawliad o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn erthygl 51(2), bernir bod yr hawliad yn hawliad y mae anghydfod yn ei gylch.
(2) Caiff yr hawlydd, os yw’n meddwl bod hynny’n briodol, ddwyn achos ynghylch hawliad y mae anghydfod yn ei gylch.
(3) Mae erthygl 51(5) i (9) yn gymwys mewn perthynas â hawliad y mae anghydfod yn ei gylch fel y mae’n gymwys mewn perthynas â hawliad am dreuliau etholiad a anfonir i mewn ar ôl y cyfnod o 21 o ddiwrnodau.
(4) Ni fernir bod unrhyw swm a delir gan ymgeisydd unigol neu asiant yr ymgeisydd yn unol â dyfarniad neu orchymyn y llys yn torri erthygl 44(1) na 51(2).
Hawliad asiant etholiad
53 
Cyn belled ag y bo’r amgylchiadau’n caniatáu, mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw hawliad a wneir gan asiant etholiad ymgeisydd unigol am gydnabyddiaeth ariannol yr asiant hwnnw ac yn gymwys i dalu’r tâl hwnnw fel pe bai’r asiant yn unrhyw gredydwr arall, ac os bydd unrhyw wahaniaeth yn codi ynghylch swm yr hawliad, bydd yr hawliad yn hawliad y mae anghydfod yn ei gylch o fewn ystyr y Gorchymyn hwn ac ymdrinnir ag ef yn unol ag erthygl 52.
Ymgeiswyr unigol: ffurflen ynghylch treuliau etholiad
54 

(1) O fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y datgenir canlyniad neu ganlyniadau etholiad i’r Senedd, rhaid i asiant etholiad pob ymgeisydd unigol yn yr etholiad ddanfon at y swyddog canlyniadau ffurflen wir mewn cysylltiad â’r ymgeisydd hwnnw sy’n cynnwys—
(a) datganiad o’r holl dreuliau etholiad yr aed iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran, a
(b) datganiad o’r holl daliadau a wnaed at ddiben ethol yr ymgeisydd, ynghyd â’r holl filiau neu dderbynebau sy’n ymwneud â’r taliadau.
(2) Rhaid i ffurflen o dan yr erthygl hon—
(a) pennu yn rhinwedd pa bôl y mae angen y ffurflen,
(b) pennu enwau’r ymgeisydd unigol y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef, ac asiant etholiad yr ymgeisydd, ac
(c) ymdrin, o dan bennawd ar wahân, ag unrhyw dreuliau y mae’n ofynnol cael ffurflen mewn cysylltiad â hwy yn rhinwedd erthygl 47(6).
(3) Rhaid i’r ffurflen hefyd gynnwys o ran yr ymgeisydd hwnnw—
(a) datganiad yn ymwneud ag unrhyw dreuliau eraill y gwneir darpariaeth mewn cysylltiad â hwy gan y Rhan hon fel y mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu ar eu cyfer mewn rheoliadau,
(b) datganiad yn ymwneud ag unrhyw hawliadau, pa un a ydynt wedi eu talu, heb eu talu neu’n hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch, mewn cysylltiad â’r treuliau etholiad neu’r treuliau eraill a grybwyllir yn is-baragraff (a) fel y mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu, ac
(c) datganiad yn ymwneud ag unrhyw faterion eraill y caiff y Comisiwn Etholiadol ddarparu ar eu cyfer mewn rheoliadau.
(4) Hyd nes y daw’r rheoliadau cyntaf a wneir gan y Comisiwn Etholiadol o dan baragraff (3) i rym, rhaid i’r ffurflen hefyd gynnwys o ran yr ymgeisydd hwnnw—
(a) datganiad o’r holl daliadau a wnaed—
(i) gan yr ymgeisydd yn unol ag erthygl 45(2) neu (3), neu
(ii) gan unrhyw berson arall yn unol ag erthygl 45(5),
ynghyd â’r holl filiau neu dderbynebau sy’n ymwneud â’r taliadau a wnaed;
(b) datganiad o’r holl hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch y mae’r asiant etholiad yn ymwybodol ohonynt;
(c) datganiad o’r holl hawliadau sydd heb eu talu, os oes rhai o gwbl, y mae’r asiant etholiad yn ymwybodol ohonynt, y mae cais wedi ei wneud neu ar fin cael ei wneud i’r Uchel Lys neu’r llys sirol mewn cysylltiad â hwy;
(d) unrhyw ddatganiadau gwerth sydd i’w gwneud gan asiant etholiad yr ymgeisydd unigol yn rhinwedd erthygl 46(2) neu 66(3);
(e) datganiad o’r swm o dreuliau sydd i’w hystyried yn dreuliau etholiad yr aed iddynt gan yr ymgeisydd unigol neu ar ei ran yn rhinwedd erthygl 65(3);
(f) datganiad o roddion a wnaed i’r ymgeisydd unigol neu i asiant etholiad yr ymgeisydd sy’n cydymffurfio â gofynion paragraffau 11 a 12 o Atodlen 6;
(g) datganiad o’r swm o arian, os oes swm o arian o gwbl, a ddarparwyd gan yr ymgeisydd unigol o adnoddau’r ymgeisydd ei hun at ddiben talu treuliau etholiad yr aed iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo’r llys, ar ôl y dyddiad y danfonir y ffurflen ynghylch treuliau etholiad, yn rhoi caniatâd o dan erthygl 51(8) i unrhyw hawliadau gael eu talu.
(6) Rhaid i’r ymgeisydd unigol neu, yn ôl y digwydd, asiant etholiad yr ymgeisydd, o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r symiau gael eu talu, ddanfon at y swyddog canlyniadau ffurflen yn nodi’r symiau a dalwyd yn unol â’r caniatâd ynghyd â chopi o orchymyn y llys sy’n rhoi’r caniatâd, ac yn niffyg hynny, bernir bod yr ymgeisydd wedi methu â chydymffurfio â gofynion yr erthygl hon heb esgus awdurdodedig fel a grybwyllir yn erthygl 60.
(7) Caiff unrhyw reoliadau o dan baragraff (3) wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol a chânt gynnwys unrhyw ddarpariaethau deilliadol, darpariaethau atodol, darpariaethau arbed neu ddarpariaethau trosiannol a wêl y Comisiwn Etholiadol yn dda.
(8) Caiff y Comisiwn Etholiadol, drwy reoliadau, ragnodi ffurf ar gyfer ffurflen y caniateir ei defnyddio at ddiben gwneud unrhyw ffurflen, neu unrhyw ddisgrifiadau o ffurflen, sy’n ofynnol gan yr erthygl hon.
Ymgeiswyr unigol: datganiad ynghylch treuliau etholiad
55 

(1) Rhaid i ddatganiad wedi ei wneud gan asiant etholiad yr ymgeisydd unigol ar ffurf 27 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10 fynd gyda phob ffurflen a ddanfonir o dan erthygl 54(1).
(2) Yr un pryd ag y bydd yr asiant etholiad yn danfon y ffurflen honno, neu o fewn 7 niwrnod ar ôl ei danfon, rhaid i bob ymgeisydd unigol ddanfon datganiad wedi ei wneud gan yr ymgeisydd ar ffurf 28 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10 at y swyddog canlyniadau.
(3) Pan fo ymgeisydd unigol allan o’r Deyrnas Unedig pan ddanfonir y ffurflen—
(a) caniateir i’r datganiad sy’n ofynnol o dan baragraff (2) gael ei wneud gan yr ymgeisydd o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl i’r ymgeisydd ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig, a
(b) yn yr achos hwnnw, rhaid danfon y datganiad ar unwaith at y swyddog canlyniadau.
(4) Ni fydd yr oedi cyn gwneud y datganiad a awdurdodir gan baragraff (3) yn rhyddhau’r asiant etholiad rhag cydymffurfio â darpariaethau’r Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â’r ffurflen a’r datganiad ynghylch treuliau etholiad.
(5) Pan fo ymgeisydd unigol hefyd yn gweithredu fel asiant etholiad, nid oes angen i’r datganiad ynghylch treuliau etholiad gan yr asiant etholiad gael ei wneud a rhaid i’r datganiad ynghylch treuliau etholiad gan yr ymgeisydd unigol gael ei addasu fel a bennir yn ffurf 28 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10.
(6) Mae ymgeisydd unigol neu asiant etholiad sy’n gwneud y datganiad sy’n ofynnol o dan yr erthygl hon gan wybod ei fod yn ffug yn euog o arfer lwgr.
Ymgeiswyr rhestr plaid: datganiadau ynghylch treuliau personol
56 

(1) O fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y datgenir canlyniad neu ganlyniadau etholiad i’r Senedd, rhaid i bob ymgeisydd rhestr plaid ddanfon datganiad wedi ei wneud gan yr ymgeisydd hwnnw ar ffurf 29 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10 at y swyddog canlyniadau.
(2) Pan fo ymgeisydd rhestr plaid allan o’r Deyrnas Unedig pan fo’r ffurflen i gael ei danfon—
(a) caniateir i’r datganiad sy’n ofynnol o dan baragraff (1) gael ei wneud gan yr ymgeisydd heb fod yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl i’r ymgeisydd ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig, a
(b) yn yr achos hwnnw, rhaid danfon y datganiad ar unwaith at y swyddog canlyniadau.
(3) Ni chaniateir i’r datganiad sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys ond y treuliau personol hynny yr eir iddynt gan ymgeisydd rhestr plaid ac nad yw’r blaid wleidyddol gofrestredig y mae’r ymgeisydd wedi ei gynnwys ar ei rhestr plaid wedi eu had-dalu i’r ymgeisydd.
(4) Mae person sy’n gwneud y datganiad sy’n ofynnol o dan yr erthygl hon gan wybod ei fod yn ffug yn euog o arfer lwgr.
Amgylchiadau pan nad yw’n ofynnol cael ffurflen na datganiad
57 
Er gwaethaf unrhyw beth yn erthygl 54, 55 neu 56, nid yw’n ofynnol cael ffurflen na datganiad ynghylch treuliau etholiad yn achos person—
(a) sy’n ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd, ond dim ond am fod y person hwnnw wedi ei ddatgan yn ymgeisydd gan bobl eraill, a
(b) sydd heb gydsynio â’r datganiad ac sydd heb gymryd unrhyw ran fel ymgeisydd yn yr etholiad.
Cosb am fethiant mewn cysylltiad â ffurflen neu ddatganiadau
58 
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau erthygl 60, os bydd unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiad yn methu â chydymffurfio â gofynion erthygl 54, 55 neu 56, mae’r ymgeisydd neu’r asiant etholiad yn euog o arfer anghyfreithlon.
Cosb am eistedd neu bleidleisio pan na ddanfonwyd ffurflen a datganiadau etc.
59 

(1) Yn achos ymgeisydd unigol, os na ddanfonir y ffurflen a’r datganiadau ynghylch treuliau etholiad o fewn yr amser a ganiateir gan y Gorchymyn hwn, ni chaiff yr ymgeisydd, ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, eistedd na phleidleisio yn y Senedd fel aelod dros yr etholaeth y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer—
(a) nes i’r ffurflen honno a’r datganiadau hynny fod wedi eu danfon, neu
(b) hyd ddyddiad caniatáu esgus awdurdodedig dros y methiant i ddanfon y ffurflen honno a’r datganiadau hynny (gweler erthygl 60).
(2) Yn achos ymgeisydd rhestr plaid, os na ddanfonir datganiad ynghylch treuliau personol yr ymgeisydd o fewn yr amser a ganiateir gan y Gorchymyn hwn, ni chaiff yr ymgeisydd, ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, eistedd na phleidleisio yn y Senedd fel aelod dros yr etholaeth y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer—
(a) nes i’r datganiad hwnnw fod wedi ei ddanfon, neu
(b) hyd ddyddiad caniatáu esgus awdurdodedig dros y methiant i ddanfon y datganiad hwnnw (gweler erthygl 60).
(3) Os bydd ymgeisydd yn eistedd neu’n pleidleisio gan dorri paragraff (1) neu (2), rhaid i’r ymgeisydd fforffedu £100 am bob diwrnod y mae’r ymgeisydd yn eistedd neu’n pleidleisio felly.
(4) Rhaid i achos sifil am gosb o dan yr erthygl hon gael ei gychwyn o fewn y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod yr honnir bod y gosb wedi ei gosod mewn cysylltiad ag ef.
(5) At ddibenion paragraff (4)—
(a) pan fo cyflwyno proses gyfreithiol i’r troseddwr honedig neu gwblhau proses gyfreithiol yn ei erbyn wedi ei atal, am fod y troseddwr honedig yn dianc neu’n cuddio, neu oherwydd gweithred ganddo, bernir bod dyroddi proses gyfreithiol yn gychwyn ar yr achos, ond
(b) pan na fo is-baragraff (a) yn gymwys, bernir mai cyflwyno proses gyfreithiol i’r troseddwr honedig neu gwblhau proses gyfreithiol yn ei erbyn, ac nid dyroddi’r broses, yw cychwyn yr achos.
Esgusodion awdurdodedig am fethiannau o ran y ffurflen a’r datganiadau
60 

(1) Caiff ymgeisydd neu asiant etholiad wneud cais am ryddhad o dan yr erthygl hon i’r Uchel Lys, llys etholiadol neu lys sirol.
(2) Pan wneir cais o dan yr erthygl hon, rhaid i’r person neu’r personau sy’n gwneud y cais hysbysu’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus am y cais, a chaiff y Cyfarwyddwr neu gynorthwyydd y Cyfarwyddwr neu unrhyw fargyfreithiwr, adfocad neu gyfreithiwr a benodir yn briodol yn gynrychiolydd i’r Cyfarwyddwr, fod yn bresennol yng ngwrandawiad y cais a chyflwyno sylwadau yn y gwrandawiad mewn cysylltiad ag ef.
(3) Caniateir i ryddhad o dan yr erthygl hon gael ei roi—
(a) i ymgeisydd unigol, mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant i ddanfon y ffurflen a’r datganiad ynghylch treuliau etholiad, neu unrhyw ran ohonynt, neu mewn cysylltiad ag unrhyw wall neu ddatganiad anwir ynddynt,
(b) i asiant etholiad ymgeisydd unigol, mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant i ddanfon y ffurflen a’r datganiad ynghylch treuliau etholiad yr oedd yn ofynnol i’r asiant eu danfon, neu unrhyw ran ohonynt neu mewn cysylltiad ag unrhyw wall neu ddatganiad anwir ynddynt, neu
(c) i ymgeisydd rhestr plaid, mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant i ddanfon y datganiad ynghylch treuliau personol y mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ei ddanfon, neu mewn cysylltiad ag unrhyw wall neu ddatganiad anwir yn y datganiad.
(4) Caniateir i’r cais am ryddhad gael ei wneud ar y sail bod y methiant, y gwall neu’r datganiad anwir wedi codi—
(a) oherwydd salwch y ceisydd;
(b) pan fo’r ceisydd yn ymgeisydd unigol, oherwydd absenoldeb, marwolaeth, salwch neu gamymddygiad—
(i) asiant etholiad neu is-asiant y ceisydd, neu
(ii) unrhyw glerc neu swyddog i asiant etholiad neu is-asiant y ceisydd;
(c) pan fo’r ceisydd yn asiant etholiad—
(i) oherwydd marwolaeth neu salwch unrhyw asiant etholiad blaenorol i’r ymgeisydd, neu
(ii) oherwydd absenoldeb, marwolaeth, salwch neu gamymddygiad unrhyw is-asiant, clerc neu swyddog i unrhyw asiant etholiad i’r ymgeisydd;
(d) oherwydd amryfusedd neu unrhyw achos rhesymol o natur debyg,
ac nid oherwydd unrhyw ddiffyg ewyllys da ar ran y ceisydd.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y llys wneud unrhyw orchymyn i ganiatáu esgus awdurdodedig dros y methiant, y gwall neu’r datganiad anwir y mae o’r farn ei fod yn deg.
(6) Ni chaiff y llys ond gwneud gorchymyn o dan baragraff (5)—
(a) ar ôl rhoi unrhyw hysbysiad o’r cais a wêl yn dda yn etholaeth y Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer, a
(b) ar ôl dangos unrhyw dystiolaeth o’r seiliau a nodir yn y cais ac o ddidwylledd y cais, ac unrhyw dystiolaeth arall a wêl yn dda.
(7) Rhaid i’r llys ryddhau’r ymgeisydd o ganlyniadau gweithred neu anweithred asiant etholiad yr ymgeisydd pan fydd ymgeisydd yn profi i’r llys—
(a) bod unrhyw weithred neu anweithred gan yr asiant etholiad mewn perthynas â’r ffurflen neu’r datganiadau wedi eu cyflawni heb gydsyniad nac ymoddefiad yr ymgeisydd, a
(b) bod yr ymgeisydd wedi defnyddio pob modd rhesymol i atal y weithred neu’r anweithred.
(8) Caiff gorchymyn o dan baragraff (5) wneud y caniatâd yn amodol ar gwblhau’r ffurflen a’r datganiad ar ffurf wedi ei haddasu neu o fewn amser estynedig, ac ar ôl cydymffurfio ag unrhyw delerau eraill y mae’r llys o’r farn eu bod yn fwyaf tebygol o roi effaith i ofynion y Rhan hon.
(9) Bydd gorchymyn o dan baragraff (5) yn rhyddhau’r ceisydd am y gorchymyn o unrhyw atebolrwydd neu ganlyniadau o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â’r mater a esgusodir gan y gorchymyn.
(10) Cyfeirir yn y Gorchymyn hwn at ddyddiad y gorchymyn, neu os oes rhaid cydymffurfio ag amodau a thelerau, at y dyddiad y mae’r ceisydd yn cydymffurfio’n llawn â hwy, fel “dyddiad caniatáu esgus awdurdodedig”.
Pŵer y llys i wneud gwybodaeth gan asiant etholiad neu is-asiant yn ofynnol
61 

(1) Pan wneir cais o dan erthygl 60 a phan fydd yn ymddangos i’r llys bod unrhyw berson sydd neu sydd wedi bod yn asiant etholiad neu’n is-asiant—
(a) wedi gwrthod gwneud neu wedi methu â gwneud ffurflen neu ddatganiad ynghylch treuliau etholiad, neu
(b) wedi gwrthod neu wedi methu â darparu’r manylion a fyddai’n galluogi person i gydymffurfio â darpariaethau’r Gorchymyn hwn o ran y ffurflen neu’r datganiadau ynghylch treuliau etholiad,
rhaid i’r llys, cyn gwneud gorchymyn o dan yr erthygl honno, orchymyn i’r person hwnnw fod yn bresennol gerbron y llys.
(2) Pan fydd y person hwnnw’n bresennol, oni bai bod y person hwnnw’n dangos achos i’r gwrthwyneb, rhaid i’r llys orchymyn i’r person hwnnw—
(a) gwneud y ffurflen a’r datganiad, neu
(b) danfon datganiad o’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y ffurflen,
fel y mae’r llys o’r farn sy’n deg, o fewn cyfnod amser, i unrhyw berson ac yn y dull y mae’n ei gyfarwyddo, neu caiff orchymyn i’r person hwnnw gael ei holi mewn cysylltiad â’r manylion.
(3) Os bydd person yn methu â chydymffurfio ag unrhyw orchymyn gan y llys o dan yr erthygl hon, caiff y llys orchymyn i’r person hwnnw dalu dirwy.
Dyletswydd y swyddog canlyniadau i anfon ffurflenni a datganiadau i’r Comisiwn Etholiadol
62 
Pan fo’r swyddog canlyniadau yn cael unrhyw ffurflen neu ddatganiad o dan erthygl 47, 54, 55 neu 56, rhaid i’r swyddog canlyniadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y ffurflen neu’r datganiad, ddanfon copi ohonynt i’r Comisiwn Etholiadol ac, os gofynnir am hynny gan y Comisiwn Etholiadol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon copi o unrhyw ddogfennau cysylltiedig iddo hefyd.
Cyhoeddi amser a lle ar gyfer edrych ar ffurflenni a datganiadau
63 

(1) Mewn etholiad i’r Senedd, o fewn 10 niwrnod ar ôl diwedd yr amser a ganiateir ar gyfer danfon ffurflenni a datganiadau ynghylch treuliau etholiad at y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cyhoeddi mewn dull a wêl yn dda, a
(b) anfon at bob un o’r asiantiaid etholiad,
hysbysiad o’r amser a’r lle y gellir edrych ar y ffurflenni a’r datganiadau, gan gynnwys y dogfennau cysylltiedig.
(2) Os oes unrhyw ffurflen neu ddatganiad nad yw wedi dod i law’r swyddog canlyniadau cyn i’r hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei anfon i’w gyhoeddi, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.
(3) Os yw’r swyddog canlyniadau yn cael ffurflen neu ddatganiad ar ôl cyhoeddi unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2), rhaid i’r swyddog canlyniadau, o fewn 10 niwrnod ar ôl cael y ffurflen honno neu’r datganiad hwnnw—
(a) cyhoeddi hysbysiad sy’n cydymffurfio â pharagraff (1) ynghylch y ffurflen honno a’r datganiad hwnnw, a
(b) anfon yr hysbysiad at y personau yr anfonwyd yr hysbysiad cyntaf atynt, ac eithrio asiant etholiad sydd wedi methu â chydymffurfio neu asiant etholiad i ymgeisydd sydd wedi methu â chydymffurfio.
Edrych ar ffurflenni a datganiadau
64 

(1) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn cael unrhyw ffurflen neu ddatganiad o dan erthygl 47, 54, 55 neu 56, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y ffurflen neu’r datganiad, drefnu bod copi ohonynt ac o unrhyw ddogfennau sy’n mynd gyda hwy ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn swyddfa’r swyddog canlyniadau, neu ryw le cyfleus arall a ddewisir gan y swyddog canlyniadau, am gyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r ffurflen neu’r datganiad i law, a
(b) os bydd unrhyw berson yn gofyn iddo wneud hynny, ac ar ôl i’r ffi a nodir ym mharagraff (3) gael ei thalu, gyflenwi i’r person hwnnw gopi o’r ffurflen neu’r datganiad ac o unrhyw ddogfennau sy’n mynd gyda hwy.
(2) Pan fo ffurflen yn cynnwys datganiad o roddion yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 6 (datganiad o roddion perthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau i sicrhau nad yw cyfeiriad unrhyw roddwr unigol wedi ei gynnwys yn y copi o’r datganiad—
(a) y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd edrych arno o dan baragraff (1)(a), na
(b) a gyflenwir o dan baragraff (1)(b).
(3) Y ffi sy’n daladwy am gopi o ffurflen, datganiad neu unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda hwy yw 20c am bob ochr o bob dalen.
(4) Ar ôl i’r cyfnod o ddwy flynedd a nodir ym mharagraff (1)(a) ddod i ben, o ran y swyddog canlyniadau—
(a) caiff achosi i’r ffurflenni a’r datganiadau hynny (gan gynnwys y dogfennau sy’n mynd gyda hwy) gael eu dinistrio, neu
(b) os yw’r ymgeisydd neu, pan fo hynny’n briodol, asiant etholiad yr ymgeisydd yn gofyn, rhaid iddo eu dychwelyd i’r ymgeisydd.
(5) Rhaid i unrhyw ffurflenni neu ddatganiadau a ddanfonir o dan erthygl 47(6) gan berson (“P”) ac eithrio ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd, gael eu dychwelyd i P ac nid i’r ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd, os yw P yn gofyn am hynny.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn amrywio swm y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (3).
(7) Mae’r pŵer i wneud gorchmynion o dan baragraff (6) yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac at ddiben adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 mae’r ddarpariaeth hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn un o Ddeddfau’r Senedd.
Ystyr “treuliau etholiad”
65 

(1) Yn y Rhan hon ystyr “treuliau etholiad”, mewn perthynas ag ymgeisydd unigol, yn ddarostyngedig i ddiffiniad “at ddibenion ethol yr ymgeisydd” yn erthygl 37(1), ac erthyglau 48(2) a 66, yw unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn ystod y cyfnod rheoleiddiedig mewn cysylltiad ag unrhyw fater a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 7 ac a ddefnyddir at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
(2) Nid oes dim treuliau etholiad i’w hystyried fel rhai yr aed iddynt yn rhinwedd paragraff (1) neu erthygl 66 mewn cysylltiad ag unrhyw fater a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 7.
(3) At ddibenion y Rhan hon, eir i dreuliau etholiad gan ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd neu ar ei ran os eir iddynt—
(a) gan yr ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, neu
(b) gan unrhyw berson a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu gan asiant etholiad yr ymgeisydd i fynd iddynt.
(4) Yn y Rhan hon ac yn Rhan 4, mae unrhyw gyfeiriad at hyrwyddo neu beri ethol ymgeisydd mewn etholiad yn cynnwys gwneud hynny drwy niweidio rhagolygon etholiadol ymgeisydd arall neu blaid wleidyddol gofrestredig arall yn yr etholiad.
(5) Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch treuliau etholiad ymgeiswyr unigol mewn etholiad i’r Senedd.
Eiddo, nwyddau, gwasanaethau etc. a ddarperir am ddim neu am ddisgownt
66 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys, yn achos ymgeisydd unigol mewn etholiad i’r Senedd, at ddibenion ethol yr ymgeisydd—
(a) naill ai—
(i) pan fo eiddo neu nwyddau yn cael ei drosglwyddo neu eu trosglwyddo i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd am ddim neu am ddisgownt o fwy na 10% o werth marchnadol yr eiddo neu’r nwyddau, neu
(ii) pan fo eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn cael ei ddarparu neu eu darparu ar gyfer defnydd neu fudd yr ymgeisydd am ddim neu am ddisgownt o fwy na 10% o’r gyfradd fasnachol ar gyfer defnyddio’r eiddo neu ar gyfer darparu’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau, a
(b) pan fo’r eiddo, y nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau’n cael ei ddefnyddio neu eu defnyddio gan yr ymgeisydd neu ar ei ran mewn amgylchiadau a fyddai, ped eid, neu os aed mewn gwirionedd, i unrhyw dreuliau gan yr ymgeisydd neu ar ei ran mewn cysylltiad â’r defnydd hwnnw, yn golygu y byddent neu eu bod yn dreuliau etholiad yr aed iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae eiddo, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn cael ei ddefnyddio neu eu defnyddio ar ran ymgeisydd dim ond os yw eu defnydd ar ran yr ymgeisydd yn cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgeisydd neu gan asiant etholiad yr ymgeisydd.
(3) Pan fo’r erthygl hon yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i Ran 2 o Atodlen 7—
(a) rhaid i swm o dreuliau etholiad a bennir yn unol â’r erthygl hon (“y swm priodol”) gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel swm yr aed iddo gan yr ymgeisydd, a
(b) rhaid i’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd wneud datganiad o’r swm hwnnw,
oni bai nad yw’r swm hwnnw’n fwy na £50.
(4) Pan fo paragraff (1)(a)(i) yn gymwys, y swm priodol yw’r gyfran o naill ai—
(a) gwerth marchnadol yr eiddo neu’r nwyddau, pan fo’r eiddo neu’r nwyddau yn cael ei drosglwyddo neu eu trosglwyddo am ddim, neu
(b) y gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol yr eiddo neu’r nwyddau a swm y treuliau yr aed iddynt mewn gwirionedd gan yr ymgeisydd neu ar ei ran mewn cysylltiad â’r eiddo neu’r nwyddau, pan fo’r eiddo neu’r nwyddau yn cael ei drosglwyddo neu eu trosglwyddo am ddisgownt,
y mae’n rhesymol ei phriodoli i’r defnydd a wneir ar yr eiddo neu’r nwyddau fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1)(b).
(5) Pan fo paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys, y swm priodol yw’r gyfran o naill ai—
(a) y gyfradd fasnachol am ddefnyddio’r eiddo neu ddarparu’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau, pan fo’r eiddo, y nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau yn cael ei ddarparu neu eu darparu am ddim, neu
(b) y gwahaniaeth rhwng y gyfradd fasnachol honno a swm y treuliau yr aed iddynt mewn gwirionedd gan yr ymgeisydd neu ar ei ran mewn cysylltiad â defnyddio’r eiddo neu ddarparu’r gwasanaethau neu’r cyfleusterau, pan fo’r eiddo, y nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau yn cael ei ddarparu neu eu darparu am ddisgownt,
y mae’n rhesymol ei phriodoli i’r defnydd a wneir ar yr eiddo, y nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1)(b).
(6) Pan drefnir bod gwasanaethau cyflogai ar gael gan gyflogwr y cyflogai at ddefnydd neu fudd ymgeisydd at ddibenion ethol yr ymgeisydd, yna at ddibenion yr erthygl hon, y gyfradd fasnachol am ddarparu’r gwasanaethau hynny fydd—
(a) swm y gydnabyddiaeth ariannol a’r lwfansau sy’n daladwy i’r cyflogai gan y cyflogwr mewn cysylltiad â’r cyfnod y trefnir bod gwasanaethau’r cyflogai ar gael felly, ond
(b) ni fydd y swm hwnnw’n cynnwys unrhyw swm mewn cysylltiad ag unrhyw gyfraniadau neu daliadau eraill y mae’r cyflogwr yn atebol amdanynt mewn cysylltiad â’r cyflogai.
(7) Yn yr erthygl hon, ystyr “gwerth marchnadol”, mewn perthynas ag unrhyw eiddo neu nwyddau, yw’r pris y gellid disgwyl yn rhesymol iddo gael ei dalu am yr eiddo neu’r nwyddau o’u gwerthu yn y farchnad agored, a bydd paragraff 2(7)(a) o Atodlen 6 yn gymwys gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol er mwyn penderfynu, at ddibenion paragraff (1), a yw eiddo neu nwyddau yn cael eu trosglwyddo i ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd.
(8) Yn yr erthygl hon, mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddo neu ddarparu unrhyw beth i ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd yn cynnwys cyfeiriad at ei roi neu ei drosglwyddo naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy unrhyw drydydd person.
Cyhoeddusrwydd mewn etholiadau i’r Senedd
Hawl i anfon anerchiad etholiadol heb dalu i’w bostio
67 

(1) Mewn etholiad i’r Senedd, mae gan bob ymgeisydd unigol neu swyddog enwebu cofrestredig i blaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid yn yr etholiad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau rhesymol y caniateir i’r darparwr gwasanaeth cyffredinol o dan sylw eu pennu, hawlogaeth i anfon uchafswm o ddau gyfathrebiad etholiadol heb dalu’r costau postio a fyddai fel arall yn cael ei godi gan ddarparwr gwasanaeth cyffredinol.
(2) Caniateir i’r cyfathrebiadau etholiadol a anfonir o dan baragraff (1) fod yn gyfathrebiad post—
(a) sy’n cynnwys mater sy’n ymwneud â’r etholiad yn unig, a
(b) nad yw’n fwy na 60 gram.
(3) Caniateir i’r cyfathrebiadau etholiadol a anfonir o dan baragraff (1) gael eu hanfon—
(a) heb eu cyfeirio i bob lle yn etholaeth y Senedd y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer ac y mae’r ymgeiswyr yn dal wedi eu henwebu ynddi sydd, yn unol â thelerau ac amodau’r darparwr gwasanaeth cyffredinol, yn gyfystyr â phwynt danfon at ddibenion yr erthygl hon, neu
(b) wedi eu cyfeirio at bob etholwr.
(4) Mae gan unrhyw ymgeisydd unigol neu swyddog enwebu cofrestredig hawlogaeth hefyd, yn ddarostyngedig i’r amod ym mharagraff (2), i anfon dau gyfathrebiad at bob person a gofnodir yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad, ar gyfer pob penodiad y mae’r person hwnnw wedi ei gofnodi mewn cysylltiad ag ef, heb dalu unrhyw gostau postio fel a grybwyllir ym mharagraff (1).
(5) Caiff unrhyw ymgeisydd unigol neu swyddog enwebu cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau â’r darparwr gwasanaeth cyffredinol i gyfathrebiadau o dan baragraff (3)(b) gael eu hanfon at bersonau sydd â chofnodion dienw yn y gofrestr.
(6) Rhaid i drefniadau o dan baragraff (5) sicrhau na ddatgelir i unrhyw berson arall fod gan dderbynnydd cyfathrebiad o’r fath gofnod dienw.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mewn perthynas ag ymgeisydd unigol, ni fernir bod person yn ymgeisydd at ddibenion yr erthygl hon oni ddangosir bod y person hwnnw yn dal wedi ei enwebu yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd (gweler rheol 17 o Atodlen 5).
(8) Hyd nes y cyhoeddir y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, bydd gan unrhyw berson sy’n datgan ei fod yn ymgeisydd unigol hawlogaeth i arfer yr hawl i bostio am ddim a roddir gan yr erthygl hon, os yw’r person hwnnw’n rhoi unrhyw sicrhad sy’n ofynnol gan y darparwr gwasanaeth cyffredinol o dan sylw i dalu am gost postio, pe na dangosid bod y person hwnnw yn dal wedi ei enwebu fel a grybwyllir uchod.
(9) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), ni fernir bod plaid wleidyddol gofrestredig wedi cyflwyno rhestr plaid at ddibenion yr erthygl hon, oni ddangosir bod y blaid yn dal wedi ei henwebu yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
(10) Hyd nes y cyhoeddir y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, bydd gan swyddog enwebu cofrestredig plaid sydd wedi cyflwyno rhestr plaid hawlogaeth i arfer yr hawl i bostio am ddim a roddir gan yr erthygl hon, os yw’r swyddog enwebu cofrestredig hwnnw yn rhoi unrhyw sicrhad sy’n ofynnol gan y darparwr gwasanaeth cyffredinol, pe na dangosid bod y blaid yn dal wedi ei henwebu fel a grybwyllir uchod.
(11) Mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i drin unrhyw honiad gan swyddog enwebu cofrestredig i blaid wleidyddol gofrestredig ei fod wedi arfer yr hawl i bostio am ddim a roddir gan yr erthygl hon drwy asiant etholiad y blaid, fel achos dilys o arfer yr hawl honno.
(12) Mae gan ddarparwr gwasanaeth cyffredinol sy’n darparu gwasanaeth post am ddim yn unol â’r erthygl hon hawlogaeth i gael ei dalu am y gwasanaeth hwnnw ar y gyfradd a bennir gan gynllun neu yn unol â chynllun a wneir o dan adran 89 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000, a rhaid i swm y gydnabyddiaeth ariannol honno gael ei dalu gan Weinidogion Cymru.
(13) Rhaid i’r symiau sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (12) gael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.
(14) At ddibenion yr erthygl hon—
(a) ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr ar gyfer etholaeth y Senedd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, a
(b) mae “etholwr” yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr honno neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw, fel un sydd o dan oedran pleidleisio os, ond dim ond os, yw’n ymddangos o’r gofrestr, neu o’r cofnod, y bydd y person hwnnw o oedran pleidleisio ar y diwrnod penodedig ar gyfer y pôl.
Darlledu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig
68 

(1) Ni chaiff neb, gan fwriadu dylanwadu ar bersonau i roi neu ymatal rhag rhoi eu pleidlais mewn etholiad i’r Senedd, gynnwys unrhyw fater sy’n ymwneud â’r etholiad na helpu, annog, cwnsela neu beri cynnwys, unrhyw fater sy’n ymwneud â’r etholiad mewn unrhyw wasanaeth rhaglenni (o fewn ystyr “programme service” yn Neddf Darlledu 1990) a ddarperir o le y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac eithrio yn unol â threfniadau a wneir gyda’r canlynol—
(a) y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig,
(b) Sianel Pedwar Cymru, neu
(c) deiliad unrhyw drwydded a roddir gan y Swyddfa Gyfathrebiadau,
ar gyfer derbyn ac aildrawsyrru’r mater hwnnw gan y corff hwnnw neu gan ddeiliad y drwydded honno.
(2) Mae trosedd o dan yr erthygl hon yn arfer anghyfreithlon, ond caiff y llys y mae person wedi ei euogfarnu o drosedd o dan yr erthygl hon ger ei fron, os yw’n meddwl bod hynny’n deg o dan amgylchiadau arbennig yr achos, liniaru neu ddileu yn llwyr unrhyw anghymhwyster a osodir yn rhinwedd erthygl 124.
(3) Pan fo unrhyw weithred neu anweithred gan gymdeithas neu gorff o bersonau, corfforedig neu anghorfforedig, yn arfer anghyfreithlon o dan yr erthygl hon, bernir bod unrhyw berson (“P”) a oedd, adeg y weithred neu’r anweithred, yn gyfarwyddwr, rheolwr cyffredinol, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r gymdeithas neu’r corff, neu a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd y swydd honno, yn euog o’r arfer anghyfreithlon, oni bai bod P yn profi—
(a) bod y weithred neu’r anweithred wedi digwydd heb gydsyniad nac ymoddefiad P, a
(b) bod P wedi arfer pob diwydrwydd i atal cyflawni’r arfer anghyfreithlon y dylai P fod wedi ei arfer, gan roi sylw i natur swyddogaethau P yn rhinwedd y swydd honno ac i’r holl amgylchiadau.
Darlledu eitemau lleol yn ystod cyfnod yr etholiad
69 

(1) Rhaid i bob awdurdod darlledu fabwysiadu cod ymarfer mewn cysylltiad â chyfranogiad ymgeiswyr mewn etholiad i’r Senedd mewn eitemau am yr etholaeth o dan sylw a gynhwysir mewn gwasanaethau perthnasol yn ystod cyfnod yr etholiad.
(2) Rhaid i’r cod sydd am y tro yn cael ei fabwysiadu gan awdurdod darlledu o dan yr erthygl hon fod naill ai—
(a) yn god a lunnir gan yr awdurdod hwnnw, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau darlledu eraill, neu
(b) yn god a lunnir gan un neu fwy o awdurdodau eraill o’r fath.
(3) Rhaid i awdurdod darlledu ystyried o bryd i’w gilydd a ddylai’r cod a fabwysiadwyd ganddynt am y tro gael ei ddisodli gan god pellach sy’n dod o fewn paragraff (2).
(4) Cyn llunio cod o dan yr erthygl hon, rhaid i awdurdod darlledu roi sylw i unrhyw farn a fynegir gan y Comisiwn Etholiadol, a chaiff unrhyw god o’r fath wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol.
(5) Rhaid i’r Swyddfa Gyfathrebiadau wneud popeth a all i sicrhau y cedwir at y cod a fabwysiedir ganddi am y tro o dan yr erthygl hon wrth i wasanaethau perthnasol gael eu darparu, a rhaid i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig a Sianel Pedwar Cymru gadw at y cod a fabwysiedir felly wrth ddarparu gwasanaethau perthnasol.
(6) At ddiben paragraff (1) ystyr “cyfnod yr etholiad” mewn perthynas ag etholiad cyffredinol i’r Senedd, yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad diddymu’r Senedd ac sy’n dod i ben wrth i’r pôl gau.
(7) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “awdurdod darlledu” (“broadcasting authority”) yw’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, y Swyddfa Gyfathrebiadau neu Sianel Pedwar Cymru;
 ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”)—
(a) mewn perthynas â’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig neu Sianel Pedwar Cymru, yw gwasanaethau sy’n cael eu darlledu gan y corff hwnnw, a
(b) mewn perthynas â’r Swyddfa Gyfathrebiadau, yw gwasanaethau sydd wedi eu trwyddedu o dan Ran 1 neu 3 o Ddeddf Darlledu 1990 neu Ran 1 neu 2 o Ddeddf Darlledu 1996;
 ystyr “ymgeisydd” (“candidate”) yw unrhyw ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid sy’n dal wedi ei enwebu.
Cardiau a hysbysiadau pleidleisio ffug
70 

(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, er mwyn hyrwyddo neu beri canlyniad penodol mewn etholiad i’r Senedd, yn dosbarthu unrhyw gerdyn neu hysbysiad pleidleisio neu ddogfennau eraill sydd mor debyg i gerdyn neu hysbysiad pleidleisio swyddogol fel mai twyllo yw ei fwriad.
(2) Mae erthygl 68(2) a (3) yn gymwys fel pe bai trosedd o dan yr erthygl hon yn drosedd o dan yr erthygl honno.
Cyfarfodydd etholiad
Ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd etholiadau’r Senedd
71 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr erthygl hon, mae gan ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid mewn etholiad i’r Senedd hawlogaeth i ddefnyddio, am ddim, ac ar adegau rhesymol rhwng y diwrnod olaf y caniateir cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad yn unol â’r tabl yn rheol 1(1) o Atodlen 5 a’r diwrnod cyn dyddiad y pôl—
(a) ystafell addas ar fangre ysgol y mae’r erthygl hon yn gymwys iddi, neu
(b) unrhyw ystafell gyfarfod y mae’r erthygl hon yn gymwys iddi.
(2) Y diben y caniateir i ymgeisydd unigol ddefnyddio ystafell ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) yw cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i hyrwyddo neu beri rhoi pleidleisiau yn yr etholiad hwnnw i’r ymgeisydd hwnnw.
(3) Y diben y caniateir i ymgeisydd rhestr plaid ddefnyddio ystafell ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) yw cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i hyrwyddo neu beri rhoi pleidleisiau yn yr etholiad hwnnw i’r blaid wleidyddol gofrestredig y mae’r ymgeisydd wedi ei gynnwys ar ei rhestr plaid.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) i ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y lleolir ei mangre yn etholaeth y Senedd y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer, neu yn un o etholaethau cyffiniol y Senedd, a
(b) i ystafell gyfarfod a leolir yn etholaeth y Senedd y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer, neu yn un o etholaethau cyffiniol y Senedd, y mae’r gost o’i chynnal yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus neu gan gorff y mae ei dreuliau’n daladwy felly.
(5) Nid oes gan ymgeisydd hawlogaeth o dan yr erthygl hon i ddefnyddio ystafell ar fangre ysgol nac ystafell gyfarfod y tu allan i etholaeth y Senedd—
(a) os oes ystafell addas mewn mangre o fewn yr etholaeth sy’n rhesymol hygyrch o’r un rhannau o’r etholaeth â’r ystafelloedd hynny mewn mangre a leolir y tu allan i’r etholaeth, a
(b) os yw’r fangre honno’n fangre y mae’r erthygl hon yn gymwys iddi.
(6) Pan ddefnyddir ystafell ar gyfer cyfarfod yn unol â’r hawliau a roddir gan yr erthygl hon, rhaid i’r person y mae’r cyfarfod wedi ei gynnull ganddo neu ar ei ran—
(a) talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt wrth baratoi, cynhesu, goleuo a glanhau’r ystafell a darparu presenoldeb ar gyfer y cyfarfod ac adfer yr ystafell i’w chyflwr arferol ar ôl y cyfarfod, a
(b) talu am unrhyw ddifrod a wneir i’r ystafell neu’r fangre y mae wedi ei lleoli ynddi, neu i’r dodrefn, y ffitiadau neu’r cyfarpar yn yr ystafell neu’r fangre.
(7) Nid oes gan ymgeisydd hawlogaeth i arfer yr hawliau a roddir gan yr erthygl hon ac eithrio drwy hysbysiad rhesymol, ac nid yw’r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw ymyrraeth â’r oriau pryd y defnyddir ystafell ar fangre ysgol at ddibenion addysg, nac unrhyw ymyrraeth â’r defnydd o ystafell gyfarfod naill ai at ddibenion y person sy’n ei chynnal neu o dan gytundeb blaenorol i’w gosod at unrhyw ddiben.
(8) Mae Atodlen 8 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r hawliau a roddir gan yr erthygl hon a’r trefniadau sydd i’w gwneud ar gyfer eu harfer.
(9) At ddibenion yr erthygl hon, ac eithrio dibenion paragraff (6)(b), nid yw mangre ysgol yn cynnwys unrhyw annedd breifat, ac yn yr erthygl hon—
(a) mae “annedd” yn cynnwys unrhyw ran o adeilad sy’n cael ei feddiannu ar wahân fel annedd;
(b) ystyr “ystafell gyfarfod” yw unrhyw ystafell yr arferir ei gosod ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, ac
(c) mae “ystafell” yn cynnwys neuadd, oriel neu gampfa.
Aflonyddwch mewn cyfarfodydd etholiadau’r Senedd
72 

(1) Mae person sydd, mewn cyfarfod cyhoeddus cyfreithlon y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, yn gweithredu neu’n annog eraill i weithredu, mewn dull afreolus er mwyn atal trafod y busnes y galwyd y cyfarfod ar ei gyfer, yn euog o arfer anghyfreithlon.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys i gyfarfod gwleidyddol a gynhelir mewn perthynas â dychwelyd ymgeiswyr unigol neu ymgeiswyr rhestr plaid yn unrhyw un o etholaethau’r Senedd yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod olaf y caniateir cyhoeddi hysbysiad etholiad yn unol â’r tabl a nodir yn rheol 1(1) o Atodlen 5 ac sy’n dod i ben â diwrnod y pôl.
(3) Os bydd cwnstabl yn amau yn rhesymol fod unrhyw berson (“P”) wedi cyflawni trosedd o dan baragraff (1), caiff y cwnstabl, os gofynnir iddo wneud hynny gan gadeirydd y cyfarfod, ei gwneud yn ofynnol i P ddatgan enw a chyfeiriad P i’r cwnstabl ar unwaith ac, os bydd P yn gwrthod neu’n methu â gwneud hynny, neu’n rhoi enw a chyfeiriad ffug, mae P yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol.
Swyddogion etholiadau yn gweithredu fel asiantiaid a chanfasio gan swyddogion heddlu
Swyddogion i beidio â gweithredu ar ran ymgeiswyr
73 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw berson sydd—
(a) yn swyddog canlyniadau,
(b) yn berson a benodir o dan erthygl 20 (swyddogion canlyniadau: cyflawni swyddogaethau),
(c) yn swyddog neu’n glerc a benodir o dan Atodlen 5, neu
(d) yn unrhyw bartner neu glerc i unrhyw berson o’r fath,
oni bai bod y person hwnnw’n ymgeisydd.
(2) Mae unrhyw berson y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo sy’n gweithredu fel asiant i ymgeisydd neu i blaid wleidyddol gofrestredig wrth gynnal neu reoli etholiad i’r Senedd, yn euog o drosedd.
(3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr erthygl hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Canfasio anghyfreithlon gan swyddogion heddlu
74 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’n drosedd i aelod o heddlu geisio gwneud y canlynol, ar lafar, drwy neges neu mewn unrhyw ddull arall—
(a) darbwyllo unrhyw berson i roi ei bleidlais, neu
(b) darbwyllo unrhyw berson i beidio â rhoi ei bleidlais,
pa un ai fel etholwr neu ddirprwy mewn etholiad i’r Senedd ar gyfer etholaeth sy’n syrthio yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal yr heddlu.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(3) Ni fydd dim ym mharagraff (1) yn gwneud aelod o heddlu yn agored i unrhyw gosb am unrhyw beth a wneir wrth gyflawni ei ddyletswydd fel aelod o’r heddlu.
Datganiadau anwir ynghylch ymgeiswyr
75 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person (“P”), neu unrhyw gyfarwyddwr i unrhyw gorff neu gymdeithas gorfforedig, yn euog o arfer anghyfreithlon os bydd P, neu’r cyfarwyddwr hwnnw, yn gwneud neu’n cyhoeddi unrhyw ddatganiad ffeithiol anwir mewn perthynas â chymeriad personol neu ymddygiad unrhyw ymgeisydd—
(a) cyn neu yn ystod etholiad i’r Senedd, a
(b) er mwyn effeithio ar sut y rhoddir pleidlais yn yr etholiad.
(2) Ni fydd P neu unrhyw gyfarwyddwr yn euog o arfer anghyfreithlon o dan baragraff (1) os gall ddangos bod ganddo sail resymol dros gredu, a’i fod wedi credu, fod y datganiad yn wir.
(3) Ac eithrio mewn achos y mae paragraff (4) yn gymwys iddo, nid yw ymgeisydd yn atebol, ac ni chaiff etholiad yr ymgeisydd hwnnw ei ddirymu, am unrhyw arfer anghyfreithlon o dan baragraff (1) a gyflawnir—
(a) yn achos ymgeisydd unigol, gan asiant i’r ymgeisydd ac eithrio asiant etholiad yr ymgeisydd;
(b) yn achos ymgeisydd rhestr plaid, gan asiant i’r blaid honno ac eithrio ei hasiant etholiad.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo modd dangos bod yr ymgeisydd, gan gynnwys, yn achos ymgeisydd rhestr plaid, ymgeisydd arall ar y rhestr, neu’r asiant etholiad wedi awdurdodi’r asiant arall i gyflawni’r arfer anghyfreithlon neu wedi cydsynio â’r arfer anghyfreithlon gael ei chyflawni gan yr asiant arall neu wedi talu am gylchredeg y datganiad anwir sy’n ffurfio’r arfer anghyfreithlon, neu
(b) pan fo llys etholiadol yn dyfarnu ac yn adrodd bod etholiad yr ymgeisydd wedi ei beri neu wedi cael cymorth sylweddol o ganlyniad i wneud neu gyhoeddi datganiadau anwir o’r fath.
(5) Caniateir i berson sy’n gwneud neu’n cyhoeddi unrhyw ddatganiad ffeithiol anwir fel y’i crybwyllir yn yr erthygl hon gael ei ffrwyno drwy waharddeb interim neu barhaol gan yr Uchel Lys neu’r llys sirol rhag unrhyw ailadrodd ar y datganiad anwir hwnnw neu ddatganiad anwir o natur debyg mewn perthynas â’r ymgeisydd neu’r ymgeiswyr ac, at ddiben caniatáu gwaharddeb interim, bydd prawf prima facie bod y datganiad yn ffug yn ddigonol.
(6) Mae unrhyw berson sydd, cyn neu yn ystod etholiad i’r Senedd, yn cyhoeddi datganiad y mae’n gwybod ei fod yn ffug fod unrhyw ymgeisydd yn yr etholiad wedi tynnu’n ôl at ddiben hyrwyddo neu beri canlyniad penodol yn yr etholiad yn euog o arfer anghyfreithlon.
(7) Ni fydd ymgeisydd yn atebol, ac ni chaiff etholiad yr ymgeisydd hwnnw ei ddirymu, am unrhyw arfer anghyfreithlon o dan baragraff (6) a gyflawnir—
(a) yn achos ymgeisydd unigol, gan asiant i’r ymgeisydd ac eithrio asiant etholiad yr ymgeisydd;
(b) yn achos ymgeisydd rhestr plaid, gan asiant i’r blaid honno ac eithrio ei hasiant etholiad.
Tynnu’n ôl o fod yn ymgeisydd mewn modd llwgr
76 
Mae unrhyw berson sy’n cymell unrhyw berson arall mewn modd llwgr i dynnu’n ôl o fod yn ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd neu’n peri mewn modd llwgr fod unrhyw berson arall yn tynnu’n ôl o fod yn ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd, yn gydnabyddiaeth am unrhyw daliad neu addewid o daliad, ac unrhyw berson sy’n tynnu’n ôl yn unol â’r cymell neu’r peri, yn euog o daliad anghyfreithlon.
Taliadau am arddangos hysbysiadau etholiad
77 

(1) Ni chaniateir gwneud taliad na chontract ar gyfer taliad at ddiben hyrwyddo neu beri canlyniad penodol mewn etholiad i’r Senedd i etholwr nac i ddirprwy’r etholwr am arddangos unrhyw anerchiad, bil neu hysbysiad, neu am ddefnyddio unrhyw dŷ, tir, adeilad neu fangre i arddangos unrhyw anerchiad, bil neu hysbysiad, oni bai—
(a) mai arddangos biliau a hysbysebion am dâl fel asiant hysbysebu yw busnes cyffredin yr etholwr neu’r dirprwy, a
(b) bod y taliad neu’r contract yn cael ei wneud yng nghwrs arferol y busnes hwnnw.
(2) Os bydd unrhyw daliad neu gontract am daliad yn cael ei wneud naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad, gan wybod y bydd yr erthygl hon yn cael ei thorri—
(a) mae’r person sy’n gwneud y taliad neu’r contract, a
(b) os oedd y person hwnnw’n gwybod ei fod yn torri’r Gorchymyn hwn, mae unrhyw berson sy’n derbyn y taliad neu’n barti i’r contract,
yn euog o arfer anghyfreithlon.
Enw a chyfeiriad yr argraffydd ar gyhoeddiadau etholiad
78 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae’n rhesymol ystyried ei fod wedi ei fwriadu i hyrwyddo neu beri canlyniad penodol mewn etholiad i’r Senedd, pa un a ellir ystyried ei fod wedi ei fwriadu i gyflawni unrhyw ddiben arall hefyd ai peidio.
(2) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd y mae adran 143 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (manylion sydd i ymddangos ar ddeunydd etholiad) yn gymwys iddo.
(3) Ni chaniateir cyhoeddi deunydd y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo ond—
(a) yn achos deunydd sy’n ddogfen, neu sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen, a grybwyllir ym mharagraff (5), (6) neu (7), os yw’n cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol, neu
(b) yn achos unrhyw ddeunydd arall, os yw’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy mewn perthynas â’r deunydd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff (8).
(4) At ddibenion paragraffau (5) i (7), “y manylion perthnasol” yn achos unrhyw ddeunydd sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) yw’r manylion a ganlyn—
(a) enw a chyfeiriad argraffydd y ddogfen,
(b) enw a chyfeiriad hyrwyddwr y deunydd, ac
(c) enw a chyfeiriad unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran, pan nad yr hyrwyddwr yw’r person hwnnw.
(5) Pan fo’r deunydd yn ddogfen sydd wedi ei ffurfio, neu sydd wedi ei ffurfio’n bennaf, o un ochr o ddeunydd wedi ei argraffu, rhaid i’r manylion perthnasol ymddangos ar wyneb y ddogfen.
(6) Pan fo’r deunydd yn ddogfen wedi ei hargraffu ac eithrio un y mae paragraff (5) yn gymwys iddi, rhaid i’r manylion perthnasol ymddangos naill ai ar dudalen gyntaf neu ar dudalen olaf y ddogfen.
(7) Pan fo’r deunydd yn hysbyseb sydd wedi ei chynnwys mewn papur newydd neu gyfnodolyn—
(a) rhaid i enw a chyfeiriad argraffydd y papur newydd neu’r cyfnodolyn ymddangos naill ai ar ei dudalen gyntaf neu ar ei dudalen olaf, a
(b) rhaid i’r manylion perthnasol a bennir ym mharagraff (4)(b) ac (c) gael eu cynnwys yn yr hysbyseb.
(8) Ar ôl ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer gosod ac mewn cysylltiad â gosod gofynion ynghylch cynnwys y manylion a ganlyn mewn deunydd sy’n dod o fewn paragraff (3)(b), sef—
(a) enw a chyfeiriad hyrwyddwr y deunydd, a
(b) enw a chyfeiriad unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran, pan nad yr hyrwyddwr yw’r person hwnnw.
(9) Yn benodol, caiff rheoliadau o dan baragraff (8) bennu—
(a) ym mha ddull ac ar ba ffurf y mae’n rhaid cynnwys y manylion hyn yn y deunydd hwn er mwyn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion hyn;
(b) amgylchiadau—
(i) lle nad oes rhaid i unrhyw berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion hyn, neu
(ii) lle nad yw torri unrhyw un neu ragor o’r gofynion hyn gan berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir felly i arwain at gyflawni trosedd o dan yr erthygl hon gan y person hwnnw neu gan berson o unrhyw ddisgrifiad arall;
(c) amgylchiadau lle mae deunydd, neu lle nad yw deunydd, i’w gymryd at ddibenion y rheoliadau fel pe bai i’w gyhoeddi neu wedi ei gyhoeddi gan berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir felly.
(10) Pan gyhoeddir unrhyw ddeunydd o fewn paragraff (3)(a) gan dorri paragraff (3), yna, yn ddarostyngedig i baragraffau (12) a (13), mae—
(a) hyrwyddwr y deunydd,
(b) unrhyw berson arall y cyhoeddir y deunydd ganddo felly, ac
(c) argraffydd y ddogfen,
yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(11) Pan gyhoeddir unrhyw ddeunydd sy’n dod o fewn paragraff (3)(b) gan dorri paragraff (3), yna, yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir yn rhinwedd paragraff (9)(b) a pharagraffau (12) a (13), mae—
(a) hyrwyddwr y deunydd, a
(b) unrhyw berson arall y cyhoeddir y deunydd ganddo felly,
yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(12) Bydd yn amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr erthygl hon brofi—
(a) bod paragraff (3) wedi ei dorri yn sgil amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y person hwnnw, a
(b) bod y person hwnnw wedi cymryd pob cam rhesymol, ac wedi arfer diwydrwydd dyladwy, i sicrhau na fyddai’r torri yn digwydd.
(13) Pan fyddai—
(a) ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yr ymgeisydd, neu
(b) ymgeisydd rhestr plaid neu asiant etholiad y blaid wleidyddol gofrestredig mewn perthynas â rhestr y blaid honno,
oni bai am y paragraff hwn, yn euog o drosedd o dan baragraff (10) neu (11), mae’r ymgeisydd neu’r asiant hwnnw yn euog yn hytrach o arfer anghyfreithlon.
(14) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan baragraff (8)—
(a) yn arferadwy drwy offeryn statudol, a
(b) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.
(15) At ddibenion adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, mae paragraff (14) yn cael effaith fel pe bai wedi ei gynnwys yn un o Ddeddfau’r Senedd.
(16) At ddiben penderfynu a yw unrhyw ddeunydd yn gyfystyr â deunydd sy’n dod o fewn cwmpas paragraff (1), nid yw’n berthnasol nad yw’n sôn yn benodol am enw unrhyw ymgeisydd.
(17) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “argraffu” (“print”) yw argraffu ym mha fodd bynnag;
 ystyr “cyhoeddi” (“publish”) yw rhoi ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol, neu unrhyw ran o’r cyhoedd, ar ba ffurf bynnag a thrwy ba fodd bynnag;
 ystyr “yr hyrwyddwr” (“the promoter”) mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, yw’r person sy’n peri i’r deunydd gael ei gyhoeddi.
Gwahardd canfaswyr sy’n cael eu talu
79 
Os bydd person (“P”), naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad i’r Senedd, yn cael ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi am daliad neu addewid o daliad fel canfasiwr at ddiben hyrwyddo neu beri canlyniad penodol yn yr etholiad, mae P a’r person sy’n ei gymryd ymlaen neu’n ei gyflogi yn euog o gyflogaeth anghyfreithlon.
Darparu arian at ddibenion anghyfreithlon
80 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person yn euog o daliad anghyfreithlon pan fo’r person hwnnw gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn darparu arian—
(a) ar gyfer unrhyw daliad sy’n groes i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn,
(b) ar gyfer unrhyw dreuliau yr eir iddynt uwchlaw’r uchafswm a ganiateir gan y Gorchymyn hwn, neu
(c) ar gyfer amnewid unrhyw arian sy’n cael ei wario mewn unrhyw daliad neu dreuliau o’r fath.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’n bosibl bod y taliad neu’r treuliau wedi cael eu caniatáu o’r blaen yn unol ag erthygl 120 (cais am ryddhad).
Llwgrwobrwyo
81 

