
2025 Rhif 815 (Cy. 145)
Anifeiliaid, Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Maint Glanio Lleiaf a Chywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed 6 Gorffennaf 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Gorffennaf 2025
Yn dod i rym 1 Awst 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) adrannau 189(1) a 316(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
(b) adran 84(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
(c) adrannau 59(1), (2)(b) a (3)(a), 61Z(8) a (9), 62R a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Maint Glanio Lleiaf a Chywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw i rym ar 1 Awst 2025.
RHAN 2 Diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018
2 
Yng Ngorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018, yn yr Atodlen, yn lle Tabl 1 rhodder—“

Tabl 1Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangreoedd ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu nad ydynt wedi eu heithrio o dan erthygl 3(4) neu (5) o’r Gorchymyn hwn
Colofn 1 Colofn 2
Gweithgaredd Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu. 433
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu. 780
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu. 387
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly gynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu. 550”
RHAN 3 Diwygio Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
3 
Mae Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 4 i 13.
Diwygio Rhan 1 o Orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
4 
Yn erthygl 1 (enwi, cymhwyso a dod i rym), ar ôl paragraff 1(2), mewnosoder—“
(3) Yn yr erthygl hon, mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”
5 

(1) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(2) Yn testun Saesneg, hepgorer ““cockles” (“cocos”) means shellfish of the type Cerastoderma edule;”;
(3) Yn y testun Saesneg, ar ôl y diffiniad o “cockle bed” ac o flaen y diffiniad o “environmental assessment” mewnosoder ““cockles” (“cocos”) means shellfish of the type Cerastoderma edule;”;
(4) Yn nhestun Saesneg y diffiniad o “harvestable surplus”, yn lle “gornifer cocos y gellir eu” rhodder “gornifer cocos y gellir eu cynaeafu”) means the live weight of cockles that”;
(5) Hepgorer “mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;
(6) Yn y testun Cymraeg hepgorer “mae i “manteisio ar” yr un ystyr ag a roddir i “exploitation” yn adran 153(12) o Ddeddf 2009;”.
Diwygio Rhan 3 o Orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
6 
Yn erthygl 8 (gofyniad am drwydded), yn lle paragraff (3), yn y testun Cymraeg, rhodder “(3) Bydd y drwydded yn galluogi’r deiliad trwydded i bysgota am gocos neu gymryd cocos o welyau cocos sydd ar agor yn ystod y cyfnod trwydded.”
7 

(1) Yn erthygl 9 (amodau trwydded)—
(2) Ym mharagraff (4), yn lle “bydd Gweinidogion Cymru yn” rhodder “rhaid i Weinidogion Cymru”;
(3) Yn lle is-baragraff (7)(b), rhodder “(b) ystyr “maint glanio lleiaf” yw’r maint lleiaf o gocosen a gedwir gan fesurydd sydd ag agoriad sgwâr o X o filimetrau o’i fesur ar draws pob ochr o’r sgwâr. “X” yw’r mesuriad a osodir mewn amodau sydd ynghlwm wrth drwydded a ddyroddir o dan erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn”.
8 
Yn erthygl 10 (personau â hawlogaeth i gael trwydded), yn lle is-baragraff (1)(a), yn y testun Cymraeg, rhodder “(a) os yw’n 16 oed neu’n hŷn,”.
9 
Yn lle erthygl 12(1) (ffioedd trwydded) rhodder—“
(1) Mewn perthynas â’r ffi drwydded flynyddol—
(a) bydd i’w phennu gan Weinidogion Cymru,
(b) rhaid iddi fod yn gymwys i bob trwydded, ac
(c) rhaid iddi fod yn gymwys hyd yn oed pan wneir cais am drwydded a phan y’i dyroddir ran o’r ffordd drwy gyfnod trwydded.”
Diwygio Rhan 4 o Orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
10 
Yn erthygl 16 (datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau), yn lle paragraff (2) rhodder “Rhaid i ddatganiadau a hysbysiadau a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a, phan fo’n ymarferol, rhaid i ddatganiadau gael eu gosod mewn lleoliadau amlwg ar y gwely cocos neu gerllaw iddo.”
Diwygio Atodlen 1 (Ardal Benodedig) i Orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
11 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)(c)(i), yn y testun Saesneg, yn lle “High Water Mark or Ordinary Tides” rhodder “High Water Mark of Ordinary Tides”.
Diwygio Atodlen 2 (Amodau trwydded) i Orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
12 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 7 (casglu a didoli cocos), yn y testun Cymraeg, yn lle “ystyrir” rhodder “bernir”.
Diwygio Atodlen 3 (Dirymu a diwygio) i Orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
13 

(1) Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2) Ym mharagraff 3(3), yn lle “the Cockle Management and Permitting (Specified Area) (Wales) Order 2024” rhodder “the Cockle Fishing Management and Permitting (Specified Area) (Wales) Order 2024”;
(3) Ym mharagraff 3(4)(c), yn lle “ym mharagraff 2” rhodder “ym mharagraffau 2 a 3, yn y ddau le y mae’n digwydd”;
(4) Ym mharagraff 6(1), yn y testun Cymraeg, yn lle “Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru” rhodder “De Cymru”.
RHAN 4 Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
14 

(1) Mae Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn y diffiniad o “Parthau Amddiffynedig TAN 15” ym mharagraff (n), yn lle “Gyfoeth Naturiol Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
RHAN 5 Diwygio Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016
15 

(1) Mae Atodlen 5 i Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn y diffiniad o “Parthau Amddiffynedig TAN 15” ym mharagraff (j), yn lle “Gyfoeth Naturiol” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.
Eluned Morgan
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2025