
2025 Rhif 716 (Cy. 124)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025
Gwnaed 18 Mehefin 2025
Yn dod i rym 18 Rhagfyr 2026

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 3(1)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”).
Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’r gofynion ymgynghori yn unol ag adran 3(2) o’r Ddeddf.
Wrth ystyried pa un ai i arfer y pŵer yn adran 3 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd o dan adran 4(1) o’r Ddeddf.

Yn unol ag adran 21(3) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2026.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.
Diwygio paragraff 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf
2 

(1) Diwygir y tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig) i’r Ddeddf fel a ganlyn.
(2) O dan y pennawd “cynhyrchion eraill”, ar ôl y cofnod ar gyfer “ffyn cotwm” mewnosoder—“
Weips gwlyb Esemptiad 1Mewn cysylltiad â chyflenwi, neu gynnig cyflenwi, weip wlyb a ddyluniwyd neu a weithgynhyrchwyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol.”
Diwygio paragraff 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf
3 
Yn y mannau priodol ym mharagraff 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf mewnosoder—
 “mae “meddygol” (“medical”) yn cynnwys llawfeddygol;”;
 “mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys diagnosis;”;
 “ystyr “weip wlyb” (“wet wipe”) yw darn o ffabrig anweedig sydd wedi ei ragwlychu.”
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2025