(1) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw yn euog o lwgrwobrwyo.
(2) Mae person (“P1”) yn euog o lwgrwobrwyo os bydd P1, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol—
(a) yn rhoi unrhyw arian neu’n caffael unrhyw swydd—
(i) i neu ar gyfer unrhyw bleidleisiwr,
(ii) i neu ar gyfer unrhyw berson arall ar ran unrhyw bleidleisiwr, neu
(iii) i neu ar gyfer unrhyw berson arall,
er mwyn cymell unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu i ymatal rhag pleidleisio,
(b) yn cyflawni unrhyw weithred a grybwyllir yn is-baragraff (a) mewn modd llwgr am fod unrhyw bleidleisiwr wedi pleidleisio neu wedi ymatal rhag pleidleisio, neu
(c) yn rhoi unrhyw anrheg neu’n caffael unrhyw swydd fel a grybwyllir yn is-baragraff (a) i neu ar gyfer unrhyw berson er mwyn cymell y person hwnnw i beri, neu ymdrechu i beri, canlyniad penodol mewn etholiad i’r Senedd neu bleidlais unrhyw bleidleisiwr.
(3) Mae person (“P2”) hefyd yn euog o lwgrwobrwyo os bydd P2 ar ôl i anrheg gael ei rhoi neu i unrhyw swydd gael ei chaffael fel a grybwyllir ym mharagraff (2), neu o ganlyniad i hynny, yn peri neu’n gwarantu, yn addo neu’n ceisio peri canlyniad penodol mewn etholiad i’r Senedd neu bleidlais unrhyw bleidleisiwr.
(4) At ddibenion paragraff (2)—
(a) mae cyfeiriadau at roi arian yn cynnwys cyfeiriadau at roi, benthyca, cytuno i roi neu fenthyca, cynnig, addo, neu addo caffael neu ymdrechu i gaffael unrhyw arian neu gydnabyddiaeth werthfawr, a
(b) mae cyfeiriadau at gaffael unrhyw swydd yn cynnwys cyfeiriadau at roi, caffael, cytuno i roi neu gaffael, cynnig, addo, neu addo caffael neu ymdrechu i gaffael unrhyw swydd, lle neu gyflogaeth.
(5) Mae person (“P3”) yn euog o lwgrwobrwyo os bydd P3—
(a) yn blaendalu neu’n talu neu’n achosi talu unrhyw arian i unrhyw berson arall neu i’w ddefnyddio gan unrhyw berson arall â’r bwriad y bydd yr arian hwnnw neu unrhyw ran ohono yn cael ei wario er mwyn llwgrwobrwyo mewn etholiad i’r Senedd, neu
(b) gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn talu neu’n achosi talu unrhyw arian i unrhyw berson wrth ollwng neu ad-dalu unrhyw arian a wariwyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol er mwyn llwgrwobrwyo mewn etholiad i’r Senedd.
(6) Ni fydd paragraffau (2) i (5) yn ymestyn i unrhyw arian a delir neu y cytunir i’w dalu am neu oherwydd unrhyw dreuliau cyfreithiol yr eir iddynt yn ddidwyll mewn etholiad i’r Senedd neu ynglŷn ag etholiad i’r Senedd, nac yn cael eu dehongli fel pe baent yn ymestyn i arian o’r fath.
(7) Mae pleidleisiwr yn euog o lwgrwobrwyo os bydd y pleidleisiwr hwnnw, cyn neu yn ystod etholiad i’r Senedd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn derbyn unrhyw arian, rhodd, benthyciad neu gydnabyddiaeth werthfawr, swydd, lle neu gyflogaeth i’r pleidleisiwr hwnnw neu i unrhyw berson arall, am bleidleisio neu gytuno i bleidleisio neu am ymatal neu gytuno i ymatal rhag pleidleisio, neu’n cytuno neu’n contractio i wneud hynny.
(8) Mae person (“P4”) yn euog o lwgrwobrwyo os bydd P4, ar ôl etholiad i’r Senedd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn derbyn unrhyw arian neu gydnabyddiaeth werthfawr oherwydd bod unrhyw berson wedi pleidleisio neu wedi ymatal rhag pleidleisio neu wedi cymell unrhyw berson arall i bleidleisio neu ymatal rhag pleidleisio.
(9) Yn yr erthygl hon, mae’r ymadrodd “pleidleisiwr” yn cynnwys unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio neu sy’n honni bod ganddo hawl i bleidleisio.
Tretio
82 

(1) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw yn euog o dretio.
(2) Mae person yn euog o dretio os bydd y person hwnnw mewn modd llwgr naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad i’r Senedd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn rhoi neu’n darparu, neu’n talu’n gyfan gwbl neu’n rhannol y gost o roi neu ddarparu, unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth i unrhyw berson arall—
(a) er mwyn dylanwadu’n llwgr ar y person hwnnw neu unrhyw berson arall i bleidleisio neu i ymatal rhag pleidleisio, neu
(b) oherwydd bod y person hwnnw neu unrhyw berson arall wedi pleidleisio neu wedi ymatal rhag pleidleisio, neu ar fin pleidleisio neu ymatal rhag pleidleisio.
(3) Mae pob etholwr neu ddirprwy sy’n derbyn neu’n cymryd mewn modd llwgr unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth o’r fath hefyd yn euog o dretio.
(4) Yn yr erthygl hon, mae cyfeiriad at rywbeth yn cael ei wneud gan berson yn cynnwys cyfeiriad at rywbeth yn cael ei wneud gan y person hwnnw neu ar ei ran.
Dylanwad amhriodol
83 

(1) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person yn euog o ddylanwad amhriodol.
(2) Mae person (“P”) yn euog o ddylanwad amhriodol os bydd P yn cyflawni gweithgaredd sy’n dod o fewn paragraff (4) at ddiben—
(a) cymell neu orfodi person i bleidleisio mewn ffordd benodol neu i ymatal rhag pleidleisio, neu
(b) atal neu lesteirio etholwr neu ddirprwy ar ran etholwr fel arall rhag arfer yr etholfraint yn ddirwystr.
(3) Mae person (“P”) hefyd yn euog o ddylanwad amhriodol os bydd P yn cyflawni gweithgaredd sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (a) i (f) o baragraff (4)—
(a) oherwydd bod person wedi pleidleisio mewn ffordd benodol neu wedi ymatal rhag pleidleisio, neu
(b) oherwydd bod P yn cymryd yn ganiataol fod person wedi pleidleisio mewn ffordd benodol neu wedi ymatal rhag pleidleisio.
(4) Mae’r gweithgareddau a ganlyn yn dod o fewn y paragraff hwn—
(a) defnyddio trais neu fygwth defnyddio trais yn erbyn person;
(b) difrodi neu ddinistrio eiddo person, neu fygwth ei ddifrodi neu ei ddinistrio;
(c) niweidio enw da person neu fygwth ei niweidio;
(d) achosi colled ariannol i berson neu fygwth ei achosi;
(e) achosi anaf ysbrydol i berson, neu roi pwysau ysbrydol amhriodol arno;
(f) gwneud unrhyw weithred arall a gynlluniwyd i fygylu person;
(g) gwneud unrhyw weithred a gynlluniwyd i dwyllo person mewn perthynas â gweinyddu etholiad.
(5) At ddibenion paragraffau (2) a (3) mae gweithgaredd yn cael ei gyflawni gan berson (“P”) os cyflawnir y gweithgaredd—
(a) gan P,
(b) gan P ar y cyd ag un neu fwy o bersonau eraill, neu
(c) gan un neu fwy o bersonau eraill ar ran P a chydag awdurdod neu gydsyniad P.
(6) Ym mharagraff (4)(f) ac (g) mae “gweithred” yn cynnwys anweithred, ac mae cyfeiriadau at wneud gweithred i’w darllen yn unol â hynny.
Hawliau credydwyr
84 
Nid yw’r darpariaethau yn y Rhan hon sy’n gwahardd—
(a) taliadau a chontractau ar gyfer taliadau,
(b) talu treuliau etholiad neu fynd i dreuliau etholiad sydd uwchlaw’r uchafswm a ganiateir gan y Gorchymyn hwn, nac
(c) mynd i dreuliau sydd heb eu hawdurdodi gan asiant etholiad,yn effeithio ar hawl unrhyw gredydwr nad oedd, pan wnaed y contract neu pan aed i’r draul, yn gwybod bod y contract hwnnw neu’r draul honno yn torri’r Gorchymyn hwn.
Darpariaethau arbed ynghylch etholiad i’r Senedd
85 

(1) Pan fo person wedi ei ddatgan gan bobl eraill yn ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd heb gydsyniad y person hwnnw, nid oes dim yn y Rhan hon i’w ddehongli fel pe bai’n gosod unrhyw atebolrwydd ar y person hwnnw, oni bai bod y person hwnnw wedi hynny wedi rhoi cydsyniad i’r datganiad neu wedi ei enwebu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid oes dim yn y Rhan hon yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwr ganiatáu i etholwyr mewn etholiad i’r Senedd neu eu dirprwyon fod yn absennol o gyflogaeth y cyflogwr am gyfnod rhesymol er mwyn pleidleisio yn y pôl mewn etholiad i’r Senedd heb gael unrhyw ddidyniad o’u tâl neu eu cyflog oherwydd yr absenoldeb—
(a) os yw’r caniatâd, i’r graddau y bo’n ymarferol heb niwed i fusnes y cyflogwr, yn cael ei roi yn gyfartal i bawb fel ei gilydd sydd ar y pryd yng nghyflogaeth y cyflogwr,
(b) os nad yw’r caniatâd yn cael ei roi gyda golwg ar gymell unrhyw berson i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad, ac
(c) os nad yw’r caniatâd yn cael ei wrthod i unrhyw berson er mwyn atal y person hwnnw rhag pleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad.
(3) Nid yw paragraff (2) i’w ddehongli fel pe bai’n gwneud unrhyw weithred yn anghyfreithlon na fyddai’n anghyfreithlon oni bai am y paragraff hwnnw.
RHAN 4 Achosion Cyfreithiol
Dehongli Rhan 4
86 
Yn y Rhan hon—
 mae “costau” (“costs”) yn cynnwys taliadau a threuliau;
 ystyr “Deddfau Trwyddedu” (“Licensing Acts”) yw Deddf Trwyddedu 2003 a’r deddfau sy’n diwygio’r Ddeddf honno, neu’r deddfiadau cyfatebol sy’n ffurfio rhan o gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
 ystyr “deiseb etholiad seneddol” (“parliamentary election petition”) yw deiseb a gyflwynir yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1983;
 ystyr “dychwelyd” (“return”) yw dychwelyd aelod o’r Senedd;
 ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person (ac eithrio bargyfreithiwr neu gyfreithiwr) sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n gyfystyr ag arfer hawl i ymddangos yn y llys (o fewn ystyr y Ddeddf honno);
 ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig gan reolau’r llys, yn benodol Rheolau 1960 fel y’u haddesir gan Atodlen 9 i’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “Rheolau 1960” (“the 1960 Rules”) yw Rheolau Deisebau Etholiad 1960 fel y’u haddesir gan Atodlen 9 i’r Gorchymyn hwn. Mae’r rheolau yn rhagnodi’r broses y mae rhaid ei dilyn mewn perthynas â deiseb etholiad;
 ystyr “sedd wag berthnasol” (“relevant vacancy”) yw pan fo sedd aelod o’r Senedd a ddychwelir o restr a gyflwynir gan blaid wleidyddol gofrestredig yn wag o fewn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 11 o Ddeddf 2006;
 ystyr “swyddog rhagnodedig” (“prescribed officer”) yw meistr Is-adran Mainc y Brenin a enwebir o dan adran 157(4) o Ddeddf 1983 ac ef fydd y swyddog rhagnodedig mewn perthynas ag etholiadau o dan Ran 1 o Ddeddf 2006;
 mae i “ymgeisydd” (“candidate”) yr un ystyr ag yn Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn ac mae’r ddarpariaeth arbed yn erthygl 85(1) yn gymwys mewn perthynas â’r Rhan hon fel ag y mae mewn perthynas â Rhan 3.
Dull cwestiynu etholiad i’r Senedd
87 

(1) Dim ond drwy gyflwyno deiseb (“deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd”) yn unol â’r Rhan hon y caniateir cwestiynu etholiad neu achos o ddychwelyd i’r Senedd.
(2) Caiff deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gwyno am—
(a) etholiad amhriodol, neu
(b) dychweliad amhriodol.
(3) Mae cwyn sy’n ymwneud â sedd wag berthnasol mewn etholaeth yn dod o fewn cwmpas paragraff (2)(b).
(4) Bydd deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwyno am ddiffyg dychwelyd yn cael ei hystyried gan yr Uchel Lys a gaiff—
(a) gwneud gorchymyn ar y ddeiseb y mae’n meddwl sy’n briodol ar gyfer gorfodi dychweliad i gael ei wneud, neu
(b) caniatáu i’r ddeiseb gael ei chlywed gan lys etholiadol.
Rheolau gweithdrefnol
88 

(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wneir o dan baragraff (2), mae Rheolau 1960 yn cael effaith mewn perthynas â deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a nodir yn Atodlen 9, fel pe bai’r rheolau hynny yn cael eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
(2) Caiff yr awdurdod sydd â’r pŵer i wneud rheolau ar gyfer uwchlysoedd Cymru a Lloegr wneud rheolau at ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae’r pŵer i wneud rheolau yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac at ddibenion adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, mae i’w drin fel pe bai wedi ei gynnwys mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(4) Mae offeryn statudol a wneir o dan yr erthygl hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan unrhyw un o ddau dŷ Senedd y Deyrnas Unedig.
Cynnig a chyflwyno deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd
89 

(1) Caiff deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gael ei chynnig gan un neu fwy o’r personau a ganlyn—
(a) person a bleidleisiodd fel etholwr yn yr etholiad neu a oedd â hawl i bleidleisio,
(b) person sy’n honni iddo fod â’r hawl i gael ei ethol neu ei ddychwelyd yn yr etholiad,
(c) person sy’n honni iddo fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
(d) person sy’n honni iddo fod â’r hawl i gael ei ddychwelyd mewn cysylltiad â sedd wag berthnasol.
(2) Nid yw paragraff (1)(a) yn cynnwys person a oedd â chofnod dienw yn y gofrestr etholwyr.
(3) Yr ymatebydd i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yw—
(a) yr aelod o’r Senedd y mae ei ethol neu ei ddychwelyd yn destun y gŵyn, neu
(b) y swyddog canlyniadau pan fo’r ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y swyddog canlyniadau.
(4) Rhaid i’r ddeiseb—
(a) bod yn y fformat rhagnodedig,
(b) datgan y materion rhagnodedig, ac
(c) cael ei llofnodi gan yr holl ddeisebwyr.
(5) Rhaid cynnig y ddeiseb i’r Uchel Lys drwy ei danfon at y swyddog rhagnodedig, neu ymdrin â hi fel arall yn y dull rhagnodedig.
(6) Rhaid i’r swyddog rhagnodedig anfon copi o’r ddeiseb at y swyddog canlyniadau ar gyfer etholaeth y Senedd y mae’r ddeiseb yn ymwneud â hi.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi’r ddeiseb yn yr etholaeth honno ar unwaith.
(8) Rhaid cyflwyno’r ddeiseb yn y dull rhagnodedig.
Amser ar gyfer cynnig neu ddiwygio deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd
90 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, rhaid i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gael ei chynnig o fewn 21 diwrnod ar ôl y diwrnod y dychwelir enw unrhyw aelod, y mae’r ddeiseb yn ymwneud â’i ethol neu ei ddychwelyd, at y Clerc yn unol ag Atodlen 5 (rheolau etholiadau’r Senedd).
(2) Pan fydd deiseb yn cwestiynu’r ethol neu’r dychwelyd oherwydd honiad o arfer lwgr a’i bod yn honni yn benodol fod taliad o arian neu wobr arall, ers amser y dychwelyd, yn unol â’r arfer lwgr honedig neu wrth hybu’r arfer lwgr honedig, wedi ei wneud—
(a) gan yr aelod y mae ei ethol neu ei ddychwelyd yn cael ei herio yn y ddeiseb,
(b) ar ran yr aelod, neu
(c) drwy wybod i’r aelod,
caniateir cynnig y ddeiseb o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad y taliad.
(3) Pan fydd deiseb yn cwestiynu’r ethol neu’r dychwelyd oherwydd honiad o arfer anghyfreithlon, caniateir ei chynnig mewn cysylltiad â’r arfer anghyfreithlon honno—
(a) o fewn 21 diwrnod ar ôl y diwrnod a bennir ym mharagraff (4), neu
(b) os yw’r ddeiseb yn honni’n benodol fod taliad o arian neu weithred arall wedi digwydd yn unol â’r arfer anghyfreithlon honedig neu wrth hybu’r arfer anghyfreithlon honedig—
(i) gan yr aelod y mae ei ethol neu ei ddychwelyd yn cael ei herio yn y ddeiseb,
(ii) gan asiant yr aelod hwnnw, neu
(iii) drwy wybod i’r aelod hwnnw neu i asiant etholiad yr aelod,
o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad y taliad neu’r weithred arall.
(4) Y diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) yw’r degfed diwrnod ar ôl diwedd yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno ffurflenni ynghylch treuliau etholiad yn yr etholiad neu, os yw’n ddiweddarach—
(a) pan oedd yr aelod hwnnw’n ymgeisydd unigol, y diwrnod y mae’r swyddog canlyniadau yn cael y ffurflen a’r datganiadau ynghylch treuliau etholiad gan yr aelod hwnnw a’r asiant etholiad,
(b) pan oedd yr aelod hwnnw’n ymgeisydd rhestr plaid, y diwrnod y mae—
(i) y Comisiwn Etholiadol yn cael y ffurflen a’r datganiad ynghylch treuliau etholiad gan drysorydd y blaid wleidyddol gofrestredig, a
(ii) y swyddog canlyniadau yn cael y datganiad ynghylch treuliau personol gan yr aelod hwnnw,
(c) pan fo’r ffurflen a’r datganiadau yn dod i law ar ddiwrnodau gwahanol, yr olaf o’r diwrnodau hynny, neu
(d) pan fo esgus awdurdodedig dros fethu â chwblhau’r ffurflen a’r datganiadau, dyddiad caniatáu’r esgus awdurdodedig, neu os oedd methiant o ran dau neu ragor ohonynt, a bod yr esgus wedi ei ganiatáu ar wahanol adegau, dyddiad caniatáu’r esgus awdurdodedig olaf.
(5) Caiff deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd a gynigir o fewn yr amser a gyfyngir gan baragraff (1) neu (2), at ddiben cwestiynu’r ethol neu’r dychwelyd ar sail honiad o arfer anghyfreithlon, gael ei diwygio gyda chaniatâd yr Uchel Lys o fewn yr amser y caniateir cynnig deiseb o dan baragraff (3).
(6) Mae paragraffau (3) i (5) yn gymwys—
(a) er gwaethaf y ffaith bod y weithred sy’n ffurfio’r arfer anghyfreithlon honedig yn gyfystyr ag arfer lwgr, a
(b) i arfer lwgr o dan erthygl 47 (ymgeiswyr unigol: gwahardd treuliau nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan asiant etholiad etc.), fel pe bai’n arfer anghyfreithlon.
(7) At ddibenion yr erthygl hon, mae honiad bod etholiad yn cael ei ddirymu o dan erthygl 117 i’w farnu’n honiad o arfer lwgr, er gwaethaf y ffaith bod y troseddau honedig yn droseddau ac eithrio arferion llwgr neu’n cynnwys troseddau ac eithrio arferion llwgr.
Cyfansoddiad y llys etholiadol a man treial
91 

(1) Rhaid i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gael ei rhoi ar brawf gan lys etholiadol sy’n cynnwys dau farnwr ar y rota ar gyfer rhoi deisebau etholiadau seneddol ar brawf.
(2) Oni bai eu bod yn cytuno fel arall, rhaid i’r barnwyr ar y rota roi ar brawf unrhyw ddeisebau etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sydd i sefyll prawf yn ôl lefel y barnwyr.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae gan y llys etholiadol yr un pwerau, yr un awdurdodaeth a’r un awdurdod â barnwr i’r Uchel Lys ac mae’n goflys.
(4) Rhaid i’r man treial fod o fewn etholaeth y Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer, ond caiff yr Uchel Lys benodi man arall ar gyfer y treial os yw’n fodlon bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud yn ddymunol i’r ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gael ei rhoi ar brawf yn rhywle arall.
(5) Caiff y llys etholiadol ohirio’r achos o un lle i le arall o fewn etholaeth y Senedd.
Treuliau barnwyr a chroesawu barnwyr
92 
Mewn perthynas â threial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd mae’r treuliau a ganlyn i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru—
(a) treuliau teithio a threuliau eraill y barnwyr, a
(b) yr holl dreuliau yr eir iddynt yn briodol wrth ddarparu llety angenrheidiol a llys priodol iddynt.
Presenoldeb ysgrifennwr llaw-fer
93 

(1) Rhaid i’r Senedd ei gwneud yn ofynnol i ysgrifennwr llaw-fer fod yn bresennol yn nhreial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
(2) Rhaid i un o farnwyr y llys etholiadol weinyddu llw yr ysgrifennwr llaw-fer i gofnodi’r dystiolaeth a roddir yn y treial a thrawsgrifio’r dystiolaeth honno, neu achosi iddi gael ei thrawsgrifio.
(3) Rhaid i’r ysgrifennwr llaw-fer gofnodi’r dystiolaeth a’i thrawsgrifio neu achosi iddi gael ei thrawsgrifio.
(4) Rhaid i gopi o’r dystiolaeth fynd gyda’r dystysgrif a roddir gan y llys etholiadol i hysbysu’r Senedd.
Sicrhad ar gyfer costau
94 

(1) Rhaid i’r deisebydd, adeg cynnig y ddeiseb etholiad neu o fewn tridiau ar ôl cynnig y ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd, roi sicrhad am yr holl gostau a allai ddod yn daladwy ganddo—
(a) i unrhyw dyst a wysir gan y deisebydd, neu
(b) i unrhyw ymatebydd.
(2) Ar gais gan y deisebydd, rhaid i’r sicrhad fod y swm a gyfarwyddir gan yr Uchel Lys, neu gan un o farnwyr yr Uchel Lys, ac ni chaiff fod yn fwy na £5,000.
(3) Rhaid rhoi’r sicrhad yn y dull rhagnodedig drwy—
(a) ymrwymiad yr ymrwymir iddo gan ddim mwy na phedwar mechnïwr,
(b) adnau arian, neu
(c) cyfuniad o is-baragraffau (a) a (b).
(4) Ar ôl rhoi’r sicrhad, rhaid i’r deisebydd, o fewn yr amser rhagnodedig ac yn y dull rhagnodedig, gyflwyno i’r ymatebydd ac unrhyw barti rhagnodedig arall—
(a) hysbysiad o’r ddeiseb,
(b) hysbysiad o swm a natur y sicrhad,
(c) copi o’r ddeiseb, a
(d) unrhyw affidafid sy’n mynd gydag unrhyw ymrwymiad.
(5) Caiff yr ymatebydd wrthwynebu’n ysgrifenedig, yn y dull rhagnodedig, unrhyw ymrwymiad ar y sail—
(a) o ran unrhyw fechnïwr—
(i) na all fodloni’r ymrwymiad y mae wedi ymrwymo iddo,
(ii) ei fod wedi marw, neu
(iii) nad oes modd dod o hyd iddo na’i adnabod oherwydd disgrifiad annigonol yn yr ymrwymiad, neu
(b) bod person a enwir yn yr ymrwymiad heb gydnabod yr ymrwymiad.
(6) Rhaid i unrhyw wrthwynebiad i ymrwymiad gael ei benderfynu yn y dull rhagnodedig gan y llys neu’r swyddog rhagnodedig.
(7) Os caniateir y gwrthwynebiad, caiff y deisebydd ei ddileu drwy adneuo, yn y dull rhagnodedig, swm o arian a fydd, ym marn y llys neu’r swyddog rhagnodedig, yn gwneud y sicrhad yn ddigonol.
(8) Os na roddir sicrhad, neu os caniateir unrhyw wrthwynebiad ac na chaiff ei ddileu fel a nodir ym mharagraff (7), ni chaniateir i’r ddeiseb fynd yn ei blaen.
Deiseb yn bwnc dadl
95 
Bydd deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn bwnc dadl—
(a) pan fydd y deisebydd yn rhoi’r sicrhad am gostau drwy adneuo arian sy’n hafal i swm y sicrhad sy’n ofynnol, yr adeg y rhoddir y sicrhad, a
(b) mewn unrhyw achos arall, pa un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd ddiweddaraf—
(i) pan fydd yr amser rhagnodedig ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau o dan erthygl 94(5) yn dod i ben, neu
(ii) pan fydd gwrthwynebiad yn cael ei wneud, yr adeg y gwrthodir neu y dilëir y gwrthwynebiad hwnnw.
Rhestr o ddeisebau
96 

(1) Rhaid i’r swyddog rhagnodedig—
(a) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, wneud rhestr o’r holl ddeisebau etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n bwnc dadl, gan eu gosod yn y drefn y cawsant eu cynnig, a
(b) cadw yn ei swyddfa y rhestr o ddeisebau, y mae rhaid iddi fod ar gael i edrych arni yn y dull rhagnodedig.
(2) Rhaid i’r deisebau, i’r graddau y bo’n gyfleus, gael eu rhoi ar brawf yn y drefn y maent yn ymddangos yn y rhestr.
(3) Pan gynigir mwy nag un ddeiseb yn ymwneud â’r un etholiad i’r Senedd, rhaid i’r deisebau—
(a) cael eu rhestru gyda’i gilydd yn rhestr y llys etholiadol oni bai bod yr Uchel Lys yn cyfarwyddo fel arall, a
(b) cael eu trin fel un ddeiseb yn y safle y byddai’r olaf ohonynt wedi ymddangos yn rhestr y llys etholiadol pe bai dim ond un ddeiseb wedi ei chynnig.
Treial deiseb
97 

(1) Rhaid i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gael ei rhoi ar brawf mewn llys agored heb reithgor.
(2) Rhaid i’r swyddog rhagnodedig roi hysbysiad o amser a man y treial yn y dull rhagnodedig, a dim llai na 14 diwrnod cyn diwrnod y treial.
(3) Rhaid i’r treial, cyn belled ag y bo’n ymarferol, gael ei glywed ar bob diwrnod cyfreithlon nes iddo ddod i ben, ond caiff y llys etholiadol ohirio’r treial os yw er budd cyfiawnder i wneud hynny.
(4) Rhaid i’r treial barhau, hyd yn oed os bydd ymatebydd yn ymddiswyddo o’i sedd neu’n cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd, fel bod y sedd yn wag.
(5) Oni bai bod y llys yn cyfarwyddo fel arall, caniateir archwilio unrhyw gyhuddiad o arfer lwgr, a chael tystiolaeth mewn perthynas â’r arfer honno, cyn bod prawf wedi ei ddarparu o alluogedd ar ran unrhyw ymgeisydd mewn cysylltiad â’r arfer lwgr.
(6) Pan fydd deiseb yn cwyno am etholiad neu ddychweliad amhriodol ac yn hawlio sedd i berson, caiff yr ymatebydd roi tystiolaeth i brofi na chafodd y person hwnnw ei ethol yn briodol neu ei fod yn anghymwys i gael ei ddychwelyd yn briodol yn yr un dull â phe bai’r ymatebydd wedi cynnig deiseb yn erbyn ethol neu ddychwelyd y person hwnnw.
(7) Pan fydd yn ymddangos, mewn perthynas â deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd, fod gan ddau neu ragor o ymgeiswyr unigol neu o bleidiau gwleidyddol cofrestredig yr un ffigur dyrannu seddi, ac y byddai ychwanegu pleidlais yn rhoi hawlogaeth i unrhyw un o’r ymgeiswyr unigol hynny neu unrhyw un o ymgeiswyr rhestr plaid y pleidiau hynny gael ei ddatgan ei fod wedi ei ethol, fel y darperir ar ei gyfer yn rheolau etholiadau’r Senedd, yna—
(a) bydd unrhyw benderfyniad o dan y darpariaethau yn rheol 63 o Atodlen 5, i’r graddau y mae’n penderfynu’r cwestiwn ynghylch pwy sy’n cael ei ethol, yn effeithiol hefyd at ddibenion y ddeiseb, a
(b) i’r graddau nad yw’r cwestiwn hwnnw’n cael ei benderfynu gan benderfyniad o’r fath, rhaid i’r llys benderfynu rhwng yr ymgeiswyr unigol neu’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig drwy fwrw coelbren, a bwrw ymlaen fel pe bai’r un y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.
(8) At ddibenion yr erthygl hon, y “ffigur dyrannu seddi” yw’r ffigur a benderfynir yn unol ag adran 8 o Ddeddf 2006.
Tystion
98 

(1) Rhaid i dystion yn nhreial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd gael eu gwysio a thyngu llw yn y treial yn yr un dull ag achosion eraill sy’n cael eu rhoi ar brawf yn yr Uchel Lys.
(2) Caiff y llys etholiadol, drwy orchymyn, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n ymwneud ag etholiad i’r Senedd neu ddychweliad i sedd wag berthnasol fod yn bresennol yn y treial fel tyst.
(3) Mae unrhyw berson sy’n gwrthod cydymffurfio â gorchymyn a ddyroddir o dan baragraff (2) yn euog o ddirmyg llys.
(4) Caiff y llys etholiadol holi unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol fel tyst neu sydd yn y llys er nad yw’r person hwnnw wedi cael ei alw a’i holi gan unrhyw barti i’r ddeiseb.
(5) Caniateir i dyst, ar ôl iddo gael ei holi gan y llys, gael ei groesholi gan neu ar ran y deisebydd a’r ymatebydd, neu’r naill neu’r llall ohonynt.
(6) Caiff y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus—
(a) heb gyfarwyddyd gan y llys, achosi i unrhyw berson sy’n gallu rhoi tystiolaeth berthnasol fod yn bresennol yn y treial, a
(b) gyda chaniatâd y llys, holi’r person hwnnw fel tyst.
Dyletswydd i ateb cwestiynau perthnasol
99 

(1) Ni fydd person sy’n cael ei alw fel tyst gerbron llys etholiadol yn cael ei esgusodi rhag ateb unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud ag unrhyw drosedd sy’n gysylltiedig â’r etholiad i’r Senedd neu’r dychweliad—
(a) ar y sail y gall yr ateb iddo argyhuddo’r person hwnnw neu briod neu bartner sifil y person hwnnw, neu
(b) ar sail braint.
(2) Ac eithrio o ran unrhyw achos troseddol am anudoniaeth, ni fydd ateb gan berson i gwestiwn a ofynnir gan lys etholiadol neu gerbron llys etholiadol yn dderbyniol mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw na phriod neu bartner sifil y person hwnnw.
Treuliau tystion
100 

(1) Caiff y treuliau rhesymol yr eir iddynt gan berson mewn cysylltiad â’i bresenoldeb i roi tystiolaeth yn y treial gael eu caniatáu drwy dystysgrif y llys etholiadol neu swyddog rhagnodedig.
(2) Rhaid i swm y treuliau a ganiateir o dan baragraff (1) fod yn unol â lwfansau a roddir i berson sy’n bresennol mewn treial achos sifil.
(3) Os cafodd y tyst ei alw a’i holi yn rhinwedd erthygl 98(2), rhaid barnu bod y treuliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn rhan o dreuliau darparu llys, ond fel arall bernir eu bod yn gostau’r ddeiseb.
Treial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn dod i ben
101 

(1) Pan ddaw’r treial i ben, rhaid i’r llys etholiadol ddyfarnu—
(a) a gafodd yr aelod neu’r aelodau o’r Senedd, y mae ei ethol neu ei ddychwelyd neu eu hethol neu eu dychwelyd yn destun cwyn, ei ethol neu eu hethol neu ei ddychwelyd neu eu dychwelyd yn briodol,
(b) a ddylai person arall neu bersonau eraill fod wedi cael ei ddatgan wedi ei ethol neu ei ddychwelyd neu eu datgan wedi eu hethol neu eu dychwelyd, neu
(c) a yw ethol yr holl aelodau ar gyfer yr etholaeth honno yn ddi-rym.
(2) Bydd dyfarniad y llys etholiadol yn derfynol ynghylch y materion sy’n bwnc dadl ar y ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
(3) Rhaid i’r llys etholiadol, ar unwaith, dystio’r dyfarniad mewn ysgrifen i Lywydd y Senedd.
(4) Os yw’r barnwyr sy’n ffurfio’r llys etholiadol yn anghytuno ynghylch unrhyw fater y mae’n ofynnol iddynt ddyfarnu yn ei gylch, rhaid iddynt dystio’r anghytuno hwnnw ac, ac eithrio i’r graddau y bo’r barnwyr yn gytûn fel arall, bydd canlyniad yr etholiad yn sefyll.
(5) Rhaid i’r llys etholiadol roi adroddiad i Lywydd y Senedd pan fydd deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn honni bod unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon wedi ei chyflawni mewn etholiad i’r Senedd fel sy’n ofynnol gan erthyglau 110 a 111.
(6) Rhaid i adroddiad sy’n ofynnol gan baragraff (5)—
(a) datgan a oes arferion llwgr neu anghyfreithlon wedi bodoli’n helaeth yn yr etholiad, neu a oes rheswm i gredu bod arferion o’r fath wedi bodoli’n helaeth yn yr etholiad, a
(b) cael ei anfon at Lywydd y Senedd ar yr un pryd âr dyfarniad ysgrifenedig o’r treial.
(7) Caiff y llys etholiadol ar yr un pryd wneud adroddiad arbennig i Lywydd y Senedd yn manylu ar faterion a gododd yn ystod y treial ac a ddylai, ym marn y llys, gael eu cyflwyno i’r Senedd.
(8) Rhaid i bob adroddiad a anfonir at Lywydd y Senedd o dan yr erthygl hon gael ei lofnodi gan ddau farnwr y llys etholiadol, ac os yw’r barnwyr yn anghytuno ynghylch pwnc yr adroddiad, rhaid iddynt dystio’r gwahaniaeth hwnnw ac ni chaniateir iddynt wneud unrhyw adroddiad ar y pwnc y maent yn anghytuno arno.
(9) Rhaid i dystysgrif neu adroddiad llys etholiadol a ddarperir o dan yr erthygl hon gael ei chyhoeddi neu ei gyhoeddi gan Lywydd y Senedd.
Dyfarnu etholiad yn ddi-rym gan y llys etholiadol
102 

(1) Pan fydd y llys etholiadol yn dyfarnu bod yr etholiad yn ddi-rym, yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i Lywydd y Senedd yn union ar ôl i’r dystysgrif ddod i law gan y llys etholiadol—
(a) pennu dyddiad yn unol â pharagraff (2) i gynnal pôl mewn etholiad arall yn etholaeth y Senedd y dyfernir bod yr etholiad ar ei chyfer yn ddi-rym, a
(b) anfon hysbysiad yn unol â pharagraff (4) at y swyddog canlyniadau ar gyfer etholaeth y Senedd lle y cynhaliwyd yr etholiad.
(2) Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i’r dystysgrif ddod i law gan y llys etholiadol.
(3) Ni chaniateir cynnal etholiad os yw’n ymddangos i Lywydd y Senedd y byddai’r dyddiad hwyraf y caniateir ei bennu ar gyfer y pôl yn dod o fewn y cyfnod o 3 mis cyn etholiad cyffredinol i’r Senedd.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)(b)—
(a) datgan bod yr etholiad wedi ei ddyfarnu yn ddi-rym,
(b) ei gwneud yn ofynnol i’r etholiad gael ei gynnal eto er mwyn dychwelyd yr aelodau ar gyfer yr etholaeth honno o’r Senedd, ac
(c) datgan y dyddiad sydd wedi ei bennu ar gyfer y pôl yn yr etholiad.
Achos arbennig i’w ddyfarnu gan yr Uchel Lys
103 

(1) Os bydd unrhyw barti i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn gwneud cais fel a ragnodir i’r Uchel Lys, a’i bod yn ymddangos i’r llys y gellir datgan yn gyfleus fod y ddeiseb yn achos arbennig, caiff y llys gyfarwyddo i’r achos gael ei ddatgan felly.
(2) Rhaid i achos arbennig gael ei glywed gan yr Uchel Lys.
(3) Rhaid i’r Uchel Lys dystio ei benderfyniad ar yr achos arbennig i Lywydd y Senedd, a rhaid i Lywydd y Senedd gyhoeddi unrhyw dystysgrif o’r fath a ddaw i’w law.
(4) Os yw’n ymddangos i’r llys etholiadol adeg treial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd fod ystyriaeth bellach gan yr Uchel Lys yn ofynnol ar gyfer unrhyw gwestiwn cyfreithiol ynghylch derbynioldeb tystiolaeth neu fel arall, caiff y llys etholiadol ohirio rhoi tystysgrif nes bod yr Uchel Lys wedi dyfarnu ar y cwestiwn, ac at y diben hwn caiff gadw’r cwestiwn yn ôl drwy ddatgan achos i gael penderfyniad yr Uchel Lys.
Tynnu deiseb yn ôl
104 

(1) Dim ond gyda chaniatâd y llys etholiadol neu’r Uchel Lys drwy gais arbennig y caniateir tynnu deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn ôl.
(2) Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan baragraff (1) yn y dull rhagnodedig, ar yr amser rhagnodedig ac yn y lle rhagnodedig.
(3) Pan fo mwy nag un deisebydd, ni chaniateir gwneud y cais heb gydsyniad yr holl ddeisebwyr.
(4) Os caiff deiseb ei thynnu’n ôl, bydd y deisebydd yn atebol i dalu costau ymatebydd.
Costau deiseb
105 

(1) Rhaid i holl gostau deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd a’r achos a gynhelir o ganlyniad iddi, a holl gostau sy’n deillio o ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd a’r achos a gynhelir o ganlyniad iddi, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer fel arall gan y Gorchymyn hwn, gael eu talu gan y partïon i’r ddeiseb fel a ddyfernir gan y llys etholiadol neu’r Uchel Lys.
(2) Caniateir gorchymyn i’r costau gael eu talu gan y partïon a aeth i’r costau hynny neu a achosodd y costau hynny, pa un a ydynt ar y cyfan yn llwyddiannus ai peidio, pan fydd—
(a) unrhyw gostau, ym marn y llys, yn cael eu hachosi gan ymddygiad blinderus, honiadau di-sail, neu wrthwynebiadau di-sail ar ran naill ai deisebydd neu ymatebydd, a
(b) unrhyw dreuliau diangen wedi digwydd neu wedi eu hachosi ar ran deisebydd neu ymatebydd.
Esgeuluso neu wrthod talu costau
106 

(1) Caiff yr Uchel Lys ystyried yn ddiffygdalwr unrhyw berson a ymrwymodd i ymrwymiad yn ymwneud â deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd pan fo paragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a) deisebydd wedi esgeuluso neu wedi gwrthod talu unrhyw gostau sydd wedi eu hardystio i’w talu gan y deisebydd i—
(i) tyst a gafodd ei wysio gan y deisebydd, neu
(ii) yr ymatebydd, a
(b) yr esgeuluso neu’r gwrthod—
(i) wedi parhau am gyfnod o 6 mis ar ôl galw am dalu, a
(ii) wedi ei brofi i foddhad yr Uchel Lys o fewn blwyddyn ar ôl galw am dalu.
(3) Pan fo’r erthygl hon yn gymwys—
(a) rhaid i’r swyddog rhagnodedig dystio ar unwaith yr ymrwymiad sydd i’w fforffedu, a
(b) rhaid i’r mater gael ei drin fel pe bai wedi ei fforffedu gan Lys y Goron.
Darpariaeth bellach o ran costau
107 

(1) Caiff y llys etholiadol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), wneud gorchymyn ynghylch y cyfan neu ran o’r costau mewn cysylltiad â threial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd pan fydd yn ymddangos—
(a) na phrofwyd bod arfer lwgr wedi ei chyflawni mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd gan yr ymatebydd i’r ddeiseb neu drwy wybod iddo a chyda’i gydsyniad, a
(b) bod yr ymatebydd wedi cymryd pob cam rhesymol i atal arferion llwgr rhag cael eu cyflawni ar ran yr ymatebydd.
(2) Os profir bod unrhyw berson neu bersonau, pa un ai drwy ddarparu arian neu fel arall, wedi cymryd rhan helaeth mewn arferion llwgr, neu wedi annog neu hybu arferion llwgr helaeth mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd, caiff y llys—
(a) gorchymyn i’r cyfan neu ran o’r costau gael eu talu gan y person hwnnw neu’r personau hynny, a
(b) gorchymyn, os na ellir adennill y costau gan un neu ragor o’r personau hynny, bod rhaid i’r costau gael eu talu gan rywrai eraill o’r personau hynny neu’r naill neu’r llall o’r partïon i’r ddeiseb.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid rhoi cyfle i berson ddangos rheswm pam na ddylai’r gorchymyn costau gael ei wneud drwy—
(a) cael ei gynrychioli yn gyfreithiol, a
(b) holi a chroesholi tystion.
(4) Pan fo’n ymddangos i’r llys etholiadol fod unrhyw berson wedi bod yn euog o arfer lwgr neu anghyfreithlon, caiff y llys orchymyn i’r cyfan neu unrhyw ran o’r costau sy’n ymwneud ag unrhyw achos gerbron y llys mewn perthynas â’r drosedd honno neu mewn perthynas â’r person hwnnw, gael eu talu gan y person hwnnw fel y’i cyfarwyddir gan y llys.
(5) Pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid rhoi cyfle i berson wneud datganiad i ddangos pam na ddylai’r gorchymyn gael ei wneud.
Apelau
108 

(1) Mae’n ofynnol cael caniatâd arbennig yr Uchel Lys cyn y caniateir gwneud cais i apelio yn erbyn penderfyniad gan y llys hwnnw ar unrhyw gwestiwn cyfreithiol, ar apêl neu fel arall, o dan ddarpariaethau blaenorol y Rhan hon.
(2) Pan fo caniatâd i apelio yn cael ei roi, bydd penderfyniad a wneir gan y Llys Apêl yn derfynol ac yn ddiwrthbrawf.
Awdurdodaeth
109 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, rhaid i’r Uchel Lys a’r llys etholiadol yn achos deisebau etholiad ar gyfer etholiadau’r Senedd gadw at yr egwyddorion, yr arferion, a’r rheolau y mae llysoedd etholiad yn gweithredu arnynt wrth ymdrin â deisebau etholiadau seneddol i’r graddau y bo’n briodol gan roi sylw i’r gwahanol system ethol.
(2) Mae gan yr Uchel Lys, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, yr un pwerau, yr un awdurdodaeth a’r un awdurdod mewn cysylltiad â deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd a’r achos yn ei gylch fel pe bai’r ddeiseb yn achos cyffredin o fewn ei awdurdodaeth.
(3) Bydd y dyletswyddau sydd i’w cyflawni mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd gan y swyddog rhagnodedig o dan y Rhan hon yn cael eu cyflawni gan un neu ragor o feistri’r Uwch Lys (Is-adran Mainc y Brenin) fel y caiff yr Arglwydd Brif Ustus ei bennu.
Adroddiad ar euogrwydd person o arfer lwgr neu anghyfreithlon
110 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i adroddiad y llys etholiadol o dan erthygl 101 ddatgan enwau pob person y profwyd yn y treial ei fod wedi bod yn euog o unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon.
(2) Rhaid i’r llys etholiadol achosi i hysbysiad gael ei roi i’r personau a ganlyn cyn iddynt gael eu profi’n euog o unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon, a rhaid cynnwys eu manylion yn yr adroddiad yn unol â pharagraff (1)—
(a) person nad yw’n barti i’r ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd, neu
(b) person nad yw’n ymgeisydd y mae’r ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn hawlio’r sedd ar ei ran.
(3) Pan fydd person yn ymddangos yn unol â’r hysbysiad yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r llys etholiadol roi cyfle i’r person hwnnw gael ei glywed a chaniatáu i’r person hwnnw alw tystiolaeth i amddiffyn pam na ddylai gael ei adrodd yn euog.
(4) Rhaid anfon yr adroddiad at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.
(5) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys pan fo deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn ymwneud â dychweliad sedd wag berthnasol.
Adroddiad ar euogrwydd ymgeisydd o arfer lwgr neu anghyfreithlon
111 

(1) Rhaid i adroddiad llys etholiadol o dan erthygl 101 ddatgan—
(a) pa un a brofwyd neu na phrofwyd bod unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon wedi ei chyflawni gan unrhyw ymgeisydd yn yr etholiad i’r Senedd, neu drwy wybod i unrhyw ymgeisydd yn yr etholiad i’r Senedd a chyda’i gydsyniad,
(b) pa un a yw unrhyw un neu ragor o’r ymgeiswyr yn yr etholiad i’r Senedd wedi bod yn euog, oherwydd gweithredoedd eu hasiantiaid, o unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon mewn perthynas â’r etholiad, ac
(c) natur yr arfer lwgr neu anghyfreithlon.
(2) At ddibenion erthyglau 112 a 113—
(a) os adroddir bod arfer lwgr, ac eithrio tretio neu ddylanwad amhriodol, wedi ei chyflawni drwy wybod i’r ymgeisydd a chyda’i gydsyniad, rhaid trin yr ymgeisydd fel pe adroddir ei fod yn euog yn bersonol o’r arfer lwgr honno, a
(b) os adroddir bod arfer anghyfreithlon wedi ei chyflawni drwy wybod i’r ymgeisydd a chyda’i gydsyniad, rhaid trin yr ymgeisydd fel pe adroddir ei fod yn euog yn bersonol o’r arfer anghyfreithlon honno.
(3) Pan adroddir gan y llys etholiadol fod ymgeisydd yn euog o dretio, dylanwad amhriodol neu unrhyw arfer anghyfreithlon oherwydd gweithredoedd ei asiantiaid, ni chaniateir trin yr ymgeisydd hwnnw at ddibenion erthygl 112 fel ped adroddir ei fod yn euog o’r troseddau a grybwyllir yn yr adroddiad os yw’r llys etholiadol yn adrodd bod yr ymgeisydd wedi profi—
(a) na chyflawnwyd unrhyw arfer lwgr nac anghyfreithlon yn yr etholiad gan yr ymgeisydd nac asiant etholiad yr ymgeisydd, a bod y troseddau a grybwyllir yn yr adroddiad wedi eu cyflawni yn groes i orchmynion yr ymgeisydd ac asiant etholiad yr ymgeisydd a heb gydsyniad nac ymoddefiad yr ymgeisydd nac asiant etholiad yr ymgeisydd,
(b) bod yr ymgeisydd ac asiant etholiad yr ymgeisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i atal cyflawni arferion llwgr ac anghyfreithlon yn yr etholiad,
(c) bod y troseddau a grybwyllir yn yr adroddiad yn fân-droseddau, yn ddibwys, ac yn gyfyngedig eu natur, a
(d) bod yr etholiad ym mhob ffordd arall yn rhydd rhag unrhyw arferion llwgr neu anghyfreithlon ar ran yr ymgeisydd ac asiantiaid yr ymgeisydd.
(4) Bydd cyfeiriadau yn yr erthygl hon at ymgeisydd, asiantiaid yr ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, fel y bo’n briodol, yn gymwys i ymgeisydd rhestr plaid ac asiant neu asiant etholiad y blaid wleidyddol gofrestredig mewn perthynas â’r rhestr a gyflwynir gan y blaid honno ac y mae’r ymgeisydd rhestr plaid hwnnw wedi ei gynnwys arni.
(5) Nid yw’r erthygl hon yn gymwys pan fo deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn ymwneud â dychweliad sedd wag berthnasol.
Canlyniad adrodd bod ymgeisydd yn euog o arfer lwgr neu anghyfreithlon
112 
Pan fydd llys etholiadol yn adrodd bod ymgeisydd etholedig yn euog yn bersonol neu’n euog drwy ei asiantiaid o unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon, bydd etholiad yr ymgeisydd hwnnw’n ddi-rym.
Anghymwysterau yn sgil adrodd yn euog yn bersonol o arfer lwgr neu anghyfreithlon
113 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) ac erthygl 125, bydd ymgeisydd neu berson arall yr adroddir gan lys etholiadol ei fod yn euog yn bersonol o arfer lwgr neu anghyfreithlon o dan y Gorchymyn hwn, yn ystod y cyfnod perthnasol a bennir ym mharagraff (3), yn anghymwys i—
(a) cael ei gofrestru fel etholwr neu bleidleisio mewn unrhyw etholiad i’r Senedd neu etholiad llywodraeth leol yng Nghymru, na
(b) cael ei ethol i’r Senedd neu yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, ac os yw eisoes wedi ei ethol i sedd yn y Senedd neu yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, rhaid iddo adael y sedd neu’r swydd o ddyddiad yr adroddiad.
(2) Nid yw’r anghymwysterau a osodir gan baragraff (1)(a) yn gymwys ond i ymgeisydd neu berson arall yr adroddir ei fod yn euog yn bersonol o arfer lwgr o dan erthygl 13(5) neu 30 neu arfer anghyfreithlon o dan erthygl 31.
(3) At ddiben paragraff (1), y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad yr adroddiad ac yn dod i ben—
(a) yn achos person yr adroddir ei fod yn euog yn bersonol o arfer lwgr, bum mlynedd ar ôl y dyddiad hwnnw, a
(b) yn achos person yr adroddir ei fod yn euog yn bersonol o arfer anghyfreithlon, dair blynedd ar ôl y dyddiad hwnnw.
(4) Mae darpariaethau’r erthygl hon ynghylch canlyniadau’r adroddiad bod ymgeisydd yn euog drwy asiantiaid yr ymgeisydd o arfer lwgr neu anghyfreithlon, yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau datganedig y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â gweithredoedd penodol y datgenir eu bod yn arferion llwgr neu anghyfreithlon.
Ynad heddwch
114 
Pan fo llys etholiadol yn adrodd bod ynad heddwch yn euog o unrhyw arfer lwgr mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd, rhaid i’r llys adrodd am yr achos, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sydd wedi ei rhoi o’r arfer lwgr, i—
(a) yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus, neu
(b) yn achos ynad heddwch i unrhyw ardal yn yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol.
Aelodau’r proffesiwn cyfreithiol a phroffesiynau penodol eraill
115 
Pan fo llys etholiadol yn adrodd bod bargyfreithiwr, adfocad, cyfreithiwr, person awdurdodedig neu unrhyw berson sy’n perthyn i unrhyw broffesiwn y mae mynediad iddo yn cael ei reoleiddio gan y gyfraith, yn euog o unrhyw arfer lwgr mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd—
(a) rhaid i’r llys ddod â’r mater gerbron Ysbyty’r Brawdlys, y Gymdeithas Adfocadau, yr Uchel Lys, y tribiwnlys, neu gorff arall sydd â’r pŵer i weithredu ar unrhyw gamymddwyn gan y person yn y proffesiwn hwnnw, a
(b) caiff Ysbytai’r Brawdlys, y Gymdeithas Adfocadau, yr Uchel Lys, y tribiwnlys neu gorff arall ymdrin â’r person hwnnw fel pe bai’r arfer lwgr yn gamymddwyn yn y proffesiwn hwnnw.
Deiliad trwydded neu dystysgrif o dan Ddeddfau Trwyddedu
116 

(1) Os yw’n ymddangos i lys etholiadol fod person (“P”), sy’n dal trwydded neu dystysgrif o dan y Deddfau Trwyddedu, wedi caniatáu i unrhyw lwgrwobrwyo neu dretio mewn perthynas ag unrhyw etholiad i’r Senedd ddigwydd ar safle trwyddedig P, gan wybod ei fod yn gwneud hynny, rhaid i’r llys—
(a) adrodd am y ffaith, ar ôl rhoi i P yr un hawliau ag a roddir i’r rhai sydd ar fin bod yn destun adroddiad o dan erthygl 110(2), a
(b) dwyn yr adroddiad gerbron yr awdurdod trwyddedu y cafodd P ei drwydded ganddo neu ar sail ei awdurdod, a rhaid i’r awdurdod trwyddedu gofnodi’r adroddiad yn y gofrestr briodol o drwyddedau.
(2) Rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y ffaith bod yr adroddiad wedi ei gofnodi yn y gofrestr honno wrth benderfynu a ddylid adnewyddu trwydded neu dystysgrif P a chaiff fod yn sail dros wrthod adnewyddu os yw’r awdurdod yn meddwl bod hynny’n briodol.
Dirymu etholiad am lygredigaeth gyffredinol
117 

