Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro gwallau yn O.S. 2003/3227 (Cy. 308), O.S. 2003/3246 (Cy. 321), O.S. 2007/2611 (Cy. 222), O.S. 2011/656 (Cy. 94), O.S. 2015/1844 (Cy. 272), O.S. 2021/77 (Cy. 20), O.S. 2023/1303 (Cy. 233), O.S. 2024/28 (Cy. 11), O.S. 2024/135 (Cy. 29) ac O.S. 2025/88 (Cy. 22) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offerynnau Statudol hynny.
2025 Rhif 805 (Cy. 142)
Amaethyddiaeth, Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Addysg, Cymru
Arbed Ynni, Cymru
Bwyd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Dŵr, Cymru
Rheoliadau Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Cywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed 6 Gorffennaf 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Gorffennaf 2025
Yn dod i rym 1 Awst 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau—
(a) a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3)(c) a (d) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy;
(b) a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mewn perthynas â Rhan 4, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel syʼn ofynnol gan adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Ymgynghorwyd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Ionawr 2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
(c) a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy;
(d) a roddir gan adran 64(1) a (2)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(e) a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 92(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy;
(f) a roddir gan adrannau 105B(1) a 120A(2)(a) o Ddeddf Adeiladu 1984.Ymgynghorwyd fel sy’n ofynnol gan adran 120C(1) o Ddeddf Adeiladu 1984;
(g) a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 167A a 210(7)(c) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy;
(h) a roddir gan adrannau 11(6) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 4(1)(d) ac (e) a 5 o Atodlen 2 iddi;
(i) a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a), (c), (e) ac (f), 18(1)(c) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mewn perthynas â Rhan 11, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel syʼn ofynnol gan adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Ymgynghorwyd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Ionawr 2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
RHAN 1 Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Cywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2025.
RHAN 2 Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003
2 
Yn Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y testun Cymraeg, yn lle “6(1)” rhodder “7(1)”.
RHAN 3 Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003
3 
Yn Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003, yn yr Atodlen, ym mharagraff 1A, hepgorer is-baragraff (a).
RHAN 4 Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
4 

(1) Mae Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o’r Atodlen—
(a) ym mharagraff 1, yn lle “specified provision of the Regulation”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “provision specified in subsection (1A)”;
(b) ar ôl paragraff 1, mewnosoder—“
1A. 
Mae adran 10 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—“
(1A) The provisions are Articles 3, 4(3), 6(2), 7, 8(1), 9, 10(1) to (3), 12 and 14(2) of Regulation (EC) No 1924/2006 of the European Parliament and of the Council of 20 December 2006 on nutrition and health claims made on foods.””
(3) Yn Rhan 2 o’r Atodlen, ym mharagraff 2—
(a) yn lle “a specified provision of the Regulation”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “any of Articles 3, 4(3), 6(2), 7, 8(1), 9, 10(1) to (3), 12 and 14(2) of Regulation (EC) No 1924/2006 of the European Parliament and of the Council of 20 December 2006 on nutrition and health claims made on foods”;
(b) yn lle “a specified provision of the Regulation”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “any of the provisions specified in paragraph (a)”.
(4) Yn Rhan 3 o’r Atodlen, ym mharagraff 3—
(a) yn lle “(1A)” rhodder “(1)”;
(b) yn lle “(1B)” rhodder “(1A)”.
(5) Yn Rhan 4 o’r Atodlen, ym mharagraff 5, yn lle “unauthorised” rhodder “authorised”.
RHAN 5 Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011
5 
Yn Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011, yn rheoliad 9, ym mharagraff (1)(a)—
(a) yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “yn unol â pharagraff” rhodder “yn unol ag is-baragraff”;
(b) ym mharagraff (ii), yn lle “is-baragraff” rhodder “baragraff”.
RHAN 6 Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
6 
Yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015, yn Atodlen 2, ym mharagraff 40, yn y testun Cymraeg, yn lle “Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol” rhodder “Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net”.
RHAN 7 Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
7 
Yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, yn Atodlen 1A, ym mharagraff 1, yn y testun Cymraeg, yn lle “ddeiliad” rhodder “feddiannydd”.
RHAN 8 Diwygio Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023
8 
Yn Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023, yn rheoliad 8(2)(a), yn y testun Cymraeg, ar ôl “mynd iddynt”, mewnosoder “wrth gyflawni’r swyddogaeth y gellir codi tâl amdani”.
RHAN 9 Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024
9 
Yn Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024, yn rheoliad 1(2), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “awdurdod priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan adran 167A(6)(b) o Ddeddf 2002;”.
RHAN 10 Diwygio Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024
10 
Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
11 
Yn rheoliad 2—
(a) yn lle’r diffiniad o “corff gwasanaeth iechyd” rhodder—“
 ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—
(a) GIG Lloegr fel y’i sefydlwyd gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
(b) y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fel y’i sefydlwyd gan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012,
(c) yr Awdurdod Ymchwil Iechyd fel y’i sefydlwyd gan adran 109 o Ddeddf Gofal 2014,
(d) unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig sydd wedi ei sefydlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf,
(e) unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol,
(f) unrhyw Ymddiriedolaeth y GIG sydd wedi ei sefydlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu
(g) unrhyw Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG sydd wedi ei awdurdodi o dan adran 35 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;”;
(b) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “Bwrdd Gofal Integredig” (“Integrated Care Board”) yw Bwrdd Gofal Integredig sydd wedi ei sefydlu gan GIG Lloegr o dan adran 14Z25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;”.
12 
Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 4(5)—
(i) ym mharagraff (b), ar ôl “yn achos”, mewnosoder “corff gwasanaeth iechyd sy’n”;
(ii) ym mharagraff (c), ar ôl “yn achos”, mewnosoder “corff gwasanaeth iechyd sy’n”;
(b) ym mharagraff 6(1)(a), hepgorer “sydd wedi ei sefydlu o dan adran 11 o’r Ddeddf”.
RHAN 11 Diwygio Rheoliadau Bara a Blawd (Cymru) 2025
13 

(1) Mae Rheoliadau Bara a Blawd (Cymru) 2025 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y testun Cymraeg, yn y diffiniad o “blawd”, yn lle “ac mae’n cynnwys blawd”, rhodder “ac mae’n cynnwys mâl”.
(3) Yn Atodlen 2, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y cofnod ar gyfer “Cyfystyron”, yn yr ail golofn, yn lle “Chalk” rhodder “Sialc”.
(4) Yn Atodlen 3, yn y tabl—
(a) yn y testun Saesneg, yn y cofnod ar gyfer “Definition”, yn yr ail golofn, hepgorer “essentially”;
(b) yn y testun Cymraeg, yn y cofnod ar gyfer “Hydoddedd”, yn yr ail golofn, yn lle “yn ôl pwysau” rhodder “pwysau yn ôl pwysau”.
Eluned Morgan
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2025