
2025 Rhif 743 (Cy. 128)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 23 Mehefin 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Mehefin 2025
Yn dod i rym 22 Gorffennaf 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551(1) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Gorffennaf 2025.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003
2 
Mae rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2025-2026 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill) neu i baratoi a chynllunio, mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol—
(a) lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgol;
(b) gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar gyfer disgyblion yn yr ysgol;
(c) y cwricwlwm sydd i’w ddarparu yn yr ysgol o dan Rannau 2 a 3 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
(d) y trefniadau asesu sydd i’w gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.”, a
(b) ym mharagraff (2), yn lle “ym mhob blwyddyn ysgol” rhodder “yn y flwyddyn ysgol 2025-26”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Mehefin 2025