(1) Mae etholiad person yn ddi-rym, ac mae’r person hwnnw’n anghymwys i gael ei ethol i lenwi unrhyw seddi gwag y cynhaliwyd yr etholiad ar eu cyfer os dangosir—
(a) bod gweithred o arfer lwgr neu anghyfreithlon neu daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon wedi ei chyflawni at ddibenion hyrwyddo neu beri etholiad y person hwnnw, a
(b) y gallai’r weithred honno fod wedi effeithio ar ganlyniad yr etholiad.
(2) Os dangosir bod gweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a) yn effeithio ar y pleidleisiau ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig, ymdrinnir â’r weithred honno fel pe bai wedi digwydd at ddiben hyrwyddo neu beri etholiad pob ymgeisydd ar restr y blaid honno, gan arwain at wneud etholiad pob ymgeisydd yn ddi-rym a pheri fod pob ymgeisydd yn anghymwys i sefyll i lenwi unrhyw seddi gwag y cynhaliwyd yr etholiad ar eu cyfer.
(3) Nid yw etholiad yn agored i gael ei ddirymu ac eithrio o dan yr erthygl hon oherwydd llygredigaeth gyffredinol, llwgrwobrwyo, tretio neu fygylu.
Dirymu etholiad am gyflogi asiant llwgr
118 

(1) Mae ymgeisydd yn anghymwys i gael ei ethol i lenwi’r sedd wag y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer os yw’r ymgeisydd hwnnw, neu’r asiant etholiad—
(a) yn cymryd ymlaen yn bersonol fel canfasiwr neu asiant, ar gyfer cynnal neu reoli’r etholiad, berson arall sy’n anghymwys i bleidleisio yn yr etholiad, a
(b) yn gwybod, neu os oes ganddo sail resymol i amau, bod y person hwnnw yn anghymwys i bleidleisio yn yr etholiad.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i’r asiant etholiad ar gyfer ymgeisydd unigol ac asiant etholiad y blaid wleidyddol gofrestredig yr ymddangosodd enw’r ymgeisydd ar ei rhestr plaid.
(3) At ddibenion paragraff (1), mae person yn ddarostyngedig i anghymhwyster i bleidleisio os yw’r person hwnnw’n cael ei euogfarnu am unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon, neu os adroddir ei fod wedi cyflawni unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon, o fewn ystyr—
(a) y Gorchymyn hwn,
(b) Deddf 1983,
(c) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag etholiadau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon neu Senedd yr Alban, neu
(d) Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962.
(4) Mewn perthynas ag ymgeiswyr rhestr plaid, mae’r anghymhwyster a osodir gan baragraff (1) yn gymwys—
(a) pan fo’r asiant etholiad yn cymryd ymlaen y canfasiwr neu’r asiant ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr plaid, neu
(b) pan fo ymgeisydd rhestr plaid yn cymryd ymlaen y canfasiwr neu’r asiant ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw yn unig.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni fernir bod pleidlais wedi ei thaflu ymaith er mwyn rhoi hawlogaeth i ymgeisydd arall gael ei ddatgan wedi ei ethol os rhoddir pleidlais ar gyfer—
(a) ymgeisydd unigol, a oedd ar adeg yr etholiad yn anghymwys i gael ei ethol yn rhinwedd yr erthygl hon, neu
(b) plaid wleidyddol gofrestredig, pan oedd pob ymgeisydd a gynhwyswyd ar restr y blaid adeg yr etholiad yn anghymwys i gael ei ethol yn rhinwedd yr erthygl hon.
(6) Bernir bod pleidlais ym mharagraff (5) wedi ei thaflu ymaith pan gaiff ei rhoi mewn pôl o ganlyniad i benderfyniad llys etholiadol bod yr ymgeisydd yn anghymwys yn y fath fodd.
Pleidleisiau i’w dileu am arferion llwgr neu anghyfreithlon
119 

(1) Pan fydd deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn hawlio’r sedd ar gyfer unrhyw berson, a phan brofir bod ymgeisydd ar ei ben ei hun, neu drwy unrhyw berson ar ei ran, yn euog o lwgrwobrwyo, tretio neu ddylanwad amhriodol mewn cysylltiad ag unrhyw berson a bleidleisiodd yn yr etholiad, rhaid, ar ôl craffu, dileu un bleidlais yn unol â pharagraff (2) ar gyfer pob person a bleidleisiodd yn yr etholiad ac y profir ei fod wedi cael ei lwgrwobrwyo neu ei dretio neu y dylanwadwyd arno yn amhriodol.
(2) Bydd y bleidlais y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn cael ei dileu o nifer y pleidleisiau yr ymddengys eu bod wedi cael eu rhoi i—
(a) yr ymgeisydd unigol, neu
(b) y blaid wleidyddol gofrestredig y mae’r ymgeisydd rhestr plaid yn ymddangos ar ei rhestr plaid.
(3) Bydd pleidlais gan berson mewn etholiad i’r Senedd yn ddi-rym os yw’r person hwnnw yn euog o arfer lwgr neu anghyfreithlon neu o wneud taliad anghyfreithlon, neu o gyflogi neu hurio yn anghyfreithlon.
(4) Bydd pleidlais gan berson mewn etholiad i’r Senedd yn ddi-rym os yw’r person hwnnw yn ddarostyngedig i anghymhwyster i bleidleisio oherwydd arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan unrhyw ddeddfiad mewn—
(a) etholiad i’r Senedd,
(b) etholiad i Dŷ’r Cyffredin,
(c) etholiad i Senedd yr Alban,
(d) etholiad i Gynulliad Gogledd Iwerddon,
(e) etholiad llywodraeth leol, neu
(f) etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Cais am ryddhad
120 

(1) Caniateir gwneud cais am ryddhad o dan yr erthygl hon i—
(a) yr Uchel Lys,
(b) llys etholiadol, neu
(c) llys sirol pan fydd mewn perthynas â thaliad a wneir gan dorri erthygl 51(1) neu (2) (amser i anfon hawliadau i mewn a’u talu).
(2) Rhaid i ymgeisydd hysbysu’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus am y cais.
(3) Caiff y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, neu gynorthwyydd neu gynrychiolydd i’r Cyfarwyddwr, fod yn bresennol yn y gwrandawiad a chyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r cais.
(4) Caiff y llys wneud gorchymyn i esemptio gweithred neu anweithred a fyddai fel arall, o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn arfer neu’n daliad anghyfreithlon, neu yn gyflogi neu’n hurio anghyfreithlon—
(a) os oes digon o dystiolaeth—
(i) y byddai’r weithred neu’r anweithred gan unrhyw berson, oni bai am yr erthygl hon, yn arfer neu’n daliad anghyfreithlon, neu yn gyflogi neu’n hurio anghyfreithlon,
(ii) bod y weithred neu’r anweithred a gododd wedi digwydd yn anfwriadol neu drwy amryfusedd, a heb ddigwydd drwy annidwylledd sut bynnag, a
(iii) bod hysbysiad o’r cais wedi ei roi, fel y gwêl y llys yn dda, yn etholaeth y Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer, a
(b) os yw’n ymddangos i’r llys ei bod yn gyfiawn, o dan yr amgylchiadau, na ddylai unrhyw berson fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r canlyniadau o dan y Gorchymyn hwn am y weithred neu’r anweithred.
(5) Pan fydd y llys yn rhoi gorchymyn o dan baragraff (4), ni fydd unrhyw berson yn ddarostyngedig i unrhyw ganlyniadau o dan y Gorchymyn hwn am y weithred neu’r anweithred.
Erlyniadau am arferion llwgr
121 

(1) Mae person sy’n euog o arfer lwgr yn agored—
(a) ar euogfarn ar dditiad—
(i) am arfer lwgr o dan erthygl 13(5) neu 30, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd neu i ddirwy, neu’r ddau;
(ii) mewn unrhyw achos arall, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na blwyddyn neu i ddirwy, neu’r ddau;
(b) ar euogfarn ddiannod, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 6 mis neu i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu’r ddau.
(2) Pan gyflawnir trosedd ar ôl cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(b) at 6 mis i’w gymryd fel cyfeiriad at 51 wythnos.
(3) Pan fydd person sy’n dal trwydded neu dystysgrif o dan y Deddfau Trwyddedu yn cael euogfarn am drosedd llwgrwobrwyo neu dretio, a bod y drosedd honno wedi ei chyflawni ar safle trwyddedig y person hwnnw, rhaid i’r llys gyfarwyddo i’r euogfarn gael ei chofnodi yn y gofrestr briodol o drwyddedau.
(4) Ar ôl i’r euogfarn gael ei chofnodi yn y gofrestr briodol o drwyddedau, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ystyried y cofnod hwnnw wrth ddyfarnu a ddylid adnewyddu’r drwydded neu’r dystysgrif ai peidio, a chaiff fod yn sail i wrthod ei hadnewyddu.
Erlyniadau am arferion anghyfreithlon
122 

(1) Mae person sy’n euog o arfer anghyfreithlon yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Wrth erlyn am arfer anghyfreithlon, bydd yn ddigon honni bod y person a gyhuddir yn euog o arfer anghyfreithlon.
Euogfarn am arfer anghyfreithlon ar gyhuddiad o arfer lwgr
123 

(1) Caniateir cael person sydd wedi ei gyhuddo o arfer lwgr yn euog o arfer anghyfreithlon, os yw’r amgylchiadau’n cyfiawnhau canfyddiad o’r fath.
(2) Mae euogfarn am drosedd o dan baragraff (1), at y diben hwnnw, yn drosedd dditiadwy.
(3) Caniateir cael person sydd wedi ei gyhuddo o arfer anghyfreithlon yn euog o’r drosedd honno er bod y weithred a oedd yn drosedd yn gyfystyr ag arfer lwgr.
Anghymwysterau ar euogfarn am arfer lwgr neu anghyfreithlon mewn etholiad i’r Senedd
124 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person (“P”) sydd wedi ei euogfarnu o arfer lwgr neu anghyfreithlon yn anghymwys yn ystod y cyfnod perthnasol i gael—
(a) ei gofrestru fel etholwr neu bleidleisio mewn unrhyw etholiad i’r Senedd neu etholiad llywodraeth leol yng Nghymru, neu
(b) ei ethol i’r Senedd neu i awdurdod lleol yng Nghymru, ac os yw eisoes wedi ei ethol i sedd yn y Senedd neu yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, rhaid i P adael y sedd neu’r swydd yn unol â pharagraffau (5) a (6).
(2) Pan fydd paragraff (1)(b) yn gymwys i P ac adeg euogfarn P, fod P eisoes wedi ei ethol i sedd yn y Senedd neu ei fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, rhaid i P–—
(a) gadael y sedd neu’r swydd yn unol â pharagraffau (5) a (6), a
(b) cael ei atal dros dro rhag cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau P fel aelod o’r Senedd, neu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd y cafodd P ei ethol iddi, yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (8).
(3) Nid yw’r anghymhwyster a osodir gan baragraff (1)(a) yn gymwys ond i berson sydd wedi ei euogfarnu o—
(a) arfer lwgr o dan erthygl 13(5) neu 30, neu
(b) arfer anghyfreithlon o dan erthygl 31.
(4) At ddiben paragraff (1), y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad yr euogfarn ac yn dod i ben—
(a) yn achos person sydd wedi ei euogfarnu o arfer lwgr, bum mlynedd ar ôl y dyddiad hwnnw,
(b) yn achos person sydd wedi ei euogfarnu o arfer anghyfreithlon, dair blynedd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu
(c) os bydd llys yn dyfarnu ar apêl na ddylid cadarnhau’r euogfarn, y dyddiad hwnnw yn lle hynny.
(5) Pan fo paragraff (2)(a) yn gymwys, rhaid i P adael y sedd neu’r swydd dan sylw—
(a) ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig y caniateir rhoi hysbysiad apêl ynddo, neu y caniateir gwneud cais am ganiatâd i apelio ynddo, mewn cysylltiad â’r euogfarn, neu
(b) os estynnir y cyfnod hwnnw, y cynharaf o—
(i) diwedd y cyfnod estynedig, neu
(ii) diwedd 3 mis sy’n dechrau â dyddiad yr euogfarn.
(6) Os rhoddir hysbysiad apêl neu os gwneir cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (5), rhaid i P adael y sedd neu’r swydd 3 mis ar ôl dyddiad yr euogfarn oni bai—
(a) y gwrthodir neu y rhoddir y gorau i apêl ar unrhyw ddyddiad cynharach, ac os felly rhaid i’r person adael y sedd neu’r swydd ar y dyddiad y gwrthodir neu y rhoddir y gorau i’r apêl, neu
(b) bod y llys, yn ystod y cyfnod o 3 mis, yn penderfynu na ddylid cadarnhau’r euogfarn, yna ni fydd y sedd neu’r swydd yn cael ei gadael gan y person hwnnw.
(7) Pan fo P yn gadael sedd neu swydd yn unol â pharagraff (5) neu (6), ni all P ailgymryd y sedd neu’r swydd os yw dyfarniad dilynol y llys yn canfod na ddylid cadarnhau’r euogfarn.
(8) Mae’r cyfnod y bydd P wedi ei atal dros dro ar ei gyfer, at ddiben paragraff (2)(b), yn dechrau ar ddyddiad yr euogfarn ac yn dod i ben ar—
(a) y dyddiad y daw’r sedd neu’r swydd yn wag yn unol â pharagraff (5) neu (6), neu
(b) pan fo paragraff (6)(b) yn gymwys, y dyddiad y mae’r llys yn dyfarnu na ddylid cadarnhau’r euogfarn.
(9) Mae unrhyw anghymhwyster neu ofyniad arall sy’n gymwys i berson yn rhinwedd paragraffau (1), (2) ac (8) yn gymwys yn ychwanegol at unrhyw ddedfryd neu gosb a osodir o dan erthygl 121 neu 122, yn ddarostyngedig i erthygl 125.
Lliniaru a dileu anghymwysterau
125 

(1) Caiff y llys orchymyn bod anghymhwyster o dan erthygl 124 yn dod i ben pan fo—
(a) person (“P”) yn ddarostyngedig i’r anghymhwyster yn rhinwedd adroddiad gan lys etholiadol, a
(b) P, neu berson arall y gosodwyd yr anghymhwyster mewn cysylltiad â’i weithredoedd, yn agored i erlyniad ond yn cael ei ryddfarnu am unrhyw faterion a arweiniodd at osod yr anghymhwyster.
(2) Pan fydd P eisoes yn ddarostyngedig i anghymhwyster yn rhinwedd adroddiad gan y llys etholiadol, ac o’i erlyn bod P yn cael ei euogfarnu o unrhyw faterion y gosodwyd yr anghymhwyster mewn perthynas â hwy—
(a) ni chaniateir gosod unrhyw anghymhwyster pellach oherwydd yr euogfarn, a
(b) mae gan y llys bŵer cyffelyb i liniaru neu ddileu’r anghymhwyster ar gyfer y dyfodol, i’r graddau y mae wedi ei osod gan erthygl 113 mewn cysylltiad â’r materion y mae P wedi ei euogfarnu ohonynt, fel pe bai’r anghymhwyster wedi ei osod oherwydd yr euogfarn.
(3) Wrth arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (1) a (2), rhaid i lys wneud gorchymyn yn datgan sut mae’r anghymwysterau a osodir yn rhinwedd adroddiad y llys etholiadol yn parhau heb eu heffeithio gan y broses o arfer y pwerau hynny.
(4) Bydd gorchymyn a wneir o dan baragraff (3) yn ddiwrthbrawf at bob diben.
(5) Pan fydd P wedi ei euogfarnu o arfer lwgr neu anghyfreithlon a phan fydd y llys etholiadol wedi hynny yn adrodd ei fod yn euog o’r arfer honno, ni chaniateir gosod unrhyw anghymhwyster pellach ar P o dan erthygl 113 oherwydd yr adroddiad.
(6) Pan fydd P yn ddarostyngedig i unrhyw anghymhwyster yn rhinwedd adroddiad gan y llys etholiadol neu euogfarn, a bod tyst a roddodd dystiolaeth yn erbyn P yn yr achos yn cael ei euogfarnu o anudoniaeth mewn cysylltiad â’r dystiolaeth honno—
(a) caiff P wneud cais i’r Uchel Lys, a
(b) caiff y llys orchymyn i’r anghymhwyster ddod i ben ar unwaith os yw’n fodlon bod adroddiad y llys etholiadol neu’r euogfarn yn seiliedig ar anudoniaeth.
Taliadau neu gyflogaeth anghyfreithlon
126 

(1) Mae ymgeisydd neu asiant etholiad sy’n euog yn bersonol o drosedd o daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon yn euog o arfer anghyfreithlon.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Wrth erlyn trosedd o’r fath, mae’n ddigonol i honni bod y person a gyhuddir yn euog o daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon.
(4) Caniateir cael unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon yn euog o’r drosedd honno, er bod y weithred a oedd yn drosedd yn gyfystyr ag arfer lwgr neu anghyfreithlon.
Terfyn amser ar gyfer erlyniadau
127 

(1) Rhaid i achosion mewn cysylltiad â throsedd o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn gychwyn o fewn 12 mis ar ôl cyflawni’r drosedd.
(2) O ran unrhyw achos o dan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, mewn cysylltiad â throseddau o dan y Gorchymyn hwn, mae’r terfyn amser a bennir ym mharagraff (1) yn cael ei amnewid am unrhyw gyfyngiad amser o dan y Ddeddf honno.
(3) At ddiben yr erthygl hon, bernir bod yr achos yn cychwyn adeg cyflwyno hysbysiaeth.
(4) Caiff llys ynadon ymestyn y terfyn amser o dan baragraff (1) ond heb fod yn fwy na 24 mis ar ôl cyflawni’r drosedd os yw wedi ei fodloni, ar gais gan gwnstabl neu Erlynydd y Goron—
(a) bod amgylchiadau eithriadol sy’n cyfiawnhau caniatáu’r cais, a
(b) na fu unrhyw oedi amhriodol wrth ymchwilio i’r drosedd y mae’r cais yn ymwneud â hi.
(5) Os yw llys ynadon yn gweithredu o dan baragraff (4), caiff hefyd wneud gorchymyn o dan baragraff (6) os yw wedi ei fodloni, ar gais gan gwnstabl neu Erlynydd y Goron, y gall dogfennau sydd wedi eu cadw gan y swyddog cofrestru yn unol â rheol 70 o Atodlen 5 (cadw a dinistrio dogfennau a anfonir at swyddog cofrestru perthnasol) ddarparu tystiolaeth yn ymwneud â’r drosedd.
(6) Mae gorchymyn o dan y paragraff hwn yn orchymyn sy’n—
(a) cyfarwyddo’r swyddog cofrestru na chaiff achosi i’r dogfennau gael eu dinistrio pan ddaw’r cyfnod o flwyddyn a grybwyllir yn rheol 70 o Atodlen 5 i ben, a
(b) ymestyn y cyfnod cadw am gyfnod pellach heb fod yn hwy na 12 mis, fel a bennir yn y gorchymyn.
(7) Nid yw gwneud gorchymyn o dan baragraff (6) yn effeithio ar unrhyw bŵer arall i’w gwneud yn ofynnol cadw’r dogfennau.
(8) Rhaid gwneud cais o dan yr erthygl hon dim hwyrach na 12 mis ar ôl cyflawni’r drosedd.
(9) Caiff parti i gais o dan baragraff (4) neu (5) sydd wedi ei dramgwyddo gan wrthodiad y llys ynadon i weithredu neu wneud gorchymyn, apelio i Lys y Goron.
Erlyn troseddau a gyflawnir y tu allan i’r Deyrnas Unedig
128 
Caniateir dwyn achos mewn cysylltiad â throsedd o dan y Gorchymyn hwn yr honnir iddi gael ei chyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig gan un o ddinasyddion y Gymanwlad neu un o ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon neu un o ddinasyddion perthnasol yr Undeb, a chaniateir ymdrin â’r drosedd at bob diben sy’n deillio o hynny fel pe bai wedi ei chyflawni mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Troseddau gan gymdeithasau neu gorff o bersonau
129 

(1) Pan fo trosedd a bennir ym mharagraff (2) wedi ei chyflawni gan unrhyw gymdeithas neu gorff o bersonau, yn gorfforedig neu’n anghorfforedig, yna mae aelodau’r gymdeithas neu’r corff sydd wedi cymryd rhan yng nghyflawni’r drosedd yn agored i unrhyw ddirwy neu gosb a osodir gan y Gorchymyn hwn.
(2) Y troseddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) unrhyw arfer lwgr neu anghyfreithlon neu unrhyw daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon, neu
(b) unrhyw drosedd o dan erthygl 78 (enw a chyfeiriad yr argraffydd ar gyhoeddiadau etholiad).
Tystiolaeth drwy dystysgrif swyddog canlyniadau
130 

(1) Bydd tystysgrif gan y swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd a bennir ym mharagraff (2), yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a nodir ynddi at y dibenion a ganlyn—
(a) unrhyw erlyniad am arfer lwgr neu anghyfreithlon, neu am unrhyw daliad neu gyflogaeth anghyfreithlon, a
(b) unrhyw achos am gosb o dan erthygl 59 (cosb am eistedd neu bleidleisio pan na ddanfonwyd ffurflen a datganiadau etc.).
(2) Y tystysgrifau yw’r rhai sy’n tystio—
(a) bod yr etholiad a grybwyllir yn y dystysgrif wedi ei gynnal yn briodol, a
(b) bod y person a enwir yn y dystysgrif yn ymgeisydd yn yr etholiad.
Tystiolaeth drwy dystysgrif cofrestru etholiadol
131 

(1) Bydd tystysgrif swyddog cofrestru bod person wedi ei gofrestru’n briodol neu heb ei gofrestru’n briodol, neu y bu wedi ei gofrestru’n briodol neu na fu wedi ei gofrestru’n briodol yng nghofrestr y swyddog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfeiriad, yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a nodir ynddi.
(2) Bydd dogfen sy’n honni ei bod yn dystysgrif o’r fath yn cael ei derbyn fel tystiolaeth a rhagdybir ei bod yn dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
132 

(1) Pan fydd yn cael gwybodaeth bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn wedi ei chyflawni, rhaid i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wneud ymholiadau a chychwyn unrhyw erlyniadau fel sy’n ofynnol yn ôl amgylchiadau’r achos.
(2) Caiff y Cyfarwyddwr fod yn bresennol yn nhreial pob deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd, a rhaid iddo fod yn bresennol pan ofynnir felly gan y llys etholiadol.
(3) At ddiben paragraff (2), caiff y Cyfarwyddwr fod yn bresennol yn y treial naill ai’n bersonol neu drwy gynorthwyydd neu gynrychiolydd fel y’i henwebir o dan baragraff (4).
(4) Caiff y Cyfarwyddwr enwebu bargyfreithiwr, cyfreithiwr, neu berson awdurdodedig i fod yn gynrychiolydd at ddibenion y Rhan hon.
(5) Mae’r Cyfarwyddwr, y cynorthwyydd neu’r cynrychiolydd i gael unrhyw lwfansau ar gyfer treuliau y caiff y Trysorlys eu cymeradwyo at ddiben y Rhan hon, ac eithrio ar gyfer dyletswyddau cyffredinol o dan baragraff (1).
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), bydd y costau yr eir iddynt i dalu’r treuliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yn cael eu talu gan y Trysorlys a bernir eu bod yn dreuliau’r llys etholiadol.
(7) Os yw’n ymddangos i’r llys ei bod yn gyfiawn gwneud hynny am unrhyw achos rhesymol, caiff y llys orchymyn i’r holl gostau yr eir iddynt i dalu’r treuliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5), neu ran ohonynt, gael eu had-dalu i’r Trysorlys gan y partïon i’r ddeiseb, neu unrhyw rai ohonynt a gyfarwyddir gan y llys.
Costau
133 

(1) Bydd rheolau Uwchlysoedd Cymru a Lloegr mewn cysylltiad â chostau sydd i’w caniatáu mewn achosion a materion yn yr Uchel Lys, i’r graddau y bo’n ymarferol, yn gymwys i gostau deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd ac achosion eraill o dan y Rhan hon.
(2) Ni chaiff y costau a ganiateir mewn cysylltiad ag unrhyw ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd fod yn uwch na’r costau a fyddai’n cael eu caniatáu mewn unrhyw achos neu fater yn yr Uchel Lys ar sail safonol.
(3) Pan orchmynnir gan lys etholiadol neu fel arall o dan y Rhan hon i unrhyw gostau neu symiau gael eu talu gan unrhyw berson, caniateir adennill y costau neu’r symiau hynny yn unol â hynny ac—
(a) byddant yn daladwy gan y person hwnnw i’r person y maent i’w talu iddo, neu
(b) os ydynt yn daladwy i’r Trysorlys, byddant yn ddyled sy’n ddyledus i’w Fawrhydi.
Cyflwyno hysbysiadau
134 

(1) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad, unrhyw broses gyfreithiol neu unrhyw ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno i unrhyw berson at ddibenion y Rhan hon—
(a) drwy ei ddanfon neu ei danfon at y person hwnnw,
(b) drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw yn etholaeth y Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer,
(c) drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post drwy lythyr cofrestredig neu wasanaeth danfon cofnodedig i gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw yn etholaeth y Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer, neu
(d) os yw’n ymwneud ag achos gerbron unrhyw lys, yn y dull a gyfarwyddir gan y llys.
(2) Wrth brofi y cyflwynwyd drwy’r post o dan yr erthygl hon, bydd yn ddigonol profi bod y llythyr wedi ei ragdalu, wedi ei gyfeirio’n briodol, ac wedi ei gofrestru neu ei gofnodi gyda’r gweithredwr post (o fewn ystyr “postal operator” yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011).
Cyfrifo amser at ddibenion Rhan 4
135 
Mae erthygl 38 (cyfrifo amser at ddibenion Rhan 3) yn gymwys wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o amser at ddibenion y Rhan hon fel y mae’n gymwys at ddibenion Rhan 3.
RHAN 5 Amrywiol ac atodol
Hysbysebion
136 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 yn cael effaith mewn perthynas ag arddangos, ar unrhyw safle yng Nghymru, hysbyseb sy’n ymwneud yn benodol ag etholiad i’r Senedd fel y mae’r Rheoliadau hynny’n cael effaith mewn perthynas ag arddangos hysbyseb sy’n ymwneud yn benodol ag etholiad seneddol.
Etholaethau’r Senedd nad ydynt yn gyfan gwbl o fewn sir neu fwrdeistref sirol
137 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan na fo etholaeth Senedd yn gyd-derfynol â sir neu fwrdeistref sirol, neu pan na fo’n gyfan gwbl o fewn sir neu fwrdeistref sirol.
(2) Rhaid i’r swyddog cofrestru ar gyfer unrhyw ran o etholaeth Senedd ymgynghori â’r swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholaeth honno ynghylch ffurf—
(a) y gofrestr,
(b) y rhestrau etholwyr, neu
(c) y rhestr o bleidleiswyr drwy’r post, y rhestr o ddirprwyon neu’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy,
er mwyn sicrhau eu bod ar ffurf debyg i’r rhai a ddefnyddir mewn lleoedd eraill yn yr etholaeth.
(3) Rhaid i’r swyddog cofrestru ar gyfer unrhyw ran o etholaeth Senedd gyflenwi i’r swyddog canlyniadau, ar ôl eu cwblhau, gopi o’r rhestrau a luniwyd o dan erthyglau 8 a 10(8).
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan yw’r swyddog cofrestru ar gyfer yr etholaeth yr un person â’r swyddog canlyniadau ar ei chyfer.
Hygyrchedd dogfennau penodol
138 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw ddogfen, ar wahân i’r papur enwebu a’r papur pleidleisio, y mae’n ofynnol ei rhoi neu yr awdurdodir ei rhoi i bleidleiswyr, neu ei harddangos mewn unrhyw le at ddiben etholiad i’r Senedd, gan y Gorchymyn hwn.
(2) O ran person y mae’n ofynnol iddo roi neu arddangos y ddogfen neu yr awdurdodir iddo roi neu arddangos y ddogfen, rhaid iddo roi, arddangos neu roi ar gael fel arall ar unrhyw ffurf briodol—
(a) y ddogfen mewn Braille;
(b) y ddogfen mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg;
(c) dulliau graffig a chlywedol o gynrychioli’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen;
(d) moddau eraill o wneud yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen yn hygyrch i bersonau y mae’n bosibl na fyddai ganddynt fynediad rhesymol at yr wybodaeth fel arall.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd achosi i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio yn yr etholiad.
(4) O ran y copi sampl a grybwyllir ym mharagraff (3)—
(a) rhaid i’r geiriau a ganlyn fod wedi eu hargraffu, ar y brig ac yn union o dan y rhestr o ymgeiswyr, “PLEIDLEISIWCH UNWAITH YN UNIG AR Y PAPUR PLEIDLEISIO. PEIDIWCH Â RHOI UNRHYW FARC ARALL AR Y PAPUR PLEIDLEISIO NEU MAE’N BOSIBL NA CHAIFF EICH PLEIDLAIS EI CHYFRIF” a “VOTE ONLY ONCE ON THE BALLOT PAPER. PUT NO OTHER MARK ON THE BALLOT PAPER OR YOUR VOTE MAY NOT BE COUNTED”;
(b) caiff gynnwys, islaw’r ail dro y mae’r geiriau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn digwydd, gyfieithiad o’r geiriau hynny i unrhyw ieithoedd eraill y mae swyddog canlyniadau’r etholaeth yn ystyried ei bod yn briodol.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd ddarparu, yn yr orsaf bleidleisio y mae’n gyfrifol amdani, gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n gweld yn rhannol.
(6) Rhaid i’r copi sampl a grybwyllir ym mharagraffau (3) a (5) gael ei farcio’n glir fel sbesimen na ddarperir ond i roi arweiniad i bleidleiswyr.
Ffurfiau: cyffredinol
139 

(1) Caniateir defnyddio’r ffurfiau a nodir yn y Gorchymyn hwn, ar wahân i’r papur pleidleisio sydd i’w ddefnyddio mewn etholiadau a nodir yn Atodlen 10, gydag unrhyw amrywiadau y gall fod eu hangen o dan yr amgylchiadau.
(2) Heb ragfarnu’r pŵer a roddir gan baragraff (1), pan fo unrhyw ffurf y mae’r paragraff hwnnw yn gymwys iddi wedi ei nodi yn Saesneg yn gyntaf ac yna yn Gymraeg, caniateir amrywio’r ffurflen honno—
(a) fel bod y rhannau Cymraeg a Saesneg wedi eu cyfuno, neu
(b) fel ei bod wedi ei nodi yn Gymraeg yn gyntaf ac yna yn Saesneg.
(3) Pan fo’n ofynnol i unrhyw berson gwblhau ffurf y cyfeirir ati ym mharagraff (2), caniateir cwblhau ffurf o’r fath yn ddilys naill ai yn y rhannau Cymraeg neu yn y rhannau Saesneg.
Hysbysiadau cyhoeddus a datganiadau
140 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran hysbysiad cyhoeddus y mae’n ofynnol gan neu o dan y Gorchymyn hwn ei roi gan swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd, rhaid ei roi drwy gyhoeddi’r hysbysiad—
(a) ar-lein, a
(b) mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Wrth roi hysbysiad cyhoeddus yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod cynnwys y ddogfen yn cael ei ddwyn i sylw’r cyhoedd.
(3) Pan fo’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi gwneud datganiad gerbron person, caniateir i’r person hwnnw gymryd y datganiad hwnnw.
Ceisiadau, hysbysiadau a llofnodion electronig
141 

(1) Mae’r gofyniad yn y Gorchymyn hwn fod rhaid i unrhyw gais, hysbysiad, tystysgrif, sylw neu wrthwynebiad fod mewn ysgrifen wedi ei fodloni, ar wahân i ystyr arferol yr ymadrodd hwnnw,—
(a) pan fo’r testun ynddo wedi ei drosglwyddo drwy ddulliau electronig,
(b) pan fo’r testun ynddo wedi dod i law ar ffurf ddarllenadwy, ac
(c) pan fo modd defnyddio’r testun ynddo ar gyfer cyfeirio ato yn y dyfodol.
(2) Mae’r gofyniad yn y Gorchymyn hwn i gais, hysbysiad, tystysgrif, sylw neu wrthwynebiad gael ei lofnodi wedi ei fodloni, fel dewis arall i lofnod a roddir â llaw,—
(a) pan fo llofnod electronig wedi ei ymgorffori mewn cyfathrebiad electronig penodol, neu wedi ei gysylltu yn rhesymegol ag ef, a
(b) pan fo llofnod o’r fath wedi ei ardystio gan unrhyw berson.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae llofnod electronig yn cynnwys unrhyw beth ar ffurf electronig sy’n honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad yn wir, bod y cyfathrebiad yn gyflawn, neu’r ddau.
(4) Mae llofnod electronig a wneir yn unol â pharagraffau (2) a (3) wedi ei ardystio gan unrhyw berson os yw’r person hwnnw, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfathrebiad gael ei wneud, wedi gwneud datganiad yn cadarnhau bod—
(a) y llofnod,
(b) modd o lunio, cyfleu neu wirhau’r llofnod, neu
(c) gweithdrefn a gymhwysir i’r llofnod,
naill ai yn unigol neu ar y cyd â ffactorau eraill, yn fodd dilys o sefydlu bod y cyfathrebiad yn wir, bod y cyfathrebiad yn gyflawn, neu’r ddau.
Cyhoeddi ac edrych ar ddogfennau
142 

(1) Nid yw unrhyw fethiant i gyhoeddi dogfen yn unol â’r Gorchymyn hwn yn annilysu’r ddogfen, ond nid yw’r ddarpariaeth hon yn rhyddhau unrhyw berson o unrhyw gosb am fethiant o’r fath.
(2) Pan fo dogfen wedi ei rhoi ar gael i edrych arni, oni bai bod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn yn darparu fel arall, caiff unrhyw berson wneud copi, pa un ai mewn llawysgrifen neu drwy foddau eraill, o’r ddogfen gyfan neu unrhyw ran ohoni.
Ymyrryd â hysbysiadau etc.
143 
Mae unrhyw berson sydd, heb awdurdod cyfreithlon, yn dinistrio, yn anffurfio, yn difwyno neu’n tynnu ymaith unrhyw hysbysiad sydd wedi ei gyhoeddi gan swyddog cofrestru mewn cysylltiad â’i ddyletswyddau cofrestru o dan y Gorchymyn hwn, neu unrhyw gopïau o ddogfen sydd wedi eu rhoi ar gael i edrych arnynt yn unol â’r dyletswyddau hynny, yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Mangreoedd a ddefnyddir at ddibenion etholiad
144 
Mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru, mae adran 65(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn cael effaith—
(a) fel pe bai’r cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus i hybu ymgeisyddiaeth person mewn etholiad seneddol neu etholiad llywodraeth leol yn cynnwys cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus sy’n hyrwyddo canlyniad penodol mewn etholiad i’r Senedd, a
(b) fel pe bai’r cyfeiriad at ddefnyddio ystafell gan swyddog canlyniadau at ddiben cynnal y pôl mewn etholiad seneddol neu etholiad llywodraeth leol yn cynnwys cyfeiriad at ddefnyddio ystafell gan swyddog canlyniadau at ddiben cynnal y pôl mewn etholiad i’r Senedd yn unol ag Atodlen 5 i’r Gorchymyn hwn.
Diddymu’r Senedd
145 
Yr isafswm cyfnod at ddiben cyfrifo’r “minimum period” yn adran 3(2)(a) o Ddeddf 2006 yw cyfnod o 21 o ddiwrnodau, a gyfrifir yn unol â rheol 2 o Atodlen 5.
Diwygiadau canlyniadol
146 
Mae Atodlen 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2025
ATODLEN 1
Pleidleisio absennol yn etholiadau’r Senedd
Erthygl 14(2)
Gofynion cyffredinol ar gyfer ceisiadau am bleidlais absennol
1 

(1) Rhaid i geisiadau o dan erthygl 6 (pleidlais absennol yn etholiadau’r Senedd ar gyfer cyfnod penodol neu amhenodol), 7 (pleidlais absennol mewn etholiad penodol i’r Senedd), 9 (dirprwyon yn etholiadau’r Senedd) neu 10 (pleidleisio fel dirprwy yn etholiadau’r Senedd) ddatgan—
(a) enw llawn y ceisydd,
(b) ac eithrio yn achos cais o dan erthygl 10(4) (cais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy) a (7) (cais i bapur pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol i’r hyn a ddangosir yn y cofnod), y cyfeiriad y mae’r ceisydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef, neu y mae wedi gwneud cais i gael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef, neu y mae’n cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais i gael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef, yn y gofrestr etholwyr,
(c) yn achos cais o dan erthygl 10, cyfeiriad y dirprwy, ynghyd ag enw’r etholwr y bydd y dirprwy yn gweithredu ar ei ran fel dirprwy, a chyfeiriad yr etholwr at ddibenion paragraff (b),
(d) yn achos cais i bleidleisio drwy’r post, y cyfeiriad y mae’r papur pleidleisio i’w anfon iddo,
(e) yn achos cais i bleidleisio drwy ddirprwy, ar ba sail y mae’r etholwr yn honni bod ganddo hawlogaeth i bleidlais absennol,
(f) yn achos person nad yw’n gallu darparu llofnod, y rhesymau dros gais y ceisydd i hepgor unrhyw ofyniad o dan erthygl 6, 7, 8 neu 10 i ddarparu llofnod, ac enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd wedi cynorthwyo i gwblhau’r cais, ac
(g) pan fo gan y ceisydd gofnod dienw, neu pan fo wedi gwneud cais am gofnod dienw, y ffaith honno.
(2) Rhaid i’r cais gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo fod yn ddyddiedig.
(3) Pan fo’n ofynnol i gais gynnwys llofnod a dyddiad geni, er mwyn gallu ei sganio’n electronig i’r cofnod, rhaid ffurfweddu’r wybodaeth hon fel a ganlyn—
(a) rhaid i’r llofnod ymddangos yn erbyn cefndir o bapur gwyn heb linellau, sy’n bum centimetr o hyd ac yn ddau gentimetr o uchder o leiaf, a
(b) rhaid nodi dyddiad geni’r ceisydd mewn rhifau, wedi ei ffurfweddu yn y drefn: dyddiad, mis, blwyddyn, sef [d][d] [m][m] [b][b][b][b].
(4) Pan fo’r cais yn gofyn bod y swyddog cofrestru yn hepgor gofyniad ynglŷn â llofnod, ni fydd is-baragraff (3)(a) yn gymwys.
(5) O ran cais a wneir—
(a) o dan erthygl 6(1), 9(6) neu 10(4)(a), naill ai am gyfnod amhenodol neu am y cyfnod a bennir yn y cais, neu
(b) o dan erthygl 7(1), (2), (3), (4), 9(7) neu 10(7), ar gyfer etholiad penodol i’r Senedd,
rhaid iddo ddatgan ar gyfer pa gyfnod y mae’n cael ei wneud, ond pan fo’r pôl ar gyfer etholiad i’r Senedd yn syrthio ar yr un diwrnod â’r pôl mewn etholiad arall, caniateir defnyddio’r un cais ar gyfer y ddau etholiad.
(6) Pan wneir cais i bleidleisio drwy ddirprwy, rhaid i’r cais hwnnw gynnwys cais i benodi dirprwy sy’n bodloni gofynion paragraff 6.
(7) Caiff swyddog cofrestru ei fodloni ei hun—
(a) bod cais o dan erthygl 6, 7, 9 neu 10 yn bodloni unrhyw ofyniad bod y cais wedi ei lofnodi gan y ceisydd a’i fod yn datgan dyddiad geni’r ceisydd drwy gyfeirio at unrhyw lofnod a dyddiad geni—
(i) a ddarparwyd yn flaenorol gan y ceisydd i’r swyddog cofrestru neu i’r swyddog canlyniadau, neu
(ii) a ddarparwyd yn flaenorol gan y ceisydd i’r cyngor sir neu i’r cyngor bwrdeistref sirol, neu i gofrestrydd genedigaethau a marwolaethau, y mae’r swyddog cofrestru wedi ei awdurdodi i edrych arnynt at ddibenion ei ddyletswyddau cofrestru, neu
(b) ynghylch a yw’r ceisydd yn analluog i ddarparu llofnod, neu lofnod cyson ac unigryw, oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu.
(8) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae’r cyfeiriad y mae’r ceisydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef, neu y mae wedi gwneud cais i fod yn gofrestredig mewn cysylltiad ag ef neu’n cael ei drin fel pe bai wedi gwneud cais i fod yn gofrestredig mewn cysylltiad ag ef, yn cynnwys—
(a) yn achos pleidleisiwr gwasanaeth, y cyfeiriad a roddir yn y datganiad o wasanaeth yn unol ag adran 16(1)(d) o Ddeddf 1983,
(b) yn achos person y mae adran 7 o Ddeddf 1983 yn gymwys iddo (cleifion mewn ysbytai meddwl nad ydynt yn droseddwyr a gedwir yn gaeth neu ar remánd), cyfeiriad yr ysbyty meddwl neu’r cyfeiriad a ddangosir yn y datganiad o gysylltiad lleol yn unol ag adran 7B(3)(d) o Ddeddf 1983 (preswylfa dybiannol: datganiadau o gysylltiad lleol),
(c) yn achos person y mae adran 7A o Ddeddf 1983 yn gymwys iddo (personau sydd ar remánd yn y ddalfa etc.), cyfeiriad y lle y mae’r person hwnnw’n cael ei gadw’n gaeth neu’r cyfeiriad a ddangosir yn y datganiad o gysylltiad lleol yn unol ag adran 7B(3)(d) o Ddeddf 1983,
(d) yn achos person digartref o fewn ystyr “homeless person” yn adran 7B(2)(c) o Ddeddf 1983, y cyfeiriad a ddangosir yn y datganiad o gysylltiad lleol yn unol ag adran 7B(3)(d) o Ddeddf 1983, ac
(e) yn achos person sydd, neu sydd wedi bod, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y cyfeiriad y mae’n preswylio ynddo neu’r cyfeiriad a ddangosir yn y datganiad o gysylltiad lleol yn unol ag adran 7B(3)(d) o Ddeddf 1983.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bapurau pleidleisio gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i’r hyn a ddatgenir yn y cais
2 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a) yn achos cais i bleidleisio drwy’r post o dan erthygl 6(1) neu (8) neu 7(1), pan fo’r cyfeiriadau a ddatgenir yn unol â pharagraff 1(1)(b) a (d) yn wahanol, neu
(b) yn achos cais gan ddirprwy i bleidleisio drwy’r post o dan erthygl 10(4), pan fo cyfeiriad y dirprwy a ddatgenir yn unol â pharagraff 1(1)(c) a’r cyfeiriad a ddatgenir yn unol â pharagraff 1(1)(d) yn wahanol.
(2) Rhaid i’r cais nodi pam y bydd amgylchiadau’r ceisydd yn peri, neu’n debygol o beri, fod ar y ceisydd angen i’r papur pleidleisio gael ei anfon i’r cyfeiriad a ddatgenir yn unol â pharagraff 1(1)(d).
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gan ymgeisydd gofnod dienw, neu pan fo wedi gwneud cais am gofnod dienw.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bapurau pleidleisio gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i’r un a ddangosir yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6 neu 10
3 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys i gais i bapur pleidleisio person gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol i’r cyfeiriad a ddangosir yn y cofnod o dan—
(a) erthygl 7(4)(a) gan berson y dangosir ei fod yn pleidleisio drwy’r post yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4), neu
(b) erthygl 10(7) gan berson y dangosir ei fod yn pleidleisio drwy’r post yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 10(6).
(2) Rhaid i’r cais nodi pam y bydd amgylchiadau’r person yn peri, neu’n debygol o beri, fod ar y person angen i’r papur pleidleisio gael ei anfon i’r cyfeiriad arall.
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gan geisydd gofnod dienw, neu pan fo wedi gwneud cais am gofnod dienw.
Y cofnod dynodyddion personol
4 

(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru gynnal cofnod (“y cofnod dynodyddion personol”) o’r llofnodion a’r dyddiadau geni a ddarperir gan bersonau y caniatawyd eu ceisiadau o dan erthygl 6(1), 7(1) neu 10(4)(a) neu (b).
(2) Rhaid cadw’r cofnod dynodyddion personol hyd nes y daw cyfnod o 12 mis o’r dyddiadau a ganlyn i ben—
(a) y dyddiad y tynnir person oddi ar y cofnod a gedwir yn unol ag erthygl 6(4) neu 10(6), neu
(b) dyddiad y pôl y caniatawyd cais y person am bleidlais absennol ar ei chyfer o dan erthygl 7(1) neu 10(4)(b).
(3) Rhaid cadw’r cofnod dynodyddion personol ar wahân i’r cofnodion a’r rhestrau eraill y mae’n ofynnol i’r swyddog cofrestru eu cadw o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Rhaid i’r cofnod dynodyddion personol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob pleidleisiwr absennol ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, y rhestr dirprwyon neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy—
(a) enw’r pleidleisiwr absennol,
(b) dyddiad geni’r pleidleisiwr absennol, ac
(c) llofnod y pleidleisiwr absennol, neu gofnod bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â’r llofnod.
(5) Caiff y swyddog cofrestru ddatgelu gwybodaeth a ddelir yn y cofnod dynodyddion personol i—
(a) unrhyw ymgeisydd, neu asiant a benodir o dan baragraff 6 o Atodlen 2, sy’n bresennol mewn gweithdrefnau ynghylch derbyn papurau pleidleisio drwy’r post, yn unol â pharagraffau 23, 26 a 27 o’r Atodlen honno, ac at y dibenion y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny;
(b) unrhyw berson sy’n bresennol mewn gweithdrefnau ynghylch derbyn papurau pleidleisio drwy’r post, sydd â hawlogaeth i wneud hynny yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, ond dim ond i’r graddau sy’n ofynnol i ganiatáu iddynt arsylwi ar y gweithdrefnau.
Hysbysiad ynghylch datganiad pleidlais drwy’r post a wrthodwyd
5 

(1) Pan fo pleidleisiwr absennol, pa un a yw’n etholwr ynteu’n ddirprwy, yn ymddangos ar y rhestr a grëwyd o dan baragraff 26(4) o Atodlen 2 (rhestrau o bapurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd)—
(a) rhaid i’r swyddog cofrestru sy’n gyfrifol am y cofnod dynodyddion personol sy’n cynnwys gwybodaeth mewn cysylltiad â’r pleidleisiwr absennol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), hysbysu’r person hwnnw, a’r etholwr os dirprwy yw’r pleidleisiwr absennol, fod y papur pleidleisio o dan sylw wedi ei wrthod gan nad oedd y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol,
(b) rhaid i’r swyddog cofrestru anfon yr hysbysiad o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad y pôl pan wrthodwyd y papur pleidleisio, ac
(c) rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth ynghylch pa un o’r rhesymau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff 26(5) o Atodlen 2 a oedd yn gymwys i ddatganiad pleidlais drwy’r post y pleidleisiwr absennol.
(2) Nid oes rhwymedigaeth ar y swyddog cofrestru i anfon hysbysiad—
(a) at unrhyw berson na ddangosir bellach ei fod yn pleidleisio drwy’r post yn y cofnod perthnasol ar yr adeg y mae’r swyddog cofrestru yn bwriadu anfon yr hysbysiad, na
(b) pan fo’r swyddog cofrestru yn amau y gallai trosedd fod wedi ei chyflawni mewn perthynas â’r papur pleidleisio, y datganiad pleidlais drwy’r post neu â chofrestriad y pleidleisiwr absennol fel etholwr.
(3) Caiff hysbysiad a ddyroddir o dan is-baragraff (1) hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog cofrestru yn ystyried ei bod yn briodol, ond ac eithrio enw’r etholwr neu’r dirprwy, ni chaiff hysbysiad gynnwys unrhyw wybodaeth a ddelir ar y cofnod dynodyddion personol.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau i benodi dirprwy
6 
Rhaid i gais i benodi dirprwy o dan erthygl 6 neu 7 ddatgan enw llawn a chyfeiriad y person y mae’r ceisydd yn dymuno ei benodi’n ddirprwy ar ei ran, ynghyd â’r berthynas deuluol, os oes perthynas, â’r ceisydd, ac—
(a) os yw wedi ei lofnodi gan y ceisydd yn unig, rhaid iddo gynnwys datganiad gan y ceisydd bod y ceisydd wedi ymgynghori â’r person a enwir felly a bod y person hwnnw’n alluog i gael ei benodi, ac yn barod i gael ei benodi, i bleidleisio fel dirprwy ar ran y ceisydd, neu
(b) os yw hefyd wedi ei lofnodi gan y person sydd i’w benodi, rhaid iddo gynnwys datganiad gan y person hwnnw ei fod yn alluog i gael ei benodi, ac yn barod i gael ei benodi, i bleidleisio fel dirprwy ar ran y ceisydd.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol ar sail amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall
7 

(1) Rhaid i gais i bleidleisio drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol o dan erthygl 6(2) am reswm o dan erthygl 6(3)(c) (cais oherwydd amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall) bennu’r anabledd y gwneir y cais o’i herwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid i gais o’r fath gael ei ardystio a’i lofnodi gan naill ai—
(a) ymarferydd meddygol cofrestredig,
(b) nyrs sydd wedi ei chofrestru ar y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 yn rhinwedd cymwysterau ym maes nyrsio,
(c) deintydd cofrestredig fel y diffinnir “registered dentist” gan adran 53(1) o Ddeddf Deintyddion 1984,
(d) optegydd cyflenwi cofrestredig neu optometrydd cofrestredig o fewn ystyr “registered dispensing optician” a “registered optometrist” yn adran 36(1) o Ddeddf Optegwyr 1989,
(e) fferyllydd cofrestredig fel y diffinnir “registered pharmacist” gan erthygl 3(1) o Orchymyn Fferylliaeth 2010,
(f) osteopath cofrestredig fel y diffinnir “registered osteopath” gan adran 41 o Ddeddf Osteopathiaid 1993,
(g) ciropractydd cofrestredig fel y diffinnir “registered chiropractor” gan adran 43 o Ddeddf Ciropractyddion 1994,
(h) ymarferydd Gwyddor Gristnogol,
(i) person sydd wedi ei gofrestru yn aelod o broffesiwn y mae Gorchymyn Proffesiynau Iechyd 2001, am y tro, yn ei gwmpasu,
(j) person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ddarparwr gwasanaeth cartref gofal rheoleiddiedig, o fewn ystyr y Rhan honno, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,
(k) warden mangre sy’n un o grŵp o fangreoedd a ddarperir ar gyfer personau o oedran pensiwn neu bersonau anabl y mae warden preswyl ar eu cyfer, pan fo’r ceisydd yn preswylio yn y fangre honno,
(l) rheolwr o fewn ystyr “the managers” yn adran 145(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu ar ran rheolwr o’r fath,
(m) person sydd wedi ei gofrestru mewn cofrestr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gynhelir yn unol ag adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016,
(n) person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr a gynhelir o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017, neu
(o) person a gofrestrwyd naill ai fel cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia o dan Orchymyn Cymdeithion Anaesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024.
(3) Ni chaiff person (“P”) ond ardystio cais—
(a) yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau (a) i (i) o is-baragraff (2)—
(i) os yw P yn rhoi triniaeth i’r ceisydd ar gyfer yr anabledd a bennir yn y cais,
(ii) os yw’r ceisydd yn cael gofal gan P mewn cysylltiad â’r anabledd hwnnw, neu
(iii) os yw P yn weithiwr cymdeithasol sy’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2)(i), ac sydd wedi trefnu gofal neu gynhorthwy ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad â’i anabledd, neu
(b) yn rhinwedd is-baragraff (2)(m)—
(i) os yw P yn rhoi triniaeth i’r ceisydd ar gyfer yr anabledd a bennir yn y cais,
(ii) os yw’r ceisydd yn cael gofal gan P mewn cysylltiad â’r anabledd hwnnw, neu
(iii) os yw P wedi trefnu gofal neu gynhorthwy ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad â’r anabledd.
(4) Pan fo P yn ardystio cais, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i P ddatgan—
(a) ei enw a’i gyfeiriad a’r ddarpariaeth yn is-baragraff (2) y caniateir iddo ardystio’r cais oddi tani,
(b) pan fo’n ardystio’r cais o dan is-baragraff (3)(a)—
(i) ei fod yn rhoi triniaeth i’r ceisydd ar gyfer yr anabledd a bennir yn y cais, neu
(ii) bod y ceisydd yn cael gofal ganddo mewn cysylltiad â’r anabledd hwnnw,
(c) pan fo’n ardystio’r cais o dan is-baragraff (3)(b)—
(i) ei fod yn rhoi triniaeth i’r ceisydd ar gyfer yr anabledd a bennir yn y cais,
(ii) bod y ceisydd yn cael gofal ganddo mewn cysylltiad â’r anabledd hwnnw, neu
(iii) ei fod wedi trefnu gofal neu gynhorthwy ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad â’r anabledd hwnnw, a
(d) hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred—
(i) bod gan y ceisydd yr anabledd a bennir yn y cais ac na ellir disgwyl yn rhesymol iddo fynd yn bersonol i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd iddo, na phleidleisio heb gymorth yno, oherwydd yr anabledd hwnnw, a
(ii) bod yr anabledd a bennir yn y cais yn debygol o barhau naill ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod a bennir gan y person sy’n ardystio’r cais.
(5) Nid yw is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys—
(a) pan fo’r cais yn seiliedig ar amhariad difrifol ar olwg y ceisydd a bo’r ceisydd wedi ei gofrestru, mewn cofrestr a gedwir o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel person ag amhariad difrifol ar ei olwg gan yr awdurdod lleol a bennir yn y cais,
(b) pan fo’r cais yn datgan bod y ceisydd yn cael cyfradd uwch yr elfen symudedd o lwfans byw i’r anabl, sy’n daladwy o dan adran 73 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, oherwydd yr anabledd a bennir yn y cais,
(c) pan fo’r cais yn datgan bod y ceisydd yn cael cyfradd uwch yr elfen symudedd o daliad annibyniaeth personol, sy’n daladwy o dan adran 79(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, oherwydd yr anabledd a bennir yn y cais, neu
(d) pan fo’r ceisydd yn cael taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan erthygl 24A o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011, oherwydd yr anabledd a bennir yn y cais.
(6) Rhaid i berson sy’n ardystio cais yn rhinwedd is-baragraff (2)(l) ddatgan, yn lle’r materion a bennir yn is-baragraff (4)(a)—
(a) ei enw,
(b) ei swydd yn yr ysbyty lle y mae’r ceisydd yn agored i gael ei gadw’n gaeth neu lle y mae’r ceisydd yn cael triniaeth,
(c) ei fod yn berson sydd wedi ei awdurdodi i ardystio, a
(d) yn achos ceisydd sy’n agored i gael ei gadw’n gaeth yn yr ysbyty, y ddarpariaeth statudol y mae’r ceisydd yn agored i gael ei gadw’n gaeth oddi tani.
(7) Bernir bod y ffaith bod ceisydd wedi ei gofrestru yn berson ag amhariad difrifol ar ei olwg gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn cofrestr a gedwir o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dystiolaeth ddigonol fod y ceisydd yn gymwys i gael pleidlais absennol ar y sail a nodir yn erthygl 6(3)(c).
(8) Yn y paragraff hwn, ystyr “yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd”, mewn perthynas ag etholwr, yw’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo, i’r etholwr o dan reol 34 o Atodlen 5.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol yn seiliedig ar alwedigaeth, gwasanaeth, cyflogaeth neu bresenoldeb ar gwrs
8 

