
2025 Rhif 72 (Cy. 19) (C. 3)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025
Gwnaed 23 Ionawr 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer sydd wedi ei gynnwys yn adran 30(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 31 Ionawr 2025
2 
Y diwrnod penodedig i adran 11 (hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno) o’r Ddeddf ddod i rym yw 31 Ionawr 2025.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2025