
2025 Rhif 801 (Cy. 141)
Pleidiau Gwleidyddol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Senedd Cymru
Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025
Gwnaed 3 Gorffennaf 2025
Yn dod i rym 4 Gorffennaf 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 4 o Atodlen 8 a pharagraff 4 o Atodlen 8A i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”) ac adran 21(1), (2)(a) a (b) a (3)(b) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (“Deddf 2024”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol yn unol â pharagraff 4(2)(a) o Atodlen 8 a pharagraff 4(2)(a) o Atodlen 8A i Ddeddf 2000.
Gwneir y Rheoliadau hyn gyda chydsyniad y Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 21(4) o Ddeddf 2024.

Yn unol ag adran 156(4)(j) a (ja) o Ddeddf 2000 ac adran 22(4)(b) o Ddeddf 2024, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a darpariaeth arbed
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Gorffennaf 2025.
(3) Er bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym o dan baragraff (2), nid ydynt yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad cyffredinol cyffredin neu eithriadol i Senedd Cymru y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2000” yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Eithriad diogelwch mewn cysylltiad â threuliau cymhwysol ar gyfer pleidiau cofrestredig a thrydydd partïon cydnabyddedig
3 

(1) Mae paragraff 2(1)(ea) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 (gwariant ymgyrch: treuliau cymhwysol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ôl “paragraph 3,” mewnosoder “6,”;
(b) ar ôl “parliamentary general elections” mewnosoder “, general elections to Senedd Cymru,”.
(2) Mae paragraff 2(1)(f) o Atodlen 8A i Ddeddf 2000 (gwariant a reolir: treuliau cymhwysol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ôl “paragraph 3,” mewnosoder “6,”;
(b) ar ôl “parliamentary general elections” mewnosoder “, general elections to Senedd Cymru,”.
Amrywio terfynau gwariant ymgyrch pleidiau cofrestredig
4 

(1) Ym mharagraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf 2000 (etholiadau cyffredinol i Senedd Cymru)—
(a) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) The limit applying to campaign expenditure which is incurred by or on behalf of a registered party in the relevant period in Wales is, for each constituency contested by the party, as follows—
(a) where only 1 person stands nominated by the party as a candidate to be a Member of the Senedd for the constituency, the limit is £52,500;
(b) where only 2 people stand nominated by the party as candidates to be Members of the Senedd for the constituency, the limit is £56,000;
(c) where only 3 people stand nominated by the party as candidates to be Members of the Senedd for the constituency, the limit is £59,500;
(d) where only 4 people stand nominated by the party as candidates to be Members of the Senedd for the constituency, the limit is £63,000;
(e) where only 5 people stand nominated by the party as candidates to be Members of the Senedd for the constituency, the limit is £66,500;
(f) where 6, 7 or 8 people stand nominated by the party as candidates to be Members of the Senedd for the constituency, the limit is £70,000.
(2ZA) For the purposes of sub-paragraph (2), a person stands nominated by a party as a candidate to be a Member of the Senedd for the constituency if the person is shown, in a statement of parties and persons nominated published by the returning officer for the constituency in accordance with an order made under section 13 of the Government of Wales Act 2006, as a candidate who has been and stands nominated as a candidate of the party.”;
(b) hepgorer is-baragraffau (2A) a (2B).
(2) Hepgorer adran 10(10)(h)(ii) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (diwygiadau i Ddeddf 2000).
(3) Hepgorer adran 64(3) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (gwariant ymgyrch: sefyll dros fwy nag un blaid mewn etholiadau cyffredin i Senedd Cymru).
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2025