(1) Rhaid i gais i bleidleisio drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol o dan erthygl 6(3)(d) ac (e) ddatgan—
(a) pa un ai galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth y ceisydd ynteu alwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth priod neu bartner sifil y ceisydd yw’r un y gwneir y cais mewn cysylltiad â hi neu ag ef, neu pa un ai’r ceisydd ynteu briod neu bartner sifil y ceisydd sy’n mynychu’r cwrs a ddarperir gan sefydliad addysgol y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef,
(b) natur yr alwedigaeth, y gwasanaeth, y gyflogaeth neu’r cwrs a ddarperir gan sefydliad addysgol sy’n arwain at y cais,
(c) pan fo’r person y gwneir y cais mewn cysylltiad â’i alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel “y person cyflogedig”, yn hunangyflogedig, y ffaith honno, ac mewn unrhyw achos arall, enw cyflogwr y person hwnnw, a
(d) y rheswm, sy’n berthnasol i natur gyffredinol yr alwedigaeth, y gwasanaeth neu’r gyflogaeth o dan sylw, neu’r cwrs a ddarperir gan sefydliad addysgol, pam na ellir disgwyl yn rhesymol i’r ceisydd na’i briod neu ei bartner sifil fynd yn bersonol i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd iddo.
(2) Rhaid i’r cais gael ei ardystio a’i lofnodi—
(a) pan fo’r ceisydd yn hunangyflogedig, gan berson—
(i) sy’n 16 oed neu’n hŷn,
(ii) sy’n adnabod y person hunangyflogedig, a
(iii) nad yw’n perthyn i’r ceisydd,
(b) pan fo’r ceisydd neu ei briod neu ei bartner sifil yn gyflogedig, gan y cyflogwr neu gan gyflogwr arall y mae’r swyddogaeth hon wedi ei dirprwyo iddo gan y cyflogwr, neu
(c) pan fo’r ceisydd neu ei briod neu ei bartner sifil yn mynychu cwrs a ddarperir gan sefydliad addysgol, gan gyfarwyddwr neu diwtor y cwrs hwnnw neu gan bennaeth neu brifathro’r sefydliad hwnnw neu gyflogai y mae’r swyddogaeth hon wedi ei dirprwyo iddo gan y pennaeth neu’r prifathro.
(3) Rhaid i’r person sy’n ardystio cais o dan is-baragraff (2)—
(a) pan mai’r ceisydd yw’r person cyflogedig, y person hunangyflogedig neu’r person sy’n bresennol ar y cwrs, dystio bod y datganiadau a gynhwysir yn y cais yn unol â gofynion is-baragraff (1)(a) i (d) yn wir, neu
(b) pan mai priod neu bartner sifil i’r person cyflogedig, y person hunangyflogedig neu’r person sy’n bresennol ar y cwrs yw’r ceisydd, dystio bod y datganiadau a gynhwysir yn y cais yn unol â gofynion is-baragraff (1)(a) i (c) yn wir.
(4) Rhaid i’r person sy’n ardystio cais o dan is-baragraff (2) hefyd ddatgan—
(a) yn achos person sy’n ardystio o dan is-baragraff (2)(a), ei enw a’i gyfeiriad, a’i fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn adnabod y person hunangyflogedig ond nad yw’n perthyn i’r person hwnnw;
(b) yn achos person sy’n ardystio o dan is-baragraff (2)(b), naill ai mai ef yw cyflogwr y person cyflogedig neu ddatgan pa swydd y mae’n ei dal yng nghyflogaeth y cyflogwr hwnnw;
(c) yn achos person sy’n ardystio o dan is-baragraff (2)(c), y swydd y mae’n ei dal yn y sefydliad.
(5) At ddiben is-baragraffau (2)(a) a (4)(a), mae un person (“A”) yn perthyn i berson arall (“B”) os yw A yn briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn daid/tad-cu neu’n nain/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr neu wyres i B.
(6) Yn y paragraff hwn, ystyr “yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd”, mewn perthynas ag etholwr, yw’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo, i’r etholwr o dan reol 34 o Atodlen 5.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn cysylltiad ag etholiad penodol i’r Senedd
9 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan erthygl 7(2) (pleidlais absennol mewn etholiad penodol i’r Senedd).
(2) Rhaid i’r cais nodi pam y bydd amgylchiadau’r ceisydd ar ddyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad hwnnw y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef yn golygu, neu’n debygol o olygu, na ellir disgwyl yn rhesymol i’r ceisydd bleidleisio yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd iddo.
(3) Pan fo cais o dan erthygl 7(2)—
(a) yn cael ei wneud ar sail anabledd y ceisydd, a
(b) yn cael ei wneud ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer,
mae gofynion paragraffau 1 a 7 yn gymwys.
(4) Pan fo cais a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn cael ei wneud, rhaid i’r person sy’n ardystio’r cais ddatgan, hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred, yn ogystal â’r materion hynny a bennir ym mharagraff 6, y dyddiad y daeth y ceisydd yn berson anabl.
(5) Mae gofynion paragraff 10 yn gymwys pan fo cais o dan erthygl 7(2)—
(a) yn cael ei wneud ar sail sy’n ymwneud â galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth y ceisydd, a
(b) yn cael ei wneud ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer.
(6) Pan fo person y mae erthygl 5(8) a (9) yn gymwys iddo yn gwneud cais o dan erthygl 7(2) ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer, mae gofynion is-baragraff (7) yn gymwys.
(7) Pan fo cais a grybwyllir yn is-baragraff (6) yn cael ei wneud—
(a) rhaid i’r cais hefyd ddatgan enw a chyfeiriad yr ysbyty lle y mae’r ceisydd yn agored i gael ei gadw’n gaeth,
(b) rhaid i’r cais gael ei ardystio gan neu ar ran rheolwr sy’n gyfrifol am weinyddu’r ysbyty, o fewn ystyr “the managers” yn adran 145(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, lle y mae’r ceisydd yn agored i gael ei gadw’n gaeth, ac
(c) rhaid i’r ardystiad ddatgan—
(i) enw’r person sy’n ardystio’r cais,
(ii) swydd y person hwnnw yn yr ysbyty lle y mae’r ceisydd yn agored i gael ei gadw’n gaeth,
(iii) bod y person hwnnw wedi ei awdurdodi i ardystio, a
(iv) y ddarpariaeth statudol y mae’r ceisydd yn agored i gael ei gadw’n gaeth yn yr ysbyty oddi tani.
(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gan y ceisydd gofnod dienw.
(9) Yn y paragraff hwn, ystyr “yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd”, mewn perthynas ag etholwr, yw’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo, i’r etholwr o dan reol 34 o Atodlen 5.
Gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng mewn cysylltiad ag etholiad penodol: seiliau sy’n ymwneud â galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth
10 

(1) Mae’r paragraff hwn yn nodi’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 9(5).
(2) Rhaid i’r cais, yn ogystal â darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff 9(2), ddatgan—
(a) pan fo’r ceisydd wedi ei gyflogi, enw cyflogwr y ceisydd, ac mewn unrhyw achos arall, natur galwedigaeth neu wasanaeth y ceisydd,
(b) bod y rheswm a ddarparwyd yn unol â pharagraff 9(2) yn ymwneud â galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth y ceisydd, ac
(c) y dyddiad y daeth y ceisydd yn ymwybodol o’r rheswm hwnnw.
(3) Mae is-baragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys oni bai bod y ceisydd wedi ei gofrestru, neu y bydd wedi ei gofrestru, yn bleidleisiwr gwasanaeth.
(4) Rhaid i’r cais gael ei ardystio a’i lofnodi—
(a) pan fo’r ceisydd wedi ei gyflogi, gan gyflogwr y ceisydd neu gan gyflogai arall y mae’r swyddogaeth hon wedi ei dirprwyo iddo gan y cyflogwr, neu
(b) mewn unrhyw achos arall, gan berson—
(i) sy’n 16 oed neu’n hŷn,
(ii) sy’n adnabod y ceisydd, a
(iii) nad yw’n perthyn i’r ceisydd.
(5) Rhaid i’r person sy’n ardystio cais o dan is-baragraff (4) (“yr ardystiwr”) dystio bod y datganiadau sy’n ofynnol gan is-baragraff (2) a’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff 9(2) yn wir hyd eithaf gwybodaeth a chred yr ardystiwr.
(6) Rhaid i’r ardystiwr hefyd ddatgan—
(a) enw a chyfeiriad yr ardystiwr, a
(b) os yw’r ardystiwr yn ardystio—
(i) fel cyflogwr y ceisydd neu ar ran cyflogwr y ceisydd, mai’r ardystiwr yw cyflogwr y ceisydd, neu’r swydd y mae’r ardystiwr yn ei dal mewn perthynas â’r cyflogwr hwnnw, neu
(ii) ac eithrio fel cyflogwr y ceisydd neu ar ran cyflogwr y ceisydd, fod yr ardystiwr yn 16 oed neu’n hŷn a bod yr ardystiwr yn adnabod y ceisydd ond nad yw’n perthyn iddo.
(7) At ddibenion y paragraff hwn, mae un person (“A”) yn perthyn i berson arall (“B”) os yw A yn briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn daid/tad-cu neu’n nain/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr neu wyres i B.
Y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
11 

(1) O ran cais—
(a) i bleidleisio drwy’r post o dan erthygl 6(1) neu 7(1), neu
(b) gan ddirprwy i bleidleisio drwy’r post o dan erthygl 10(4),
rhaid ei ddiystyru at ddibenion unrhyw etholiad penodol i’r Senedd os daw i law’r swyddog cofrestru ar ôl 5.00 p.m. ar yr unfed diwrnod ar ddeg cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran cais—
(a) i bleidleisio drwy ddirprwy o dan erthygl 6(2) neu 7(2), neu
(b) i benodi dirprwy o dan erthygl 9(6) neu (7),
rhaid ei ddiystyru at ddibenion unrhyw etholiad penodol i’r Senedd os daw i law’r swyddog cofrestru ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad hwnnw.
(3) Pan fo cais o dan erthygl 7(2) yn cael ei wneud—
(a) ar sail anabledd y ceisydd a bo’r ceisydd wedi dod yn berson anabl ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer,
(b) ar sail sy’n ymwneud â galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth y ceisydd a bo’r ceisydd wedi dod yn ymwybodol o’r sail honno ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer, neu
(c) gan berson y mae erthygl 5(9) yn gymwys iddo,
rhaid gwrthod y cais, neu gais o dan erthygl 9(7) a wneir yn rhinwedd y cais hwnnw, os daw i law ar ôl 5.00 p.m. ar ddiwrnod y pôl yn yr etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer.
(4) O ran cais—
(a) gan bleidleisiwr absennol i newid ei ddewis o ran y dull o bleidleisio absennol o dan erthygl 6(6) neu (8),
(b) gan bleidleisiwr drwy’r post i’w bapur pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol neu i bleidleisio, yn lle hynny, drwy ddirprwy mewn etholiad penodol o dan erthygl 7(4), neu
(c) gan bleidleisiwr drwy’r post drwy ddirprwy i’w bapur pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol mewn etholiad penodol o dan erthygl 10(7),
rhaid ei wrthod at ddibenion unrhyw etholiad penodol i’r Senedd os daw i law’r swyddog cofrestru ar ôl 5.00 p.m. ar yr unfed diwrnod ar ddeg cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad hwnnw.
(5) Rhaid diystyru’r canlynol at ddibenion unrhyw etholiad penodol i’r Senedd os daw i law’r swyddog cofrestru ar ôl 5.00 p.m. ar yr unfed diwrnod ar ddeg cyn dyddiad y pôl yn yr etholiad hwnnw y gwneir y cais ar ei gyfer—
(a) cais o dan erthygl 6(5)(a) gan etholwr i gael ei dynnu oddi ar y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4),
(b) cais o dan erthygl 10(10)(a) gan ddirprwy i gael ei dynnu oddi ar y cofnod a gedwir o dan erthygl 10(8), ac
(c) hysbysiad o dan erthygl 9(9) am ganslo penodiad dirprwy.
(6) Rhaid diystyru unrhyw gais neu unrhyw hysbysiad a grybwyllir yn y paragraff hwn at ddibenion etholiad penodol i’r Senedd os yw’r etholwr neu’r dirprwy wedi dychwelyd papur pleidleisio drwy’r post i’r swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholaeth Senedd y mae’n ymwneud â hi cyn i’r cais neu’r hysbysiad gael ei ystyried gan y swyddog cofrestru, ac eithrio pan fo’r papur pleidleisio drwy’r post wedi ei ddychwelyd yn unol â pharagraff 14 neu 15 o Atodlen 2 (papurau pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd neu a gollwyd).
(7) Wrth gyfrifo cyfnod o ddiwrnodau at ddibenion y paragraff hwn, mae’r diwrnodau a ganlyn i’w diystyru—
(a) dydd Sadwrn;
(b) dydd Sul;
(c) noswyl Nadolig;
(d) dydd Nadolig;
(e) dydd Gwener y Groglith;
(f) diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
(g) diwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus.
Caniatáu neu wrthod ceisiadau
12 

(1) Rhaid hysbysu’r ceisydd am benderfyniad gan y swyddog cofrestru i ganiatáu cais i bleidleisio drwy’r post.
(2) Pan fo’r swyddog cofrestru yn caniatáu cais i benodi dirprwy, rhaid i’r swyddog cofrestru gadarnhau mewn ysgrifen i’r etholwr fod y dirprwy wedi ei benodi, a chadarnhau enw a chyfeiriad y dirprwy, a hyd y penodiad.
(3) Rhaid i’r papur dirprwy sydd i’w ddyroddi gan y swyddog cofrestru wrth benodi dirprwy fod yn ffurf 1 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, ond caniateir cyfuno hwn â ffurf arall o bapur dirprwy os yw’r swyddog cofrestru yn dyroddi papur dirprwy sy’n penodi’r person hwnnw yn ddirprwy ar gyfer yr un etholwr mewn cysylltiad ag etholiad arall neu etholiadau eraill.
(4) Pan fo’r swyddog cofrestru yn gwrthod cais am bleidlais absennol, rhaid i’r swyddog cofrestru hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad a’r rheswm drosto.
(5) Rhaid i’r swyddog cofrestru hysbysu’r ceisydd pan fo’r swyddog cofrestru yn caniatáu cais a wneir o dan—
(a) erthygl 7(4)(a) gan berson y dangosir ei fod yn pleidleisio drwy’r post yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4), neu
(b) erthygl 10(7) gan berson y dangosir ei fod yn pleidleisio drwy’r post yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 10(6).
(6) Pan fo person yn cael ei dynnu oddi ar y cofnod a gedwir yn unol ag erthygl 6(4), rhaid i’r swyddog cofrestru, pan fo’n ymarferol, hysbysu’r person am hyn a’r rheswm drosto.
(7) Pan fo penodiad dirprwy yn cael ei ganslo gan yr etholwr neu’n peidio â bod mewn grym fel arall, rhaid i’r swyddog cofrestru, pan fo’n ymarferol, hysbysu’r etholwr fod y penodiad wedi ei ganslo neu fod y penodiad wedi dod i ben, a’r rheswm dros hynny.
(8) Pan fo’r swyddog cofrestru, o dan baragraff 11, yn gwrthod neu’n diystyru cais at ddibenion unrhyw etholiad i’r Senedd, rhaid i’r swyddog cofrestru hysbysu’r ceisydd am hyn.
(9) Mewn etholiad i’r Senedd, pan nad y swyddog cofrestru (“S”) yw’r swyddog canlyniadau ar gyfer un o etholaethau’r Senedd, neu ran o un o etholaethau’r Senedd, rhaid i S anfon at y swyddog canlyniadau fanylion unrhyw gais i bleidleisio drwy’r post y mae S wedi ei ganiatáu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud hynny.
Hysbysiad apêl
13 

(1) Rhaid i berson sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad swyddog cofrestru o dan erthygl 3(1) (cofrestru ac apelau pleidleisio absennol) roi hysbysiad am yr apêl a’r sail dros yr apêl i’r swyddog cofrestru o fewn 14 o ddiwrnodau iddo gael yr hysbysiad a roddir o dan baragraff 12(4).
(2) Rhaid i’r swyddog cofrestru anfon unrhyw hysbysiad o’r fath ymlaen i’r llys sirol yn y dull a gyfarwyddir gan reolau llys, ynghyd â datganiad sy’n nodi’r canlynol—
(a) y ffeithiau perthnasol a sefydlwyd yn yr achos, ym marn y swyddog cofrestru,
(b) penderfyniad y swyddog cofrestru ynghylch yr achos cyfan, ac
(c) penderfyniad y swyddog cofrestru ynghylch unrhyw bwynt a bennir fel sail dros apelio.
(3) Pan fo’n ymddangos i’r swyddog cofrestru fod unrhyw hysbysiadau apêl a ddaw i law yn seiliedig ar seiliau tebyg, rhaid i’r swyddog cofrestru roi gwybod i’r llys sirol am hyn er mwyn galluogi’r llys, os yw’n meddwl ei bod yn briodol, i gydgrynhoi’r apelau neu ddewis achos prawf.
Canslo penodiad dirprwy
14 
Pan fo penodiad dirprwy yn cael ei ganslo drwy hysbysiad a roddir i’r swyddog cofrestru o dan erthygl 9(9), yn peidio â bod mewn grym o dan erthygl 9(10), neu pan na fo mewn grym mwyach o dan erthygl 9(11)(b), rhaid i’r swyddog cofrestru—
(a) hysbysu’r person y mae ei benodiad yn ddirprwy wedi cael ei ganslo, wedi dod i ben, wedi peidio â bod neu nad yw mewn grym mwyach, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi cael ei hysbysu’n flaenorol gan y person hwnnw nad yw’r person yn dymuno gweithredu fel dirprwy mwyach, a
(b) tynnu enw’r person hwnnw oddi ar y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4).
Ymholiadau gan swyddog cofrestru
15 

(1) Caiff y swyddog cofrestru, ar yr adegau hynny y mae’n meddwl eu bod yn briodol, holi person y dangosir ei fod yn pleidleisio drwy ddirprwy yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4) yn unol â chais a ganiatawyd ar y seiliau a nodir yn erthygl 6(3)(c) neu (d) (anabledd, amhariad difrifol ar y golwg, galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth), at ddiben penderfynu a fu newid perthnasol mewn amgylchiadau.
(2) Pan fo cais am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol wedi ei ganiatáu yn seiliedig ar sail y cyfeirir ati yn erthygl 6(3)(d), neu ar sail sy’n cyfateb i’r sail honno, rhaid i’r swyddog cofrestru wneud yr ymholiadau y cyfeirir atynt dim hwyrach na thair blynedd ar ôl caniatáu’r cais neu ddyddiad yr ymholiad diwethaf o’r fath.
(3) Caiff y swyddog cofrestru drin methiant gan berson a holwyd o dan is-baragraff (1) neu (2) i ymateb o fewn mis i’r dyddiad y gwnaed yr ymholiadau hynny fel tystiolaeth ddigonol o newid perthnasol mewn amgylchiadau.
Gofyniad i ddarparu llofnodion newydd bob pum mlynedd
16 

(1) Bob blwyddyn, erbyn 31 Ionawr, rhaid i’r swyddog cofrestru anfon at bob person sy’n parhau i fod yn bleidleisiwr absennol ac y mae ei lofnod yn y cofnod dynodyddion personol yn hŷn na phum mlwydd oed, hysbysiad ysgrifenedig—
(a) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu llofnod newydd, a
(b) yn rhoi gwybod i’r person hwnnw am y dyddiad, sef chwe wythnos i’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy os bydd yn methu â darparu llofnod newydd neu’n gwrthod gwneud hynny.
(2) Rhaid i’r hysbysiad gael ei anfon gan y swyddog cofrestru i gyfeiriad cyfredol y pleidleisiwr absennol, neu i’w gyfeiriad hysbys diwethaf.
(3) Os nad yw’r pleidleisiwr absennol wedi ymateb i’r hysbysiad o fewn tair wythnos i’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, rhaid i’r swyddog cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon copi o’r hysbysiad at y pleidleisiwr absennol.
(4) Pan anfonir hysbysiad neu gopi o hysbysiad drwy’r post, caiff y swyddog cofrestru ddefnyddio—
(a) darparwr gwasanaeth cyffredinol y telir ymlaen llaw am ei wasanaeth, neu
(b) cwmni danfon masnachol y telir ymlaen llaw am ei wasanaeth.
(5) Rhaid i amlen ymateb sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ddod gyda hysbysiad neu gopi o hysbysiad a anfonir at bleidleisiwr absennol yn unol ag is-baragraff (1) neu (3), ac, yn achos hysbysiad neu gopi o hysbysiad a anfonir i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid talu ymlaen llaw am gost ei ddychwelyd drwy’r post.
(6) Pan ddaw’r cyfnod o chwe wythnos a bennir yn yr hysbysiad a anfonwyd at y pleidleisiwr absennol i ben, rhaid i’r swyddog cofrestru benderfynu a yw’r pleidleisiwr absennol wedi methu â darparu llofnod newydd neu wedi gwrthod gwneud hynny.
(7) Pan fo’r swyddog cofrestru yn penderfynu bod y pleidleisiwr absennol wedi methu â darparu llofnod newydd, neu wedi gwrthod gwneud hynny, o fewn y cyfnod penodedig, rhaid i’r swyddog cofrestru dynnu cofnod y person hwnnw oddi ar y cofnodion a gedwir yn unol ag erthygl 6(4) neu 10(6) ac oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, y rhestr dirprwyon neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy a gedwir o dan erthygl 8(1) i (3) neu 10(8).
(8) Pan fo’r swyddog cofrestru yn tynnu cofnod pleidleisiwr absennol o dan is-baragraff (7)—
(a) rhaid i’r swyddog cofrestru roi gwybod i’r pleidleisiwr absennol, pan fo’n briodol, am leoliad yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd i’r pleidleisiwr, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo iddo, o dan y Gorchymyn hwn;
(b) mae paragraffau 12(4), (6) a (7), a 13 yn gymwys fel pe bai’r swyddog cofrestru yn gwrthod cais yn unol â’r Atodlen hon;
(c) yn achos cofnod a dynnir oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog cofrestru hefyd hysbysu’r etholwr a benododd y dirprwy.
(9) Rhaid i’r swyddog cofrestru gynnwys y canlynol yn yr hysbysiad sydd i’w anfon at bleidleisiwr absennol ynghylch tynnu’r pleidleisiwr oddi ar y cofnodion a gedwir yn unol ag erthygl 6(4) neu 10(6) ac oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, y rhestr dirprwyon neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, a gedwir yn unol ag erthygl 8(1) i (3) neu 10(8)—
(a) gwybodaeth sy’n esbonio effaith ei dynnu oddi ar y cofnod ac oddi ar y rhestr, a
(b) gwybodaeth sy’n atgoffa’r pleidleisiwr absennol y caiff wneud cais newydd o dan erthygl 6(1) neu (2), 7(1) neu (2) neu 10(4) i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.
Gofyniad i ddarparu llofnodion newydd ar ôl gwrthod datganiad pleidlais drwy’r post
17 

(1) Caiff y swyddog cofrestru ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr absennol ddarparu llofnod newydd ar gyfer y cofnod dynodyddion personol, mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd—
(a) pan fo pleidleisiwr absennol wedi ei hysbysu o dan baragraff 5 nad yw’r llofnod ar ddatganiad pleidlais drwy’r post y pleidleisiwr absennol, yn cyd-fynd â’r enghraifft a ddelir yn y cofnod dynodyddion personol, a
(b) pan ddangosir o hyd yn y cofnod perthnasol fod y pleidleisiwr absennol yn pleidleisio drwy’r post.
(2) Wrth wneud hynny, rhaid i’r swyddog cofrestru ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig i’r pleidleisiwr absennol—
(a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr absennol ddarparu llofnod newydd, a
(b) sy’n rhoi gwybod i’r pleidleisiwr absennol am y dyddiad, sef chwe wythnos i’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, pan fydd y pleidleisiwr absennol yn peidio â bod â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post os bydd yn methu â darparu llofnod newydd neu’n gwrthod gwneud hynny.
(3) Os nad yw’r pleidleisiwr absennol wedi ymateb i’r hysbysiad o fewn tair wythnos i’r dyddiad yr anfonwyd ef, rhaid i’r swyddog cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon copi o’r hysbysiad at y pleidleisiwr absennol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad ac unrhyw gopi gael eu hanfon gan y swyddog cofrestru i gyfeiriad cyfredol y pleidleisiwr absennol, neu i’w gyfeiriad hysbys diwethaf.
(5) Pan anfonir yr hysbysiad neu gopi o’r hysbysiad drwy’r post, caiff y swyddog cofrestru ddefnyddio—
(a) darparwr gwasanaeth cyffredinol y telir ymlaen llaw am ei wasanaeth, neu
(b) cwmni danfon masnachol y telir ymlaen llaw am ei wasanaeth.
(6) Rhaid i amlen ymateb sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ddod gyda’r hysbysiad neu gopi o’r hysbysiad a anfonir at bleidleisiwr absennol yn unol ag is-baragraff (2) neu (3), ac, yn achos hysbysiad neu gopi o hysbysiad a anfonir i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid talu ymlaen llaw am gost ei ddychwelyd drwy’r post.
(7) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r swyddog cofrestru benderfynu a yw’r pleidleisiwr absennol wedi methu â darparu llofnod newydd neu wedi gwrthod gwneud hynny.
(8) Pan fo’r swyddog cofrestru yn penderfynu bod y pleidleisiwr absennol wedi methu â darparu llofnod newydd, neu wedi gwrthod gwneud hynny, rhaid i’r swyddog cofrestru—
(a) tynnu cofnod y pleidleisiwr absennol oddi ar y cofnod perthnasol, a
(b) i’r graddau y bo’n gymwys, dynnu cofnod y pleidleisiwr absennol oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy a gedwir o dan erthygl 8(1) i (3) neu 10(8).
(9) Pan fo swyddog cofrestru yn tynnu cofnod pleidleisiwr absennol oddi ar gofnod neu oddi ar restr o dan is-baragraff (8)—
(a) rhaid i’r swyddog cofrestru roi gwybod i’r pleidleisiwr absennol, pan fo’n briodol, am leoliad yr orsaf bleidleisio a neilltuwyd i’r pleidleisiwr, neu sy’n debygol o gael ei neilltuo iddo, o dan reol 34 o Atodlen 5,
(b) mae erthygl 3 a pharagraffau 12(4) a 13 yn gymwys fel pe bai’r swyddog cofrestru yn gwrthod cais o dan yr Atodlen hon, ac
(c) yn achos cofnod a dynnir oddi ar y cofnod a gedwir o dan erthygl 10(6), neu oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy a gedwir o dan erthygl 10(8), rhaid i’r swyddog cofrestru hefyd hysbysu’r etholwr a benododd y pleidleisiwr fod cofnod y dirprwy wedi ei dynnu oddi ar y cofnod.
(10) Rhaid i’r swyddog cofrestru gynnwys y canlynol yn yr hysbysiad sydd i’w anfon at y pleidleisiwr absennol ynghylch tynnu’r pleidleisiwr absennol oddi ar y cofnod perthnasol ac, i’r graddau y bo’n gymwys, oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy a gedwir yn unol ag erthygl 8(1) i (3) neu 10(8)—
(a) gwybodaeth sy’n esbonio effaith ei dynnu oddi ar y cofnod ac oddi ar y rhestr, a
(b) gwybodaeth sy’n atgoffa’r pleidleisiwr absennol y caiff wneud cais newydd i bleidleisio drwy’r post, neu yn achos pleidleisiwr absennol a dynnwyd oddi ar y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4) neu oddi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post a gedwir o dan erthygl 8(1) a (2), i bleidleisio drwy ddirprwy.
(11) Pan fo pleidleisiwr absennol wedi darparu llofnod newydd i’r swyddog cofrestru mewn ymateb i hysbysiad a ddyroddwyd gan y swyddog cofrestru o dan y paragraff hwn, neu mewn ymateb i hysbysiad a ddyroddwyd gan y swyddog cofrestru o dan unrhyw ddeddfiad arall ar ôl gwrthod datganiad pleidlais drwy’r post y pleidleisiwr absennol mewn etholiad neu refferendwm, caiff y swyddog cofrestru ddefnyddio’r llofnod hwnnw a’i gofnodi yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 4 ac erthyglau 6(11), 7(7) a 10(13).
(12) Yn y paragraff hwn, ystyr “cofnod perthnasol” yw’r cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4) neu 10(6).
Cofnodion a rhestrau a gedwir o dan erthyglau 6, 8 a 10
18 

(1) Mae gan unrhyw un neu ragor o’r personau a restrir yn is-baragraff (2) sydd â hawlogaeth i gael copïau o’r gofrestr lawn yn unol â darpariaethau rheoliadau 103, 105, 106 a 108 o Reoliadau 2001, hawlogaeth hefyd, yn ddarostyngedig i’r paragraff hwn a pharagraff 19, i ofyn i’r swyddog cofrestru gyflenwi, am ddim, y rhannau perthnasol, o fewn ystyr “relevant part” yn Rheoliadau 2001, o gopi o unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog cofrestru yn ei chadw yn—
(a) y fersiwn gyfredol o’r wybodaeth a fyddai, pe bai etholiad penodol i’r Senedd yn cael ei gynnal, yn cael ei chynnwys yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, y rhestr dirprwyon neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy y mae’n ofynnol i’r swyddog cofrestru ei chadw o dan erthygl 8 neu 10(8);
(b) y fersiwn gyfredol neu’r fersiwn derfynol o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post, y rhestr dirprwyon neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy a gedwir o dan erthygl 8 neu 10(8).
(2) Y personau yw—
(a) pob aelod o’r Senedd ar gyfer unrhyw etholaeth sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn yr ardal gofrestru,
(b) ymgeisydd unigol neu asiant yr ymgeisydd,
(c) ymgeisydd rhestr plaid neu’r asiant etholiad ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, neu
(d) unrhyw berson sydd wedi ei enwebu i weithredu at ddibenion y paragraff hwn gan swyddog enwebu cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig, ar yr amod na chaniateir enwebu mwy nag un person mewn cysylltiad â’r un blaid wleidyddol gofrestredig a’r un ardal gofrestru.
(3) Rhaid i gais o dan is-baragraff (1) gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu—
(a) pa gofnodion neu restrau, neu rannau perthnasol o’r cofnodion neu’r rhestrau hynny, y gofynnir amdanynt,
(b) a yw’r cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad â rhestrau cyfredol yn unig ynteu a yw’n cynnwys cais i gyflenwi unrhyw restr derfynol, ac
(c) a yw’n gofyn am gopi wedi ei argraffu o’r cofnodion neu’r rhestrau ynteu am gopi ar ffurf data.
(4) Ni chaiff person sy’n cael copi o restr o dan y paragraff hwn ond ei ddefnyddio at y dibenion a ganiateir ac a bennir ym mharagraff 19, ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau—
(a) a bennir yn y paragraff hwnnw, neu
(b) a fyddai’n gymwys wrth ddefnyddio’r gofrestr lawn o dan ba un bynnag o reoliadau 103, 105, 106 a 108 o Reoliadau 2001 a oedd yn rhoi’r hawlogaeth i’r person hwnnw gael y ddogfen honno.
(5) Rhaid i’r swyddog cofrestru gyflenwi copi cyfredol o wybodaeth berthnasol y gofynnir amdani o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais sydd wedi ei wneud yn gywir.
(6) Rhaid i’r swyddog cofrestru gyflenwi copi terfynol o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post a gedwir o dan erthygl 8(1) a (2) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 5.00 p.m. ar yr unfed diwrnod ar ddeg cyn dyddiad y pôl, mewn ymateb i gais sydd wedi ei wneud yn briodol o dan is-baragraff (1).
(7) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 5.00 p.m. ar y chweched diwrnod cyn dyddiad y pôl, rhaid i’r swyddog cofrestru—
(a) rhoi copi o’r rhestrau a gedwir o dan erthyglau 8 a 10(8) ar gael i edrych arno yn swyddfa’r swyddog cofrestru yn unol ag is-baragraffau (11) i (16), a
(b) cyflenwi copi terfynol o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr dirprwyon, mewn ymateb i bob cais sydd wedi ei wneud yn briodol o dan is-baragraff (1).
(8) Rhaid i’r swyddog cofrestru gyflenwi copi terfynol o’r rhestr dirprwyon a gedwir o dan erthygl 8(1) a (3), a’r copi hwnnw wedi ei ddiweddaru i gynnwys unrhyw ychwanegiadau i’r rhestrau hynny a wnaed o ganlyniad i unrhyw geisiadau a ganiatawyd yn unol â pharagraff 9, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 5.00 p.m. ar ddyddiad y pôl, i bob person a gafodd y rhestr honno yn unol ag is-baragraff (7)(b).
(9) Caiff unrhyw berson sydd wedi cael, neu sydd â hawlogaeth i gael, copi o wybodaeth a gwmpesir gan is-baragraff (1)—
(a) cyflenwi copi o’r wybodaeth i brosesydd at ddiben prosesu’r wybodaeth, neu
(b) peri bod prosesydd yn prosesu ac yn cyflenwi i’r person hwnnw unrhyw gopi o’r wybodaeth y mae’r prosesydd wedi ei gael o dan y paragraff hwn,
i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â’r dibenion y mae gan y person hwnnw hawlogaeth i gael yr wybodaeth honno ar eu cyfer.
(10) Mae’r darpariaethau a gynhwysir ym mharagraffau (2), (3) a (9) o reoliad 92 o Reoliadau 2001 yn gymwys wrth gyflenwi a phrosesu gwybodaeth neu restrau a gyflenwir o dan y paragraff hwn fel y maent yn gymwys wrth gyflenwi a phrosesu’r gofrestr lawn.
(11) Mae gan unrhyw berson hawlogaeth i ofyn i’r swyddog cofrestru roi ar gael i edrych arno gopi o unrhyw wybodaeth a bennir yn is-baragraff (1).
(12) Rhaid i gais o dan is-baragraff (11) gael ei wneud mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu—
(a) yr wybodaeth, neu rannau perthnasol o’r wybodaeth, y gofynnir amdani;
(b) a yw’r cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad â’r rhestrau cyfredol yn unig ynteu a yw’n cynnwys cais i gael edrych ar unrhyw restr derfynol;
(c) pwy fydd yn edrych ar yr wybodaeth;
(d) ar ba ddyddiad y mae’r person i edrych ar yr wybodaeth;
(e) pa un a edrychir ar yr wybodaeth ar ffurf wedi ei hargraffu ynteu ar ffurf data.
(13) Rhaid i’r swyddog cofrestru roi copi o’r wybodaeth ar gael i edrych arno o dan oruchwyliaeth cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad y daw cais sydd wedi ei wneud yn briodol i law.
(14) Pan edrychir ar yr wybodaeth drwy ddarparu copi ohoni ar sgrin cyfrifiadur neu fel arall ar ffurf data, rhaid i’r swyddog cofrestru sicrhau nad yw’r dull o ddarparu’r copi hwnnw, na’r offer y darperir y copi hwnnw arno, yn caniatáu i unrhyw berson sy’n edrych ar y copi hwnnw—
(a) chwilio drwyddo, drwy ddulliau electronig, drwy gyfeirio at enw unrhyw berson, neu
(b) copïo neu drosglwyddo unrhyw ran o’r copi hwnnw drwy ddull electronig, neu drwy unrhyw ddull arall.
(15) Ni chaiff person sy’n edrych ar gopi o’r wybodaeth, pa un ai ar ffurf copi wedi ei argraffu neu ar ffurf data—
(a) gwneud copïau o unrhyw ran ohono, na
(b) cofnodi unrhyw fanylion sydd ynddo,
ac eithrio drwy nodiadau wedi eu hysgrifennu â llaw.
(16) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 52(1) o Ddeddf 1983, nid yw unrhyw ddyletswydd sydd ar swyddog cofrestru i gyflenwi copi neu i roi gwybodaeth ar gael i edrych arni o dan y paragraff hwn, ond yn gosod dyletswydd i ddarparu’r wybodaeth honno ar y ffurf y mae’r swyddog cofrestru yn ei dal.
(17) At ddibenion y paragraff hwn—
(a) mae “copi cyfredol” o gofnodion neu o restrau yn gopi o’r cofnodion neu o’r rhestrau fel y’u cedwir gan y swyddog cofrestru am 9.00 a.m. ar y dyddiad y’i cyflenwir, a
(b) rhaid cyfrifo unrhyw gyfnod o ddiwrnodau yn unol â pharagraff 11(7).
(18) Pan fo gwybodaeth a gwmpesir gan is-baragraff (1)(a) yn cael ei chyflenwi neu ei datgelu yn unol â’r paragraff hwn, rhaid i’r swyddog cofrestru sicrhau nad yw’r swyddog cofrestru yn cyflenwi nac yn datgelu unrhyw gofnod sy’n ymwneud ag—
(a) person sydd â chofnod dienw, neu
(b) dirprwy person sydd â chofnod dienw.
Amodau o ran defnyddio, cyflenwi ac edrych ar gofnodion neu restrau o bleidleiswyr absennol
19 

(1) Mae darpariaethau rheoliadau 94 ac 96 o Reoliadau 2001 yn gymwys i wybodaeth a gwmpesir gan baragraff 18(1) fel y maent yn gymwys i gyfyngiadau ar gyflenwi, datgelu a defnyddio’r gofrestr lawn, ac eithrio bod dibenion a ganiateir at ddiben paragraff 18(1) yn golygu naill ai—
(a) dibenion a grybwyllir yn erthygl 89(1) o GDPR y DU (archifo er budd y cyhoedd, ymchwil neu ystadegau gwyddonol neu hanesyddol), neu
(b) dibenion etholiadol.
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “GDPR y DU” yr ystyr a roddir i “the UK GDPR” yn adran 3(10) o Ddeddf Diogelu Data 2018.
Diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oed
20 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc, ac eithrio unrhyw wybodaeth y gellid canfod dyddiad geni’r person oddi wrthi, mewn fersiwn neu gopi o gofnod neu restr o bleidleiswyr absennol a gyflenwir yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, ond dim ond i’r graddau y bo gwneud hynny’n angenrheidiol at ddibenion etholiad y bydd gan y person hawlogaeth i bleidleisio ynddo, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.
(2) Ac eithrio is-baragraff (1), ni chaiff swyddog cofrestru gyhoeddi, cyflenwi na datgelu fel arall wybodaeth person ifanc, ac eithrio yn unol ag adran 25, neu â rheoliadau a wneir o dan adran 26, o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
(3) Yn y paragraff hwn—
 mae “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol” (“absent voters record or list”) i’w ddehongli yn unol ag adran 24(2) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ac mae hefyd yn cynnwys y cofnodion a gedwir o dan erthyglau 6(11) a 10(13);
 mae “gwybodaeth person ifanc” (“young person’s information”) i’w ddehongli yn unol ag adran 24(2) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
Cofrestr a farciwyd ar gyfer gorsafoedd pleidleisio
21 
I nodi bod gan etholwr neu ddirprwy etholwr hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post ac am y rheswm hwnnw nad oes ganddo hawlogaeth i bleidleisio’n bersonol, rhaid gosod y llythyren “A” gyferbyn â’r cofnod ar gyfer yr etholwr hwnnw mewn unrhyw gopi o’r gofrestr, neu ran ohoni, a ddarperir ar gyfer gorsaf bleidleisio.
Tystysgrif cyflogaeth mewn etholiad i’r Senedd
22 
Rhaid i’r dystysgrif o ran cyflogaeth cwnstabliaid a phersonau a gyflogir gan swyddog canlyniadau ar ddyddiad y pôl mewn etholiad i’r Senedd, er mwyn galluogi cwnstabl neu berson o’r fath i bleidleisio yn rhywle arall ar wahân i orsaf bleidleisio’r person hwnnw ei hun, fod ar ffurf 2 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10 a rhaid iddi fod wedi ei llofnodi, yn achos cwnstabl, gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu uwch.
Hysbysiad gan swyddog cofrestru
23 
Pan fo’n ofynnol gan yr Atodlen hon i swyddog cofrestru hysbysu unrhyw berson, rhaid i’r hysbysiad hwnnw fod mewn ysgrifen a chaniateir ei anfon drwy’r post—
(a) yn achos person ac eithrio pleidleisiwr gwasanaeth, i’r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw at ddiben hysbysiad o’r fath neu at ddiben unrhyw gofnod, neu, os nad oes cyfeiriad o’r fath, i fan preswylio hysbys diwethaf y person hwnnw;
(b) yn achos pleidleisiwr gwasanaeth, i unrhyw gyfeiriad a ddarparwyd gan y pleidleisiwr gwasanaeth at ddiben hysbysiad o’r fath neu at ddiben unrhyw gofnod, neu i’r cyfeiriad a ddarparwyd at y diben gan yr adran briodol o’r llywodraeth, fel y diffinnir “the appropriate government department” gan adran 59(3B) o Ddeddf 1983, neu gan y Cyngor Prydeinig.
ATODLEN 2
Dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post
Erthygl 14(3)
Dehongli
1 
At ddibenion yr Atodlen hon—
 ystyr “amlen papur pleidleisio” (“ballot paper envelope”) a “prif amlen” (“covering envelope”) yw’r amlenni y cyfeirir atynt ym mharagraff 11;
 mae “asiant” (“agent”) yn cynnwys asiant etholiad a pherson a benodir i fod yn bresennol yn lle’r asiant etholiad;
 ystyr “blwch pleidleisio drwy’r post” (“postal ballot box”) yw’r blwch pleidleisio y cyfeirir ato ym mharagraff 18(1)(b);
 ystyr “blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post” (“postal voters’ ballot box”) yw’r blwch pleidleisio y cyfeirir ato ym mharagraff 18(1)(a);
 ystyr “cofnod dynodyddion personol” (“personal identifiers record”) yw’r cofnod a gedwir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1;
 ystyr “daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio” (“receptacle for ballot paper envelopes”), “daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisiau drwy’r post (y weithdrefn wirhau)” (“receptacle for postal voting statements (verification procedure)”), “daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd” (“receptacle for rejected ballot paper envelopes”), “daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd” (“receptacle for rejected votes”) a “daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau)” (“receptacle for rejected votes (verification procedure)”) yw’r daliedyddion y cyfeirir atynt ym mharagraff 18(6);
 ystyr “datganiad pleidlais drwy’r post dilys” (“valid postal voting statement”) yw datganiad pleidlais drwy’r post y mae’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni, yn unol â pharagraff 23, ei fod wedi ei gwblhau’n briodol;
 mae “dyroddiad” (“issue”) yn cynnwys y dyroddiad gwreiddiol ac unrhyw ddyroddiad dilynol;
 ystyr “papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd” (“spoilt postal ballot paper”) yw papur pleidleisio y cyfeirir ato ym mharagraff 14(1).
Dyroddi papurau pleidleisio drwy’r post
Cyfuno polau
2 
Pan fo’r polau mewn etholiadau yn cael eu cynnal ynghyd o dan erthygl 15(1) (cyfuno polau yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol), caniateir cynnal y gweithdrefnau ynghylch dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post mewn cysylltiad â phob un o’r etholiadau ynghyd, os yw’r swyddogion canlyniadau ar gyfer yr etholiadau hynny yn cytuno.
Ffurf datganiad pleidlais drwy’r post
3 

(1) Pan fo’r pôl mewn etholiad i’r Senedd yn cael ei gynnal ar ei ben ei hun, rhaid i’r datganiad pleidlais drwy’r post a anfonir gyda’r papur pleidleisio drwy’r post at bleidleisiwr drwy’r post fod yn ffurf 3 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10.
(2) Pan gynhelir y gweithdrefnau ynghylch dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r gweithdrefnau hynny mewn etholiad llywodraeth leol o dan baragraff 2, rhaid i’r datganiad pleidlais drwy’r post a anfonir gyda’r papurau pleidleisio drwy’r post at bleidleisiwr drwy’r post fod yn ffurf 4 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10.
(3) Pan fo’r pôl mewn etholiad i’r Senedd yn cael ei gynnal ynghyd â phôl mewn etholiad arall o dan erthygl 15(1) neu erthygl 16(1) neu (3), mewn unrhyw ran o’r etholaeth, ond pan na chynhelir y gweithdrefnau ynghylch dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post gyda’i gilydd o dan baragraff 2, rhaid i’r datganiad pleidlais drwy’r post a anfonir gyda’r papur pleidleisio drwy’r post at bleidleisiwr drwy’r post, i’w ddefnyddio yn y rhan honno o’r etholaeth lle y mae polau mewn mwy nag un etholiad yn cael eu cynnal, fod yn ffurf 5 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10.
Y personau sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol mewn gweithdrefnau ynghylch dyroddi papurau pleidleisio drwy’r post
4 

(1) Heb ragfarnu darpariaethau adran 6A, 6B, 6C, 6D neu 6E o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol yn y gweithdrefnau ynghylch dyroddi papurau pleidleisio drwy’r post ac eithrio’r swyddog canlyniadau ac aelodau o staff y swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid mai’r swyddog canlyniadau yw’r swyddog perthnasol at ddibenion adran 6E o’r Ddeddf honno (pwerau’r swyddog perthnasol i gyfyngu ar bresenoldeb ac ymddygiad sylwedyddion).
Y personau sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol mewn gweithdrefnau ynghylch derbyn papurau pleidleisio drwy’r post
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 6, heb ragfarnu darpariaethau adran 6A, 6B, 6C, 6D neu 6E o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, dim ond y personau a ganlyn a gaiff fod yn bresennol yn y gweithdrefnau ynghylch derbyn papurau pleidleisio drwy’r post—
(a) y swyddog canlyniadau a staff y swyddog canlyniadau,
(b) ymgeisydd unigol,
(c) ymgeisydd rhestr plaid,
(d) asiant etholiad neu unrhyw berson a benodir gan—
(i) ymgeisydd unigol i fod yn bresennol yn lle asiant etholiad yr ymgeisydd, neu
(ii) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, neu unrhyw berson a benodir gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid honno i fod yn bresennol yn lle asiant etholiad y blaid honno, neu
(e) unrhyw asiantiaid a benodir o dan baragraff 6.
(2) Rhaid mai’r swyddog canlyniadau yw’r swyddog perthnasol at ddibenion adran 6E o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000.
Penodi asiantiaid i fod yn bresennol mewn gweithdrefnau ynghylch derbyn papurau pleidleisio drwy’r post
6 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), o ran pob un o’r canlynol—
(a) ymgeisydd unigol, a
(b) asiant etholiad ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu,
sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn y gweithdrefnau ynghylch derbyn papurau pleidleisio drwy’r post yn unol â pharagraff 5, caiff benodi un neu ragor o asiantiaid i fod yn bresennol yn y gweithdrefnau hynny ar ei ran.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau osod cyfyngiad ar nifer yr asiantiaid a benodir yn unol ag is-baragraff (1), ond rhaid i uchafswm nifer yr asiantiaid a awdurdodir gan y swyddog canlyniadau fod yr un fath yn achos pob ymgeisydd unigol neu asiant etholiad ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu.
(3) Rhaid i’r ymgeisydd unigol neu’r asiant etholiad roi hysbysiad ysgrifenedig am benodiad o dan is-baragraff (1), sy’n datgan enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, i’r swyddog canlyniadau cyn yr amser a bennwyd ar gyfer agor blychau pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post.
(4) Os yw hysbysiad penodi o dan is-baragraff (3) yn datgan mwy o enwau nag a awdurdodir gan y swyddog canlyniadau o dan is-baragraff (2), rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl ymgynghori â’r ymgeisydd unigol neu’r asiant etholiad a gyflwynodd yr hysbysiad, benderfynu pa rai o’r personau a enwir yn yr hysbysiad sydd i’w hystyried i fod wedi eu penodi.
(5) Pan ddyroddir y papurau pleidleisio drwy’r post ar gyfer mwy nag un etholiad gyda’i gilydd o dan baragraff 2, y swyddog canlyniadau y mae rhaid rhoi hysbysiad iddo o dan is-baragraffau (3), (6) a (7) yw’r swyddog canlyniadau sy’n dyroddi’r papurau pleidleisio drwy’r post.
(6) Os bydd asiant (“A”) yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu, caiff yr ymgeisydd unigol neu’r asiant etholiad ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig benodi asiant arall (“B”) yn lle A, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am enw a chyfeiriad B i’r swyddog canlyniadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(7) Caniateir i asiant etholiad ymgeisydd unigol sydd wedi ei awdurdodi i benodi o dan is-baragraff (1) benodi asiantiaid a rhoi hysbysiad penodi i’r swyddog canlyniadau.
(8) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at asiantiaid i’w cymryd fel cyfeiriadau at asiantiaid y mae eu penodiadau wedi eu gwneud a’u hysbysu’n briodol ac, yn achos asiantiaid a benodir o dan is-baragraff (1), sydd o fewn y nifer a awdurdodir gan y swyddog canlyniadau.
(9) O ran unrhyw un o’r personau a ganlyn, sef—
(a) ymgeisydd unigol, neu
(b) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu,
caiff wneud unrhyw weithred neu unrhyw beth y byddai unrhyw asiant i’r ymgeisydd unigol neu’r blaid wleidyddol gofrestredig wedi ei awdurdodi i’w wneud, neu caiff gynorthwyo’r asiant i wneud unrhyw weithred neu unrhyw beth o’r fath.
(10) Yn yr Atodlen hon, pan fo’n ofynnol i unrhyw weithred neu unrhyw beth gael ei gwneud neu ei wneud, neu pan awdurdodir gwneud unrhyw weithred neu unrhyw beth, ym mhresenoldeb yr ymgeiswyr unigol neu eu hasiantiaid, neu asiantiaid plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, ni fydd diffyg presenoldeb unrhyw berson o’r fath ar yr amser ac yn y lle a benodwyd at y diben yn annilysu’r weithred neu’r peth a wneir, os gwneir y weithred neu’r peth yn briodol fel arall.
Hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd
7 
Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pob person a fydd yn bresennol yn y gweithdrefnau mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau erthygl 35(5) a (7) (gofyniad cyfrinachedd).
Yr amser y mae papurau pleidleisio drwy’r post i’w dyroddi
8 
Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi papurau pleidleisio drwy’r post a datganiadau pleidleisiau drwy’r post cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny ar ôl y dyddiad cau ar gyfer danfon papurau enwebu.
Y weithdrefn ynghylch dyroddi papur pleidleisio drwy’r post
9 

(1) Rhaid marcio rhif yr etholwr, fel y’i nodir yn y gofrestr, ar y rhestr rhifau cyfatebol, wrth ymyl rhif a marc adnabod unigryw y papur pleidleisio a ddyroddwyd i’r etholwr hwnnw.
(2) Rhaid gosod marc yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy gyferbyn â rhif yr etholwr i ddynodi bod papur pleidleisio wedi ei ddyroddi i’r etholwr neu i ddirprwy yr etholwr, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a ddyroddwyd.
(3) Rhaid marcio rhif papur pleidleisio drwy’r post ar y datganiad pleidlais drwy’r post a anfonir gyda’r papur hwnnw.
(4) Pan ddyroddir papurau pleidleisio drwy’r post ar gyfer mwy nag un etholiad gyda’i gilydd o dan baragraff 2—
(a) rhaid gosod un marc yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy o dan is-baragraff (2) i ddynodi bod papurau pleidleisio wedi eu dyroddi mewn cysylltiad â’r holl etholiadau hynny, ac eithrio, pan na ddyroddir papurau pleidleisio felly, rhaid gosod marc gwahanol yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy i nodi pa etholiad y dyroddwyd y papur pleidleisio mewn cysylltiad ag ef, a
(b) rhaid marcio rhif pob papur pleidleisio ar y datganiad pleidlais drwy’r post o dan is-baragraff (3).
(5) Pan fo’r pôl mewn etholiad i’r Senedd yn cael ei gynnal gyda’r pôl mewn etholiad arall o dan erthygl 15(1) a (2), neu erthygl 16(1) neu (3), ond na fo’r gweithdrefnau ynghylch dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post yn cael eu cynnal gyda’i gilydd o dan baragraff 2, rhaid marcio lliw y papur pleidleisio drwy’r post, neu liwiau’r papurau pleidleisio drwy’r post, hefyd ar y datganiad pleidlais drwy’r post a anfonir gyda’r papurau hynny neu’r papur hwnnw.
(6) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), y cyfeiriad y mae’r papur pleidleisio drwy’r post, y datganiad pleidlais drwy’r post a’r amlenni y cyfeirir atynt ym mharagraff 11 i’w hanfon iddo yw—
(a) yn achos etholwr, y cyfeiriad a ddangosir yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post;
(b) yn achos dirprwy, y cyfeiriad a ddangosir yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy.
(7) Pan fo gan berson gofnod dienw yn y gofrestr, rhaid anfon yr eitemau a bennir yn is-baragraff (6) i’r cyfeiriad y dylid anfon papurau pleidleisio drwy’r post iddo—
(a) fel y’i dangosir yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 6(4) neu 10(6), neu
(b) fel y’i rhoddir yn unol â chais a wnaed o dan erthygl 7(1) neu (2) neu 10(4).
Gwrthod dyroddi papurau pleidleisio drwy’r post
10 
Pan fo swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod dau neu ragor o gofnodion naill ai yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, neu ym mhob un o’r rhestrau hynny, yn ymwneud â’r un etholwr, ni chaiff y swyddog canlyniadau ddyroddi mwy nag un papur pleidleisio mewn cysylltiad â’r un etholwr ar gyfer yr un etholiad i’r Senedd.
Amlenni
11 

(1) Mae is-baragraffau (2) a (3) yn rhagnodi’r gofynion ar gyfer yr amlenni y mae rhaid i’r swyddog canlyniadau eu dyroddi i bleidleisiwr drwy’r post yn ychwanegol at y papur pleidleisio, neu’r papurau pleidleisio, a’r datganiad pleidlais drwy’r post a ddyroddir yn unol â rheol 32 o Atodlen 5 (papurau pleidleisio drwy’r post).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi amlen (y cyfeirir ati fel “prif amlen”) i bleidleisiwr drwy’r post, y mae rhaid iddi fod wedi ei marcio â’r llythyren “B”, ar gyfer dychwelyd—
(a) y papur pleidleisio drwy’r post neu’r papurau pleidleisio drwy’r post, a
(b) y datganiad pleidlais drwy’r post.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi amlen lai (y cyfeirir ati fel “amlen papur pleidleisio”) i bleidleisiwr drwy’r post, y mae rhaid iddi fod wedi ei marcio â’r canlynol—
(a) y llythyren “A”;
(b) y geiriau—
(i) “Amlen papur pleidleisio”, a
(ii) “Ballot paper envelope”;
(c) rhif pob papur pleidleisio a ddyroddir i’r pleidleisiwr drwy’r post.
(4) Pan fo’r pôl mewn etholiad i’r Senedd yn cael ei gynnal ynghyd â’r pôl mewn etholiad arall o dan erthygl 15(1) a (2), neu erthygl 16(1) neu (3), ond pan na fo’r gweithdrefnau ynghylch dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post i’w cynnal gyda’i gilydd o dan baragraff 2—
(a) rhaid marcio’r amlen y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) â’r geiriau a ganlyn hefyd—
(i) “Prif amlen ar gyfer y papur(au) pleidleisio lliw [nodwch liw’r papur(au) pleidleisio]”, a
(ii) “Covering envelope for the [insert colour of ballot paper(s)] coloured ballot paper(s)”;
(b) ar yr amlen y cyfeirir ati yn is-baragraff (3), ar ôl y geiriau—
(i) “Amlen papur pleidleisio” rhaid ychwanegu’r geiriau “ar gyfer y papur(au) pleidleisio lliw [nodwch liw’r papur(au) pleidleisio]”, a
(ii) “Ballot paper envelope” rhaid ychwanegu’r geiriau “for the [insert colour of ballot paper(s)] coloured ballot paper(s)”.
Diogelwch rhestrau wedi eu marcio
12 

(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dyroddi pob swp o bapurau pleidleisio drwy’r post, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) casglu ynghyd mewn pecyn y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd ar gyfer y papurau pleidleisio hynny sydd wedi eu dyroddi, a
(b) selio’r pecyn.
(2) Tan i’r pecyn gael ei selio yn unol â pharagraff 21(9), rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd pob rhagofal priodol i sicrhau diogelwch y copi wedi ei farcio o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy.
Danfon papurau pleidleisio drwy’r post
13 

(1) At ddibenion danfon papurau pleidleisio drwy’r post, caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio’r canlynol—
(a) darparwr gwasanaeth cyffredinol,
(b) cwmni danfon masnachol, neu
(c) personau a benodir o dan reol 35(1) o Atodlen 5 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod).
(2) Pan fo gwasanaethau darparwr gwasanaeth cyffredinol neu gwmni danfon masnachol i’w defnyddio, rhaid i amlenni sydd wedi eu cyfeirio at bleidleiswyr drwy’r post gael eu cyfrif a’u danfon gan y swyddog canlyniadau at y darparwr gwasanaeth cyffredinol neu’r cwmni danfon masnachol, ynghyd â math o dderbynneb y mae rhaid i’r swyddog canlyniadau drefnu i’r darparwr gwasanaeth cyffredinol neu’r darparwr masnachol ei harnodi.
(3) Rhaid talu cost postio ymlaen llaw ar amlenni a gyfeirir at y pleidleiswyr drwy’r post, ac eithrio pan fo is-baragraff (1)(c) yn gymwys.
(4) Rhaid talu cost postio dychwelyd ymlaen llaw ar bob prif amlen pan fo’r cyfeiriad a ddarperir gan y pleidleisiwr drwy’r post ar gyfer derbyn y papur pleidleisio drwy’r post yn y Deyrnas Unedig.
Papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd
14 

(1) Os yw pleidleisiwr drwy’r post (“P”) wedi ymdrin yn anfwriadol â phapur pleidleisio drwy’r post P neu â datganiad pleidlais drwy’r post P yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio (y cyfeirir ato fel “papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd”) neu fel datganiad pleidlais drwy’r post (y cyfeirir ato fel “datganiad pleidlais drwy’r post a ddifethwyd”), caiff P ddychwelyd y papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd neu’r datganiad pleidlais drwy’r post a ddifethwyd i’r swyddog canlyniadau, naill ai â llaw neu drwy’r post.
(2) Pan fo P yn dychwelyd papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd neu ddatganiad pleidlais drwy’r post a ddifethwyd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i P hefyd ddychwelyd—
(a) y papur pleidleisio drwy’r post, neu’r datganiad pleidlais drwy’r post, pa un a yw wedi ei ddifetha a’i peidio,
(b) pan fo papurau pleidleisio drwy’r post ar gyfer mwy nag un etholiad wedi eu dyroddi gyda’i gilydd, gan gynnwys o dan baragraff 2, yr holl bapurau pleidleisio eraill a ddyroddwyd felly, pa un a ydynt wedi eu difetha ai peidio, ac
(c) yr amlenni a gyflenwyd ar gyfer dychwelyd y dogfennau a grybwyllir yn is-baragraff (1) a pharagraffau (a) a (b) o’r is-baragraff hwn.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo P yn dychwelyd y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), a, phan fo’n gymwys, is-baragraff (2), i’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi papur pleidleisio drwy’r post newydd neu bapurau pleidleisio drwy’r post newydd.
(4) Pan fo’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), a, phan fo’n gymwys, is-baragraff (2), yn dod i law’r swyddog canlyniadau ar ôl 5.00 p.m. ar y diwrnod cyn diwrnod y pôl, ni chaiff y swyddog canlyniadau ond dyroddi papur pleidleisio drwy’r post newydd neu bapurau pleidleisio drwy’r post newydd os yw P wedi dychwelyd y dogfennau â llaw.
(5) Yn lle danfon papur pleidleisio drwy’r post newydd yn unol â pharagraff 13, pan fo P yn gwneud cais yn bersonol—
(a) erbyn 5.00 p.m. ar y diwrnod cyn diwrnod y pôl, caiff y swyddog canlyniadau roi papur pleidleisio drwy’r post newydd â llaw i P, neu
(b) ar ôl 5.00 p.m. ar y diwrnod cyn diwrnod y pôl, ni chaiff y swyddog canlyniadau ond rhoi papur pleidleisio drwy’r post newydd i P â llaw.
(6) Mae paragraffau 5, 6, 7, 9, ac eithrio is-baragraff (2), 10 i 12 ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) o’r paragraff hwn, 13, yn gymwys wrth ddyroddi papur pleidleisio drwy’r post newydd o dan is-baragraff (3).
(7) Rhaid canslo unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post neu ddatganiad pleidlais drwy’r post a ddychwelir yn unol ag is-baragraff (1) neu (2) ar unwaith, pa un a yw wedi ei ddifetha ai peidio.
(8) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl canslo’r dogfennau hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gasglu’r dogfennau hynny ynghyd mewn pecyn ar wahân a rhaid iddo selio’r pecyn.
(9) Os caiff dogfennau ychwanegol eu canslo yn unol â’r paragraff hwn ar unrhyw achlysur dilynol, rhaid agor y pecyn sydd wedi ei selio a chynnwys ynddo’r dogfennau ychwanegol a ganslwyd, ac yna rhaid casglu’r pecyn ynghyd a’i selio eto.
(10) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi mewn rhestr a gedwir at y diben (“y rhestr o bapurau pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd”)—
(a) enw a rhif yr etholwr fel y’u nodir yn y gofrestr neu, yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rif etholiadol yr etholwr yn unig,
(b) rhif y papur pleidleisio drwy’r post, neu’r papurau pleidleisio drwy’r post, a ddyroddir o dan y paragraff hwn, ac
(c) pan fo’r pleidleisiwr drwy’r post y mae ei bapur pleidleisio wedi ei ddifetha yn ddirprwy, enw a chyfeiriad y dirprwy.
Papurau pleidleisio drwy’r post a gollwyd
15 

(1) Pan fo pleidleisiwr drwy’r post (“P”) yn honni ei fod naill ai wedi colli neu nad yw wedi cael—
(a) papur pleidleisio drwy’r post P,
(b) datganiad pleidlais drwy’r post P, neu
(c) un neu ragor o’r amlenni a gyflenwir i’w dychwelyd,
erbyn y pedwerydd diwrnod cyn diwrnod y pôl, caiff P wneud cais, pa un ai yn bersonol neu fel arall, i’r swyddog canlyniadau am bapur pleidleisio newydd.
(2) Rhaid i gais gan P o dan is-baragraff (1) gynnwys tystiolaeth sy’n dangos pwy yw P.
(3) Pan fo P yn arfer yr hawlogaeth a roddir gan is-baragraff (1), rhaid i P ddychwelyd yr eitemau a ganlyn y mae P wedi eu cael ac nad ydynt wedi eu colli—
(a) y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), a
(b) pan fo papurau pleidleisio drwy’r post ar gyfer mwy nag un etholiad wedi eu dyroddi gyda’i gilydd, gan gynnwys o dan baragraff 2, pob papur pleidleisio arall a ddyroddwyd felly.
(4) Rhaid canslo unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post neu ddatganiad pleidlais drwy’r post a ddychwelir yn unol ag is-baragraff (3) ar unwaith.
(5) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl canslo’r dogfennau hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gasglu’r dogfennau hynny ynghyd mewn pecyn ar wahân a rhaid iddo selio’r pecyn.
(6) Os caiff dogfennau ychwanegol eu canslo yn unol â’r paragraff hwn ar unrhyw achlysur dilynol, rhaid agor y pecyn sydd wedi ei selio a chynnwys ynddo’r dogfennau ychwanegol a ganslwyd, ac yna rhaid casglu’r pecyn ynghyd a’i selio eto.
(7) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (8), pan ddaw’r cais i law’r swyddog canlyniadau cyn 5.00 p.m. ar ddiwrnod y pôl ac o ran y swyddog canlyniadau—
(a) mae wedi ei fodloni o ran pwy yw P, a
(b) nid oes ganddo unrhyw reswm i amau bod P wedi colli neu na chafodd y papur pleidleisio drwy’r post gwreiddiol neu’r datganiad pleidlais drwy’r post gwreiddiol neu un neu ragor o’r amlenni a ddarparwyd ar gyfer eu dychwelyd,
rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi papur pleidleisio drwy’r post arall, neu bapurau pleidleisio drwy’r post eraill.
(8) Caiff y swyddog canlyniadau wrthod dyroddi papur pleidleisio drwy’r post arall os oes gan y swyddog canlyniadau reswm i amau, o ran y pleidleisiwr drwy’r post, naill ai ei fod wedi colli neu na chafodd y papur pleidleisio drwy’r post gwreiddiol neu’r datganiad pleidlais drwy’r post gwreiddiol neu un neu ragor o’r amlenni a ddarparwyd ar gyfer eu dychwelyd.
(9) Pan ddaw’r cais i law’r swyddog canlyniadau ar ôl 5.00 p.m. ar y diwrnod cyn diwrnod y pôl, ni chaiff y swyddog canlyniadau ond dyroddi papur pleidleisio drwy’r post arall neu bapurau pleidleisio drwy’r post eraill os yw P yn gwneud cais yn bersonol.
(10) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi mewn rhestr a gedwir at y diben (“y rhestr o bapurau pleidleisio drwy’r post a gollwyd”)—
(a) enw a rhif yr etholwr fel y’u nodir yn y gofrestr neu, yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rif etholiadol yr etholwr yn unig,
(b) rhif y papur pleidleisio drwy’r post a gollwyd neu nas cafwyd a’r papur newydd a ddyroddwyd o dan y paragraff hwn, ac
(c) pan fo’r pleidleisiwr drwy’r post yn ddirprwy, enw a chyfeiriad y dirprwy.
(11) Mae paragraffau 5, 6, 7, 9, ac eithrio is-baragraff (2), 10 i 12, ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (12) o’r paragraff hwn, 13, yn gymwys wrth ddyroddi papur pleidleisio drwy’r post newydd o dan is-baragraff (7).
(12) Yn lle danfon papur pleidleisio drwy’r post newydd yn unol â pharagraff 13, pan fo P yn gwneud cais yn bersonol—
(a) erbyn 5.00 p.m. ar y diwrnod cyn diwrnod y pôl, caiff y swyddog canlyniadau roi papur pleidleisio drwy’r post newydd i P â llaw, neu
(b) ar ôl 5.00 p.m. ar y diwrnod cyn diwrnod y pôl, ni chaiff y swyddog canlyniadau ond rhoi papur pleidleisio drwy’r post newydd i P â llaw.
(13) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn dyroddi papur pleidleisio drwy’r post arall neu bapurau pleidleisio drwy’r post eraill, o dan is-baragraff (7), rhaid canslo’r papur pleidleisio a gollwyd neu nas cafwyd ac ni fydd yn cael unrhyw effaith.
(14) Wrth ymdrin â phapurau pleidleisio drwy’r post a gollwyd, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y paragraff hwn.
Canslo papurau pleidleisio drwy’r post
16 

(1) Pan, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer danfon papurau enwebu, fo cais o dan—
(a) erthygl 6(5)(a) (cais i dynnu person o’r cofnod o bleidleiswyr absennol),
(b) erthygl 6(6) neu 7(4)(b) (cais gan berson y cofnodwyd ei fod yn pleidleisio drwy’r post i bleidleisio drwy ddirprwy),
(c) erthygl 6(8) (cais gan berson y cofnodwyd ei fod yn pleidleisio drwy ddirprwy i bleidleisio drwy’r post),
(d) erthygl 7(4)(a) (cais i bapur pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol),
(e) erthygl 9(6) neu (7) (cais i bleidleisio drwy ddirprwy),
(f) erthygl 10(7) (cais gan bleidleisiwr drwy’r post drwy ddirprwy i bapur pleidleisio drwy’r post gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol), neu
(g) erthygl 10(10)(a) (cais gan bleidleisiwr drwy’r post drwy ddirprwy i dynnu ei enw o’r cofnod o ddirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post),
yn cael ei ganiatáu, neu pan ddaw hysbysiad o dan erthygl 9(9) (canslo penodiad dirprwy) i law, ac nad yw’r cais neu’r hysbysiad i’w ddiystyru at ddibenion yr etholiad o dan baragraff 11 o Atodlen 1 (y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais absennol), rhaid i’r swyddog cofrestru hysbysu’r swyddog canlyniadau a rhaid i’r swyddog canlyniadau ganslo unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post a ddyroddwyd i’r etholwr neu i’r dirprwy ar unwaith ac, yn achos cais a grybwyllir ym mharagraff (d) neu (f) o’r is-baragraff hwn, rhaid iddo ddyroddi papur pleidleisio newydd.
(2) Pan fo person yn dychwelyd papur pleidleisio drwy’r post sydd wedi cael ei ganslo neu sydd i’w ganslo, i’r swyddog cofrestru neu i’r swyddog canlyniadau, rhaid ymdrin â’r papur pleidleisio drwy’r post fel a ganlyn—
(a) rhaid i’r papur pleidleisio, ynghyd ag unrhyw bapurau pleidleisio eraill, datganiadau pleidleisiau drwy’r post neu brif amlenni sy’n cael eu dychwelyd i’r swyddog cofrestru, gael eu rhoi i’r swyddog canlyniadau gan y swyddog cofrestru;
(b) rhaid i unrhyw ddogfen a ddychwelir yn unol â’r is-baragraff hwn ond nas canslwyd yn unol ag is-baragraff (1) gael ei chanslo ar unwaith;
(c) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl canslo’r dogfennau hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gasglu’r dogfennau hynny ynghyd mewn pecyn ar wahân, a rhaid iddo selio’r pecyn, ac os caiff dogfennau ychwanegol eu dychwelyd yn unol â’r paragraff hwn ar unrhyw achlysur dilynol, rhaid agor y pecyn sydd wedi ei selio a chynnwys ynddo’r dogfennau ychwanegol a ganslwyd, ac yna rhaid casglu’r pecyn ynghyd a’i selio eto.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi mewn rhestr a gedwir at ddiben cofnodi papurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi eu canslo o dan y paragraff hwn (“y rhestr o bapurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi eu canslo”)—
(a) enw a rhif yr etholwr fel y’u nodir yn y gofrestr neu, yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rif etholiadol yr etholwr yn unig,
(b) rhif y papur pleidleisio drwy’r post sydd wedi ei ganslo,
(c) rhif unrhyw bapur pleidleisio newydd a ddyroddir o dan is-baragraff (1), a
(d) pan fo’r pleidleisiwr drwy’r post yn ddirprwy, enw a chyfeiriad y dirprwy.
(4) Mae paragraffau 5, 6, 7, 9, ac eithrio is-baragraff (2), a 10 i 13 yn gymwys i ddyroddi unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post newydd o dan is-baragraff (1).
Derbyn papurau pleidleisio drwy’r post
Hysbysu ynghylch agor amlenni papurau pleidleisio drwy’r post
17 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi dim llai na 48 awr o rybudd ysgrifenedig i’r canlynol am bob achlysur pan fydd blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post a’r amlenni ynddo i’w hagor—
(a) pob ymgeisydd unigol,
(b) pob ymgeisydd rhestr plaid, ac
(c) asiant etholiad pob plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) bennu—
(a) yr amser a’r lle y mae’r blwch a’r amlenni i’w hagor, a
(b) nifer yr asiantiaid y caiff ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig eu penodi o dan baragraff 6 i fod yn bresennol bob tro yr agorir blwch ac amlenni.
Blychau a daliedyddion pleidleisio drwy’r post
18 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu blwch pleidleisio ar wahân ar gyfer derbyn—
(a) y prif amlenni pan y’u dychwelir gan y pleidleiswyr drwy’r post (“blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post”), a
(b) papurau pleidleisio drwy’r post (“blwch pleidleisio drwy’r post”).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio—
(a) y blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post â’r geiriau “blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post” neu’r geiriau “postal voters ballot box” neu’r ddau,
(b) y blwch pleidleisio drwy’r post â’r geiriau “blwch pleidleisio drwy’r post” neu’r geiriau “postal ballot box” neu’r ddau, ac
(c) y ddau flwch ag enw’r etholaeth y cynhelir yr etholiad, neu’r etholiadau, ar ei chyfer.
(3) Pan agorir y blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post cyntaf, rhaid dangos y blwch pleidleisio drwy’r post i’r asiantiaid sy’n bresennol fel y gallant weld ei fod yn wag.
(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cloi’r blwch pleidleisio drwy’r post, os oes iddo glo, a
(b) gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl, ac wedyn caiff unrhyw un neu ragor o’r asiantiaid sy’n bresennol sy’n dymuno ychwanegu eu sêl hwythau wneud yr un peth.
(5) Os daw’n angenrheidiol defnyddio mwy nag un blwch pleidleisio drwy’r post, rhaid dangos pob blwch pleidleisio drwy’r post ychwanegol a ddefnyddir i’r asiantiaid sy’n bresennol fel y gallant weld ei fod yn wag, yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cloi’r blwch pleidleisio drwy’r post, os oes iddo glo, a
(b) gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl, ac wedyn caiff unrhyw un neu ragor o’r asiantiaid sy’n bresennol sy’n dymuno ychwanegu eu sêl hwythau wneud yr un peth.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu’r daliedyddion a ganlyn—
(a) y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd,
(b) y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio,
(c) y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd,
(d) y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), ac
(e) y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisiau drwy’r post (y weithdrefn wirhau).
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd rhagofalon priodol i sicrhau bod pob blwch pleidleisio a phob daliedydd y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yn cael ei gadw’n ddiogel.
Derbyn prif amlen
19 

(1) Pan ddaw’r canlynol i law’r swyddog canlyniadau, cyn i’r pôl gau—
(a) prif amlen, neu
(b) amlen y datgenir ei bod yn cynnwys pleidlais drwy’r post,
rhaid i’r swyddog canlyniadau osod yr amlen honno heb ei hagor mewn blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post ar unwaith.
(2) Pan fo amlen, ac eithrio prif amlen a ddyroddwyd gan y swyddog canlyniadau—
(a) wedi ei hagor, a
(b) yn cynnwys amlen papur pleidleisio, datganiad pleidlais drwy’r post neu bapur pleidleisio,
rhaid gosod yr amlen a grybwyllwyd yn gyntaf, ynghyd â’i chynnwys, mewn blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post.
(3) Caiff y swyddog canlyniadau gasglu unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post neu unrhyw ddatganiad pleidlais drwy’r post, neu achosi i unrhyw un o’r rhain gael ei gasglu, y byddai’n ofynnol fel arall, yn rhinwedd rheol 55 o Atodlen 5 (y weithdrefn wrth gau’r pôl), i swyddog llywyddu gorsaf bleidleisio ei ddanfon, neu achosi iddo gael ei ddanfon, at y swyddog canlyniadau.
(4) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn casglu unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post neu unrhyw ddatganiad pleidlais drwy’r post, neu’n achosi i unrhyw un o’r rhain gael ei gasglu, yn unol ag is-baragraff (3), rhaid i’r swyddog llywyddu yn gyntaf ei gasglu, neu eu casglu, ynghyd mewn pecyn, neu becynnau, wedi ei selio neu eu selio â sêl y swyddog llywyddu ei hun a seliau unrhyw asiantiaid pôl sy’n bresennol ac sy’n dymuno ychwanegu eu seliau hwythau.
Agor blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post
20 

(1) Rhaid i bob blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post gael ei agor gan y swyddog canlyniadau ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid, os ydynt yn bresennol.
(2) Cyn belled â bod y swyddog canlyniadau yn sicrhau bod o leiaf un blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post wedi ei selio ar gyfer derbyn prif amlenni hyd at amser cau’r pôl, caiff y swyddog canlyniadau agor y blychau pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post eraill cyn yr amser hwnnw.
(3) Rhaid agor y blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post olaf a’r holl flychau pleidleisio drwy’r post wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif o dan reol 58 o Atodlen 5 (y cyfrif: camau).
Agor prif amlenni
21 

(1) Pan agorir blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif a chofnodi nifer y prif amlenni, gan gynnwys unrhyw amlen y datgenir ei bod yn cynnwys pleidlais drwy’r post ac unrhyw amlen a ddisgrifir ym mharagraff 19(2).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau agor ar wahân bob prif amlen, gan gynnwys amlen a ddisgrifir ym mharagraff 19(2).
(3) Mae’r weithdrefn ym mharagraff 23 yn gymwys pan fo prif amlen, gan gynnwys amlen a ddisgrifir ym mharagraff 19(2), yn cynnwys datganiad pleidlais drwy’r post.
(4) Pan na fo’r brif amlen yn cynnwys y datganiad pleidlais drwy’r post ar wahân, rhaid i’r swyddog canlyniadau agor yr amlen papur pleidleisio i ganfod a yw’r datganiad pleidlais drwy’r post y tu mewn iddi.
(5) Pan na fo prif amlen yn cynnwys datganiad pleidlais drwy’r post, pa un ai ar wahân ai peidio, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r brif amlen â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau, atodi cynnwys yr amlen, os oes unrhyw beth ynddi, a’i rhoi yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
(6) Wrth gyflawni’r gweithdrefnau yn y paragraff hwn a pharagraffau 23 i 27, o ran y swyddog canlyniadau a staff y swyddog canlyniadau—
(a) rhaid iddynt gadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau ar i lawr a rhaid iddynt gymryd pob rhagofal priodol er mwyn atal unrhyw berson rhag gweld y pleidleisiau a wnaed ar y papurau pleidleisio, a
(b) ni chaniateir iddynt weld y rhestr rhifau cyfatebol a ddefnyddiwyd wrth ddyroddi’r papurau pleidleisio drwy’r post.
(7) Pan fo amlen a agorwyd yn unol ag is-baragraff (2) yn cynnwys datganiad pleidlais drwy’r post, rhaid i’r swyddog canlyniadau osod marc yn y copi wedi ei farcio o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy mewn lle sy’n cyfateb i rif yr etholwr i ddynodi bod pleidlais drwy’r post wedi ei dychwelyd.
(8) Rhaid gallu gwahaniaethu rhwng marc a wneir o dan is-baragraff (7) a marc a wnaed o dan baragraff 9, ac ni chaniateir i’r marc a wneir o dan is-baragraff (7) guddio’r marc a wnaed o dan baragraff 9.
(9) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r brif amlen olaf gael ei hagor, rhaid i’r swyddog canlyniadau gasglu ynghyd mewn pecyn y copïau o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post wedi ei marcio a’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy wedi ei marcio a farciwyd yn unol ag is-baragraff (7), a rhaid iddo selio’r pecyn.
Cadarnhau bod datganiadau pleidleisiau drwy’r post wedi dod i law
22 

(1) Caiff etholwr neu bleidleisiwr drwy ddirprwy a ddangosir yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy wneud cais, ar unrhyw adeg rhwng y dyroddiad cyntaf o bleidleisiau drwy’r post o dan baragraff 9 ac amser cau’r pôl, i’r swyddog canlyniadau gadarnhau’r canlynol—
(a) a oes marc ar y copi wedi ei farcio o’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy mewn lle sy’n cyfateb i rif yr etholwr i ddynodi bod pleidlais drwy’r post wedi ei dychwelyd, a
(b) a yw rhif y papur neu’r papurau pleidleisio a ddyroddwyd i’r etholwr neu i ddirprwy yr etholwr wedi ei gofnodi ar unrhyw un neu ragor o’r rhestrau o bleidleisiau a wrthodwyd dros dro a gedwir gan y swyddog canlyniadau o dan baragraff 26.
(2) Rhaid i gais o dan is-baragraff (1)—
(a) cael ei wneud drwy unrhyw ddull a bennir gan y swyddog canlyniadau, a
(b) cynnwys unrhyw dystiolaeth y gofynnodd y swyddog canlyniadau amdani ynghylch pwy yw’r pleidleisiwr.
(3) Pan ddaw cais i law yn unol ag is-baragraff (2), cyn i’r swyddog canlyniadau gadarnhau’r materion o dan is-baragraff (1), rhaid i’r swyddog canlyniadau fod wedi ei fodloni bod y cais wedi ei wneud gan yr etholwr neu gan ddirprwy yr etholwr.
(4) Wrth ymdrin â cheisiadau o dan is-baragraff (1), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y paragraff hwn.
Y weithdrefn mewn perthynas â datganiadau pleidleisiau drwy’r post: gwirhau dynodyddion personol
23 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 21(3) (prif amlen yn cynnwys datganiad pleidlais drwy’r post).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau fod wedi ei fodloni bod y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol ac, yn rhan o’r broses honno, rhaid iddo gymharu’r dyddiad geni a’r llofnod ar y datganiad pleidlais drwy’r post â’r dyddiad geni a’r llofnod a gynhwysir yn y cofnod dynodyddion personol sy’n ymwneud â’r person yr oedd y papur pleidleisio drwy’r post wedi ei gyfeirio ato.
(3) Pan na fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r datganiad â’r gair “gwrthodwyd” neu’r gair “rejected” neu’r ddau, atodi iddo’r amlen papur pleidleisio neu, os nad oes amlen ond bod papur pleidleisio, y papur pleidleisio ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), ei osod yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau).
(4) Pan na fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol ond nad oes amlen papur pleidleisio na phapur pleidleisio, rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), osod y datganiad fel y mae yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau).
(5) Cyn gosod unrhyw ddatganiad pleidlais drwy’r post yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) ei ddangos i unrhyw asiantiaid sy’n bresennol,
(b) caniatáu iddynt weld y cofnodion yn y cofnod dynodyddion personol sy’n ymwneud â’r person yr oedd y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gyfeirio ato, ac
(c) os bydd unrhyw un neu ragor ohonynt yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” neu’r geiriau “rejection objected to” neu’r ddau at y datganiad pleidlais drwy’r post.
(6) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu’r rhif, neu’r rhifau, ar y datganiad pleidlais drwy’r post â’r rhif, neu’r rhifau, ar yr amlen papur pleidleisio a, phan fo’r rhifau hynny yr un fath, rhaid i’r swyddog canlyniadau osod—
(a) y datganiad yn y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisiau drwy’r post (y weithdrefn wirhau);
(b) yr amlen papur pleidleisio yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau agor yr amlen papur pleidleisio—
(a) pan na fo’r rhif ar ddatganiad pleidlais drwy’r post dilys yr un fath â’r rhif ar yr amlen papur pleidleisio, neu
(b) pan na fo rhif ar yr amlen, neu pan na fo ond un rhif arni, pan fo mwy nag un rhif ar y datganiad pleidlais drwy’r post.
(8) Mae is-baragraff (9) yn gymwys—
(a) pan fo datganiad pleidlais drwy’r post dilys ond na fo amlen papur pleidleisio, neu
(b) pan fo’r amlen papur pleidleisio wedi cael ei hagor o dan is-baragraff (7) neu baragraff 21(4).
(9) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-baragraff (8), rhaid i’r swyddog canlyniadau osod—
(a) yn y blwch pleidleisio drwy’r post, unrhyw bapur pleidleisio y mae’r rhif sydd arno yr un fath â’r rhif, neu un o’r rhifau, ar y datganiad pleidlais drwy’r post dilys;
(b) yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), unrhyw bapur pleidleisio arall, â’r datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei farcio â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau ynghlwm wrtho;
(c) yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), unrhyw ddatganiad pleidlais drwy’r post dilys sydd wedi ei farcio â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau—
(i) pan na fo papur pleidleisio, neu
(ii) yn achos datganiad y mae rhif mwy nag un papur pleidleisio yn ymddangos arno, pan na fo nifer digonol o bapurau pleidleisio ac, mewn achos o’r fath, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r datganiad;
(d) yn y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisiau drwy’r post (y weithdrefn wirhau), unrhyw ddatganiad dilys nas gwaredwyd o dan baragraff (b) neu (c) o’r is-baragraff hwn.
Agor amlenni papurau pleidleisio
24 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau agor ar wahân bob amlen papur pleidleisio a osodwyd yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau osod—
(a) yn y blwch pleidleisio drwy’r post, unrhyw bapur pleidleisio y mae’r rhif sydd arno yr un fath â’r rhif, neu un o’r rhifau, ar yr amlen papur pleidleisio;
(b) yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd, unrhyw bapur pleidleisio arall y mae rhaid ei farcio â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau, ac y mae rhaid atodi’r amlen papur pleidleisio iddo;
(c) yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd, unrhyw amlen papur pleidleisio y mae rhaid ei marcio â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau, gan nad yw’n cynnwys naill ai bapur pleidleisio neu, pan fo mwy nag un rhif yn ymddangos ar yr amlen papur pleidleisio, nifer digonol o bapurau pleidleisio, a datgan, mewn achos o’r fath, pa bapur pleidleisio neu bapurau pleidleisio sydd ar goll.
Adalw papurau pleidleisio drwy’r post a ganslwyd
25 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio ag is-baragraffau (2) a (3) pan fo’n ymddangos i’r swyddog canlyniadau fod papur pleidleisio drwy’r post a ganslwyd wedi ei osod—
(a) mewn blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post,
(b) yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio, neu
(c) mewn blwch pleidleisio drwy’r post.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar o leiaf un achlysur pan agorir blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post yn unol â pharagraff 20, hefyd agor unrhyw flwch pleidleisio drwy’r post a’r daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a gwneud y canlynol—
(a) adalw’r papur pleidleisio a ganslwyd,
(b) dangos y rhif papur pleidleisio ar y papur pleidleisio a ganslwyd i unrhyw asiantiaid sy’n bresennol,
(c) adalw’r datganiad pleidlais drwy’r post sy’n ymwneud â phapur pleidleisio a ganslwyd o’r daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisiau drwy’r post (y weithdrefn wirhau),
(d) atodi unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post a ganslwyd i’r datganiad pleidlais drwy’r post y mae’n ymwneud ag ef,
(e) gosod y dogfennau a ganslwyd mewn pecyn ar wahân ac ymdrin â’r pecyn hwnnw yn y dull y darperir ar ei gyfer gan baragraff 14(8) neu 16, ac
(f) oni bai bod y blwch pleidleisio drwy’r post wedi ei agor at ddibenion cyfrif y pleidleisiau o dan reol 58 o Atodlen 5 (y cyfrif: camau), ailselio’r blwch pleidleisio drwy’r post ym mhresenoldeb yr asiantiaid.
(3) Wrth adalw papurau pleidleisio a ganslwyd yn unol ag is-baragraff (2), o ran y swyddog canlyniadau a staff y swyddog canlyniadau—
(a) rhaid iddynt gadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau ar i lawr a rhaid iddynt gymryd pob rhagofal priodol er mwyn atal unrhyw berson rhag gweld y pleidleisiau a wnaed ar y papurau pleidleisio, a
(b) ni chaniateir iddynt weld y rhestr rhifau cyfatebol a ddefnyddiwyd wrth ddyroddi’r papurau pleidleisio drwy’r post.
Rhestrau o bapurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd
26 

(1) Mewn cysylltiad ag unrhyw etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau gadw tair rhestr ar wahân sy’n ymwneud â phapurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd.
(2) Yn y rhestr gyntaf, rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post nad oes datganiad pleidlais drwy’r post dilys wedi dod gydag ef.
(3) Yn yr ail restr, rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post sydd wedi ei gofnodi ar ddatganiad pleidlais drwy’r post dilys pan na fo’r papur pleidleisio hwnnw yn dod i law gyda’r datganiad pleidlais drwy’r post.
(4) Yn y drydedd restr, rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi ar gyfer pob datganiad pleidlais drwy’r post yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau) yn union cyn ei selio—
(a) enw a chyfeiriad yr etholwr, ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy,
(b) rhif yr etholwr ar y gofrestr etholwyr, a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy,
(c) y rheswm neu’r rhesymau penodedig dros wrthod y datganiad pleidlais drwy’r post, a
(d) unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â gwrthod y datganiad pleidlais drwy’r post y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol, ond nid y rhif papur pleidleisio.
(5) Y rhesymau penodedig y caniateir eu rhoi o dan is-baragraff (4)(c) dros wrthod datganiad pleidlais drwy’r post yw—
(a) nid yw’r llofnod yn cyd-fynd â’r enghraifft a ddelir yn y cofnod dynodyddion personol;
(b) nid yw’r dyddiad geni yn cyd-fynd â’r dyddiad a ddelir yn y cofnod dynodyddion personol;
(c) mae’r maes llofnod yn wag;
(d) mae’r maes dyddiad geni yn wag.
Gwirio rhestrau a gedwir o dan baragraff 26
27 

(1) Pan fo datganiad pleidlais drwy’r post dilys yn dod i law’r swyddog canlyniadau heb y papur neu’r papurau pleidleisio drwy’r post, neu’r holl bapurau, y mae’n ymwneud â hwy, caiff y swyddog canlyniadau, ar unrhyw adeg cyn i’r pôl gau, wirio’r rhestr a gedwir o dan baragraff 26(2) i weld a yw rhif, neu rifau, papur pleidleisio drwy’r post y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef wedi ei gofnodi neu eu cofnodi yn y rhestr honno.
(2) Pan fo papur pleidleisio drwy’r post yn dod i law’r swyddog canlyniadau heb y datganiad pleidlais drwy’r post sy’n ymwneud ag ef, caiff y swyddog canlyniadau, ar unrhyw adeg cyn i’r pôl gau, wirio’r rhestr a gedwir o dan baragraff 26(3) i weld a yw rhif y papur pleidleisio hwnnw wedi ei gofnodi yn y rhestr honno.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnal y gwiriadau sy’n ofynnol gan is-baragraffau (1) a (2) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael pecynnau o bob gorsaf bleidleisio o dan reol 55 o Atodlen 5 (y weithdrefn wrth gau’r pôl).
(4) Pan fo’r rhif papur pleidleisio yn y rhestr yn cyfateb i’r rhif hwnnw ar ddatganiad pleidlais drwy’r post dilys neu ar y papur pleidleisio drwy’r post, rhaid i’r swyddog canlyniadau adalw’r datganiad neu’r papur hwnnw.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wedyn gymryd y camau priodol o dan yr Atodlen hon fel pe na bai unrhyw ddogfen a farciwyd yn gynharach â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau, wedi ei marcio felly a rhaid iddo ddiwygio’r ddogfen yn unol â hynny.
Selio’r daliedyddion
28 

(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cwblhau’r weithdrefn o dan baragraff 27(3) i (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau gasglu ynghyd mewn pecynnau ar wahân gynnwys y canlynol—
(a) y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd,
(b) y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd,
(c) y rhestrau o bapurau pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd, a gollwyd ac a ganslwyd,
(d) y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), ac
(e) y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisiau drwy’r post (y weithdrefn wirhau).
(2) Ar ôl casglu’r pecynnau ynghyd yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r pecynnau.
(3) Mae unrhyw ddogfennau yn y pecynnau hynny sydd wedi eu marcio â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro” neu’r geiriau “provisionally rejected” neu’r ddau i’w barnu fel pe baent wedi eu marcio â’r gair “gwrthodwyd” neu’r gair “rejected” neu’r ddau.
Rhoi’r gorau i bôl
29 

(1) Pan roddir y gorau i bôl neu pan gaiff ei ddiddymu ar ôl i bapurau pleidleisio drwy’r post gael eu dyroddi, oherwydd marwolaeth ymgeisydd, o ran y swyddog canlyniadau—
(a) ni chaiff gymryd unrhyw gam neu unrhyw gam pellach i agor prif amlenni nac i ymdrin â chynnwys yr amlenni hynny yn unol â darpariaethau’r Atodlen hon, a
(b) rhaid iddo, er gwaethaf paragraffau 21 i 25, drin pob prif amlen heb ei hagor a chynnwys y rhai sydd wedi eu hagor fel pe baent yn bapurau pleidleisio a gyfrifwyd (gweler rheolau 66 a 67 o Atodlen 5).
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo papurau pleidleisio drwy’r post ar gyfer mwy nag un etholiad wedi eu dyroddi gyda’i gilydd o dan baragraff 2.
Anfon dogfennau ymlaen
30 

(1) Ar yr un pryd ag y mae’r swyddog canlyniadau yn anfon y dogfennau a grybwyllir yn rheol 67 o Atodlen 5 (danfon dogfennau at y swyddog cofrestru mewn etholiadau a ymleddir) ymlaen at y swyddog cofrestru perthnasol, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd anfon ymlaen at yr un swyddog cofrestru—
(a) unrhyw becynnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 12, 14(8), 15(5), 16(2), 21(9) ac 28, yn ddarostyngedig i baragraff 29, gan arnodi ar bob pecyn ddisgrifiad o’i gynnwys, dyddiad yr etholiad y mae’n ymwneud ag ef ac enw’r etholaeth y cynhaliwyd yr etholiad neu’r etholiadau ar ei chyfer,
(b) datganiad wedi ei gwblhau ynghylch papurau pleidleisio drwy’r post yn ffurf 6 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, ac
(c) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y rhestr y mae’n ofynnol ei llunio o dan baragraff 26(4).
(2) Pan fo etholaeth Senedd yn cynnwys ardal mwy nag un awdurdod lleol, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon ymlaen gopi o’r darnau hynny o’r rhestrau y mae’n ofynnol eu llunio o dan baragraff 26(4) sy’n berthnasol, at bob un o’r swyddogion cofrestru o dan sylw.
(3) Pan fo’r pôl mewn etholiad i’r Senedd i’w gynnal ynghyd â’r pôl mewn etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu o dan erthygl 16, rhaid cwblhau datganiad ar wahân yn y ffurf a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) ar gyfer yr etholiad i’r Senedd.
(4) Pan fo—
(a) unrhyw brif amlenni yn dod i law’r swyddog canlyniadau ar ôl i’r pôl gau, ar wahân i’r rhai a ddanfonwyd yn unol â rheol 55(3)(g) o Atodlen 5,
(b) unrhyw amlenni sydd wedi eu cyfeirio at bleidleiswyr drwy’r post yn cael eu dychwelyd fel amlenni nas danfonwyd a hynny yn rhy hwyr i’w hailgyfeirio, neu
(c) unrhyw bapurau pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd yn cael eu dychwelyd yn rhy hwyr i alluogi papurau pleidleisio drwy’r post eraill i gael eu dyroddi,
rhaid i’r swyddog canlyniadau eu rhoi heb eu hagor mewn pecyn ar wahân, selio’r pecyn a’i arnodi a’i anfon ymlaen ar ddyddiad dilynol yn y dull a ddisgrifir yn is-baragraff (1).
(5) Mae rheolau 66 a 67 o Atodlen 5 (selio papurau pleidleisio a danfon dogfennau at y swyddog cofrestru) yn gymwys i unrhyw becyn neu unrhyw ddogfen a anfonir ymlaen o dan y paragraff hwn ac eithrio, wrth gymhwyso’r rheolau hynny i’r rhestr a lunnir o dan baragraff 26(4), fod y rhestr ac unrhyw ddarnau ohoni i’w trin fel pe baent yn bapur pleidleisio a gyfrifwyd.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu copi o’r datganiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) i’r Comisiwn Etholiadol, o leiaf 10 niwrnod, ond heb fod yn fwy na 25 o ddiwrnodau, ar ôl diwrnod y pôl.
ATODLEN 3
Cyfuno polau: etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol
Erthygl 15(4)
RHAN 1 Cyffredinol
Swyddogion canlyniadau a gorsafoedd pleidleisio
1 
Pan gynhelir y polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad llywodraeth leol ynghyd o dan erthygl 15(1)—
(a) rhaid i’r swyddogaethau hynny a bennir ym mharagraff 2 ar gyfer swyddog canlyniadau yn yr etholiad llywodraeth leol gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau ar gyfer etholaeth Senedd ar gyfer y rhan honno o’r ardal llywodraeth leol sydd wedi ei lleoli yn yr etholaeth, a
(b) dim ond gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir ar gyfer etholiad cyffredinol i’r Senedd sydd i’w defnyddio ar gyfer yr etholiad llywodraeth leol.
Swyddogaethau mewn polau cyfunol
2 

(1) Y swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw’r swyddogaethau a roddir—
(a) yn achos etholiad i’r Senedd—
(i) gan Atodlen 5 ac a bennir yn is-baragraff (2), a
(ii) gan baragraff 19(3) o Atodlen 2 (casglu papurau pleidleisio drwy’r post etc. o orsafoedd pleidleisio), a
(b) yn achos etholiad llywodraeth leol, gan y rheolau hynny a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983 sy’n cyfateb i’r darpariaethau a bennir yn is-baragraff (2),
a phan gynhelir y gweithdrefnau ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post mewn dau neu ragor o etholiadau ynghyd o dan baragraff 2 o Atodlen 2, y swyddogaethau a roddir gan yr Atodlen honno a chan Ran 5 o Reoliadau 2001 (dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post).
(2) Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw’r swyddogaethau hynny yn Atodlen 5 a roddir gan—
(a) rheol 27 (rhestr rhifau cyfatebol);
(b) rheol 31(2) (hysbysiad o safle gorsafoedd pleidleisio etc.);
(c) rheol 32 (papurau pleidleisio drwy’r post) pan gynhelir y gweithdrefnau ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post mewn dau neu ragor o etholiadau ynghyd o dan baragraff 2 o Atodlen 2 a rheol 58 (y cyfrif: camau) o Atodlen 5;
(d) rheol 33 (dychwelyd papurau pleidleisio drwy’r post) pan gynhelir y gweithdrefnau ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post mewn dau neu ragor o etholiadau ynghyd o dan baragraff 2 o Atodlen 2;
(e) rheol 34 (darparu gorsafoedd pleidleisio);
(f) rheol 35(1) a (2) (penodi swyddogion llywyddu a chlercod) i’r graddau y mae’r paragraff yn ymwneud â phenodi swyddogion llywyddu a chlercod i’w cynorthwyo;
(g) rheol 37 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio) fel y’i haddaswyd gan baragraff 8 o’r Atodlen hon;
(h) rheol 40(1) (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd mewn gorsaf bleidleisio);
(i) rheol 41(6) (ildio tystysgrif ynglŷn â chyflogaeth);
(j) rheol 42(3)(b) (awdurdodiad i orchymyn symud pobl o’r orsaf bleidleisio);
(k) paragraffau (2) i (6) o reol 58 (y cyfrif: camau) fel y’u haddaswyd gan baragraff 19 o’r Atodlen hon.
Addasu darpariaethau ynghylch treuliau yn y Gorchymyn hwn ac yn Neddf 1983
3 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fo’r swyddogaethau hynny a bennir ym mharagraff 2 ar gyfer swyddog canlyniadau mewn etholiad yn cael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau mewn etholiad arall o dan baragraff 1.
(2) Mae’r cyfeiriadau at y swyddog canlyniadau neu at daliadau neu wariant y swyddog canlyniadau—
(a) yn erthygl 23(1) i (5) a (7) i (9) (taliadau gan y swyddog canlyniadau ac iddo),
(b) yn erthygl 24 (asesiad manwl o gyfrif swyddog canlyniadau), ac
(c) yn adran 36C o Ddeddf 1983 (treuliau mewn etholiadau lleol),
i’r graddau y cyflawnir y swyddogaethau hynny yn unol â pharagraff 1, i’w dehongli fel cyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny a thaliadau neu wariant y swyddog canlyniadau hwnnw mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.
(3) Mae’r cyfeiriadau yn adran 36C(3) o Ddeddf 1983 at y swyddog canlyniadau neu unrhyw berson sy’n gweithredu fel swyddog canlyniadau yn gofyn am flaendaliad mewn cysylltiad â’i dreuliau, i’r graddau y mae’r treuliau hynny yn ymwneud â’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2, i gynnwys cyfeiriad at y swyddog canlyniadau sydd o dan baragraff 1 yn cyflawni’r swyddogaethau hynny yn yr etholiad llywodraeth leol.
(4) Mewn perthynas ag etholiadau y cynhelir y polau ynddynt ynghyd o dan erthygl 15(1), caiff Gweinidogion Cymru o dan erthygl 23(1) gynnwys darpariaeth arbennig—
(a) ar gyfer gwasanaethau a roddwyd yn briodol, neu dreuliau yr aed iddynt yn briodol, mewn cysylltiad â chyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 gan y swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny yn rhinwedd paragraff 1, a
(b) mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol y swyddogion llywyddu a’r clercod mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.
(5) Mewn perthynas ag etholiadau y cynhelir y polau ynddynt ynghyd o dan erthygl 15(1), caiff cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wrth bennu graddfa o dan—
(a) adran 36C(1) o Ddeddf 1983 (pennu graddfa mewn etholiad i’r cyngor etc), neu
(b) adran 36C(2) o’r Ddeddf honno (pennu graddfa mewn etholiad ar gyfer cymuned o fewn ardal y cyngor etc),
gynnwys darpariaeth arbennig ar gyfer treuliau yr aed iddynt mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 gan y swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny yn rhinwedd paragraff 1, ac mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol swyddogion llywyddu a chlercod mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.
RHAN 2 Addasiadau i Atodlen 5 i’w cymhwyso pan gynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1)
Addasiadau i Atodlen 5: darpariaeth gyffredinol
4 
Pan gynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1), mae rheolau etholiadau’r Senedd yn Atodlen 5 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yng ngweddill paragraffau’r Rhan hon.
Rheol 27A (lliw papurau pleidleisio)
5 
Mae Atodlen 5 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheol 27 (rhestr rhifau cyfatebol)—“
Lliw papurau pleidleisio
27A. 
Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol, rhaid i’r papur pleidleisio a ddefnyddir yn yr etholiad i’r Senedd fod o liw gwahanol i unrhyw bapur pleidleisio a ddefnyddir yn yr etholiad llywodraeth leol.”
Rheol 31 (hysbysiad pôl)
6 
Mae rheol 31 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)—“
(5) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (2)—
(a) datgan bod y pôl yn yr etholiad i’r Senedd i’w gynnal ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol,
(b) pennu’r awdurdod lleol perthnasol y cynhelir yr etholiad ar ei gyfer a’r ardal etholiadol y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer, ac
(c) pennu’r rhan o etholaeth y Senedd y mae’r polau i’w cynnal ynghyd ynddi.”
Rheol 36 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)
7 
Mae rheol 36 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (6)—“
(6A) Pan gynhelir pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, caniateir cyfuno cerdyn pleidleisio swyddogol a ddyroddir o dan y rheol hon â cherdyn pleidleisio swyddogol a ddyroddir yn yr etholiad llywodraeth leol.”
Rheol 37 (cyfarpar gorsaf bleidleisio)
8 

(1) Mae rheol 37 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—“
(2A) Caniateir defnyddio’r un blwch pleidleisio ar gyfer y pôl yn yr etholiad i’r Senedd ac ar gyfer y pôl yn yr etholiad llywodraeth leol.
(2B) Pan na ddefnyddir yr un blwch pleidleisio o dan baragraff (2A) rhaid marcio’n glir ar bob blwch pleidleisio—
(a) yr etholiad y mae’n ymwneud ag ef, fel y’i dangosir ar y papurau pleidleisio ar gyfer yr etholiad hwnnw, a
(b) y geiriau “Rhowch y papur pleidleisio [nodwch liw’r papurau pleidleisio o dan sylw] yma. Place the [specify the colour of the ballot papers in question] ballot paper here.””
(2) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad llywodraeth leol drwy system mwyafrif syml, yn rheol 37 mae paragraff (12) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(12) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a) mewn cysylltiad ag etholiad i’r Senedd—“Pleidleisiwch unwaith yn unig ar y papur pleidleisio. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.Vote only once on the ballot paper. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.”;
(b) mewn cysylltiad ag etholiad llywodraeth leol—
(i) pan fo mwy nag un ymgeisydd i’w ddychwelyd ar gyfer ardal etholiadol—“Peidiwch â phleidleisio dros fwy na(g) … o ymgeiswyr ar y papur pleidleisio llywodraeth leol lliw [lliw’r papur pleidleisio]. Peidiwch â rhoi unrhyw farciau eraill ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidleisiau eu cyfrif.Vote for no more than … candidates on the local government ballot paper coloured [colour of ballot paper]. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.”, neu
(ii) pan fo un ymgeisydd i’w ddychwelyd ar gyfer ardal etholiadol—“Peidiwch â phleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd ar y papur pleidleisio llywodraeth leol lliw [lliw’r papur pleidleisio]. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.Vote for no more than one candidate on the local government ballot paper coloured [colour of ballot paper]. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.””;
(3) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad llywodraeth leol drwy system pleidlais sengl drosglwyddadwy, yn rheol 37, mae paragraff (12) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(12) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad Llywodraeth leol, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a) mewn cysylltiad ag etholiad i’r Senedd—“Pleidleisiwch unwaith yn unig ar y papur pleidleisio. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.Vote only once on the ballot paper. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.”;
(b) mewn cysylltiad ag etholiad llywodraeth leol—“Rhifwch yr ymgeiswyr yn nhrefn eich dewis yn y blychau pleidleisio gyferbyn â’r ymgeiswyr.Gallwch ddewis cynifer neu gyn lleied ag y dymunwch.Rhowch y rhif 1 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’ch dewis cyntaf.Rhowch y rhif 2 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’ch ail ddewis.Rhowch y rhif 3 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’ch trydydd dewis. Ac yn y blaen.Number the candidates in the order of your choice in the voting boxes opposite the candidates.You can make as many or as few choices as you want to.Put the number 1 in the voting box next to your first choice.Put the number 2 in the voting box next to your second choice.Put the number 3 in the voting box next to your third choice. And so on.””
Rheol 38 (penodi asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif)
9 
Mae rheol 38 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, rhaid rhoi i’r swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 3, yr hysbysiadau ynghylch penodi asiantiaid pôl y mae’n ofynnol gan baragraffau (3) i (5) iddynt gael eu rhoi i’r swyddog canlyniadau.”
Rheol 41 (derbyn i’r orsaf bleidleisio)
10 
Mae rheol 41 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)(j)—“
(k) personau sydd â hawlogaeth i gael eu derbyn i’r orsaf bleidleisio yn yr etholiad llywodraeth leol.”
Rheol 44 (cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr)
11 

(1) Mae cwestiynau 1(b), 2(a) a (b), 3(b) a 4 yng ngholofn (2) o Dabl 1 yn rheol 44(4) i’w darllen fel pe bai’r gair “Senedd” wedi ei fewnosod cyn y gair “election”.
(2) Mae cwestiynau 1(b), 2(a) a (b), 3(b) a 4 yng ngholofn (3) o Dabl 1 yn rheol 44(4) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “i’r Senedd” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “yr etholiad hwn”.
Rheol 46 (gweithdrefn pleidleisio)
12 
Mae rheol 46 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (7)—“
(7A) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, caniateir defnyddio’r un copi o’r cofnodion cofrestru o dan baragraff (2) ar gyfer pob etholiad ac—
(a) caniateir gosod un marc yn y cofnodion hynny o dan baragraff (2)(d) neu yn y rhestr dirprwyon o dan baragraff (2)(e) i ddynodi bod papur pleidleisio wedi dod i law mewn cysylltiad â phob etholiad, a
(b) pan nad oes papur pleidleisio wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â phob etholiad, rhaid gosod marc gwahanol yn y cofnodion cofrestru neu’r rhestr dirprwyon er mwyn nodi’r etholiad y dyroddwyd y papur pleidleisio mewn cysylltiad ag ef.”
Rheol 47 (pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu)
13 
Mae rheol 47 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer pob etholiad a, phan y’i defnyddir felly, mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod y papurau pleidleisio wedi eu marcio felly mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd papur pleidleisio ei farcio felly ynddo.”
Rheol 48 (pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: cymorth cymdeithion)
14 
Yn rheol 48, mae paragraff (5) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(5) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol, rhaid i ddatganiad y cydymaith—
(a) bod ar ffurf 21 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
(b) cael ei roi i’r swyddog llywyddu a rhaid i’r swyddog llywyddu ardystio iddo a’i gadw.”
Rheol 49 (pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol)
15 
Mae rheol 49 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol, caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion ar gyfer pob etholiad.
(7) Pan ddefnyddir yr un rhestr o dan baragraff (6), mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod y pleidleisiau wedi eu rhoi mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd pleidlais ei rhoi felly ynddo.”
Rheol 51 (papurau pleidleisio a dendrwyd: dyletswyddau’r swyddog llywyddu)
16 
Mae rheol 51 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (6)—“
(7) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol, caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a dendrwyd ar gyfer pob etholiad.
(8) Pan ddefnyddir yr un rhestr o dan baragraff (7), mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod y papurau pleidleisio a dendrwyd wedi eu marcio mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd y papur pleidleisio a dendrwyd ei farcio felly ynddo.”
Rheol 53 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl)
17 
Mae rheol 53 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r rheol honno—“
Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl
53. 

(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad i’r gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n cymryd effaith ar ddiwrnod y pôl.
(2) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, caniateir defnyddio’r un rhestr ar gyfer pob etholiad a, phan y’i defnyddir felly, mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod papurau pleidleisio wedi eu dyroddi mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd papur pleidleisio ei ddyroddi ar ei gyfer.”
Rheol 55 (y weithdrefn wrth gau’r pôl)
18 
Mae rheol 55 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—“
(3A) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol, ni chaniateir cyfuno cynnwys y pecynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(a), (b), (d) ac (e) â chynnwys pecynnau a wneir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn etholiad llywodraeth leol, ac ni chaniateir cyfuno’r datganiad a lunnir o dan baragraff (8) felly ychwaith.”
Rheol 58 (y cyfrif: camau)
19 
Mae rheol 58 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r rheol honno—“
Y cyfrif: camau
58. 

(1) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad llywodraeth leol, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad.
(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapurau pleidleisio a dendrwyd.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid etholiad a benodwyd at ddibenion etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol wirhau pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd, gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirhadau a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiad sy’n gofyn amdano.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd—
(a) cyfrif y papurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (8)), a chofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd ym mhob etholiad,
(b) gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â phob etholiad,
(c) gwneud pecynnau o’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad ac eithrio etholiadau’r Senedd, a’u selio mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi,
(d) danfon, neu achosi danfon, at swyddog canlyniadau yr etholiad y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud ag ef—
(i) y cynwysyddion hynny a grybwyllir yn is-baragraff (c), ynghyd â rhestr ohonynt ac o gynnwys pob un ohonynt, a
(ii) y cyfriflenni papurau pleidleisio ynghyd â chopi o’r datganiad ynglŷn â chanlyniad eu gwirhad mewn cysylltiad â’r etholiad hwnnw, ac
(e) ar yr un adeg ddanfon, neu achosi danfon, at y swyddog hwnnw becynnau sy’n gysylltiedig felly ac sy’n cynnwys—
(i) y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd,
(ii) y papurau pleidleisio a dendrwyd, a
(iii) y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd a’r tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pôl.
(7) Pan fo blychau pleidleisio ar wahân wedi eu defnyddio ar gyfer etholiad i’r Senedd ac etholiad llywodraeth leol, nid yw unrhyw bleidlais i gael ei gwneud yn annilys dim ond drwy i’r papur pleidleisio gael ei roi yn y blwch pleidleisio anghywir.
(8) Mae papur pleidleisio drwy’r post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post sy’n mynd gydag ef sydd wedi eu cwblhau’n briodol—
(a) wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio cyn i’r pôl gau,
(b) wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r pôl gau, neu
(c) wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r pôl gau.
(9) Mae datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol—
(a) os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu’r dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad am lofnod,
(b) os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu ddyddiad geni’r dirprwy, ac
(c) mewn achos pan fo’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau gymryd camau i wirhau dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 2, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi gwirhau’r dyddiad geni ac, ac eithrio mewn achos pan fo’r gofyniad am lofnod wedi ei hepgor, y llofnod.
(10) Pan fo person, wrth i’r pôl gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, at ddiben cyflwyno papur pleidleisio drwy’r post a datganiad pleidlais drwy’r post—
(a) rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a
(b) pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r pôl gau at ddibenion y rheol hon.
(11) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd—
(a) yn achos papurau pleidleisio drwy’r post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio o leiaf, a
(b) yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf.
(12) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a
(b) cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.”
Rheol 72 (marwolaeth ymgeisydd)
20 
Mae rheol 72 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Nid yw diddymu’r hysbysiad pôl yn yr etholiad i’r Senedd na chyfarwyddyd i roi’r gorau i’r pôl yn effeithio ar y pôl yn yr etholiad llywodraeth leol.”
Rheol 73 (pôl y rhoddir y gorau iddo)
21 
Mae rheol 73 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad llywodraeth leol a phan roddir y gorau i’r pôl yn yr etholiad i’r Senedd yn unol â rheol 72(1)(b) (oherwydd marwolaeth ymgeisydd unigol)—
(a) rhaid i’r camau y mae’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd mewn gorsaf bleidleisio o dan baragraff (2) ddigwydd ar ôl i’r pôl gau, a
(b) mae paragraff (4) i’w ddehongli fel pe bai “Ar ôl gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad llywodraeth leol,” wedi ei fewnosod cyn “rhaid i’r swyddog canlyniadau” y lle cyntaf y mae’n digwydd.”
RHAN 3 Cymhwyso Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 pan gynhelir y pôl i lenwi swydd cynghorydd neu swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ynghyd â’r pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd o dan erthygl 15(1)
Cymhwyso ac addasu Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021: darpariaeth gyffredinol
22 
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 yn gymwys pan gynhelir y pôl i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ynghyd â’r pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd o dan erthygl 15(1), yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a) rheolau 1, 3 a 4,
(b) rheol 5(3) i (7) o’i chymhwyso i Atodlen 2, ac
(c) Atodlen 2.
Rheol 3 (dehongli)
23 
Yn rheol 3—
(a) mae paragraff (1) i’w ddarllen fel pe bai’r diffiniad a ganlyn wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”—“ystyr “Gorchymyn 2025” (“the 2025 Order”) yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025;”;
(b) mae paragraff (2) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae pob un o’r canlynol yn “etholiad perthnasol”—
(a) etholiad cyffredinol i Senedd Cymru y cyfunir ag ef y bleidlais mewn etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i lenwi swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b) etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i lenwi swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor cymuned pan gyfunir y bleidlais ar gyfer yr etholiad hwnnw ag—
(i) y bleidlais mewn etholiad cyffredinol i Senedd Cymru, a
(ii) y bleidlais mewn etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(1) o’r Ddeddf honno i lenwi swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.”
Rheol 5 (cynnal etholiadau i gyngor prif ardal)
24 
Yn rheol 5, mae paragraff (4) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “sydd, o dan baragraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn 2025, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno i’r Gorchymyn hwnnw” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “sydd, o dan” hyd at ddiwedd y paragraff.
Atodlen 2 (rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer prif ardal pan gynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad perthnasol)
25 

(1) Mae Atodlen 2 i’w darllen fel pe bai’r geiriau “baragraffau 1 a 2 o Atodlen 3 i Orchymyn 2025” wedi eu rhoi ym mhob un o’r lleoedd a ganlyn yn lle’r geiriau “reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”—
(a) rheol 23(6) (rhestr rhifau cyfatebol);
(b) rheol 27(6) (hysbysiad y bleidlais);
(c) rheol 28(5) (papurau pleidleisio post);
(d) rheol 29(4) (darparu gorsafoedd pleidleisio);
(e) rheol 30(6) (penodi swyddogion llywyddu a chlercod);
(f) rheol 32(14) (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio);
(g) rheol 35(4) (hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd);
(h) rheol 36(4) (dychwelyd papurau pleidleisio post);
(i) rheol 37(9) (derbyn i’r orsaf bleidleisio);
(j) rheol 38(7) (cadw trefn yn yr orsaf).
(2) Yn rheol 27 (hysbysiad y bleidlais), ym mharagraff (4), mae is-baragraff (b) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r is-baragraff hwnnw—“
(b) pennu’r etholaeth y mae etholiad Senedd Cymru yn ymwneud â hi,
(ba) pennu’r ardal y mae unrhyw etholiad perthnasol arall yn ymwneud â hi, ac”.
RHAN 4 Cymhwyso Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 pan gynhelir y pôl i lenwi swydd cynghorydd neu swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor cymuned ynghyd â’r pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd o dan erthygl 15(1)
Cymhwyso ac addasu Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021: darpariaeth gyffredinol
26 
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn gymwys pan gynhelir y pôl i lenwi swydd cynghorydd neu swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor cymuned ynghyd â’r pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd o dan erthygl 15(1), yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a) rheolau 1 a 3;
(b) rheol 4(3) i (7) o’i chymhwyso i Atodlen 2;
(c) rheolau 6 a 7;
(d) Atodlen 2;
(e) Atodlen 3.
Rheol 3 (dehongli)
27 

(1) Yn rheol 3, mae paragraff (1) i’w ddarllen fel pe bai’r diffiniad canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”—“
 “ystyr “Gorchymyn 2025” (“the 2025 Order”) yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025;”.
(2) Yn rheol 3, mae paragraff (2) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae pob un o’r canlynol yn “etholiad perthnasol”—
(a) etholiad cyffredinol i Senedd Cymru y cyfunir ag ef y bleidlais mewn etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i lenwi swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor cymuned;
(b) etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i lenwi swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan gyfunir y bleidlais ar gyfer yr etholiad hwnnw ag—
(i) y bleidlais mewn etholiad cyffredinol i Senedd Cymru, a
(ii) y bleidlais mewn etholiad a gynhelir yn unol ag adran 89(6) o’r Ddeddf honno i lenwi swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor cymuned.”
Rheol 4 (cynnal etholiadau i gyngor cymuned)
28 
Yn rheol 4, mae paragraff (4) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “sydd, o dan baragraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn 2025, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno i’r Gorchymyn hwnnw” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “sydd, o dan” hyd at ddiwedd y paragraff.
Atodlen 2 (rheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer cymuned pan gynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad perthnasol)
29 

(1) Mae Atodlen 2 i’w darllen fel pe bai’r geiriau “baragraffau 1 a 2 o Atodlen 3 i Orchymyn 2025” wedi eu rhoi ym mhob un o’r lleoedd a ganlyn yn lle’r geiriau “reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”—
(a) rheol 23(6) (rhestr rhifau cyfatebol);
(b) rheol 27(6) (hysbysiad y bleidlais);
(c) rheol 28(5) (papurau pleidleisio post);
(d) rheol 29(4) (darparu gorsafoedd pleidleisio);
(e) rheol 30(6) (penodi swyddogion llywyddu a chlercod);
(f) rheol 32(14) (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio);
(g) rheol 35(4) (hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd);
(h) rheol 36(4) (dychwelyd papurau pleidleisio post);
(i) rheol 37(9) (llofnodi tystysgrif ynglŷn â chyflogaeth);
(j) rheol 38(7) (cadw trefn yn yr orsaf).
(2) Yn rheol 27 (hysbysiad y bleidlais), ym mharagraff (4), mae is-baragraff (b) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r is-baragraff hwnnw—“
(b) pennu’r etholaeth y mae etholiad Senedd Cymru yn ymwneud â hi,
(ba) pennu’r ardal y mae unrhyw etholiad perthnasol arall yn ymwneud â hi, ac”.
ATODLEN 4
Cyfuno polau: etholiadau’r Senedd ac etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu
Erthygl 16(6)
RHAN 1 Cyffredinol
Swyddogion canlyniadau a gorsafoedd pleidleisio
1 

(1) Pan gynhelir y polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad cyffredin ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu ynghyd o dan erthygl 16(1)—
(a) rhaid i’r swyddogaethau hynny a bennir ym mharagraff 2 ar gyfer swyddog canlyniadau yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau ar gyfer etholaeth Senedd ar gyfer y rhan honno o ardal yr heddlu sydd wedi ei lleoli yn yr etholaeth, a
(b) dim ond gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir ar gyfer etholiad cyffredinol i’r Senedd sydd i’w defnyddio ar gyfer etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), pan fo’r polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd cysylltiedig, o fewn ystyr erthygl 16(4), yn cael eu cynnal ynghyd o dan erthygl 16(3)—
(a) rhaid i’r swyddogion canlyniadau ar gyfer yr etholiadau hynny benderfynu pa swyddog canlyniadau a fydd, yn yr ardal lle y cyfunir y polau (“yr ardal gyfun”), yn cyflawni’r swyddogaethau hynny sy’n eiddo i’r llall ac a bennir ym mharagraff 2, a
(b) yr unig orsafoedd pleidleisio i’w defnyddio yn yr ardal gyfunol mewn etholiadau o’r fath yw’r gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir yn yr etholiad y mae’r swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) yn gweithredu fel swyddog canlyniadau ar ei gyfer.
(3) Pan fo’r polau mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ac etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd cysylltiedig, o fewn ystyr erthygl 16(4), yn cael eu cynnal ynghyd o dan erthygl 16(3), mae is-baragraff (1) yn gymwys.
Swyddogaethau mewn polau cyfunol
2 

(1) Y swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw’r swyddogaethau a roddir—
(a) yn achos etholiad i’r Senedd, gan Atodlen 5 ac a bennir yn is-baragraff (2), a
(b) yn achos etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, gan y rheolau hynny sydd wedi eu cynnwys mewn Gorchymyn a wneir o dan adrannau 58 a 154 o Ddeddf 2011 sy’n cyfateb i’r darpariaethau a bennir yn is-baragraff (2).
(2) Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw’r swyddogaethau hynny yn Atodlen 5 a roddir gan—
(a) rheol 27 (rhestr rhifau cyfatebol);
(b) rheol 31(2) (hysbysiad o safle gorsafoedd pleidleisio etc);
(c) rheol 34 (darparu gorsafoedd pleidleisio);
(d) rheol 35(1) a (2) (penodi swyddogion llywyddu a chlercod) i’r graddau y mae’r rheol yn ymwneud â phenodi swyddogion llywyddu a chlercod i’w cynorthwyo;
(e) rheol 37 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio) fel y’i haddaswyd gan baragraff 8 o’r Atodlen hon;
(f) rheol 40(1) (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd mewn gorsaf bleidleisio);
(g) rheol 41(6) (ildio tystysgrif ynglŷn â chyflogaeth);
(h) rheol 42(3)(b) (awdurdodiad i orchymyn symud pobl o’r orsaf bleidleisio);
(i) paragraffau (2) i (6) o reol 58 (y cyfrif: camau) fel y’u haddaswyd gan baragraff 20 o’r Atodlen hon.
Addasu darpariaethau ynghylch treuliau yn y Gorchymyn hwn ac yn Neddf 2011
3 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fo’r swyddogaethau hynny a bennir ym mharagraff 2 ar gyfer swyddog canlyniadau mewn etholiad yn cael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau mewn etholiad arall o dan baragraff 1.
(2) Mae’r cyfeiriadau at y swyddog canlyniadau neu at daliadau neu wariant y swyddog canlyniadau—
(a) yn erthygl 23(1) i (5) a (7) i (9) (taliadau gan y swyddog canlyniadau ac iddo),
(b) yn erthygl 24 (asesiad manwl o gyfrif swyddog canlyniadau),
(c) yn adran 55(1) i (7), (9) a (10) o Ddeddf 2011 (swyddogion canlyniadau: gwariant), a
(d) yn adran 56 o’r Ddeddf honno (trethu cyfrif swyddog canlyniadau),
i’r graddau y cyflawnir y swyddogaethau hynny yn unol â pharagraff 1, i’w dehongli fel cyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny a thaliadau neu wariant y swyddog canlyniadau hwnnw mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.
(3) Mae’r cyfeiriadau yn adran 55(9) o Ddeddf 2011 at y swyddog canlyniadau neu unrhyw berson sy’n gweithredu fel swyddog canlyniadau yn gofyn am flaendaliad mewn cysylltiad â’i dreuliau, i’r graddau y mae’r taliadau hynny yn ymwneud â’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2, i gynnwys cyfeiriad at y swyddog canlyniadau sydd o dan baragraff 1 yn cyflawni’r swyddogaethau hynny yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.
(4) Mewn perthynas ag etholiadau y cynhelir y polau ynddynt ynghyd o dan erthygl 16(1) neu (3), caiff Gweinidogion Cymru o dan erthygl 23(1) gynnwys darpariaeth arbennig—
(a) ar gyfer gwasanaethau a roddwyd yn briodol, neu dreuliau yr aed iddynt yn briodol, mewn cysylltiad â chyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 gan y swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny yn rhinwedd paragraff 1, a
(b) mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol y swyddogion llywyddu a’r clercod mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.
RHAN 2 Addasiadau i Atodlen 5 i’w cymhwyso pan gynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu o dan erthygl 16(1) neu (3)
Addasiadau i Atodlen 5: darpariaethau cyffredinol
4 
Pan gynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu o dan erthygl 16(1) neu (3), mae Atodlen 5 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yng ngweddill paragraffau’r Rhan hon.
Rheol 27A (lliw papurau pleidleisio)
5 
Mae Atodlen 5 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheol 27 (rhestr rhifau cyfatebol)—“
Lliw papurau pleidleisio
27A. 
Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, rhaid i’r papur pleidleisio a ddefnyddir yn yr etholiad i’r Senedd fod o liw gwahanol i unrhyw bapur pleidleisio a ddefnyddir yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.”
Rheol 31 (hysbysiad pôl )
6 
Mae rheol 31 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)—“
(5) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (2)—
(a) datgan bod y pôl yn yr etholiad i’r Senedd i’w gynnal ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu,
(b) pennu ardal berthnasol yr heddlu y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer, ac
(c) pan fo’r polau i’w cynnal ynghyd mewn rhan o un o etholaethau’r Senedd yn unig, pennu’r rhan honno.”
Rheol 36 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)
7 
Mae rheol 36 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (6)—“
(6A) Pan gynhelir pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, caniateir cyfuno cerdyn pleidleisio swyddogol a ddyroddir o dan y rheol hon â cherdyn pleidleisio swyddogol a ddyroddir yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.”
Rheol 37 (cyfarpar gorsaf bleidleisio)
8 

(1) Mae rheol 37 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—“
(2A) Caniateir defnyddio’r un blwch pleidleisio ar gyfer y pôl yn yr etholiad i’r Senedd ac ar gyfer y pôl yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.
(2B) Pan na ddefnyddir yr un blwch pleidleisio o dan baragraff (2A) rhaid marcio’n glir ar bob blwch pleidleisio—
(a) yr etholiad y mae’n ymwneud ag ef, fel y’i dangosir ar y papurau pleidleisio ar gyfer yr etholiad hwnnw, a
(b) y geiriau “Rhowch y papur pleidleisio [nodwch liw’r papurau pleidleisio dan sylw] yma. Place the [specify the colour of the ballot papers in question] ballot paper here.””
(2) Yn rheol 37, mae paragraff (12) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(12) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a) mewn cysylltiad ag etholiad i’r Senedd—“Pleidleisiwch unwaith yn unig ar y papur pleidleisio. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.Vote only once on the ballot paper. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.”;
(b) mewn cysylltiad ag etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu—“Pleidleisiwch dros UN YMGEISYDD YN UNIG drwy roi croes [x] yn y blwch wrth ochr eich dewis ar y papur pleidleisio lliw [colour of ballot paper] ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu. Peidiwch â rhoi dim marc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.Vote for ONLY ONE CANDIDATE by putting a cross [x] in the box next to your choice on the police and crime commissioner ballot paper coloured [colour of ballot paper]. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.””
Rheol 38 (penodi asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif)
9 
Mae rheol 38 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, rhaid rhoi i’r swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 4, yr hysbysiadau ynghylch penodi asiantiaid pôl y mae’n ofynnol gan baragraffau (3) i (5) iddynt gael eu rhoi i’r swyddog canlyniadau.”
Rheol 41 (derbyn i’r orsaf bleidleisio)
10 
Mae rheol 41 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)(j)—“
(k) personau sydd â hawlogaeth i gael eu derbyn i’r orsaf bleidleisio yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.”
Rheol 44 (cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr)
11 

(1) Mae cwestiynau 1(b), 2(a) a (b), 3(b) a 4 yng ngholofn (2) o Dabl 1 yn rheol 44(4) i’w darllen fel pe bai’r gair “Senedd” wedi ei fewnosod cyn y gair “election”.
(2) Mae cwestiynau 1(b), 2(a) a (b), 3(b) a 4 yng ngholofn (3) o Dabl 1 yn rheol 44(4) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “i’r Senedd” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “yr etholiad hwn”.
Rheol 46 (gweithdrefn pleidleisio)
12 
Mae rheol 46 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (7)—“
(7A) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, caniateir defnyddio’r un copïau o’r cofnodion cofrestru o dan baragraff (2) ar gyfer pob etholiad ac—
(a) caniateir gosod un marc yn y cofnodion hynny o dan baragraff (2)(d) neu yn y rhestr dirprwyon o dan baragraff (2)(e) i ddynodi bod papur pleidleisio wedi dod i law mewn cysylltiad â phob etholiad, a
(b) pan na fo papur pleidleisio wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â phob etholiad, rhaid gosod marc gwahanol yn y cofnodion cofrestru neu’r rhestr dirprwyon er mwyn nodi’r etholiad y dyroddwyd y papur pleidleisio mewn cysylltiad ag ef.”
Rheol 47 (pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu)
13 
Mae rheol 47 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer pob etholiad a, phan y’i defnyddir felly, mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod y papurau pleidleisio wedi eu marcio felly mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd papur pleidleisio ei farcio felly ynddo.”
Rheol 48 (pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: cymorth cymdeithion)
14 
Yn rheol 48, mae paragraff (5) i’w ddarllen fel pe bai’r paragraff a ganlyn wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(5) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, rhaid i ddatganiad y cydymaith—
(a) bod yn ffurf 21 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
(b) cael ei roi i’r swyddog llywyddu a rhaid i’r swyddog llywyddu ardystio iddo a’i gadw.”
Rheol 49 (pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol)
15 
Mae rheol 49 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion ar gyfer pob etholiad.
(7) Pan ddefnyddir yr un rhestr o dan baragraff (6), mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod y pleidleisiau wedi eu rhoi mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd pleidlais ei rhoi felly ynddo.”
Rheol 51 (papurau pleidleisio a dendrwyd: dyletswyddau’r swyddog llywyddu)
16 
Mae rheol 51 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (6)—“
(7) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a dendrwyd ar gyfer pob etholiad.
(8) Pan ddefnyddir yr un rhestr o dan baragraff (7), mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod y papurau pleidleisio a dendrwyd wedi eu marcio mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd y papur pleidleisio a dendrwyd ei farcio felly ynddo.”
Rheol 53 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl)
17 
Mae rheol 53 i’w darllen fel pe bai’r rheol a ganlyn wedi ei rhoi yn lle’r rheol honno—“
Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl
53. 

(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad i’r gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n cymryd effaith ar ddiwrnod y pôl.
(2) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, caniateir defnyddio’r un rhestr ar gyfer pob etholiad a, phan y’i defnyddir felly, mae cofnod yn y rhestr honno i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod papurau pleidleisio wedi eu dyroddi mewn cysylltiad â phob etholiad, oni bai bod y rhestr yn nodi’r etholiad y cafodd papur pleidleisio ei ddyroddi ar ei gyfer.”
Rheol 55 (y weithdrefn wrth gau’r pôl)
18 

(1) Yn rheol 55—
(a) mae geiriau agoriadol paragraff (2) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “a benodwyd at ddibenion etholiad i’r Senedd ac at ddibenion etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “asiantiaid pôl”;
(b) mae paragraff (3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “a benodwyd at ddibenion etholiad i’r Senedd ac at ddibenion etholiad comisiynydd yr heddlu a throseddu” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “asiantiaid pôl”.
(2) Mae rheol 55 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—“
(3A) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, ni chaniateir cyfuno cynnwys y pecynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(a), (b), (d) ac (e) â chynnwys pecynnau a wneir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu ac ni chaniateir cyfuno’r datganiad a lunnir o dan baragraff (8) felly ychwaith.”
Rheol 56 (trefniadau cyfrif y pleidleisiau)
19 
Mae rheol 56 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—“
(3) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu ac nad yw’r swyddog canlyniadau yn yr etholiad i’r Senedd (“S”) yn cyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 4, fel nad yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys, rhaid i S—
(a) gwneud trefniadau i gyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif ar ôl i’r swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny ddanfon y papurau pleidleisio i S, a
(b) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r asiantiaid cyfrif o’r amser a’r lle y bydd S yn dechrau cyfrif y pleidleisiau os yw S wedi cael y papurau pleidleisio erbyn hynny.
(4) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu a phan fo’r swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholiad i’r Senedd yn cyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 4, mae cyfeiriad yn y rheol hon a rheol 57 at yr “asiantiaid cyfrif” hefyd yn cynnwys yr asiantiaid cyfrif a benodir at ddibenion etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.”
Rheol 58 (y cyfrif: camau)
20 
Mae rheol 58 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r rheol honno—“
Y cyfrif: camau
58. 

(1) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â’r pôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, rhaid i’r swyddog canlyniadau sy’n cyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 gymryd y camau a ganlyn.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiadau’r Senedd a’r comisiynydd heddlu a throseddu, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad.
(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapurau pleidleisio a dendrwyd.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid etholiad a benodwyd at ddibenion etholiadau’r Senedd a’r comisiynydd heddlu a throseddu wirhau pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd, gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirhadau a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiad sy’n gofyn amdano.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd—
(a) cyfrif y papurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (8)), a chofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd ym mhob etholiad,
(b) gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â phob etholiad,
(c) gwneud pecynnau o’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad ac eithrio etholiad y Senedd a’u selio mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi,
(d) danfon, neu achosi danfon, at swyddog canlyniadau yr etholiad y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud ag ef—
(i) y cynwysyddion hynny a grybwyllir yn is-baragraff (c), ynghyd â rhestr ohonynt ac o gynnwys pob un ohonynt, a
(ii) y cyfriflenni papurau pleidleisio ynghyd â chopi o’r datganiad ynglŷn â chanlyniad eu gwirhad mewn cysylltiad â’r etholiad hwnnw, ac
(e) ar yr un adeg ddanfon, neu achosi danfon, at y swyddog hwnnw becynnau sy’n gysylltiedig felly ac sy’n cynnwys—
(i) y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd,
(ii) y papurau pleidleisio a dendrwyd, a
(iii) y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd a’r tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pôl.
(7) Pan fo blychau pleidleisio ar wahân wedi eu defnyddio ar gyfer etholiad i’r Senedd ac etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu, nid yw unrhyw bleidlais i gael ei gwneud yn annilys dim ond drwy i’r papur pleidleisio gael ei roi yn y blwch pleidleisio anghywir.
(8) Mae papur pleidleisio drwy’r post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post sy’n mynd gydag ef ac sydd wedi eu cwblhau’n briodol—
(a) wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r pôl gau,
(b) wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r pôl gau, neu
(c) wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r pôl gau.
(9) Mae datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol—
(a) os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu’r dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad am lofnod,
(b) os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu ddyddiad geni’r dirprwy, ac
(c) mewn achos pan fo’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau gymryd camau i wirhau dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 2, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi gwirhau’r dyddiad geni ac, ac eithrio mewn achos pan fo’r gofyniad am lofnod wedi ei hepgor, y llofnod.
(10) Pan fo person, wrth i’r pôl gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, at ddiben cyflwyno papur pleidleisio drwy’r post a datganiad pleidlais drwy’r post—
(a) rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a
(b) pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r pôl gau at ddibenion y rheol hon.
(11) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd—
(a) yn achos papurau pleidleisio drwy’r post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio o leiaf, a
(b) yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf.
(12) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a
(b) cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
(13) Yn y rheol hon, ystyr “ardal briodol” yw’r ardal sy’n gyffredin i etholaeth ac ardal bleidleisio’r Senedd lle y cynhelir y polau ynghyd ar gyfer yr etholiad i’r Senedd ac etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu ac y dyroddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â hwy.”
Rheol 67 (danfon dogfennau at y swyddog cofrestru mewn etholiadau a ymleddir)
21 
Mae rheol 67 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)—“
(5) Pan gynhelir pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu ac nad yw swyddog canlyniadau’r Senedd yn cyflawni’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 4, mae paragraff (2) o’r rheol hon yn cael effaith fel pe bai is-baragraffau (e), (h) ac (i) wedi eu hepgor.”
Rheol 72 (marwolaeth ymgeisydd)
22 
Mae rheol 72 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Nid yw diddymu’r hysbysiad pôl yn yr etholiad i’r Senedd na chyfarwyddyd i roi’r gorau i’r pôl yn effeithio ar y pôl yn etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu.”
Rheol 73 (pôl y rhoddir y gorau iddo)
23 
Mae rheol 73 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—“
(6) Pan gynhelir y pôl mewn etholiad i’r Senedd ynghyd â phôl mewn etholiad ar gyfer comisiynydd heddlu a throseddu a phan roddir y gorau i’r pôl yn yr etholiad i’r Senedd yn unol â rheol 72(1)(b) (oherwydd marwolaeth ymgeisydd unigol)—
(a) rhaid i’r camau y mae’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd mewn gorsaf bleidleisio o dan baragraff (2) ddigwydd ar ôl i’r pôl gau, a
(b) mae paragraff (4) i’w ddehongli fel pe bai “Ar ôl gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud ag etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu,” wedi ei fewnosod cyn “rhaid i’r swyddog canlyniadau” y lle cyntaf y mae’n digwydd.”
ATODLEN 5
Rheolau etholiadau’r Senedd
Erthygl 17(1)CYNNWYsRHAN 1Darpariaeth ynglŷn ag amser1Amserlen2Cyfrif amserRHAN 2Camau sy’n gyffredin i etholiadau a ymleddir ac etholiadau nas ymleddirHysbysiad etholiad3Hysbysiad etholiadEnwebu4Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.5Enwebu ymgeiswyr unigol6Enwebu pleidiau gwleidyddol cofrestredig ac ymgeiswyr rhestr plaid7Papur enwebu plaid: enw plaid wleidyddol gofrestredig neu ddisgrifiad ohoni8Ffurflen cyfeiriad cartref9Cydsynio ag enwebiad10Cydsynio ag enwebiad: datganiadau o aelodaeth plaid11Ernes12Lleoedd ar gyfer danfon papurau enwebu13Hawl i fod yn bresennol adeg enwebiad14Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu unigolyn15Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu plaid16Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl17Cyhoeddi datganiad o’r pleidiau a’r personau eraill a enwebwyd18Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd19Enwau sydd yr un fath neu’n debyg20Cywiro mân wallau mewn papurau enwebu, ffurflenni cyfeiriad cartref neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad21Edrych ar bapurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad22Edrych ar ffurflenni cyfeiriad cartref23Gohirio gweithdrefnau enwebu os ceir terfysgDull ethol24Dull etholRHAN 3Etholiadau a ymleddirDarpariaethau cyffredinol25Y pôl i’w gynnal drwy bleidlais gudd26Y papurau pleidleisio27Rhestr rhifau cyfatebol28Y marc swyddogol29Gwahardd datgelu pleidlais30Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddusCamau i’w cymryd cyn y pôl31Hysbysiad pôl32Papurau pleidleisio drwy’r post33Dychwelyd papurau pleidleisio drwy’r post34Darparu gorsafoedd pleidleisio35Penodi swyddogion llywyddu a chlercod36Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol37Cyfarpar gorsaf bleidleisio38Penodi asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif39Asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif: darpariaeth atodol40Hysbysiad o ofyniad cyfrinacheddY pôl41Derbyn i’r orsaf bleidleisio42Cadw trefn yn yr orsaf bleidleisio43Selio’r blychau pleidleisio44Cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr45Herio pleidleisiwr46Gweithdrefn pleidleisio47Pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu48Pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: cymorth cymdeithion49Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol50Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau pan fônt ar gael51Papurau pleidleisio a dendrwyd: dyletswyddau’r swyddog llywyddu52Papurau pleidleisio a ddifethwyd53Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl54Gohirio’r pôl os ceir terfysg55Y weithdrefn wrth gau’r pôlCyfrif y pleidleisiau56Trefniadau cyfrif y pleidleisiau57Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif58Y cyfrif: camau59Y cyfrif: cyffredinol60Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd61Ailgyfrif62Penderfynu ar bapurau pleidleisioRHAN 4Gweithdrefnau terfynol mewn etholiadau a ymleddir ac etholiadau nas ymleddir63Canfod canlyniadau etholiad a ymleddir64Datgan y canlyniad65Dychwelyd yr ernes neu ei fforffeduRHAN 5Gwaredu dogfennau66Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau a ymleddir67Danfon dogfennau at y swyddog cofrestru mewn etholiadau a ymleddir68Dangos etc. dogfennau69Gorchmynion i ddangos dogfennau: darpariaethau atodol70Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru perthnasol71Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadauRHAN 6Marwolaeth ymgeisydd72Marwolaeth ymgeisydd73Pôl y rhoddir y gorau iddoRHAN 7Amrywiol74Dychwelyd aelodau o’r Senedd a’r cofnod dychweliadau etc.75Seddi gwag76Pleidiau gwleidyddol cofrestredig77Swyddog enwebu cofrestredig plaid: cyflawni swyddogaethau
RHAN 1 Darpariaeth ynglŷn ag amser
Amserlen
1 

(1) Rhaid i weithdrefnau etholiadau’r Senedd gael eu cynnal yn unol â’r amserlen a ganlyn—

Gweithdrefnau Amser
Cyhoeddi hysbysiad etholiad Dim hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn dyddiad y pôl.
Danfon papurau enwebu Dim hwyrach na 4.00 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn dyddiad y pôl.
Gwneud gwrthwynebiadau i bapurau enwebu Yn ystod yr oriau a ganiateir ar gyfer danfon papurau enwebu ar y diwrnod olaf i’w danfon ac am yr awr wedyn, ond—
(a) ni chaniateir gwneud gwrthwynebiad ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac eithrio i bapur enwebu a ddanfonwyd o fewn 24 awr i’r amser olaf ar gyfer ei ddanfon, a
(b) yn achos papur enwebu a ddanfonwyd felly, ni chaniateir gwneud gwrthwynebiad i ddigonolrwydd na natur manylion ymgeisydd oni bai ei fod yn cael ei wneud ar yr amser y caiff y papur enwebu ei ddanfon neu yn union ar ei ôl.
Danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl Dim hwyrach na 4.00 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn dyddiad y pôl.
Cyhoeddi datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd Dim hwyrach na 4.00 p.m. ar y deunawfed diwrnod cyn dyddiad y pôl.
Pleidleisio Rhwng 7.00 a.m. a 10.00 p.m. ar ddyddiad y pôl.
(2) Yn y Tabl ym mharagraff (1)—
(a) mae’r cyfeiriad at “papurau enwebu” yn cynnwys papurau enwebu unigolyn a phapurau enwebu plaid;
(b) mae “gwneud gwrthwynebiadau i bapurau enwebu”, yn achos gwneud gwrthwynebiad i bapur enwebu plaid, yn cynnwys gwneud gwrthwynebiad i enwebiad unrhyw ymgeisydd rhestr plaid ar y rhestr o ymgeiswyr sy’n mynd gyda phapur enwebu plaid.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys—
(a) pan fo papur enwebu yn cael ei anfon yn electronig neu ei gyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad (gweler rheol 3), neu
(b) pan fo hysbysiad tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl o dan reol 16 yn cael ei anfon yn electronig.-
(4) At ddiben penderfynu a yw’r papur neu’r hysbysiad wedi ei ddanfon yn unol â’r amserlen ym mharagraff (1), mae’r papur neu’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon ar yr amser y mae ei ddanfon yn cael ei gofnodi ar y system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer cael y papur neu’r hysbysiad i law.
Cyfrif amser
2 

(1) Mae diwrnod eithriedig i’w ddiystyru wrth gyfrif unrhyw gyfnod a nodir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1.
(2) Ni chaniateir i weithdrefnau o dan y rheolau hyn hyd at gau’r pôl gael eu cynnal ar ddiwrnod eithriedig.
(3) Nid yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif pleidleisiau ar ddiwrnod eithriedig.
(4) At ddiben y rheolau hyn, ystyr “diwrnod eithriedig” yw diwrnod sydd—
(a) yn ddydd Sadwrn;
(b) yn ddydd Sul;
(c) yn noswyl Nadolig;
(d) yn ddydd Nadolig;
(e) yn ddydd Gwener y Groglith;
(f) yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
(g) yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus.
RHAN 2 Camau sy’n gyffredin i etholiadau a ymleddir ac etholiadau nas ymleddir
Hysbysiad etholiad
Hysbysiad etholiad
3 

(1) Rhaid i swyddog canlyniadau un o etholaethau’r Senedd gyhoeddi hysbysiad etholiad ar gyfer yr etholaeth honno.
(2) Rhaid i’r hysbysiad etholiad ddatgan—
(a) dyddiad y pôl os ymleddir yr etholiad,
(b) yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu unigolyn a phapurau enwebu plaid, gan gynnwys rhestrau plaid,
(c) y lle neu’r lleoedd y caniateir danfon y papurau enwebu hynny a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r lle hwnnw neu’r lleoedd hynny, a
(d) y lle neu’r lleoedd y gellir cael ffurflenni papurau enwebu unigolyn a phapurau enwebu plaid, gan gynnwys rhestrau plaid, a pha bryd, a gwybodaeth am sut y gellir cael y ffurflenni papurau enwebu hynny ar-lein a pha bryd.
(3) Rhaid i’r hysbysiad etholiad hefyd—
(a) cynnwys datganiad danfon electronig,
(b) datgan y trefniadau sy’n gymwys ar gyfer talu’r ernes y mae’n ofynnol gan reol 11 iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng trosglwyddiad cyllid electronig, ac
(c) datgan erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.
(4) Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—
(a) drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad e-bost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,
(b) drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu
(c) naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel a grybwyllir yn is-baragraff (b).
Enwebu
Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.
4 

(1) Yn y lle neu’r lleoedd ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn yr hysbysiad etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag a fydd yn ofynnol gan y person.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni papurau enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad etholiad.
(3) Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.
Enwebu ymgeiswyr unigol
5 

(1) Rhaid i ymgeisydd unigol yn un o etholaethau’r Senedd gael ei enwebu drwy bapur enwebu unigolyn yn ffurf 7 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl.
(2) Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon—
(a) i un o’r lleoedd a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad at y diben hwnnw, neu
(b) yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.
(3) Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon—
(a) gan yr ymgeisydd, neu
(b) gan asiant etholiad yr ymgeisydd os yw enw a chyfeiriad yr asiant wedi eu rhoi cyn hynny i’r swyddog canlyniadau fel sy’n ofynnol gan erthygl 39 neu os ydynt yn cael eu rhoi iddo ar yr amser y mae’r papur enwebu’n cael ei ddanfon.
(4) Rhaid i’r papur enwebu—
(a) datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf, a
(b) os dymunir, datgan disgrifiad sy’n cynnwys y gair “Annibynnol” neu’r gair “Independent” neu’r ddau.
(5) Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (4)(a), gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol, caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(6) Rhaid i bob papur enwebu a ddanfonir o dan y rheol hon gael ei danysgrifio gan un person, ac os nad y tanysgrifiwr yw’r ymgeisydd, rhaid nodi enw llawn a chyfeiriad y tanysgrifiwr yn y papur.
(7) I fynd gyda’r papur enwebu rhaid cael ffurflen sy’n cydymffurfio â rheol 8 (ffurflen cyfeiriad cartref).
Enwebu pleidiau gwleidyddol cofrestredig ac ymgeiswyr rhestr plaid
6 

(1) Caiff plaid wleidyddol gofrestredig sefyll i’w hethol mewn etholiad etholaethol i’r Senedd—
(a) os yw’n blaid gymwys (gweler rheol 76) mewn perthynas â’r etholaeth honno, a
(b) os yw’n cael ei henwebu drwy bapur enwebu plaid yn ffurf 8 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl.
(2) Caniateir i’r papur enwebu plaid gael ei ddanfon—
(a) i un o’r lleoedd a bennir gan y swyddog canlyniadau yn yr hysbysiad etholiad at y diben hwnnw, neu
(b) yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.
(3) Rhaid i bapur enwebu plaid gynnwys naill ai—
(a) enw neu enwau’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, neu
(b) disgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno.
(4) Pan fo enw’r blaid gofrestredig yn cael ei ddarparu ac nad yw’r enw’n cynnwys “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”, caniateir atodi “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at enw’r blaid gofrestredig fel a nodir yn rheol 7(2) a (3).
(5) Rhaid i bapur enwebu plaid gynnwys y rhestr (“rhestr plaid”) o ymgeiswyr (“ymgeiswyr rhestr plaid”) a gyflwynir gan y blaid ar gyfer yr etholiad etholaethol hwnnw, a’r papur enwebu plaid fydd y papur enwebu ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr honno.
(6) Mewn cysylltiad â phob ymgeisydd rhestr plaid, rhaid i’r rhestr plaid ddatgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf.
(7) Os yw ymgeisydd rhestr plaid yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (6), gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol, caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(8) Rhaid i bapur enwebu plaid gael ei danysgrifio gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol gofrestredig sy’n ei gyflwyno neu gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan y swyddog hwnnw.
(9) I fynd gyda’r papur enwebu plaid rhaid cael ffurflen sy’n cydymffurfio â rheol 8 (ffurflen cyfeiriad cartref), mewn cysylltiad â phob ymgeisydd rhestr plaid.
Papur enwebu plaid: enw plaid wleidyddol gofrestredig neu ddisgrifiad ohoni
7 

(1) Rhaid i’r enw neu’r enwau, neu’r disgrifiad, y mae’n ofynnol gan reol 6(3) ei gynnwys neu eu cynnwys mewn papur enwebu plaid gael ei awdurdodi neu eu hawdurdodi gan dystysgrif yn ffurf 9 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10 a ddyroddwyd gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol gofrestredig.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan na fo’r un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig” yn cael ei ddefnyddio yn enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000.
(3) Caiff y blaid wleidyddol gofrestredig wneud un o’r canlynol—
(a) ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;
(b) ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;
(c) ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;
(d) ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.
(4) Os cynigir bod arwyddlun cofrestredig y blaid i’w ddangos ar y papur pleidleisio gyferbyn ag enw neu ddisgrifiad y blaid, rhaid i’r dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (1) ofyn am iddo gael ei ddangos felly, ond, mewn achos pan fo gan blaid fwy nag un arwyddlun cofrestredig, fel mai dim ond un o’i arwyddluniau y caniateir gofyn am ei ddangos ar y papur pleidleisio.
(5) Rhaid i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (1) gael ei chyfuno â’r papur enwebu plaid a ddanfonir o dan reol 6(1).
(6) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi yn rhinwedd rheol 77 i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (1) ar ran swyddog enwebu cofrestredig plaid.
Ffurflen cyfeiriad cartref
8 

(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae rhaid iddynt fynd gyda phapurau enwebu unigolyn a phapurau enwebu plaid o dan reolau 5(7) a 6(9).
(2) Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref yn ffurf 10 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl, ddatgan—
(a) enwau llawn yr ymgeisydd unigol neu’r ymgeisydd rhestr plaid, a
(b) cyfeiriad cartref yr ymgeisydd unigol neu’r ymgeisydd rhestr plaid yn llawn.
(3) Os yw papur enwebu unigolyn neu restr plaid yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ymgeisydd, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(4) Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.
(5) Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae rhaid iddi—
(a) pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol;
(b) pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.
(6) Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—
(a) pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru, yr etholaeth Senedd y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;
(b) pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd mewn lle arall yn y Deyrnas Unedig, etholaeth Seneddol y DU y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi.
(7) Pan fo ffurflen cyfeiriad cartref wedi ei chwblhau a’i dychwelyd gyda phapur enwebu a bod ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid wedi gofyn am i’w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, dim ond yr wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (5) a fydd yn ymddangos ar y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
Cydsynio ag enwebiad
9 

(1) Nid yw person wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid oni bai bod cydsyniad y person hwnnw â’r enwebiad—
(a) yn cael ei roi a’i ddyddio mewn ysgrifen yn ffurf 11 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl, ar y diwrnod a bennwyd fel y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu, neu o fewn mis cyn y diwrnod hwnnw,
(b) yn cael ei ardystio gan un tyst, ac
(c) yn cael ei ddanfon o fewn yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu unigolyn a phapurau enwebu plaid.
(2) Caniateir i gydsyniad ag enwebiad gael ei ddanfon—
(a) i un o’r lleoedd a bennir gan y swyddog canlyniadau yn yr hysbysiad etholiad ar gyfer danfon papurau enwebu, neu
(b) yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig (rheol 3).
(3) Rhaid i gydsyniad ymgeisydd a roddir o dan y rheol hon—
(a) datgan diwrnod, mis a blwyddyn geni’r ymgeisydd;
(b) datgan cyfeiriad o fewn yr ardal berthnasol y bernir ei fod yn swyddfa’r ymgeisydd fel asiant etholiad at ddibenion erthygl 42(7);
(c) datgan enw ardal awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol ynddi;
(d) datgan hyd eithaf gwybodaeth a chred yr ymgeisydd nad yw wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol o dan adran 16(A1) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd);
(e) cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 10;
(f) yn achos ymgeisydd unigol, datgan nad yw’r ymgeisydd—
(i) yn ymgeisydd rhestr plaid yn yr etholiad ar gyfer yr etholaeth Senedd y mae’r cydsyniad yn ymwneud â hi,
(ii) yn ymgeisydd unigol yn unrhyw un o etholaethau eraill y Senedd y mae’r pôl ar ei chyfer i’w chynnal ar yr un diwrnod â’r pôl ar gyfer yr etholiad y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef, na
(iii) yn ymgeisydd rhestr plaid yn unrhyw un o etholaethau eraill y Senedd y mae’r pôl ar ei chyfer i’w chynnal ar yr un diwrnod â’r pôl ar gyfer yr etholiad y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef;
(g) yn achos ymgeisydd rhestr plaid, datgan nad yw’r ymgeisydd—
(i) yn ymgeisydd unigol yn yr etholiad ar gyfer yr etholaeth Senedd y mae’r cydsyniad yn ymwneud â hi,
(ii) yn ymgeisydd unigol yn unrhyw un o etholaeth eraill y Senedd y mae’r pôl ar ei chyfer i’w chynnal ar yr un diwrnod â’r pôl ar gyfer yr etholiad y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef, na
(iii) yn ymgeisydd rhestr plaid yn unrhyw un o etholaethau eraill y Senedd y mae’r pôl ar ei chyfer i’w chynnal ar yr un diwrnod â’r pôl ar gyfer yr etholiad y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef.
(4) Mae’n ofynnol i ymgeisydd unigol roi cydsyniad o dan y rheol hon er gwaethaf y ffaith bod yr ymgeisydd hwnnw wedi tanysgrifio’r papur enwebu yr enwebwyd yr ymgeisydd yn ei rinwedd.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b), mae “yr ardal berthnasol” i’w ddehongli yn unol ag erthygl 41(5) a (6).
Cydsynio ag enwebiad: datganiadau o aelodaeth plaid
10 

(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau o aelodaeth plaid y mae rhaid eu cynnwys mewn cydsyniadau ag enwebiad fel a grybwyllir yn rheol 9(3)(e).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan nad yw ymgeisydd rhestr plaid, yn ystod y cyfnod perthnasol, ond wedi bod yn aelod o’r blaid wleidyddol gofrestredig y mae wedi ei gynnwys ar ei rhestr fel ymgeisydd plaid ar bapur enwebu plaid a gyflwynwyd o dan reol 6.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â phob un o’r pleidiau hynny—
(a) enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid fwy nag un enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a
(b) y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol y bu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid rhyngddynt.
(5) Nid yw’n ofynnol i ymgeisydd rhestr plaid gynnwys manylion y blaid wleidyddol gofrestredig y mae wedi ei gynnwys ar ei rhestr fel ymgeisydd plaid ar bapur enwebu plaid a gyflwynir o dan reol 6.
(6) Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y cydsyniad ag enwebiad ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.
(7) Yn y rheol hon—
(a) ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;
(b) mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;
(c) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.
Ernes
11 

(1) Nid yw person wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd unigol i’w ddychwelyd mewn etholaeth mewn etholiad i’r Senedd oni bai bod swm o £500 yn cael ei adneuo gan yr ymgeisydd hwnnw, neu ar ran yr ymgeisydd hwnnw, gyda’r swyddog canlyniadau yn un o’r lleoedd ac yn ystod yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu.
(2) Nid yw plaid wleidyddol gofrestredig, a phob un o’r ymgeiswyr rhestr plaid ar y rhestr a gyflwynwyd ganddi, wedi ei henwebu neu ei enwebu’n ddilys i’w dychwelyd neu ei ddychwelyd mewn etholaeth mewn etholiad i’r Senedd oni bai bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) rhaid i swm o £500 gael ei adneuo ar gyfer yr ymgeisydd rhestr plaid cyntaf sy’n ymddangos ar restr y blaid wleidyddol gofrestredig;
(b) rhaid i swm o £200 gael ei adneuo ar gyfer pob un o’r pum ymgeisydd nesaf sy’n ymddangos ar restr y blaid wleidyddol gofrestredig;
(c) rhaid i’r ernes gael ei thalu gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid, neu ar ei ran, i’r swyddog canlyniadau yn un o’r lleoedd ac yn ystod yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i’r ernes gael ei gwneud naill ai—
(a) drwy adneuo unrhyw arian cyfreithlon,
(b) drwy gyfrwng drafft banc, neu
(c) gyda chydsyniad y swyddog canlyniadau, drwy unrhyw ddull arall, gan gynnwys drwy gyfrwng cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad cyllid electronig.
(5) Caiff y swyddog canlyniadau wrthod derbyn ernes y ceisir ei gwneud drwy gyfrwng drafft banc os nad yw’r swyddog canlyniadau yn gwybod bod y tynnwr yn cynnal busnes fel banciwr yn y Deyrnas Unedig.
(6) Rhaid cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (7) pan fo’r ernes yn cael ei gwneud—
(a) ar ran ymgeisydd unigol yn unol â pharagraff (1), neu
(b) ar ran swyddog enwebu cofrestredig plaid yn unol â pharagraff (3)(c).
(7) Rhaid i’r person sy’n gwneud yr ernes (“P”), ar yr amser y mae P yn ei gwneud, roi enw a chyfeiriad P i’r swyddog canlyniadau oni bai bod yr wybodaeth honno eisoes wedi ei rhoi i’r swyddog canlyniadau o dan erthygl 39.
Lleoedd ar gyfer danfon papurau enwebu
12 

(1) Rhaid i’r lle neu’r lleoedd ar gyfer danfon papurau enwebu—
(a) bod yn yr etholaeth Senedd, neu
(b) bod yn yr ardal gofrestru sy’n cynnwys yr etholaeth Senedd gyfan neu unrhyw ran ohoni.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau bennu’r lle neu’r lleoedd y mae papurau enwebu i’w danfon iddynt yn unol â pharagraff (1), a rhaid iddo fod yn bresennol yno yn ystod yr amser ar gyfer eu danfon ac ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau iddynt.
(3) At ddibenion paragraff (1)(b), ystyr “ardal gofrestru” yw ardal dwy neu ragor o etholaethau Senedd a chanddynt yr un swyddog cofrestru.
Hawl i fod yn bresennol adeg enwebiad
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), dim ond y personau a restrir ym mharagraff (2) sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn y gweithdrefnau yn ystod yr amser ar gyfer danfon papurau enwebu neu ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau iddynt.
(2) Y personau sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol mewn gweithdrefnau yw—
(a) person sy’n dal wedi ei enwebu fel ymgeisydd unigol,
(b) asiant etholiad person o’r fath,
(c) ymgeisydd rhestr plaid,
(d) swyddog enwebu cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid, neu asiant etholiad y blaid honno mewn cysylltiad â’r rhestr honno,
(e) person sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd adran 6A neu 6B o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000,
(f) person sy’n danfon papur enwebu, neu
(g) person sy’n cynorthwyo’r swyddog canlyniadau.
(3) Pan fo ymgeisydd unigol yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun, neu ymgeisydd rhestr plaid yn gweithredu fel asiant etholiad y blaid honno mewn perthynas â’r rhestr honno, caiff yr ymgeisydd enwi un person arall sydd i gael hawlogaeth i fod yn bresennol yn lle’r asiant etholiad ar gyfer yr ymgeisydd unigol hwnnw neu’r blaid honno.
(4) Mae’r hawl i fod yn bresennol a roddir gan y rheol hon yn cynnwys yr hawl—
(a) i edrych ar, a
(b) i wrthwynebu dilysrwydd,
unrhyw bapur enwebu unigolyn neu unrhyw bapur enwebu plaid a gyflwynwyd mewn perthynas â’r etholaeth, gan gynnwys enwebiad unrhyw ymgeisydd rhestr plaid ar y rhestr plaid a gyflwynwyd gyda’r papur enwebu plaid hwnnw.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(e) i (g).
(6) Mae gan un person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hawlogaeth i fod yn bresennol pan ddanfonir y papur enwebu y caiff yr ymgeisydd hwnnw ei enwebu drwyddo, ac ar ôl hynny, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu, caiff fod yn bresennol yn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), ond heb fod ganddo unrhyw hawl a roddir gan baragraff (4).
(7) Pan fo papurau enwebu wedi eu danfon yn unol â’r datganiad danfon electronig, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y papurau hynny ar gael i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) i (d) i edrych arnynt.
Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu unigolyn
14 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir y canlynol yn unol â’r rheolau hyn—
(a) papur enwebu unigolyn a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n mynd gydag ef,
(b) cydsyniad yr ymgeisydd â’i enwebiad, ac
(c) yr ernes.
(2) Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—
(a) bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;
(b) bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;
(c) bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.
(3) Mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i ddyfarnu bod papur enwebu unigolyn yn annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—
(a) nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith,
(b) nad yw’r papur wedi ei danysgrifio yn unol â gofynion rheol 5(6),
(c) bod yr ymgeisydd wedi ei anghymhwyso o dan adran 16(A1) o Ddeddf 2006 rhag bod yn aelod o’r Senedd a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn aelod o’r Senedd, neu
(d) bod ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn groes i adran 7(5) o Ddeddf 2006.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu unigolyn, ffurflen cyfeiriad cartref a ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unrhyw wrthwynebiad i bapur enwebu unigolyn—
(a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud, a
(b) beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
(6) Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu unigolyn yn annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto, a llofnodi’r arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.
(8) Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu unigolyn yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei gwestiynu mewn unrhyw achos.
(9) Ac eithrio fel a ddarperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei gwestiynu ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu plaid
15 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir y canlynol yn unol â’r rheolau hyn—
(a) papur enwebu plaid, ynghyd â’i restr plaid,
(b) ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd yn y rhestr honno,
(c) cydsyniad pob ymgeisydd yn y rhestr honno i gael ei enwebu, a
(d) yr ernes sy’n cydymffurfio â gofynion rheol 11(2) a (3).
(2) Mae’r blaid a phob ymgeisydd ar ei rhestr yn dal wedi eu henwebu oni bai a hyd nes y bydd y swyddog canlyniadau yn penderfynu bod y papur enwebu plaid yn annilys.
(3) Mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i ddyfarnu bod papur enwebu plaid yn annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—
(a) ei fod yn groes i reol 6(3) neu (5),
(b) ei fod yn groes i reol 7(1) neu (5),
(c) nad yw’r papur wedi ei danysgrifio yn unol â gofynion rheol 6(8),
(d) bod y rhestr plaid yn cynnwys mwy nag 8 person, neu
(e) bod pob ymgeisydd a gynhwyswyd yn y rhestr plaid, yn unol â pharagraffau (4) a (5), wedi peidio â bod yn dal wedi ei enwebu.
(4) Bydd ymgeisydd ar restr plaid yn peidio â bod yn dal wedi ei enwebu—
(a) pan fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw, neu
(b) pan fo’r ymgeisydd yn tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl yn unol â rheol 16(3).
(5) Mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i ddyfarnu bod ymgeisydd rhestr plaid wedi peidio â bod yn dal wedi ei enwebu—
(a) pan na fo manylion ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith,
(b) pan fo ymgeisydd wedi ei anghymhwyso o dan adran 16(A1) o Ddeddf 2006 rhag bod yn aelod o’r Senedd a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn aelod o’r Senedd, neu
(c) pan fo ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn groes i adran 7(4) o Ddeddf 2006.
(6) Pan fo ymgeisydd ar restr plaid yn peidio â bod yn dal wedi ei enwebu yn rhinwedd paragraff (5), ni fydd hynny ohono ei hun yn atal unrhyw ymgeisydd arall sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr plaid honno rhag parhau i fod yn dal wedi ei enwebu.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob—
(a) papur enwebu plaid, a’r rhestr plaid sy’n mynd gydag ef,
(b) ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd rhestr plaid, ac
(c) ffurflen cydsynio ag enwebiad pob ymgeisydd rhestr plaid,
gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r blaid wedi ei henwebu’n ddilys.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unrhyw wrthwynebiad i bapur enwebu plaid neu i ymgeisydd rhestr plaid—
(a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud, a
(b) beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
(9) Os yw papur enwebu plaid, ym marn y swyddog canlyniadau, yn groes i reol 6(3) neu (5) neu 7(1) neu (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad i’r perwyl hwnnw—
(a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a
(b) beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
(10) Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu—
(a) bod papur enwebu plaid yn annilys, neu
(b) bod enw a chyfeiriad ymgeisydd i’w dileu o restr plaid,
rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto, a llofnodi’r arnodiad.
(11) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i swyddog enwebu cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig a gyflwynodd bapur enwebu plaid a rhestr plaid yn datgan—
(a) penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r blaid yn ddilys ynteu’n annilys, a
(b) a yw enw a chyfeiriad unrhyw ymgeiswyr i’w dileu o restr plaid.
(12) Mae penderfyniad swyddog canlyniadau—
(a) bod papur enwebu plaid yn ddilys, neu
(b) bod enw a chyfeiriad ymgeisydd i’w dileu o restr plaid,
yn derfynol ac ni chaniateir ei gwestiynu mewn unrhyw achos.
(13) Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) a (12), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei gwestiynu ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl
16 

(1) Caiff ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl—
(a) cael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst y mae rhaid iddo ardystio i lofnod yr ymgeisydd, a
(b) cael ei ddanfon at y swyddog canlyniadau.
(3) Caiff plaid wleidyddol gofrestredig dynnu’n ôl ymgeisyddiaeth unrhyw ymgeiswyr, neu bob un ohonynt, sydd wedi eu cynnwys yn un o restrau plaid y blaid honno drwy hysbysiad tynnu’n ôl—
(a) a lofnodwyd gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid, a
(b) a ddanfonwyd at y swyddog canlyniadau.
(4) Caniateir danfon hysbysiad tynnu’n ôl naill ai—
(a) i un o’r lleoedd a bennir gan y swyddog canlyniadau yn yr hysbysiad etholiad ar gyfer danfon papurau enwebu, neu
(b) yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig (rheol 3).
Cyhoeddi datganiad o’r pleidiau a’r personau eraill a enwebwyd
17 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio a chyhoeddi datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd yn dangos—
(a) y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu fel ymgeiswyr unigol,
(b) y pleidiau gwleidyddol cofrestredig a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, ynghyd â’r rhestr o ymgeiswyr, mewn cysylltiad â phob plaid o’r fath, a gyflwynwyd ganddi ac a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu fel ymgeiswyr y blaid honno, ac
(c) unrhyw bersonau neu bleidiau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.
(2) Rhaid i’r datganiad ddangos—
(a) mewn cysylltiad ag ymgeiswyr unigol—
(i) enwau’r personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,
(ii) eu cyfeiriadau, neu’r wybodaeth berthnasol honno a ddarparwyd yn eu gwybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), a
(iii) yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu cydsyniadau i gael eu henwebu;
(b) mewn cysylltiad â’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid, enwau’r pleidiau hynny, ynghyd â’r canlynol, mewn cysylltiad â phob plaid o’r fath—
(i) yr enw, yr enwau neu’r disgrifiadau y cyfeirir atynt yn rheol 6(3),
(ii) enwau’r personau a enwebwyd, fel y maent yn ymddangos yn rhestr y blaid honno,
(iii) cyfeiriadau’r personau hynny, neu’r wybodaeth berthnasol honno a ddarparwyd yn yr wybodaeth am gyfeiriad cartref y personau hynny (gweler paragraff (3)), a
(iv) yr wybodaeth a gynhwyswyd yn natganiadau’r personau hynny o aelodaeth plaid fel y’i rhoddwyd yn eu cydsyniadau i gael eu henwebu.
(3) Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n mynd gyda’r papur enwebu—
(a) pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 8(5);
(b) pan na fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.
(4) Mae rheol 18 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 19 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
(5) Rhaid i’r datganiad ddangos—
(a) yr ymgeiswyr unigol sy’n dal wedi eu henwebu gyda’i gilydd yn nhrefn yr wyddor;
(b) y pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid gyda’i gilydd yn nhrefn yr wyddor ac, mewn cysylltiad â phob plaid o’r fath, yr ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu, yn union ar ôl y cofnod ar gyfer y blaid berthnasol, yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestr plaid.
(6) Mae trefn y pleidiau gwleidyddol cofrestredig y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) i’w dangos yn y datganiad cyn dangos trefn yr ymgeiswyr unigol y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(a).
(7) At ddibenion paragraff (5)(a), pennir trefn yr wyddor drwy gyfeirio at gyfenwau’r ymgeiswyr unigol, ac os oes dau neu ragor ohonynt â’r un cyfenw, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.
(8) At ddibenion paragraff (5)(b)—
(a) mae plaid wleidyddol gofrestredig i’w dangos yn y datganiad drwy gyfeirio at yr enw neu’r enwau, neu’r disgrifiad, y cyfeirir ato neu atynt yn rheol 6(3) mewn cysylltiad â’r blaid, a
(b) mae trefn yr wyddor i’w phennu drwy ddiystyru’r fannod benodol neu’r fannod amhenodol a, phan fo dau neu ragor o eiriau yn yr enw neu’r enwau, neu’r disgrifiad, wedi diystyru’r fannod benodol neu’r fannod amhenodol, drwy gyfeirio at y cyntaf o’r geiriau hynny ac, os oes dwy neu ragor o bleidiau â’r un gair cyntaf, o’r geiriau eraill.
(9) Yn achos person a enwebir gan fwy nag un papur enwebu unigolyn, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y manylion sy’n ofynnol gan ddarpariaethau blaenorol y rheol hon oddi ar y papur hwnnw y mae’r ymgeisydd, neu’r swyddog canlyniadau yn absenoldeb yr ymgeisydd, yn ei ddewis.
(10) Yn achos plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi danfon mwy nag un papur enwebu plaid, a phan fo ymgeiswyr rhestr plaid y blaid honno yn dal wedi eu henwebu gan fwy nag un rhestr plaid a gyflwynwyd gyda’r papurau hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y manylion sy’n ofynnol gan ddarpariaethau blaenorol y rheol hon oddi ar y papur enwebu plaid hwnnw a’r rhestr plaid gyda’r papur hwnnw y mae swyddog enwebu cofrestredig y blaid, neu’r swyddog canlyniadau yn absenoldeb y swyddog enwebu cofrestredig, yn ei ddewis.
(11) Pan ddangosir bod ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu gan restr nas dewisir yn unol â pharagraff (10), ni fydd yr ymgeisydd hwnnw yn dal wedi ei enwebu mwyach.
(12) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon i’r Comisiwn Etholiadol gopi o’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd
18 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—
(a) pan fo papur enwebu unigolyn person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(5), a
(b) pan fo rhestr plaid yn rhoi enw blaen neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ymgeisydd ar y rhestr honno yn unol â rheol 6(7).
(2) Rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin, yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheolau 5(4)(a) a 6(6), oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—
(a) y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
(b) bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.
(3) Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—
(a) rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheolau 5(4)(a) a 6(6), yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, a
(b) rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
Enwau sydd yr un fath neu’n debyg
19 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth lunio datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—
(a) bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o achosi dryswch,
(b) bod pob un o’r personau o dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 8(4)), ac
(c) bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 8(5) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael ei ddangos neu eu dangos ar y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau y mae’r swyddog canlyniadau yn meddwl eu bod yn briodol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.
(3) Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
(4) Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.
(6) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei gwestiynu mewn unrhyw achos ac eithrio achos ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
Cywiro mân wallau mewn papurau enwebu, ffurflenni cyfeiriad cartref neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad
20 

(1) Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen cydsynio ag enwebiad.
(2) Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—
(a) gwallau sillafu amlwg;
(b) gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 8(5) (gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).
(3) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei gwestiynu mewn unrhyw achos ac eithrio achos ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
(4) Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
Edrych ar bapurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad
21 

(1) Yn ystod yr amser ar gyfer edrych, caiff unrhyw berson edrych ar bapurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad sydd wedi eu danfon.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer edrych” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y pôl, ac eithrio diwrnod eithriedig.
(3) Caiff person sy’n edrych ar bapurau enwebu neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.
(4) Pan fo papurau enwebu wedi eu danfon yn unol â’r datganiad danfon electronig, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod ar gael i edrych arnynt.
Edrych ar ffurflenni cyfeiriad cartref
22 

(1) Yn ystod yr amser ar gyfer edrych, caniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno gwneud hynny, edrych ar ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid sy’n dal wedi ei enwebu (“ymgeisydd A”)—
(a) ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid arall (“ymgeisydd B”) sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un etholaeth ag ymgeisydd A,
(b) asiant etholiad neu danysgrifiwr ymgeisydd B, neu
(c) pan fo ymgeisydd B yn ymgeisydd unigol ac yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun, person arall a ddewisir gan ymgeisydd B.
(2) Pan fo person wedi ei enwebu gan fwy nag un papur enwebu, mae’r cyfeiriad at y tanysgrifiwr ym mharagraff (1)(b) yn cyfeirio at—
(a) y tanysgrifiwr ar y papur enwebu a ddewisir gan yr ymgeisydd, neu
(b) yn absenoldeb dewis o’r fath, y papur enwebu a ddanfonwyd gyntaf yn unol â rheol 5(2) neu 6(2).
(3) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer edrych” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y pôl, ac eithrio diwrnod eithriedig.
(4) Pan fo ffurflen cyfeiriad cartref wedi ei danfon yn unol â’r datganiad danfon electronig, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y ffurflen honno ar gael i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (1) i edrych arnynt.
(5) Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n edrych o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.
(6) Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu edrych ar ffurflen cyfeiriad cartref ac eithrio yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—
(a) drannoeth y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enw’r aelod a etholwyd, neu
(b) os cyflwynir deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwestiynu’r etholiad neu’r dychweliad cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb neu’r apêl sy’n deillio o’r achos hwnnw ddod i ben.
(8) At ddibenion paragraff (7)(a), rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
Gohirio gweithdrefnau enwebu os ceir terfysg
23 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws gweithdrefnau ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y gweithdrefnau hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.
(2) Rhaid rhoi’r gorau i’r gweithdrefnau am y diwrnod hwnnw.
(3) Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r gweithdrefnau, rhaid ailddechrau’r gweithdrefnau drannoeth.
(4) Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y gweithdrefnau yn ailddechrau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hestyn un diwrnod.
(5) Pan roddir y gorau i weithdrefnau o dan y rheol hon—
(a) ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r gweithdrefnau os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r gweithdrefnau, a
(b) nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r gweithdrefnau yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.
Dull ethol
Dull ethol
24 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw’r datganiad o’r pleidiau a’r personau sy’n dal wedi eu henwebu mewn etholiad etholaethol yn dangos mwy o ymgeiswyr, pa un ai fel ymgeiswyr unigol neu ymgeiswyr rhestr plaid, na nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth honno, rhaid cynnal pôl yn unol â Rhan 3 o’r rheolau hyn.
(2) Pan fo pob ymgeisydd wedi ei gynnwys ar yr un rhestr plaid, datgenir bod yr ymgeiswyr hynny wedi eu hethol yn unol â Rhan 4 o’r rheolau hyn yn y drefn y maent wedi eu cynnwys ar y rhestr honno, gan ddechrau gyda’r uchaf, hyd at nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth.
(3) Ond os yw’r datganiad o’r pleidiau a’r personau sy’n dal wedi eu henwebu yn dangos bod nifer yr ymgeiswyr, pa un ai fel ymgeiswyr unigol neu ymgeiswyr rhestr plaid, yr un fath â nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth, neu’n llai na’r nifer hwnnw, rhaid datgan bod yr ymgeiswyr hynny wedi eu hethol yn unol â Rhan 4 o’r rheolau hyn.
(4) Mae paragraff (2) neu (3) hefyd yn gymwys pan fo hysbysiad y pôl mewn etholiad etholaethol yn cael ei ddiddymu neu pan roddir y gorau i’r pôl o dan reol 72(1) (etholiad yn dod yn un nas ymleddir drwy farwolaeth ymgeisydd).
RHAN 3 Etholiadau a ymleddir
Darpariaethau cyffredinol
Y pôl i’w gynnal drwy bleidlais gudd
25 

(1) Rhaid i’r pleidleisiau yn y pôl gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.
(2) Rhaid canfod y canlyniad ar ôl cyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd unigol neu bob plaid wleidyddol gofrestredig ym mhob etholaeth.
(3) Rhaid datgan bod yr ymgeiswyr a ddychwelir yn aelodau o’r Senedd, yn unol ag adrannau 8 a 9 o Ddeddf 2006, wedi eu hethol.
Y papurau pleidleisio
26 

(1) Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.
(2) Dim ond y canlynol, a neb arall, sydd â hawlogaeth i gael eu henwau a’u disgrifiadau wedi eu gosod ar bapur pleidleisio—
(a) y pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid ac a ddangosir yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, ynghyd â’r ymgeiswyr rhestr plaid sy’n ymddangos ar restr plaid pob plaid o’r fath ac fel ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu, a
(b) y personau a ddangosir yn y datganiad hwnnw fel rhai sy’n dal wedi eu henwebu fel ymgeiswyr unigol.
(3) Rhaid i bapur pleidleisio—
(a) bod yn ffurf 12 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
(b) bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddiadau yn ffurf 13 yn yr Atodlen honno.
(4) Rhaid i’r papur pleidleisio—
(a) cynnwys enwau’r ymgeiswyr unigol a ddangosir yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, ond ni chaiff gynnwys gwybodaeth am gyfeiriad cartref ymgeisydd,
(b) cynnwys enwau neu ddisgrifiadau’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig a ddangosir yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr sydd wedi eu cynnwys ar restrau’r pleidiau hynny,
(c) pan fo plaid wleidyddol gofrestredig wedi dewis defnyddio’r gair “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” yn enw’r blaid gofrestredig fel a nodir yn rheolau 6(4) a 7(2) a (3), arddangos y gair hwnnw neu’r geiriau hynny ar y papur pleidleisio,
(d) gallu cael ei blygu, ac
(e) bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn.
(5) Rhaid i drefn—
(a) enwau neu ddisgrifiadau’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig, a
(b) yr ymgeiswyr unigol,
yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
(6) Os bydd tystysgrif sy’n dod i law’r swyddog canlyniadau o dan reol 7(1) yn gofyn am i arwyddlun plaid wleidyddol gofrestredig, neu un o arwyddluniau cofrestredig y blaid, gael ei ddangos ar y papur pleidleisio, rhaid i’r papur pleidleisio hefyd gynnwys yr arwyddlun hwnnw i’r dde i enw’r blaid.
Rhestr rhifau cyfatebol
27 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.
(2) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.
(3) Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 32(1) (papurau pleidleisio drwy’r post).
(4) Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau, ond nid marciau adnabod unigryw, yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 37(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).
(5) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn ffurf 14 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl.
Y marc swyddogol
28 

(1) Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).
(2) Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.
(3) Rhaid i gyfnod o ddim llai na saith mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiad ar gyfer yr un etholaeth Senedd.
(4) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.
Gwahardd datgelu pleidlais
29 
Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i gwestiynu’r etholiad.
Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus
30 

(1) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim at ddiben cynnal y pôl neu gyfrif y pleidleisiau—
(a) ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b) ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan y Senedd i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;
(c) unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.
(2) Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y pôl neu gyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a
(b) talu unrhyw gost y mae’r person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell yn mynd iddi oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.
(3) Nid yw defnyddio ystafell mewn adeilad heb ei feddiannu at y diben hwnnw yn peri bod person yn agored i dalu unrhyw dreth gyngor neu drethi annomestig.
Camau i’w cymryd cyn y pôl
Hysbysiad pôl
31 

(1) Rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd sy’n ofynnol gan reol 17 gynnwys hysbysiad o’r pôl yn datgan y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y pôl.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r pôl, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—
(a) o safle pob gorsaf bleidleisio, a
(b) o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawlogaeth i bleidleisio yno.
(3) Caniateir cyfuno’r hysbysiad sy’n ofynnol yn unol â pharagraff (2) â’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd sy’n ofynnol gan reol 17.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (2), roi copi ohono i bob un o’r asiantiaid etholiad a benodir yn unol ag erthygl 39.
Papurau pleidleisio drwy’r post
32 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol ag Atodlen 2, ddyroddi i’r rhai sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post—
(a) papur pleidleisio, a
(b) datganiad pleidlais drwy’r post,
yn y ffurfiau a nodir yn Atodlen 10, ynghyd ag unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post a ragnodir gan Atodlen 2.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—
(a) cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,
(b) cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddiadau neu’r canllawiau hynny,
(c) delweddau graffig o’r cyfarwyddiadau neu’r canllawiau hynny, a
(d) y cyfarwyddiadau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall, gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy.
(3) Rhaid i’r datganiad pleidlais drwy’r post gynnwys darpariaeth—
(a) i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad am lofnod, a
(b) ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, ddyddiad geni’r dirprwy.
(4) Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post yn rhad ac am ddim.
Dychwelyd papurau pleidleisio drwy’r post
33 

(1) Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr briodol yn y dull a ragnodir yn Atodlen 2.
(2) Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr briodol yn y dull a ragnodir yn Atodlen 2.
(3) Nid yw rheol 58(7) yn gymwys at ddiben penderfynu, at ddibenion y rheol hon, a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd.
Darparu gorsafoedd pleidleisio
34 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.
(2) Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.
(3) Rhaid i’r orsaf bleidleisio a ddyrennir i etholwyr o unrhyw ddosbarth pôl fod yn y man pleidleisio ar gyfer y dosbarth hwnnw.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau sy’n angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.
Penodi swyddogion llywyddu a chlercod
35 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—
(a) swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a
(b) unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y pôl neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc—
(a) ymgeisydd unigol,
(b) ymgeisydd rhestr plaid, nac
(c) person a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig mewn cysylltiad â’r etholiad.
(3) Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.
(4) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.
(5) Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth, gan gynnwys gofyn cwestiynau, y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n ei awdurdodi i’w wneud, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei arestio, ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.
Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol
36 

(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—
(a) cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,
(b) cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,
(c) cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a
(d) cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.
(2) Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymhwysol yr etholwr.
(3) Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—
(a) enw’r etholaeth Senedd y mae’r aelodau i’w hethol iddi,
(b) enw, cyfeiriad cymhwysol a rhif cofrestr yr etholwr,
(c) dyddiad y pôl, yr oriau pleidleisio a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac
(d) unrhyw wybodaeth arall, nad yw’n ymwneud ag unrhyw ymgeisydd neu blaid wleidyddol gofrestredig, y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol.
(5) Nid yw paragraff (4)(c) yn gymwys i gardiau pleidleisio a ddyroddir i bleidleiswyr drwy’r post a phleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy (ffurfiau 17 a 18 yn Atodlen 10).
(6) Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(d) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.
(7) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—
(a) cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn y ffurf briodol yn Atodlen 10 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(b), a
(b) cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.
(8) Yn y rheol hon, o ran “etholwr”—
(a) ei ystyr yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr ar gyfer etholaeth y Senedd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, a
(b) mae’n cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw, fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio, ond dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr, neu o’r cofnod o gofnodion dienw, y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y pôl.
Cyfarpar gorsaf bleidleisio
37 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(2) Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i’r swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a) deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,
(b) copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,
(c) copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol (hysbysiadau mewn cysylltiad ag addasiadau i’r gofrestr),
(d) copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac
(e) rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a luniwyd o dan reol 27 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).
(4) Caniateir darparu’r dogfennau a ddarperir yn unol â pharagraff (3)(b), (d) ac (e) ar ffurf papur neu ar ffurf electronig.
(5) Ym mharagraff (3), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr etholaeth neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau achosi i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio sy’n cydymffurfio ag erthygl 138(4) a (6) gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—
(a) copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw sy’n cydymffurfio ag erthygl 138(6), er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a
(b) unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi personau perthnasol i bleidleisio’n annibynnol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny, yn y dull a gyfarwyddir gan reol 48, gan gynnwys mewn perthynas â phleidleisio’n gyfrinachol.
(8) Yn y rheol hon, ystyr “personau perthnasol” yw personau sy’n ei chael yn anodd neu’n amhosibl pleidleisio yn y dull a gyfarwyddir gan reol 46 oherwydd—
(a) amhariad difrifol ar y golwg neu ddallineb rhannol, neu
(b) anabledd arall.
(9) Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (6) a (7)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.
(10) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd achosi i hysbysiad yn ffurf 19 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, yn rhoi cyfarwyddiadau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—
(a) y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio, ond y tu allan i’r bythau pleidleisio, a
(b) y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.
(11) Rhaid i’r datganiad priodol o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd y cyfeirir ato yn rheol 17 gael ei argraffu mewn nodau amlwg a’i dangos y tu mewn a’r tu allan i bob gorsaf bleidleisio.
(12) Rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
 “Pleidleisiwch unwaith yn unig ar y papur pleidleisio. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
 Vote only once on the ballot paper. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.”
(13) Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol roi canllawiau i swyddogion canlyniadau mewn perthynas â’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (7)(b).
(14) Cyn rhoi canllawiau o dan baragraff (13), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ymgynghori ag unrhyw bersonau, gan gynnwys cyrff sy’n cynrychioli buddiannau personau perthnasol, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(15) Wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (7)(b), rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i ganllawiau a roddir o dan baragraff (13).
Penodi asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif
38 

(1) Cyn i’r pôl ddechrau, caiff ymgeisydd unigol ac asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu benodi—
(a) asiantiaid pôl i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a
(b) asiantiaid cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau gyfyngu ar nifer yr asiantiaid cyfrif y caniateir eu penodi o dan baragraff (1)—
(a) fel bod y nifer yr un fath ar gyfer pob ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig, a
(b) fel nad yw’r nifer a ganiateir i ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig, yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr unigol a’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n dal wedi eu henwebu.
(3) Rhaid i’r person sy’n gwneud penodiad o dan baragraff (1) roi hysbysiad mewn ysgrifen o’r penodiad i’r swyddog canlyniadau.
(4) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) rhoi enwau, cyfeiriadau post a chyfeiriadau e-bost, pan fônt ar gael, y personau a benodwyd, a
(b) cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y pôl, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.
(5) Os bydd asiant pôl neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—
(a) caiff y person a wnaeth y penodiad benodi asiant arall yn ei le, a
(b) rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau ar unwaith yn datgan enw, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost yr asiant arall, pan fônt ar gael.
Asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif: darpariaeth atodol
39 

(1) Caiff ymgeisydd unigol neu asiant etholiad ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu—
(a) gwneud unrhyw beth y mae asiant pôl neu asiant cyfrif yr ymgeisydd hwnnw neu’r blaid honno wedi ei awdurdodi i’w wneud, neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi;
(b) cynorthwyo asiant pôl neu asiant cyfrif yr ymgeisydd hwnnw neu’r blaid honno i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pôl neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.
(2) Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantiaid pôl neu’r asiantiaid cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiad yr ymgeisydd unigol neu’r blaid.
(3) Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi gwneud rhywbeth ym mhresenoldeb asiantiaid y pôl neu’r asiantiaid cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantiaid ar yr amser ac yn y lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.
(4) Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ei roi i asiant cyfrif gael ei anfon i’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd yn yr hysbysiad penodi.
(5) Pan nad oes gan ymgeisydd unigol sy’n dal wedi ei enwebu neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd neu i’r blaid.
Hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd
40 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio person a ddisgrifir ym mharagraff (2), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau erthygl 35(1), (2), (4) a (7).
(2) Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—
(a) person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;
(b) person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;
(c) person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;
(d) person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.
(3) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Y pôl
Derbyn i’r orsaf bleidleisio
41 

(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—
(a) pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,
(b) personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,
(c) yr ymgeiswyr unigol a’r ymgeiswyr rhestr plaid,
(d) asiantiaid etholiad ymgeiswyr unigol, neu mewn perthynas ag unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, asiant etholiad y blaid honno mewn cysylltiad â’r rhestr a gyflwynwyd ganddi,
(e) asiantiaid y pôl a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(f) y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(g) y swyddog canlyniadau neu aelodau o staff y swyddog canlyniadau,
(h) personau sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),
(i) y cwnstabliaid ar ddyletswydd, a
(j) cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.
(3) Ni chaniateir i fwy nag un ymgeisydd rhestr plaid o’r un rhestr plaid a gyflwynwyd gan blaid wleidyddol gofrestredig gael ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio.
(4) Ni chaniateir i fwy nag un asiant pôl gael ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd unigol neu ar ran yr un blaid wleidyddol gofrestredig.
(5) Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—
(a) yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b) mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif ar ffurf 2 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.
(6) Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—
(a) yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b) mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif ar ffurf 2 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.
(7) Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (5) neu (6) gael ei chanslo ar unwaith.
(8) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Cadw trefn yn yr orsaf bleidleisio
42 

(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.
(2) Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.
(3) Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—
(a) gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu
(b) gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.
(4) Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y pôl.
(5) Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.
(6) Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawlogaeth i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.
Selio’r blychau pleidleisio
43 

(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r pôl ddechrau.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny, os oes rhai, sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.
(3) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a) cloi’r blwch, os oes iddo glo, a
(b) gosod sêl y swyddog llywyddu arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.
(4) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu, os nad oes iddo glo, ei gadw dan sêl.
Cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr
44 

(1) Adeg cais am bapur pleidleisio, ond nid wedyn, caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn (1) o Dabl 1 (a nodir ym mharagraff (4)), neu yng ngholofn (1) o Dabl 2 (a nodir ym mharagraff (5)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau (2) a (3).
(2) Os bydd ymgeisydd neu asiant etholiad neu asiant pôl ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn (1) o Dabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau (2) a (3).
(3) Caniateir gofyn cwestiwn yn Saesneg (fel a nodir yng ngholofn (2) o’r Tablau) neu yn Gymraeg (fel a nodir yng ngholofn (3) o’r Tablau).
(4) Mae Tabl 1 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd, neu asiant etholiad neu asiant pôl ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).

Table 1
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3)
Disgrifiad Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Saesneg Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Gymraeg
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr 1(a) “Are you the person registered in the register of local government electors as follows?”Notes to 1(a)The presiding officer must then read the whole entry from the copies of the registration records.1(b) “Have you already voted, here or elsewhere, at this election, otherwise than as proxy for some other person?” 1(a) “Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol fel a ganlyn?”Nodiadau ar 1(a)Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.1(b) “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, fan hyn neu rywle arall, yn yr etholiad hwn, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?”
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr ac eithrio etholwr sydd â chofnod dienw 2(a) “Are you the person whose name appears as AB in the list of proxies for this election as entitled to vote as proxy on behalf of CD?”2(b) “Have you already voted, here or elsewhere, at this election, as proxy on behalf of CD?”2(c) “Are you the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister or grandchild of CD?”Notes to 2(a) to (c)Where a question refers to AB, the presiding officer reads out the name as it appears in the list of proxies. Where a question refers to CD, the presiding officer reads out the name of the elector. 2(a) “Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD?”2(b) “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, fan hyn neu rywle arall, yn yr etholiad hwn, fel dirprwy ar ran CD?”2(c) “Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid/tad-cu, nain/mam-gu, brawd, chwaer, ŵyr neu wyres CD?”Nodiadau ar 2(a) i (c)Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr.
3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw, yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2. 3(a) “Are you the person entitled to vote as proxy on behalf of the elector whose number on the register of electors is [X]?”3(b) “Have you already voted, here or elsewhere, at this election, as proxy on behalf of the elector whose number on the register of electors is [X]?”3(c) “Are you the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild of the elector whose number on the register of electors is [X]?”Note to 3(a) to (c)Where the questions in this entry refer to [X], the presiding officer must read the elector’s number from the copies of the registration records. 3(a) “Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [X] yn y gofrestr etholwyr?”3(b) “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, fan hyn neu rywle arall, yn yr etholiad hwn, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [X] yn y gofrestr etholwyr?”3(c) “Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid/tad-cu, nain/mam-gu, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres yr etholwr sydd â’r rhif [X] yn y gofrestr etholwyr?”Nodiadau ar 3(a) i (c)Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [X], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.
4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) iddo ac nad yw wedi ateb “ie” 4 “At this election, have you already voted in this constituency on behalf of two persons of whom you are not the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild?” 4. “Yn yr etholiad hwn, ydych chi eisoes wedi pleidleisio yn yr etholaeth hon ar ran dau berson nad ydych yn briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn daid/tad-cu neu’n nain/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn, yn ŵyr neu’n wyres iddynt?”
(5) Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1), ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2).

Table 2
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3)
Disgrifiad Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Saesneg Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Gymraeg
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post 1(a) “Did you apply to vote by post?”1(b) “Why have you not voted by post?” 1(a) “Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post?”1(b) “Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post?”
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy 2(a) “Did you apply to vote by post as proxy?”2(b) “Why have you not voted by post as proxy?” 2(a) “Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?”2(b) “Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?”
(6) Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.
(7) Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.
(8) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 37(3)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).
Herio pleidleisiwr
45 
Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond oherwydd—
(a) bod ymgeisydd neu asiant etholiad neu asiant pôl ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig yn datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu, neu
(b) bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.
Gweithdrefn pleidleisio
46 

(1) Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.
(2) Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—
(a) rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,
(b) oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,
(c) rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,
(d) rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi dod i law, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol sydd wedi dod i law, ac
(e) yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.
(3) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—
(a) dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a
(b) dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.
(4) Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.
(5) Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—
(a) marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,
(b) plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,
(c) dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a
(d) rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.
(6) Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio.
(7) Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r pôl gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(8) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).
Pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu
47 

(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio—
(a) os nad yw’r pleidleisiwr, oherwydd amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, yn gallu pleidleisio yn y dull a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu
(b) os yw’n datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—
(a) peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y dull a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a
(b) peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.
(3) Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—
(a) enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b) y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.
(4) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.
(5) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).
Pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: cymorth cymdeithion
48 

(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.
(3) Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.
(4) Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu fod y cydymaith—
(a) wedi cyrraedd 16 oed, a
(b) heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
(5) Rhaid i ddatganiad y cydymaith—
(a) bod ar ffurf 20 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
(b) cael ei roi i’r swyddog llywyddu a rhaid i’r swyddog llywyddu ardystio iddo a’i gadw.
(6) Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—
(a) wedi ei fodloni bod amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a
(b) wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anabledd o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
(7) Pan ganiateir y cais—
(a) caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a
(b) caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.
Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol
49 

(1) Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 48, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—
(a) enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b) enw a chyfeiriad y cydymaith.
(2) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.
(3) Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.
(4) Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 48(4).
(5) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).
Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau pan fônt ar gael
50 

(1) Caiff y weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais ei haddasu yn unol â pharagraff (2)—
(a) pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawlogaeth i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y caniateir eu gofyn yn y pôl yn unol â rheol 44, a
(b) pan fo’r ceisydd yn syrthio o fewn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (3) i (8).
(2) Rhaid i’r ceisydd—
(a) defnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a
(b) rhoi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).
Amgylchiadau pan fo pleidlais eisoes wedi ei rhoi yn bersonol
(3) Y set gyntaf o amgylchiadau yw—
(a) pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post neu’r rhestr dirprwyon, a
(b) pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(4) Yr ail set o amgylchiadau yw—
(a) pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a
(b) pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
Amgylchiadau pan fo ceisydd ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidlais bost
(5) Y drydedd set o amgylchiadau yw—
(a) pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,
(b) pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, ac
(c) pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.
(6) Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—
(a) pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,
(b) pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, ac
(c) pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.
Amgylchiadau pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio drwy’r post etc.
(7) Y bumed set o amgylchiadau yw—
(a) pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio drwy’r post newydd ond cyn i’r pôl gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, a
(b) pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio drwy’r post y person hwnnw neu heb ei gael.
(8) Y chweched set o amgylchiadau yw—
(a) pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio drwy’r post newydd ond cyn i’r pôl gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, a
(b) pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio drwy’r post y person hwnnw neu heb ei gael.
(9) Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i’r swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.
(10) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.
(11) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).
Papurau pleidleisio a dendrwyd: dyletswyddau’r swyddog llywyddu
51 

(1) Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—
(a) enw’r pleidleisiwr, a
(b) rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rif yr etholwr.
(3) Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.
(4) Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—
(a) enw’r pleidleisiwr, a
(b) rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rif yr etholwr.
(5) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, ni chaniateir i’r swyddog llywyddu gynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
(6) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).
Papurau pleidleisio a ddifethwyd
52 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath ddull fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.
(2) Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—
(a) drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a
(b) drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.
(3) Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.
Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl
53 
Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad i’r gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n cymryd effaith ar ddiwrnod y pôl.
Gohirio’r pôl os ceir terfysg
54 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y gweithdrefnau mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a) gohirio’r gweithdrefnau tan drannoeth, a
(b) hysbysu’r swyddog canlyniadau ar unwaith.
(3) Pan gaiff y pôl ei ohirio mewn gorsaf bleidleisio—
(a) rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei ohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a
(b) mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at gau’r pôl i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei ohirio iddo.
Y weithdrefn wrth gau’r pôl
55 

(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.
(2) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a) selio pob blwch pleidleisio a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantiaid pôl sy’n dymuno gosod eu sêl, a
(b) rhoi allwedd y blwch pleidleisio ynghlwm wrth y blwch pleidleisio.
(3) Rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantiaid pôl sy’n dymuno gosod eu sêl—
(a) y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, gyda’i gilydd;
(b) y papurau pleidleisio a dendrwyd;
(c) y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon, gyda’i gilydd;
(d) rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 46(2)(c));
(e) unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 41(5) neu (6) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);
(f) y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn, gyda’i gilydd—
(i) y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y cafodd eu pleidleisiau eu marcio oherwydd eu bod yn anabl neu nad ydynt yn gallu darllen (gweler rheol 47);
(ii) y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 48);
(iii) y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 49);
(iv) y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 51);
(v) y rhestr a gadwyd o dan reol 53 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl);
(g) y papurau pleidleisio drwy’r post a’r datganiadau pleidleisiau drwy’r post a ddychwelwyd â llaw i’r orsaf bleidleisio (oni bai eu bod eisoes wedi eu casglu yn unol â pharagraff 19(3) o Atodlen 2).
(4) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e), (f) neu (g) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yno.
(5) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—
(a) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yno, neu
(b) os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu asiantiaid y pôl a rhoi cyfle iddynt fod yn bresennol, mewn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yno.
(6) Caniateir selio’r dogfennau a selir yn unol â pharagraffau (3)(c) a (d) a (5) mewn pecynnau ffisegol neu becynnau electronig, a chaniateir i’r seliau a osodir ar y pecynnau hynny gael eu gosod yn ffisegol neu’n electronig, fel y bo’n briodol.
(7) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau neu achosi iddynt gael eu danfon yn unol â’r trefniadau diogelwch a mynediad a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau.
(8) I fynd gyda’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a luniwyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—
(a) nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a
(b) sut y rhoddwyd cyfrif am y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—
(i) nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na roddwyd cyfrif amdanynt fel arall;
(ii) nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;
(iii) nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;
(iv) nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
(9) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru, fel y’u diffinnir gan reol 44(8), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.
Cyfrif y pleidleisiau
Trefniadau cyfrif y pleidleisiau
56 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r pôl gau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r asiantiaid cyfrif yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyfrif y pleidleisiau.
Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif
57 

(1) Mae gan y personau a ganlyn hawlogaeth i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif—
(a) y swyddog canlyniadau ac aelodau o staff y swyddog canlyniadau;
(b) pob ymgeisydd unigol ac ymgeisydd rhestr plaid a gwestai i bob ymgeisydd;
(c) yr asiantiaid etholiad;
(d) yr asiantiaid cyfrif;
(e) unrhyw berson sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);
(f) y cwnstabliaid ar ddyletswydd.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
(3) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
(a) wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn llesteirio’r pleidleisiau rhag cael eu cyfrif yn effeithlon, a
(b) naill ai wedi ymgynghori â’r asiantiaid etholiad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantiaid cyfrif ar gyfer goruchwylio’r gweithdrefnau, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y gweithdrefnau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
(5) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl—
(a) ymgeisydd unigol y rhoddir pleidlais iddo, neu
(b) plaid wleidyddol gofrestredig y rhoddir pleidlais iddi,
ac wedyn gyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd neu blaid o’r fath, mae gan yr asiantiaid cyfrif hawlogaeth i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (gofyniad cyfrinachedd).
(7) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Y cyfrif: camau
58 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio.
(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapurau pleidleisio a dendrwyd.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid etholiad, wirhau pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd, gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirhad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiad sy’n gofyn amdano.
(6) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—
(a) cyfrif y papurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (7)), a
(b) cofnodi’r nifer a gyfrifwyd.
(7) Mae papur pleidleisio drwy’r post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post sy’n mynd gydag ef sydd wedi eu cwblhau’n briodol—
(a) wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio cyn i’r pôl gau,
(b) wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r pôl gau, neu
(c) wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r pôl gau.
(8) Mae datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol—
(a) os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu’r dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad am lofnod,
(b) os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu ddyddiad geni’r dirprwy, ac
(c) mewn achos pan fo’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau gymryd camau i wirhau dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 2, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi gwirhau’r dyddiad geni ac, ac eithrio mewn achos pan fo’r gofyniad am lofnod wedi ei hepgor, y llofnod.
(9) Pan fo person, wrth i’r pôl gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, at ddiben cyflwyno papur pleidleisio drwy’r post a datganiad pleidlais drwy’r post—
(a) rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a
(b) pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r pôl gau at ddibenion y rheol hon.
(10) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio—
(a) yn achos papurau pleidleisio drwy’r post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio o leiaf, a
(b) yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf.
(11) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a
(b) cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
Y cyfrif: cyffredinol
59 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau gytuno â’r asiantiaid cyfrif a benodwyd at ddibenion yr etholiad i eithrio unrhyw oriau rhwng 7.00 p.m. a 9.00 a.m. drannoeth, neu bob un o’r oriau hynny.
(3) At ddibenion yr eithriad ym mharagraff (2), bydd cytundeb—
(a) ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yr ymgeisydd, neu
(b) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu,
yr un mor effeithiol â chytundeb asiantiaid cyfrif yr ymgeisydd neu’r blaid.
(4) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantiaid cyfrif sy’n dymuno gosod eu sêl, a
(b) cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.
Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd
60 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—
(a) papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;
(b) papur pleidleisio y rhoddwyd mwy nag un bleidlais arno;
(c) papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;
(d) papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.
(2) Mae paragraffau (3) a (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—
(a) mewn lle heblaw’r lle priodol,
(b) heblaw drwy gyfrwng croes, neu
(c) drwy fwy nag un marc.
(3) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym, naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno, oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—
(a) os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,
(b) os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn dangos pwy yw’r pleidleisiwr, ac
(c) os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.
(4) Mae papur pleidleisio y mae pleidlais wedi ei marcio arno dros ymgeisydd rhestr plaid penodol ar restr plaid plaid wleidyddol gofrestredig, os yw fel arall yn ddilys, i’w drin fel pleidlais dros y blaid honno, pa un a oes pleidlais hefyd wedi ei marcio dros y blaid honno ai peidio.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi’r gair “gwrthodwyd” neu’r gair “rejected” neu’r ddau, ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif.
(6) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” neu’r geiriau “rejection objected to” neu’r ddau, at yr arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd.
(8) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd o dan bob un o’r penawdau ym mharagraff (1).
Ailgyfrif
61 

(1) Os ydynt yn bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, caiff y personau a ganlyn ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau—
(a) ymgeisydd unigol, neu asiant etholiad yr ymgeisydd,
(b) ymgeisydd rhestr plaid neu asiant etholiad ar gyfer y blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, neu
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (4), asiant cyfrif ar gyfer ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.
(3) Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr, yr asiantiaid etholiad a’r asiantiaid cyfrif sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.
(4) Pan na fo unrhyw ymgeisydd nac asiant etholiad yn bresennol pan fydd y cyfrif neu’r ailgyfrif pleidleisiau wedi ei gwblhau, yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i’r hawl a roddir i’r person hwnnw gan y rheol hon gael ei harfer gan asiant cyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) sy’n bresennol os yw telerau penodi’r asiant cyfrif yn awdurdodi’r asiant hwnnw i arfer yr hawl hon.
(5) Ni chaniateir penodi mwy nag un asiant cyfrif ar gyfer yr un ymgeisydd unigol neu’r un blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu at ddibenion y rheol hon mewn perthynas â’r un etholaeth Senedd.
(6) Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif fel y caiff ymgeisydd neu asiant etholiad, er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.
Penderfynu ar bapurau pleidleisio
62 
Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
RHAN 4 Gweithdrefnau terfynol mewn etholiadau a ymleddir ac etholiadau nas ymleddir
Canfod canlyniadau etholiad a ymleddir
63 

(1) Mewn etholiad a ymleddir, rhaid i’r swyddog canlyniadau ganfod canlyniadau’r pôl yn unol ag adrannau 8 a 9 o Ddeddf 2006.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r asiantiaid etholiad o’r lle a’r amser y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau canfod canlyniadau’r pôl, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol.
(3) Oni bai bod y swyddog canlyniadau wedi caniatáu iddynt fod yn bresennol, dim ond y personau a ganlyn a gaiff fod yn bresennol yn y gweithdrefnau i ganfod y canlyniadau—
(a) y swyddog canlyniadau ac aelodau o staff y swyddog canlyniadau,
(b) pob ymgeisydd unigol ac ymgeisydd rhestr plaid ac un person arall a ddewiswyd gan bob un ohonynt,
(c) yr asiantiaid etholiad, a
(d) unrhyw berson sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig).
(4) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
(a) wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn llesteirio’r canlyniadau rhag cael eu canfod yn effeithlon, a
(b) naill ai wedi ymgynghori â’r asiantiaid etholiad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantiaid etholiad a’r ymgeiswyr ar gyfer goruchwylio’r gweithdrefnau, a’r holl wybodaeth amdanynt, gan gynnwys i’w bodloni eu hunain fod gwaith canfod y canlyniad y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ei wneud yn gywir, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y gweithdrefnau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ganfod dros dro ganlyniadau’r pôl a hysbysu’r personau a ganlyn, os ydynt yn bresennol, o’r canfyddiad dros dro—
(a) ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yr ymgeisydd, a
(b) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu neu, yn absenoldeb yr asiant, un o’r ymgeiswyr ar y rhestr a gyflwynwyd gan y blaid honno.
(7) Caiff person y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff (6) ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau ganfod dros dro y canlyniadau hynny eto, ond caiff y swyddog canlyniadau wrthod gwneud hynny os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.
(8) Ni chaniateir cymryd unrhyw gam i gwblhau canfod y canlyniad nes bod y personau a hysbysir o dan baragraff (6) wedi cael cyfle rhesymol i arfer yr hawl a roddir o dan baragraff (7).
(9) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi canfod dros dro y canlyniadau eto o dan baragraff (7), mae paragraffau (6) i (8) a’r paragraff hwn yn gymwys i’r canfyddiad dros dro pellach.
(10) Wrth ganfod canlyniadau’r pôl, os yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw coelbren (gweler adran 9(9) o Ddeddf 2006), rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyrannu’r sedd i’r ymgeisydd unigol neu’r blaid y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid neu o’i phlaid.
(11) Bernir bod y swyddog canlyniadau wedi cwblhau canfod canlyniadau’r pôl, ar ôl canfyddiad dros dro—
(a) pan na wneir cais o dan baragraff (7) am i’r swyddog canlyniadau wneud canfyddiad dros dro pellach, neu
(b) os gwneir cais o’r fath, pan fo’r swyddog canlyniadau yn gwrthod gwneud canfyddiad dros dro pellach.
Datgan y canlyniad
64 

(1) Ar ôl i’r swyddog canlyniadau ganfod canlyniadau’r pôl, rhaid i’r swyddog canlyniadau ar unwaith—
(a) cyhoeddi, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr ymgeiswyr unigol neu’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig y dyrannwyd seddi iddynt, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr rhestr plaid sydd i lenwi’r seddi hynny;
(b) datgan, yn Gymraeg ac yn Saesneg, fod yr ymgeiswyr unigol neu’r ymgeiswyr rhestr plaid hynny wedi eu hethol.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r Clerc yn unol â pharagraff (6) yn nodi enwau’r ymgeiswyr a etholwyd, ac mewn cysylltiad ag unrhyw ymgeisydd rhestr plaid, enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer.
(3) Mewn etholiad etholaethol nas ymleddir, rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, yn ogystal â dangos y pleidiau gwleidyddol cofrestredig a’r personau eraill sy’n dal wedi eu henwebu, hefyd—
(a) nodi’r ymgeiswyr unigol neu’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig y dyrannwyd seddi iddynt, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr rhestr plaid sydd i lenwi’r seddi hynny, a
(b) datgan bod yr ymgeiswyr unigol neu’r ymgeiswyr rhestr plaid hynny wedi eu hethol a’u dychwelyd,
a rhaid i’r swyddog canlyniadau ar unwaith ddychwelyd enwau’r personau hynny i’r Clerc (ac, mewn cysylltiad ag unrhyw ymgeisydd rhestr plaid, enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer) yn unol â pharagraff (6).
(4) Mewn etholiad etholaethol a ymleddir ac etholiad etholaethol nas ymleddir, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gyhoeddi hysbysiad, yn Gymraeg ac yn Saesneg,—
(a) o enw unrhyw ymgeiswyr unigol a etholwyd,
(b) o enw unrhyw ymgeiswyr rhestr plaid a etholwyd, ynghyd ag enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oeddent yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer,
(c) o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig,
(d) o nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 60(7)), ac
(e) mewn cysylltiad â nifer y pleidleisiau y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), o ddadansoddiad o nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob un o’r ymgeiswyr neu’r pleidiau hynny ym mhob etholaeth.
(5) At ddibenion paragraffau (1) a (4), pan fo’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd yn dangos enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin gan ymgeisydd, caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau hynny a ddefnyddir yn gyffredin i gyhoeddi canlyniadau’r etholiad a rhoi hysbysiad yn eu cylch.
(6) At ddibenion paragraffau (2) a (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd yr enwau y mae’n ofynnol eu dychwelyd—
(a) drwy gwblhau tystysgrif ar ffurf 22 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
(b) drwy ddanfon y dystysgrif, neu achosi iddi gael ei danfon, at y Clerc.
Dychwelyd yr ernes neu ei fforffedu
65 

(1) Mae’r ernes a wneir o dan reol 11—
(a) yn achos ymgeisydd unigol, i’w dychwelyd i’r person a’i gwnaeth, neu i gynrychiolwyr personol y person hwnnw,
(b) yn achos plaid wleidyddol gofrestredig, i’w dychwelyd i swyddog enwebu cofrestredig y blaid a gyflwynodd y rhestr plaid y mae’r ernes yn gysylltiedig â hi, neu
(c) i’w fforffedu (gweler paragraff (5)).
(2) Ac eithrio yn yr achosion a nodir ym mharagraff (4), rhaid dychwelyd yr ernes dim hwyrach na thrannoeth y diwrnod y mae canlyniad yr etholiadau’n cael ei ddatgan neu ganlyniadau’r etholiadau’n cael eu datgan.
(3) At ddibenion paragraff (2)—
(a) rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig, a
(b) bydd yr ernes yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei dychwelyd ar ddiwrnod os bydd siec am swm yr ernes yn cael ei phostio ar y diwrnod hwnnw.
(4) Rhaid—
(a) pan na ddangosir bod ymgeisydd unigol yn dal wedi ei enwebu neu blaid wleidyddol gofrestredig yn dal wedi ei henwebu yn y datganiad sy’n ofynnol gan reol 17(1), neu
(b) pan ddiddymir y pôl neu pan roddir y gorau iddo oherwydd marwolaeth ymgeisydd unigol,
dychwelyd yr ernes cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi’r datganiad hwnnw neu’r amser pan fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
(a) bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os canfyddir, ar ôl cynnal y pôl ac ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, gan gynnwys unrhyw ailgyfrif, fod yr ymgeisydd wedi cael llai na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth yr oedd yr ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu ynddi;
(b) bydd ernes plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu mewn cysylltiad ag etholaeth yr oedd y blaid yn dal wedi ei henwebu ynddi os canfyddir, ar ôl cynnal y pôl ac ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, gan gynnwys unrhyw ailgyfrif, fod y blaid wedi cael llai na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth honno.
RHAN 5 Gwaredu dogfennau
Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau a ymleddir
66 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad a ymleddir.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—
(a) y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b) y papurau pleidleisio a wrthodwyd.
(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 55(3), na chaniatáu mynediad atynt, a’r rheini’n cynnwys—
(a) papurau pleidleisio a dendrwyd,
(b) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol,
(c) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6), neu
(d) copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon.
Danfon dogfennau at y swyddog cofrestru mewn etholiadau a ymleddir
67 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd o dan reol 66(2).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn yn ddiogel at y swyddog cofrestru perthnasol—
(a) y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;
(b) y cyfriflenni papurau pleidleisio a luniwyd o dan reol 55(8);
(c) y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a luniwyd o dan reol 60(7);
(d) y datganiadau ynglŷn â chanlyniad gwirhad y cyfriflenni papurau pleidleisio a luniwyd o dan reol 58(5);
(e) y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—
(i) y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio oherwydd eu bod yn anabl neu nad ydynt yn gallu darllen (gweler rheol 47);
(ii) y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 48);
(iii) y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 49);
(iv) y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 51);
(v) y rhestrau a gadwyd o dan reol 53 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl);
(f) y pecynnau sy’n cynnwys copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol;
(g) y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6);
(h) y pecynnau sy’n cynnwys copïau o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon;
(i) y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy.
(3) Mewn perthynas â phob pecyn, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu—
(a) disgrifiad o gynnwys y pecyn,
(b) dyddiad yr etholiad y mae’r pecyn yn gysylltiedig ag ef, ac
(c) enw’r etholaeth Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer.
(4) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol hefyd wneud trefniadau—
(a) i storio’n ddiogel yr holl ddogfennau sy’n dod i law yn unol â’r rheol hon, a
(b) i atal unrhyw fynediad heb awdurdod at y dogfennau hynny.
Dangos etc. dogfennau
68 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol neu o dan ei reolaeth, ar ôl cael eu hanfon o dan reol 67—
(a) papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;
(b) pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol;
(c) pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6).
(2) Caiff yr Uchel Lys neu lys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod y gorchymyn yn ofynnol at ddiben naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddiben deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd—
(a) gorchymyn i edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu i’w dangos;
(b) gorchymyn i edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
(c) gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol, neu
(ii) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6);
(d) pan wneir gorchymyn o dan is-baragraff (c) i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd, gorchymyn i edrych ar y cynnwys i gyd neu ran ohono neu i ddangos y cynnwys i gyd neu ran ohono.
(3) Caiff llys etholiadol wneud—
(a) gorchymyn i edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
(b) gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol, neu
(ii) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6);
(c) pan wneir gorchymyn o dan is-baragraff (b) i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd, gorchymyn i edrych ar y cynnwys i gyd neu ran ohono neu i ddangos y cynnwys i gyd neu ran ohono.
(4) Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol—
(a) amodau ynglŷn â phersonau;
(b) amodau ynglŷn ag amser;
(c) amodau ynglŷn â’r lle ar gyfer edrych a’r dull o edrych;
(d) amodau ynglŷn â dangos neu agor.
(5) Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i edrych ar bapurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys yn ystyried eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
(a) bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
(b) bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i edrych ar bapurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
(a) bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
(b) bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
(7) At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.
(8) Caniateir i bwerau’r Uchel Lys neu lys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.
(9) Ac eithrio fel a ddarperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—
(a) edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd, na
(b) agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol, neu
(ii) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6).
Gorchmynion i ddangos dogfennau: darpariaethau atodol
69 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 68 i swyddog cofrestru perthnasol ddangos dogfen, mewn fformat papur neu electronig, sydd ym meddiant y swyddog cofrestru neu o dan ei reolaeth, ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.
(2) Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru perthnasol neu asiant y swyddog cofrestru yn y dull a gyfarwyddir gan y gorchymyn yn dystiolaeth ddiwrthbrawf bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.
(3) Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru perthnasol neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru perthnasol neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 68, wedi dangos—
(a) papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a
(b) copi wedi ei farcio o restr rhifau cyfatebol a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.
(5) Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.
Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru perthnasol
70 

(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 67 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.
(2) Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol achosi i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, yr Uchel Lys, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiadol.
(3) Er gwaethaf dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, mae rheol 69 o Atodlen 5 i’r Gorchymyn hwnnw yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru perthnasol yn unol â’r Atodlen honno ac yr oedd rheol 69 yn gymwys iddynt.
Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadau
71 

(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—
(a) drannoeth y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r aelodau a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwestiynu etholiad neu ddychweliad aelodau yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;
(b) os cyflwynir deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwestiynu etholiad neu ddychweliad aelodau cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben, gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl.
(2) Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
RHAN 6 Marwolaeth ymgeisydd
Marwolaeth ymgeisydd
72 

(1) Mewn etholiad a ymleddir, os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni cyn i ganlyniadau’r etholiad gael eu datgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd ar y papur pleidleisio, pa un a yw’n ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid, wedi marw a bod yr etholiad o ganlyniad i’r farwolaeth honno yn dod yn etholiad nas ymleddir, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a) diddymu hysbysiad y pôl, neu
(b) os yw’r pleidleisio wedi dechrau, cyfarwyddo rhoi’r gorau i’r pôl.
(2) Mewn etholiad a ymleddir, os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni cyn i ganlyniadau’r etholiad gael eu datgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd ar y papur pleidleisio, pa un ai fel ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid, wedi marw, ond er gwaethaf y farwolaeth honno fod yr etholiad yn parhau i gael ei ymladd, nid yw hysbysiad y pôl i’w ddiddymu na’r pôl i’w rhoi’r gorau iddo, ac nid yw’r farwolaeth i gael unrhyw effaith ar ddilysrwydd yr etholiad nac ar ddychwelyd unrhyw ymgeisydd arall yn yr etholiad.
(3) Ond, pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd unrhyw gamau y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried eu bod yn rhesymol i roi cyhoeddusrwydd yn yr etholaeth y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer—
(a) i enw’r ymgeisydd (“Y”) a’r ffaith bod Y wedi marw,
(b) i pa un a oedd Y yn ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid, ac
(c) os oedd Y yn ymgeisydd rhestr plaid, i enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd Y yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer.
(4) Wrth gyflawni’r gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i farwolaeth Y yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau ystyried, yn benodol, osod hysbysiadau y tu allan i orsafoedd pleidleisio.
(5) Mewn cysylltiad ag etholiad y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo, nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â’r ymgeisydd sydd wedi marw—
(a) rheol 41(1)(c) a (d) (derbyn i’r orsaf bleidleisio),
(b) rheol 57(1)(b) i (d) (presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif), ac
(c) rheol 65(5) (fforffedu ernes), mewn perthynas ag ymgeisydd unigol yn unig.
Pôl y rhoddir y gorau iddo
73 

(1) Mae’r rheol hon yn gymwys i bôl y rhoddir y gorau iddo yn unol â rheol 72(1)(b) fel pe bai’n bôl mewn etholiad a ymleddir.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau, i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd, y byddai’n ofynnol i’r swyddogion llywyddu eu cymryd o dan reol 55 ar ôl i’r pôl gau, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu lunio cyfriflen papurau pleidleisio.
(3) Nid oes unrhyw gam na cham pellach i’w gymryd er mwyn cyfrif y papurau pleidleisio na’r pleidleisiau.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau pan roddir y gorau i’r pôl, neu a ddanfonir at y swyddog canlyniadau wedyn er mwyn cydymffurfio â pharagraff (2), yn yr un modd ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill o dan reolau 66 a 67 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, ac eithrio—
(a) bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio, pa un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio, a
(b) nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.
(5) Mae darpariaethau rheolau 68 i 70 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r pôl y rhoddwyd y gorau iddo oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—
(a) bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b) y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 68(2) a (3) dim ond at ddibenion cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio.
RHAN 7 Amrywiol
Dychwelyd aelodau o’r Senedd a’r cofnod dychweliadau etc.
74 

(1) Rhaid i’r Clerc, ar ôl cael tystysgrif a ddanfonwyd o dan reol 64(6), gofnodi’r wybodaeth a geir yn y dystysgrif mewn cofnod a gedwir at y diben hwnnw yn y Senedd, y cyfeirir ato yn y rheol hon fel “y cofnod dychweliadau”.
(2) Caniateir cadw’r cofnod dychweliadau yn electronig.
(3) Rhaid i’r cofnod dychweliadau fod yn agored i’r cyhoedd edrych arno ar amserau rhesymol a chaniateir i unrhyw berson, ar ôl talu ffi resymol, gael copïau oddi ar y cofnod.
Seddi gwag
75 

(1) Pan ddaw i sylw Llywydd y Senedd, y cyfeirir ato yn y rheol hon fel “y Llywydd”—
(a) bod sedd aelod o’r Senedd a ddychwelwyd dros un o etholaethau’r Senedd yn wag, a
(b) bod y person wedi ei ddychwelyd fel ymgeisydd unigol,
rhaid i’r Llywydd gofnodi yn y cofnod dychweliadau fod sedd wag yn yr etholaeth Senedd o dan sylw sydd, yn unol ag adran 11(2) o Ddeddf 2006, i barhau i fod yn wag tan etholiad cyffredinol nesaf y Senedd.
(2) Ac eithrio pan fo erthygl 102 (dyfarnu etholiad yn ddi-rym gan y llys etholiadol) yn gymwys, rhaid i’r Llywydd gymryd y camau ym mharagraff (3) pan ddaw i sylw’r Llywydd—
(a) bod sedd aelod a ddychwelwyd dros un o etholaethau’r Senedd yn wag, a
(b) bod y person wedi ei ddychwelyd fel ymgeisydd rhestr plaid.
(3) Rhaid i’r Llywydd gofnodi’r sedd wag yn y cofnod dychweliadau ac anfon at swyddog canlyniadau’r etholaeth Senedd y mae’r sedd wag wedi codi ynddi hysbysiad—
(a) yn datgan bod sedd wag yn bodoli, a
(b) yn nodi enw’r person a oedd wedi ei ddychwelyd i lenwi’r sedd honno, ynghyd ag enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd y person wedi ei gynnwys ar ei rhestr.
(4) Ar ôl i hysbysiad o dan baragraff (3) ddod i law’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau yn ddiymdroi—
(a) canfod o’r rhestr a gyflwynwyd yn etholiad cyffredinol blaenorol y Senedd gan y blaid wleidyddol gofrestredig a enwir yn yr hysbysiad, enw a chyfeiriad y person y mae ei enw bellach yn ymddangos uchaf ar y rhestr honno (“y darpar aelod”), a
(b) cymryd unrhyw gamau y mae’n ymddangos i’r swyddog canlyniadau eu bod yn rhesymol—
(i) i gysylltu â’r darpar aelod (“D”) i ofyn a fydd D yn datgan bod D yn barod i wasanaethu fel aelod o’r Senedd dros yr etholaeth o dan sylw, a
(ii) i gysylltu â swyddog enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol gofrestredig y mae D wedi cael ei gynnwys ar ei rhestr, ac i hysbysu’r swyddog hwnnw am y camau y mae’r swyddog canlyniadau yn eu cymryd o dan baragraff (i).
(5) Wrth gysylltu â D yn unol â pharagraff (4)(b)(i), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi cyngor i D erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i’r swyddog canlyniadau gael ymateb ysgrifenedig D yn cadarnhau a yw D yn barod i wasanaethu fel aelod o’r Senedd dros yr etholaeth o dan sylw, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod pan fydd y swyddog canlyniadau yn cysylltu â D.
(6) Wrth gysylltu â’r swyddog enwebu cofrestredig yn unol â pharagraff (4)(b)(ii), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi gwybod i’r swyddog enwebu cofrestredig erbyn pa ddyddiad y cynghorwyd D i gadarnhau bod D yn barod i wasanaethu fel aelod o’r Senedd dros yr etholaeth o dan sylw.
(7) Rhaid trin D fel pe bai wedi peidio â chael ei gynnwys ar restr at ddibenion llenwi sedd wag—
(a) pan fo’r swyddog canlyniadau yn penderfynu bod y camau a gymerwyd i gysylltu â D wedi bod yn aflwyddiannus,
(b) pan nad yw’r swyddog canlyniadau wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan D fod D yn barod i wasanaethu fel aelod dros yr etholaeth Senedd o dan sylw, o fewn yr amserlen a bennir yn unol â pharagraff (5),
(c) pan fo D wedi datgan mewn ysgrifen nad yw D yn barod i wasanaethu felly fel aelod dros yr etholaeth Senedd o dan sylw, neu
(d) pan fo’r ddau amgylchiad a nodir ym mharagraff (8) yn gymwys.
(8) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)(d) yw—
(a) bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni nad yw D yn aelod o’r blaid wleidyddol gofrestredig y mae D wedi ei gynnwys ar ei rhestr, a
(b) o fewn yr amserlen a bennir yn unol â pharagraff (5), fod hysbysiad a lofnodwyd gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid honno yn dod i law’r swyddog canlyniadau nad yw’r Llywydd i gael ei hysbysu am enw D fel enw’r person sydd i lenwi’r sedd wag.
(9) Pan fo D yn cael ei drin, yn unol â pharagraff (7), fel pe bai wedi peidio â chael ei gynnwys ar restr at ddibenion llenwi sedd wag, rhaid i’r swyddog canlyniadau yn ddiymdroi—
(a) ailadrodd y weithdrefn sy’n ofynnol gan baragraff (4) mewn cysylltiad â’r person, os oes un, y mae ei enw a’i gyfeiriad yn ymddangos nesaf uchaf ar y rhestr honno, ac mae paragraffau (5) i (8) a’r paragraff hwn hefyd yn gymwys mewn cysylltiad â’r person hwnnw, a
(b) hysbysu’r Llywydd na fydd D yn llenwi’r sedd wag a bod y weithdrefn i gael ei hailadrodd mewn cysylltiad â’r person, os oes un, y mae ei enw a’i gyfeiriad yn ymddangos nesaf uchaf ar y rhestr honno.
(10) Rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i ailadrodd y weithdrefn nes bod y swyddog canlyniadau wedi hysbysu’r Llywydd am enw’r person sydd i lenwi’r sedd wag neu fod yr enwau ar y rhestr honno wedi eu dihysbyddu.
(11) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7)(d) ac (8), pan fo D, mewn ymateb i’r cwestiwn gan y swyddog canlyniadau o dan baragraff (4)(b)(i), gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y’i cymhwysir gan baragraff (9)(a), yn datgan mewn ysgrifen ei fod yn barod i wasanaethu fel aelod dros yr etholaeth Senedd o dan sylw, rhaid i’r swyddog canlyniadau, oni bai bod paragraff (12) yn gymwys, yn ddiymdroi—
(a) llenwi tystysgrif yn ffurf 23 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10, a
(b) ei danfon, neu achosi iddi gael ei danfon, at y Llywydd.
(12) Pan fo’r canlynol yn digwydd cyn diwedd yr amserlen a ragnodir ym mharagraff (5)—
(a) mae D yn datgan mewn ysgrifen fod D yn barod i wasanaethu,
(b) nid yw’r amgylchiadau ym mharagraff (8) yn gymwys, ac
(c) mae D yn rhoi gwybod i’r swyddog canlyniadau fod D wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol yng Nghymru o dan adran 10ZC o Ddeddf 1983, ond na fydd y cais yn cael effaith tan ar ôl yr amserlen a ragnodir ym mharagraff (5),rhaid i’r swyddog canlyniadau gwblhau’r camau sy’n ofynnol gan baragraff (11) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gais D gael effaith.
(13) At ddibenion paragraff (12)(c), rhaid i D ddarparu copi i’r swyddog canlyniadau o’r hysbysiad a ddarperir i D yn cadarnhau bod cais D wedi bod yn llwyddiannus a’r dyddiad y mae’r cais yn cael effaith.
(14) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd yn ddiymdroi roi hysbysiad cyhoeddus am enw—
(a) yr aelod i’w ddychwelyd, a
(b) y blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd yr aelod hwnnw yn ymgeisydd rhestr plaid ar ei chyfer.
(15) Pan fo’r sedd yn parhau i fod yn wag ar ôl cymhwyso’r rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau yn ddiymdroi—
(a) rhoi hysbysiad cyhoeddus na ellir llenwi’r sedd wag ac y bydd y sedd yn parhau i fod yn wag tan etholiad cyffredinol nesaf y Senedd yn rhinwedd adran 11(7) o Ddeddf 2006,
(b) cwblhau tystysgrif yn ffurf 24 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, ac
(c) ei danfon, neu achosi iddi gael ei danfon, at y Clerc.
(16) Pan fo’r Llywydd yn cael tystysgrif gan swyddog canlyniadau o dan baragraff (11), rhaid i’r Llywydd gofnodi yn y cofnod dychweliadau—
(a) enw’r person a bennir mewn hysbysiad sydd i lenwi’r sedd wag,
(b) enw’r etholaeth Senedd berthnasol, ac
(c) y dyddiad y daeth yr hysbysiad i law’r Llywydd.
(17) Pan fo tystysgrif yn dod i law’r Clerc gan swyddog canlyniadau o dan baragraff (15)(c), rhaid i’r Clerc gofnodi yn y cofnod dychweliadau fod sedd wag yn yr etholaeth Senedd o dan sylw sydd i barhau i fod yn wag nes etholiad cyffredinol nesaf y Senedd o dan adran 11(7) o Ddeddf 2006.
(18) Yn y rheol hon, ystyr “y cofnod dychweliadau” yw’r cofnod a gedwir yn unol â rheol 74(1).
Pleidiau gwleidyddol cofrestredig
76 

(1) At ddibenion cymhwyso’r rheolau hyn mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd, ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 ar y diwrnod (“y diwrnod perthnasol”) sydd 2 ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad yn unol â’r Tabl yn rheol 1(1).
(2) Mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys mewn perthynas ag etholaeth Senedd os oedd y blaid, ar y diwrnod perthnasol, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.
(3) At ddibenion paragraff (1), rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
Swyddog enwebu cofrestredig plaid: cyflawni swyddogaethau
77 

(1) Caiff swyddog enwebu cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig, mewn ysgrifen, benodi un neu ragor o bersonau i gyflawni pob un o swyddogaethau’r swyddog enwebu cofrestredig, neu unrhyw un neu ragor ohonynt, a roddir neu a osodir gan y rheolau hyn.
(2) Pan wneir penodiad o dan baragraff (1), rhaid danfon copi o’r ddogfen sy’n cofnodi’r penodiad hwnnw at y swyddog canlyniadau.
(3) Pan na fo swyddog canlyniadau yn cael copi o’r ddogfen sy’n ofynnol yn unol â pharagraff (2), mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i drin unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swyddog enwebu cofrestredig yr honnir iddi gael ei harfer (neu sydd i’w harfer) ar ran y swyddog enwebu cofrestredig gan berson arall fel pe na bai wedi ei harfer (neu fel pe na bai’n arferadwy).
ATODLEN 6
Rheoli rhoddion i ymgeiswyr
Erthygl 43(4)
RHAN 1 Cyffredinol
Dehongli
1 

(1) Mae’r Atodlen hon yn cael effaith ar gyfer rheoli rhoddion i ymgeiswyr unigol mewn etholiad i’r Senedd ac yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at “ymgeisydd” i’w dehongli yn unol â hynny.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “gwerth marchnadol” (“market value”) mewn perthynas ag unrhyw eiddo, yw’r pris y gellid disgwyl yn rhesymol iddo gael ei dalu am yr eiddo o’i werthu ar y farchnad agored;
 mae “rhodd” (“donation”) i’w ddehongli yn unol â pharagraffau 2 i 4;
 ystyr “rhodd berthnasol” (“relevant donation”), mewn perthynas ag ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd, yw rhodd i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd at ddiben talu treuliau etholiad yr eir iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran.
(3) Yn y diffiniad o “rhodd berthnasol”, mae’r cyfeiriad at rodd “at ddiben talu treuliau etholiad yr eir iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran” yn cynnwys cyfeiriad at rodd at ddiben sicrhau nad eir i unrhyw dreuliau o’r fath felly, ac mae rhodd i’w hystyried yn rhodd at y naill neu’r llall o’r dibenion hyn os yw’n rhesymol bod rhaid cymryd mai rhodd o’r fath yw hi o roi sylw i’r amgylchiadau i gyd.
(4) Mewn perthynas â rhodd sy’n dod i law ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd, mae cyfeiriadau at “rhoddwr a ganiateir sy’n dod o fewn adran 54(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000” i’w darllen fel pe na bai adran 54(2) yn cynnwys plaid a gofrestrwyd yng nghofrestr Gogledd Iwerddon a gynhelir gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.
Rhoddion: rheolau cyffredinol
2 

(1) Ystyr “rhodd”, mewn perthynas ag ymgeisydd mewn etholiad i’r Senedd, yn ddarostyngedig i baragraff 4, yw—
(a) unrhyw anrheg o arian neu eiddo arall i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd;
(b) unrhyw nawdd a ddarperir mewn perthynas ag ymgeisydd, fel y’i diffinnir gan baragraff 3;
(c) unrhyw arian sy’n cael ei wario, ac eithrio gan yr ymgeisydd, asiant etholiad yr ymgeisydd neu unrhyw is-asiant, wrth dalu unrhyw dreuliau etholiad yr eir iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran;
(d) unrhyw arian sy’n cael ei fenthyca i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd ac eithrio ar delerau masnachol;
(e) darparu unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau i’w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd yr ymgeisydd, gan gynnwys gwasanaethau unrhyw berson, ac eithrio ar delerau masnachol.
(2) Pan fo—
(a) unrhyw arian neu eiddo arall yn cael ei drosglwyddo i ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd yn unol ag unrhyw drafodiad neu drefniant sy’n ymwneud â darparu unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau neu gydnabyddiaeth arall o werth ariannol gan yr ymgeisydd neu ar ei ran, a
(b) cyfanswm gwerth y gydnabyddiaeth mewn termau ariannol a ddarperir felly gan yr ymgeisydd neu ar ei ran yn llai na gwerth yr arian neu werth marchnadol yr eiddo a drosglwyddir,
bydd trosglwyddo’r arian neu’r eiddo, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), yn gyfystyr ag anrheg i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd at ddibenion is-baragraff (1)(a).
(3) Wrth benderfynu—
(a) at ddibenion is-baragraff (1)(d), a oes unrhyw arian a fenthycir i ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd wedi ei fenthyca ac eithrio ar delerau masnachol, neu
(b) at ddibenion is-baragraff (1)(e), a oes unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir i’w defnyddio gan ymgeisydd neu er budd ymgeisydd wedi ei ddarparu neu eu darparu ac eithrio ar delerau masnachol,
rhaid rhoi sylw i gyfanswm gwerth mewn termau ariannol y gydnabyddiaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd neu ar ei ran mewn perthynas â’r benthyciad neu mewn perthynas â darparu’r eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau.
(4) Pan fyddai unrhyw beth, ar wahân i’r is-baragraff hwn, yn rhodd yn rhinwedd is-baragraff (1)(b) ac yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y paragraff hwn, bydd is-baragraff (1)(b), ynghyd â pharagraff 3, yn gymwys mewn perthynas ag ef gan eithrio’r darpariaethau eraill yn y paragraff hwn.
(5) Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(c) at wario arian fel a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno yn gyfeiriad at arian yn cael ei wario gan berson (“P”), ac eithrio’r ymgeisydd, asiant etholiad yr ymgeisydd neu unrhyw is-asiant, o adnoddau P ei hun, heb unrhyw hawl i gael ad-daliad o adnoddau unrhyw berson arall.
(6) Pan fo arian, yn rhinwedd is-baragraff (1)(c), sydd wedi ei wario yn y dull y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (5) yn gyfystyr â rhodd i’r ymgeisydd, mae’r ymgeisydd i’w drin fel pe bai wedi cael swm cyfatebol ar y dyddiad y telir yr arian i’r credydwr mewn cysylltiad â’r treuliau o dan sylw.
(7) Yn y paragraff hwn—
(a) mae unrhyw gyfeiriad at drosglwyddo neu ddarparu unrhyw beth i ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd yn cynnwys cyfeiriad at roi neu drosglwyddo’r peth hwnnw naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy unrhyw drydydd person, a
(b) mae “anrheg” yn cynnwys cymynrodd neu unrhyw fath arall o warediad testamentaidd.
Nawdd
3 

(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae nawdd yn cael ei ddarparu mewn perthynas ag ymgeisydd—
(a) os trosglwyddir unrhyw arian neu eiddo arall i’r ymgeisydd neu i unrhyw berson er budd yr ymgeisydd, a
(b) os mai diben, neu un o ddibenion y trosglwyddiad, neu os yw’n rhesymol tybio hynny, o roi sylw i’r amgylchiadau i gyd, yw—
(i) cynorthwyo’r ymgeisydd i dalu unrhyw dreuliau diffiniedig yr eir iddynt neu sydd i fynd iddynt gan yr ymgeisydd neu ar ei ran, neu i’w talu i unrhyw raddau, neu
(ii) sicrhau nad eir i dreuliau o’r fath felly i unrhyw raddau.
(2) Yn is-baragraff (1)(b)(i), ystyr “treuliau diffiniedig” yw treuliau mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall a drefnir gan yr ymgeisydd neu ar ei ran;
(b) llunio, cynhyrchu neu ledaenu unrhyw gyhoeddiad gan yr ymgeisydd neu ar ei ran;
(c) unrhyw astudiaeth neu ymchwil a drefnir gan yr ymgeisydd neu ar ei ran.
(3) Nid yw’r canlynol yn gyfystyr â nawdd yn rhinwedd is-baragraff (1)—
(a) gwneud unrhyw daliad mewn cysylltiad â’r canlynol—
(i) unrhyw dâl am fynediad i unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall, neu
(ii) pris prynu unrhyw gyhoeddiad, neu unrhyw dâl am fynediad ato, neu
(b) gwneud unrhyw daliad mewn cysylltiad â chynnwys hysbyseb mewn unrhyw gyhoeddiad pan fo’r taliad yn cael ei wneud ar y gyfradd fasnachol sy’n daladwy am gynnwys hysbyseb o’r fath mewn unrhyw gyhoeddiad o’r fath.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyhoeddiad” yw cyhoeddiad y trefnir ei fod ar gael ar ba ffurf bynnag a thrwy ba fodd bynnag, pa un ai i’r cyhoedd yn gyffredinol ynteu unrhyw ran o’r cyhoedd.
Taliadau etc. nad ydynt i’w hystyried yn rhoddion
4 

(1) Nid yw’r un o’r canlynol i’w ystyried yn rhodd—
(a) darparu unrhyw gyfleusterau a ddarperir yn unol ag unrhyw hawl a roddir i ymgeisydd mewn etholiad gan y Gorchymyn hwn;
(b) darparu ei wasanaethau ei hun gan unigolyn pan fo’r unigolyn hwnnw yn eu rhoi o’i wirfodd yn ei amser ei hun a heb dâl;
(c) unrhyw log sy’n cronni i ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd mewn cysylltiad ag unrhyw rodd yr ymdrinnir â hi gan yr ymgeisydd neu gan asiant yr ymgeisydd yn unol ag adran 56(2)(a) neu (b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, fel y’i cymhwysir gan baragraff 7.
(2) Mae unrhyw rodd nad yw ei gwerth, a bennir yn unol â pharagraff 5, yn fwy na £500 hefyd i’w diystyru.
Gwerth rhoddion
5 

(1) Cymerir mai gwerth unrhyw rodd sy’n dod o fewn paragraff 2(1)(a), ac eithrio arian, yw gwerth marchnadol yr eiddo o dan sylw.
(2) Ond pan fo paragraff 2(1)(a) yn gymwys yn rhinwedd paragraff 2(2), mae i’w gymryd mai gwerth y rhodd yw’r gwahaniaeth rhwng—
(a) gwerth yr arian o dan sylw, neu werth marchnadol yr eiddo o dan sylw, a
(b) cyfanswm gwerth mewn termau ariannol y gydnabyddiaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd neu ar ei ran neu gan asiant etholiad yr ymgeisydd.
(3) Mae i’w gymryd mai gwerth unrhyw rodd sy’n dod o fewn paragraff 2(1)(b) yw gwerth yr arian, neu werth marchnadol yr eiddo, a drosglwyddir fel a grybwyllir ym mharagraff 3(1), ac yn unol â hynny mae unrhyw werth mewn termau ariannol sydd i unrhyw fudd a roddir i’r person sy’n darparu’r nawdd o dan sylw i’w ddiystyru.
(4) Mae i’w gymryd mai gwerth unrhyw rodd sy’n dod o fewn paragraff 2(1)(d) neu (e) yw’r swm sy’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng—
(a) cyfanswm gwerth y gydnabyddiaeth mewn termau ariannol y byddai’n rhaid bod wedi ei darparu gan yr ymgeisydd neu ar ei ran neu gan asiant etholiad yr ymgeisydd neu ar ei ran mewn cysylltiad â’r benthyciad neu mewn cysylltiad â darparu’r eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau—
(i) pe bai’r benthyciad wedi ei wneud, neu
(ii) pe bai’r eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau wedi eu darparu,
ar delerau masnachol, a
(b) cyfanswm gwerth mewn termau ariannol y gydnabyddiaeth a ddarparwyd mewn gwirionedd gan yr ymgeisydd neu ar ei ran neu gan asiant etholiad yr ymgeisydd neu ar ei ran, os darparwyd cydnabyddiaeth o gwbl.
(5) Pan fo rhodd a grybwyllir yn is-baragraff (4) yn rhoi budd parhaol i’r rhoddai dros gyfnod penodol, mae gwerth y rhodd—
(a) i’w bennu ar yr adeg y mae’n cael ei rhoi, ond
(b) i’w bennu felly drwy gyfeirio at gyfanswm y budd sy’n cronni i’r rhoddai dros y cyfnod hwnnw.
RHAN 2 Rheolaethau ar roddion
Gwahardd derbyn rhoddion oddi wrth roddwyr nas caniateir
6 

(1) Ni chaniateir i rodd berthnasol sy’n dod i law ymgeisydd neu asiant etholiad ymgeisydd gael ei derbyn—
(a) os nad yw’r person y byddai’r rhodd yn cael ei rhoi ganddo, ar yr adeg y mae’n dod i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, yn rhoddwr a ganiateir sy’n dod o fewn adran 54(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, neu
(b) os nad yw’r ymgeisydd nac asiant etholiad yr ymgeisydd yn gallu canfod pwy yw’r person sy’n cynnig y rhodd, pa un ai am fod y rhodd yn cael ei rhoi’n ddienw neu oherwydd unrhyw dwyllo neu gelu neu fel arall.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae unrhyw rodd berthnasol sy’n dod i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd ac sy’n rhodd ymddiriedolaeth esempt i’w hystyried yn rhodd berthnasol sy’n dod i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd oddi wrth roddwr a ganiateir, ac mae adran 162 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (dehongli: rhoddion ymddiriedolaeth esempt) i fod yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon fel y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.
(3) Ond, at ddibenion yr Atodlen hon, mae unrhyw rodd berthnasol sy’n dod i law ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd gan ymddiriedolwr unrhyw eiddo, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel ymddiriedolwr, i’w hystyried yn rhodd berthnasol sy’n dod i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd oddi wrth berson nad yw’n rhoddwr a ganiateir, os nad yw’r rhodd honno—
(a) yn rhodd ymddiriedolaeth esempt, neu
(b) yn rhodd berthnasol a drosglwyddir gan yr ymddiriedolwr i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd ar ran buddiolwyr o dan yr ymddiriedolaeth sydd—
(i) yn bersonau sydd, ar yr adeg y mae’n dod i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, yn rhoddwyr a ganiateir sy’n dod o fewn adran 54(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, neu
(ii) yn aelodau o gymdeithas anghorfforedig sydd ar yr adeg honno yn rhoddwr a ganiateir.
(4) Mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo unrhyw berson (“y prif roddwr”) yn achosi i swm (“y brif rodd”) ddod i law ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd drwy gyfrwng rhodd berthnasol—
(a) ar ran y prif roddwr ac un neu fwy o bersonau eraill, neu
(b) ar ran dau neu fwy o bersonau eraill.
(5) At ddibenion y Rhan hon, mae pob cyfraniad unigol gan berson sy’n dod o fewn is-baragraff (4)(a) neu (b) o fwy na £50 i’w drin fel pe bai’n rhodd ar wahân a ddaeth i law oddi wrth y person hwnnw.
(6) Mewn perthynas â phob rhodd ar wahân, rhaid i’r prif roddwr sicrhau, ar yr adeg y daw’r brif rodd i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, fod y canlynol yn cael eu rhoi i’r ymgeisydd neu i asiant etholiad yr ymgeisydd—
(a) ac eithrio yn achos rhodd yr ymdrinnir â hi fel pe bai wedi ei rhoi gan y prif roddwr, yr holl fanylion sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff 11(c) mewn cysylltiad â’r person sy’n cael ei drin fel pe bai’n gwneud y rhodd, a
(b) mewn cysylltiad â phob rhodd, yr holl fanylion mewn cysylltiad â’r rhodd sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff 11(a).
(7) Mae is-baragraff (8) yn gymwys—
(a) pan fo unrhyw berson (“yr asiant”) yn achosi i swm ddod i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd drwy gyfrwng rhodd ar ran person arall (“y rhoddwr”), a
(b) pan fo swm y rhodd yn fwy na £50.
(8) Ar yr adeg y daw’r rhodd i law’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, rhaid i’r asiant sicrhau bod yr holl fanylion sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff 11(c) mewn cysylltiad â’r rhoddwr yn cael eu rhoi i’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd.
(9) Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (6) neu (8).
(10) Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-baragraff (9) yn agored—
(a) ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau;
(b) ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na blwyddyn, neu’r ddau.
(11) Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, rhaid i’r cyfeiriad yn is-baragraff (10)(a) at 6 mis gael ei gymryd fel cyfeiriad at 51 o wythnosau.
Derbyn neu ddychwelyd rhoddion
7 

(1) Mae adrannau 56 i 60 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 i fod yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â phlaid gofrestredig ac i rodd sy’n dod i law plaid gofrestredig, mewn perthynas â—
(a) rhodd berthnasol sy’n dod i law ymgeisydd neu asiant etholiad ymgeisydd, a
(b) yr ymgeisydd neu’r asiant etholiad.
(2) Wrth gymhwyso adrannau 56 i 60 o’r Ddeddf honno yn unol ag is-baragraff (1)—
(a) mae adran 56(1) i gael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at y manylion sy’n ymwneud â rhoddwr y byddai’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad ar roddion yn rhinwedd paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, pe bai’r rhodd yn rhodd gofnodadwy o fewn ystyr yr Atodlen honno, yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn ffurflen yn rhinwedd paragraff 11(c);
(b) mae adran 56(3) a (3A) i gael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at y blaid wedi ei hepgor ac fel pe bai’r cyfeiriad at drysorydd y blaid yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd;
(c) mae adran 56(4) i gael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at drysorydd y blaid yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd.
Trosglwyddo rhoddion sy’n dod i law’r ymgeisydd i asiant etholiad
8 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw rodd berthnasol sy’n dod i law ymgeisydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer penodi asiant etholiad, oni bai mai’r ymgeisydd yw asiant etholiad yr ymgeisydd ei hun pan ddaw’r rhodd i law, neu y bernir mai’r ymgeisydd yw asiant etholiad yr ymgeisydd ei hun pan ddaw’r rhodd i law.
(2) Ar ôl i rodd o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) ddod i law, rhaid i’r ymgeisydd ddanfon ar unwaith at asiant etholiad yr ymgeisydd—
(a) y rhodd,
(b) pan fo paragraff 6(6) neu (8) yn gymwys mewn perthynas â’r rhodd, yr wybodaeth a ddarparwyd i’r ymgeisydd yn unol â’r ddarpariaeth honno, ac
(c) unrhyw wybodaeth arall sydd gan yr ymgeisydd am y rhodd a’i rhoddwr y gellid disgwyl yn rhesymol iddi gynorthwyo’r asiant etholiad wrth gyflawni unrhyw ddyletswyddau a osodir ar yr asiant etholiad, mewn perthynas â’r rhodd, o dan y Rhan hon neu Ran 3 o’r Atodlen hon.
(3) Pan fo rhodd yn cael ei danfon at asiant etholiad yn unol ag is-baragraff (2), mae’r rhodd i’w thrin at ddibenion paragraff 6(1) i (5) a’r darpariaethau a gymhwysir gan baragraff 7 fel pe bai—
(a) wedi dod i law’r asiant etholiad yn wreiddiol, a
(b) wedi dod i law’r asiant etholiad felly ar y dyddiad y daeth i law’r ymgeisydd.
(4) Pan fo rhodd berthnasol yn dod i law ymgeisydd cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi asiant etholiad, ond ar adeg pan fo penodiad person yn asiant etholiad ac eithrio’r ymgeisydd mewn grym, rhaid i’r ymgeisydd naill ai—
(a) danfon y rhodd a’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) ac (c) at yr asiant ar unwaith, neu
(b) os yw’r ymgeisydd yn methu â gwneud hynny, ymdrin â’r rhodd yn unol ag adran 56 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (derbyn neu ddychwelyd rhoddion).
(5) Mae is-baragraff (3) i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw rodd berthnasol a ddanfonir at asiant etholiad yn unol ag is-baragraff (4)(a), fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â rhodd a ddanfonir at yr asiant yn unol ag is-baragraff (2).
(6) Mae is-baragraff (7) yn gymwys—
(a) pan fo’r ymgeisydd wedi ymdrin yn unol ag adran 56 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 â rhodd berthnasol a ddaeth i law’r ymgeisydd cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi asiant etholiad naill ai—
(i) am ei bod wedi dod i law’r ymgeisydd ar adeg pan nad oedd penodiad person arall yn asiant etholiad i’r ymgeisydd mewn grym, neu
(ii) er bod penodiad o’r fath mewn grym, am ei bod yn ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (4)(b), i’r ymgeisydd ymdrin â’r rhodd, a
(b) pan fo penodiad person ac eithrio’r ymgeisydd yn asiant etholiad mewn grym ar neu unrhyw bryd ar ôl—
(i) y dyddiad cau ar gyfer penodi asiant etholiad, neu
(ii) os yw hynny’n hwyrach, yr adeg y mae’r ymgeisydd wedi ymdrin â’r rhodd yn unol ag adran 56 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000.
(7) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), rhaid i’r ymgeisydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl yr amser perthnasol, ddanfon at yr asiant etholiad—
(a) y rhodd, os yw wedi ei derbyn gan yr ymgeisydd, a
(b) unrhyw wybodaeth sydd gan yr ymgeisydd am y rhodd a’r rhoddwr y gellid disgwyl yn rhesymol iddi gynorthwyo’r asiant etholiad wrth gyflawni unrhyw ddyletswyddau a osodir ar yr asiant etholiad, mewn perthynas â’r rhodd, o dan Ran 3 o’r Atodlen hon.
(8) Yr amser perthnasol at ddibenion is-baragraff (7) yw—
(a) yr amser a grybwyllir yn is-baragraff (6)(b)(i) neu (ii) os yw penodiad person arall yn asiant etholiad mewn grym yr adeg honno, neu
(b) fel arall, yr amser y daw unrhyw benodiad o’r fath i rym ar ôl hynny.
(9) Nid yw’r ddyletswydd a osodir ar ymgeisydd gan is-baragraff (7)(a) yn gymwys i unrhyw rodd berthnasol i’r graddau y mae wedi ei defnyddio’n gyfreithlon gan yr ymgeisydd at ddiben talu treuliau etholiad.
(10) Yn y paragraff hwn—
(a) mae unrhyw gyfeiriad at y dyddiad cau ar gyfer penodi asiant etholiad yn gyfeiriad at yr amser hwyraf y caniateir i asiant etholiad yn unol ag erthygl 39 (penodi asiant etholiad) gael ei enwi’n asiant etholiad gan yr ymgeisydd;
(b) mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth yn adran 56 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan baragraff 7.
Efadu cyfyngiadau ar roddion
9 
Mae adran 61 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (troseddau ynglŷn ag efadu cyfyngiadau ar roddion) yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai—
(a) unrhyw gyfeiriad at roddion yn gyfeiriadau at roddion perthnasol;
(b) unrhyw gyfeiriad at blaid gofrestredig, mewn perthynas â rhodd berthnasol, yn gyfeiriad at ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd;
(c) unrhyw gyfeiriad yn is-adran (2) at drysorydd plaid gofrestredig, mewn perthynas â rhodd berthnasol, yn gyfeiriad at naill ai’r ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd, neu’r ddau.
RHAN 3 Adrodd am roddion
Datganiad o roddion perthnasol
10 

(1) Rhaid i asiant etholiad yr ymgeisydd gynnwys mewn unrhyw ffurflen sydd i’w danfon o dan erthygl 54, ddatganiad o roddion perthnasol (“y datganiad”) sy’n cydymffurfio â pharagraffau 11 a 12.
(2) Os yw’r datganiad yn dweud bod yr asiant etholiad wedi gweld tystysgrif cofrestriad dienw, mewn perthynas â rhoddwr unigol, rhaid i gopi o’r dystysgrif honno fynd gyda’r datganiad.
(3) At ddiben is-baragraff (2), ystyr “tystysgrif cofrestriad dienw” yw tystysgrif a ddyroddir yn unol â rheoliad 45G o Reoliadau 2001.
Rhoddion gan roddwyr a ganiateir
11 
Rhaid i’r datganiad gofnodi, mewn perthynas â phob rhodd berthnasol a dderbynnir gan yr ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd—
(a) swm y rhodd, os yw’n rhodd o arian, mewn arian parod neu fel arall, neu mewn unrhyw achos arall, natur y rhodd a’i gwerth fel y’i pennir yn unol â pharagraff 5;
(b) y dyddiad y derbyniwyd y rhodd gan yr ymgeisydd neu asiant etholiad yr ymgeisydd;
(c) yr wybodaeth am y rhoddwr y mae, mewn cysylltiad â rhoddion cofnodadwy i bleidiau gwleidyddol cofrestredig, yn ofynnol ei chofnodi mewn adroddiadau ar roddion yn rhinwedd paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000;
(d) unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol gan reoliadau a wneir gan y Comisiwn Etholiadol.
Rhoddion gan roddwyr nas caniateir
12 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i roddion perthnasol sy’n dod o fewn paragraff 6(1)(a) neu (b).
(2) Pan fo paragraff 6(1)(a) yn gymwys, rhaid i’r datganiad gofnodi—
(a) enw a chyfeiriad y rhoddwr,
(b) swm y rhodd, os yw’n rhodd o arian, mewn arian parod neu fel arall, neu mewn unrhyw achos arall, natur y rhodd a’i gwerth fel y’i pennir yn unol â pharagraff 5,
(c) y dyddiad y daeth y rhodd i law, a’r dyddiad yr ymdriniwyd â hi, a’r dull yr ymdriniwyd â hi, yn unol ag adran 56(2)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, a
(d) unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol gan reoliadau a wneir gan y Comisiwn Etholiadol.
(3) Pan fo paragraff 6(1)(b) yn gymwys, rhaid i’r datganiad gofnodi—
(a) manylion am y dull y gwnaed y rhodd,
(b) swm y rhodd, os yw’n rhodd o arian, mewn arian parod neu fel arall, neu mewn unrhyw achos arall, natur y rhodd a’i gwerth fel y’i pennir yn unol â pharagraff 5,
(c) y dyddiad y daeth y rhodd i law, a’r dyddiad yr ymdriniwyd â hi, a’r dull yr ymdriniwyd â hi, yn unol ag adran 56(2)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000, a
(d) unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol gan reoliadau a wneir gan y Comisiwn Etholiadol.
(4) Yn y paragraff hwn mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth yn adran 56 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan baragraff 7.
ATODLEN 7
Treuliau etholiad
Erthygl 65(5)
RHAN 1 Rhestr materion
1 
Hysbysebion o unrhyw natur, beth bynnag fo’r cyfrwng a ddefnyddir, gan gynnwys treuliau mewn cysylltiad â ffioedd asiantaeth, costau dylunio a chostau eraill mewn cysylltiad â llunio, cynhyrchu neu ddosbarthu hysbysebion o’r fath neu eu lledaenu fel arall neu unrhyw beth sy’n ymgorffori hysbysebion o’r fath ac y bwriedir ei ddosbarthu er mwyn eu lledaenu.
2 
Deunydd digymell a gyfeirir at etholwyr, pa un a gyfeirir ef atynt yn ôl eu henw neu y’i bwriedir i’w ddanfon i aelwydydd o fewn unrhyw ardal benodol, gan gynnwys treuliau mewn cysylltiad â chostau dylunio a chostau eraill mewn cysylltiad â llunio, cynhyrchu neu ddosbarthu’r deunydd hwnnw, gan gynnwys cost postio.
3 
Cludo personau, mewn unrhyw fodd, i unrhyw le, gan gynnwys treuliau mewn cysylltiad â chostau llogi modd o gludo am gyfnod penodol.
4 
Cyfarfodydd cyhoeddus, o unrhyw fath, gan gynnwys treuliau mewn cysylltiad â chostau yr eir iddynt mewn cysylltiad â phresenoldeb personau yn y cyfarfodydd hynny, llogi mangreoedd at ddibenion y cyfarfodydd hynny neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt.
5 
Gwasanaethau asiant etholiad neu unrhyw berson arall y cymerir ei wasanaethau ymlaen mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
6 
Costau llety a chostau gweinyddol.
RHAN 2 Eithriadau cyffredinol
7 
Talu unrhyw ernes sy’n ofynnol o dan reol 11 o Atodlen 5.
8 
Cyhoeddi unrhyw fater, ac eithrio hysbyseb, yn ymwneud â’r etholiad mewn—
(a) papur newydd neu gyfnodolyn,
(b) darllediad a wneir gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig neu gan Sianel Pedwar Cymru, neu
(c) rhaglen a gynhwysir mewn unrhyw wasanaeth a drwyddedir o dan Ran 1 neu 3 o Ddeddf Darlledu 1990 (gwasanaethau teledu a radio annibynnol) neu Ran 1 neu 2 o Ddeddf Darlledu 1996 (darlledu teledu a sain daearol digidol).
9 
Darparu unrhyw gyfleusterau a ddarperir yn unol ag unrhyw hawl a roddir i ymgeiswyr mewn etholiad gan y Gorchymyn hwn ac eithrio cyfleusterau y mae treuliau i’w talu mewn cysylltiad â hwy yn rhinwedd erthygl 71(6) (ystafelloedd a ddefnyddir ar gyfer cyfarfodydd etholiadau’r Senedd).
10 
Darparu ei wasanaethau ei hun gan unigolyn pan fo’r unigolyn hwnnw yn eu rhoi o’i wirfodd yn ei amser ei hun a heb dâl.
11 
Llety sy’n unig neu’n brif breswylfa i’r ymgeisydd.
12 
Darparu llety gan unrhyw unigolyn arall sy’n unig neu’n brif breswylfa i’r unigolyn hwnnw os darperir y llety am ddim.
13 
Cludiant drwy gyfrwng modd o gludo a sicrhawyd gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddibenion personol yr ymgeisydd ei hun.
14 
Cludiant a ddarperir am ddim gan unrhyw unigolyn arall os cafodd y modd o gludo ei sicrhau gan yr unigolyn hwnnw yn bennaf at ddibenion personol yr unigolyn ei hun.
15 
Offer cyfrifiaduro neu argraffu a sicrhawyd gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddibenion personol yr ymgeisydd ei hun.
16 
Darparu offer cyfrifiaduro neu argraffu gan unrhyw unigolyn arall a sicrhawyd gan yr unigolyn hwnnw yn bennaf at ddibenion personol yr unigolyn ei hun os darperir yr offer am ddim.
17 

(1) Unrhyw fater y mae’n rhesymol ei briodoli i anabledd yr ymgeisydd, i’r graddau yr eir i’r treuliau mewn cysylltiad â’r mater mewn modd rhesymol.
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “anabledd” yr un ystyr â “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
18 
Treuliau yr eir iddynt mewn cysylltiad â chyfieithu unrhyw beth o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg, neu o ganlyniad i hynny.
19 
Diogelu personau neu eiddo, i’r graddau yr eir i’r treuliau yn rhesymol ac y gellir eu priodoli yn rhesymol i ddiogelu personau neu eiddo.
RHAN 3 Atodol
Canllawiau gan y Comisiwn Etholiadol
20 

(1) Caiff y Comisiwn Etholiadol lunio, ac o bryd i’w gilydd adolygu, cod ymarfer ar gyfer etholiadau’r Senedd sy’n rhoi—
(a) canllawiau ynghylch y materion sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 o’r Atodlen hon, neu nad ydynt yn dod o’u mewn;
(b) canllawiau sy’n ategu’r diffiniad yn erthygl 37(1) ynghylch yr achosion neu’r amgylchiadau lle y mae treuliau i’w hystyried, neu nad ydynt i’w hystyried, yn dreuliau yr eir iddynt at ddibenion ethol ymgeisydd;
(c) canllawiau ynghylch cymhwyso Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn mewn perthynas â threuliau yr eir iddynt at ddibenion ethol ymgeisydd, pa un a ydynt yn dreuliau etholiadol ai peidio.
(2) Ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol lunio cod drafft o dan y paragraff hwn, rhaid iddo ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cod drafft gydag addasiadau neu hebddynt.
(4) Ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo cod drafft, rhaid iddynt osod copi ar y ffurf y maent wedi cymeradwyo’r cod drafft, gerbron y Senedd.
(5) Os yw’r drafft yn cynnwys addasiadau, rhaid i Weinidogion Cymru yr un pryd osod datganiad gerbron y Senedd o’u rhesymau dros wneud yr addasiadau hynny.
(6) Os bydd y Senedd, o fewn y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas ag ef.
(7) Os na wneir penderfyniad o’r fath o fewn y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—
(a) rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft a osodwyd gerbron y Senedd,
(b) mae’r cod yn dod i rym ar y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, ac
(c) rhaid i’r Comisiwn Etholiadol drefnu i’r cod gael ei gyhoeddi yn y dull y mae’n meddwl ei fod yn briodol.
(8) Nid yw is-baragraff (6) yn atal cod drafft newydd rhag cael ei osod gerbron y Senedd.
(9) Yn y paragraff hwn, ystyr “y cyfnod o 40 o ddiwrnodau”, mewn perthynas â chod drafft, yw’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Senedd, heb ystyried unrhyw gyfnod pan fo’r Senedd wedi ei ddiddymu neu yn cael toriad am fwy na 4 diwrnod.
(10) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at god drafft yn cynnwys cod drafft diwygiedig.
ATODLEN 8
Defnyddio ystafelloedd mewn mangre ysgol neu ystafelloedd cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd etholiad i’r Senedd
Erthygl 71(8)
Defnyddio ystafelloedd mewn mangre ysgol
1 

(1) Rhaid i drefniadau ar gyfer defnyddio ystafell ym mangre ysgol gael eu gwneud gyda’r canlynol—
(a) yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, neu
(b) corff llywodraethu’r ysgol yn achos ystafell sydd ym mangre ysgol sefydledig neu fangre ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud ag—
(a) yr ystafelloedd mewn mangre ysgol y mae gan ymgeisydd hawlogaeth i’w defnyddio;
(b) yr amseroedd y mae gan ymgeisydd hawlogaeth i ddefnyddio’r ystafelloedd;
(c) y rhybudd sy’n rhesymol i ymgeisydd ei roi er mwyn defnyddio’r ystafelloedd.
Rhestr o ystafelloedd mewn mangre ysgol
2 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio, ar gyfer pob etholaeth Senedd sy’n rhannol neu’n gyfan gwbl o fewn ei ardal, restr o ystafelloedd mewn mangreoedd ysgol y mae gan ymgeiswyr hawlogaeth i’w defnyddio, a pharhau i adolygu’r rhestr honno.
(2) Rhaid i’r rhestr gynnwys yr ystafelloedd mewn mangreoedd ysgol sydd y tu allan i’r etholaeth yn ogystal â’r mangreoedd hynny sydd y tu mewn iddi.
(3) Rhaid i’r rhestr, gan gynnwys unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau, gael ei darparu i’r swyddog cofrestru gan yr awdurdod lleol perthnasol.
Rhestr o ystafelloedd cyfarfod
3 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio, ar gyfer pob etholaeth Senedd sy’n rhannol neu’n gyfan gwbl o fewn ei ardal, restr o’r ystafelloedd cyfarfod y mae gan ymgeiswyr hawlogaeth i’w defnyddio, a pharhau i adolygu’r rhestr honno.
(2) Rhaid i’r rhestr gynnwys—
(a) manylion i ba le y mae cais i ddefnyddio’r ystafell i gael ei anfon;
(b) yr ystafelloedd mewn mangreoedd sydd y tu allan i’r etholaeth yn ogystal â’r mangreoedd hynny sydd y tu mewn iddi.
(3) Ni chaiff y rhestr gynnwys ystafell os yw’r rhai sy’n cynnal yr ystafell honno yn herio hawl ymgeiswyr i’w defnyddio.
(4) Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol ddarparu’r rhestr, gan gynnwys unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau, i’r swyddog cofrestru.
Rhestrau i’w cadw gan y swyddog cofrestru
4 
Rhaid i’r rhestrau o ystafelloedd gael eu cadw gan y swyddog cofrestru ar gyfer yr etholaeth Senedd y maent yn ymwneud â hi.
Edrych ar restrau
5 
Pan gyhoeddir hysbysiad am etholiad yn unol â’r tabl yn rheol 1(1) o Atodlen 5, mae gan ymgeisydd neu asiant etholiad hawlogaeth, ar bob adeg rhesymol, i edrych ar y rhestrau neu gopi o’r rhestrau.
ATODLEN 9
Addasu Rheolau Deisebau Etholiad 1960
Erthyglau 86 ac 88(1)
Deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd: addasu Rheolau Deisebau Etholiad 1960
1 
Mae Rheolau Deisebau Etholiad 1960 (“Rheolau 1960”) yn gymwys i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen hon.
Addasu rheol 2(2) (diffiniadau)
2 

(1) Mae rheol 2(2) i’w darllen fel pe bai’n cynnwys y termau diffiniedig ychwanegol a ganlyn—
 “candidate” means an individual candidate or a party list candidate for return as a Senedd member;
 “the Clerk of the Senedd” is to be construed in accordance with section 26 of the Government of Wales Act 2006;
 “party list candidate” means a candidate included on a list of a registered political party;
 “Presiding Officer of the Senedd” is to be construed in accordance with section 25 of the Government of Wales Act 2006;
 “registered political party” means a party registered under Part 2 of the Political Parties, Elections and Referendums Act 2000;
 “Senedd Cymru election” means the holding of elections for the return of all Senedd members;
 “Senedd constituency” is to be construed in accordance with section 2 of the Government of Wales Act 2006;
 “Senedd election petition” means a petition presented in pursuance of Part 4 of the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025.
(2) Yn rheol 2(2), mae’r diffiniadau wedi eu haddasu fel a ganlyn—
(a) ac eithrio yn rheol 2(3), mae “the Act” i’w ddarllen fel pe bai’n golygu’r Gorchymyn hwn, ac mae unrhyw gyfeiriad at adran o Ddeddf 1983 i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn y Gorchymyn hwn, fel a nodir ym mharagraff 8 o’r Atodlen hon;
(b) mae “local election petition” i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor fel y mae rheol 18 ac unrhyw gyfeiriad yn Rheolau 1960 at ddarpariaeth o Ddeddf 1983 sy’n gymwys i ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad lleol yn unig;
(c) mae “petition” i’w ddarllen fel pe bai’n golygu deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd;
(d) mae “constituency” i’w ddarllen fel pe bai’n golygu etholaeth y Senedd y mae’r ddeiseb yn ymwneud â hi.
Addasu rheol 2(3) (swyddog rhagnodedig)
3 
Yn rheol 2(3), mae “the prescribed officer in relation to elections under the local government Act” i’w ddarllen fel “the prescribed officer in relation to elections under Part 1 of the Government of Wales Act 2006”.
Addasu rheol 4(1) (ffurf deiseb)
4 
Yn rheol 4(1), is-baragraff (b)—
(a) mae “in the case of a parliamentary election” i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor;
(b) mae “the Clerk of the Crown” i’w ddarllen fel “the Clerk of the Senedd”.
Addasu rheol 9(3) (arddangos etc. hysbysiad am amser a lleoliad treial)
5 
Yn rheol 9(3)—
(a) mae “a parliamentary election petition” i’w ddarllen fel “a Senedd election petition”;
(b) mae “and in any other case not less than seven days,” i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
Addasu rheol 10(1) (nodi pleidleisiau sy’n bwnc dadl)
6 
Mae rheol 10(1) i’w darllen fel a ganlyn—“
(1) Where the petition claims the seat for an unsuccessful candidate on the ground that the individual candidate, or the registered political party on whose list the candidate was a party list candidate, had a higher electoral figure than that of another individual candidate or of another registered political party to whom a seat in the Senedd constituency was allocated, every party must, not less than 7 days before the day fixed for the trial—
(a) file a list of the votes the candidate contends were wrongly admitted or rejected stating, in respect of each such vote, the grounds for the candidate’s contention, and
(b) serve a copy of the list on every other party and the Director of Public Prosecutions.”
Addasu’r Atodlen (deiseb etholiad)
7 
Mae ffurf y ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn yr Atodlen, y rhoddir effaith iddi gan reol 4(1), i’w darllen fel a ganlyn—“”.
Addasu cyfeiriadau at adran o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
8 
Mewn cysylltiad â’r tabl yn y paragraff hwn, pan fo un o ddarpariaethau Rheolau 1960 a restrir yng ngholofn 1 yn cynnwys cyfeiriad at adran o Ddeddf 1983 a restrir yn y rhes gyfatebol yng ngholofn 2, mae’r adran honno i’w darllen fel cyfeiriad at yr erthygl gyfatebol yn y Gorchymyn hwn a restrir yng ngholofn 3—

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Rheol 4(1)(a) Adran 121(1) Erthygl 89(1)
Rheol 4(1)(c) Adran 122(2) neu (3) Erthygl 90(2) neu (3)
Rheol 5(1) Adran 136 Erthygl 94
Rheol 6(1) Adran 121(2) Erthygl 89(3)
Rheol 7 Adran 136(4) Erthygl 94(5)
Rheol 8 Adran 138(1) Erthygl 96(1)
Rheol 10(2) Adran 139(5) Erthygl 97(6)
Rheol 11 Adran 146(1) Erthygl 103(1) a (2)
Rheol 19(1) Adran 119 Erthygl 38
Rheol 19(2) Adran 119(2) Erthygl 38(2)
Rheol 21(2)(b) Adran 184 Erthygl 134
ATODLEN 10
Atodiad o ffurfiau

ATODLEN 11
Diwygiadau canlyniadol
Erthygl 146
Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020
1 

(1) Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 24(2) (diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oed), yn y diffiniad o “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol”—
(a) ym mharagraff (a), yn lle “erthygl 8(3), 9(6) neu 12(6) o Orchymyn 2007” rhodder “erthygl 6(4), 7(7) neu 10(6) o Orchymyn 2025”;
(b) ym mharagraff (b), yn lle “erthygl 10 neu 12(8) o Orchymyn 2007” rhodder “erthygl 8 neu 10(8) o Orchymyn 2025”.
(3) Hepgorer adran 27 (diwygiadau i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl 2007).
(4) Yn adran 41 (dehongliad cyffredinol)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Gorchymyn 2007”;
(b) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “Gorchymyn 2025” (“2025 Order”) yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864) (Cy. 150);”.
Deddf Etholiadau 2022
2 

(1) Mae Deddf Etholiadau 2022 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3(3) o Atodlen 11 (arferion anghyfreithlon)—
(a) yn lle “The National Assembly for Wales (Representation of the People) Order 2007 (S.I. 2007/236)” rhodder “The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 (S.I. 2025/864) (W. 150)”;
(b) yn lle “article 76(12)” rhodder “article 78(13)”.
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
3 
Yn lle Rhan 8 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rhodder—“
PART 8 Access to documents after an election to Senedd Cymru
Interpretation of Part 8
121. 

(1) In this Part—
 “the 2025 Order” means the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025;
 “relevant Senedd election documents” means the documents relating to a Senedd election that the relevant registration officer is required to retain by rule 70 of Schedule 5 to the 2025 Order;
 “Senedd Cymru” means the parliament for Wales established by section 1 of the Government of Wales Act 2006;
 “Senedd election” means an election to Senedd Cymru under Part 1 of the Government of Wales Act 2006;
 “the Senedd list of proxies” means the list kept under article 8(1)(b) and (3) of the 2025 Order;
 “the Senedd postal voters list” means the list kept under article 8(1)(a) and (2) of the 2025 Order;
 “the Senedd proxy postal voters list” means the list kept under article 10(8) of the 2025 Order.
(2) References in this Part to “the marked Senedd register or lists” are to any part of the marked copies of—
(a) the full register;
(b) the notices amending the full register issued under section 13B(3B) or (3D) of the 1983 Act;
(c) the Senedd postal voters list;
(d) the Senedd list of proxies;
(e) the Senedd proxy postal voters list,
forwarded to the relevant registration officer under paragraph 30 of Schedule 2 or rule 67(2)(h) and (i) of Schedule 5 to the 2025 Order.
122. 
Subject to the modifications specified in regulations 123 to 126, Part 7 of these Regulations applies in respect of the marked Senedd register or lists and the other relevant Senedd election documents as it applies in respect of the marked register or lists and other documents open to inspection under that Part.
123. 
References in Part 7 to “the marked register or lists” are to be construed as references to the marked Senedd register or lists, and any like terms are to be similarly construed.
124. 
Regulation 116 applies as if—
(a) paragraph (1) were omitted,
(b) in paragraph (2), the reference to regulation 56 were a reference to paragraph 11 of Schedule 1 to the 2025 Order, and
(c) in paragraph (4), the reference to a direction by the Secretary of State under section 52(1) of the 1983 Act includes a reference to a direction by the Welsh Ministers under section 52(1) of the 1983 Act.
125. 
Regulation 117 applies as if—
(a) references to “a particular parliamentary or local government election” and to “a particular election” include reference to a particular Senedd election, and
(b) the reference in paragraph (5) to regulation 61 were a reference to paragraph 18 of Schedule 1 to the 2025 Order.
126. 
Regulations 118 and 119 apply as if references to “documents open to public inspection” were a reference to—
(a) the marked Senedd register or lists, and
(b) the other relevant Senedd election documents except—
(i) ballot papers,
(ii) completed corresponding number lists,
(iii) certificates as to employment on the day of the election, and
(iv) the list required to be compiled under paragraph 26(4) of Schedule 2 to the 2025 Order,and any like terms are to be construed accordingly.”
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012
4 

(1) Mae Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “the 2007 Order”;
(b) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 “the 2025 Order” means the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025;”.
(3) Yn erthygl 2(2A), yn lle “article 16A(1) of the 2007 Order” rhodder “article 16(1) of the 2025 Order”.
(4) Yn erthygl 13A (cyfuno cynnal polau: Senedd Cymru), yn lle “article 16A of the 2007 Order” rhodder “article 16 of the 2025 Order”.
(5) Ym mharagraff 59(2A) o Atodlen 2 (pleidlais absennol mewn etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu), yn lle “article 16A of the 2007 Order” rhodder “article 16 of the 2025 Order”.
(6) Ym mharagraff 47(1)(a) o Atodlen 4 (cyfuno polau), yn is-baragraff (2) a amnewidiwyd ym mharagraff 13—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “article 16A of the 2007 Order” rhodder “article 16 of the 2025 Order”;
(b) ym mharagraff (c), yn lle “paragraph 2 of Schedule 4 to the 2007 Order (as it applies to combined polls by virtue of paragraph 1 of Schedule 4A to that Order)” rhodder “paragraph 2 of Schedule 4 to the 2025 Order”.
(7) Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn lle “paragraph 2 of Schedule 3 to the 2007 Order”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “paragraph 2 of Schedule 2 to the 2025 Order”.
Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012
5 

(1) Mae Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “the 2007 Order”;
(ii) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 “the 2025 Order” means the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025;”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn lle “article 16A of the 2007 Order” rhodder “article 16 of the 2025 Order”;
(ii) yn lle “an Assembly” rhodder “a Senedd”.
(3) Yn rheoliad 2A—
(a) yn y pennawd, yn lle “Assembly” rhodder “Senedd”;
(b) ym mharagraff (1), yn lle “Assembly” rhodder “Senedd”;
(c) ym mharagraff (2), yn lle “an Assembly constituency by virtue of article 18 of the 2007 Order” rhodder “a Senedd constituency by virtue of article 18 of the 2025 Order”.
ATODLEN 12
Dirymiadau
Erthygl 1(3)
1 
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.
2 
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Mynediad at Ddogfennau Etholiad) 2007.
3 
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2010.
4 
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Llofnodion Newydd i Bleidleiswyr Absennol) 2013.
5 
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2016.
6 
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) (Rhif 2) 2016.
7 
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017.
8 
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020.
9 
Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau’r Senedd) 2021 (Diwrnod Penodedig) 2021.
10 
Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021.
11 
Rheoliadau Senedd Cymru (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) 2021.
12 
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.