
2025 Rhif 708 (Cy. 121)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 17 Mehefin 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 18 Mehefin 2025
Yn dod i rym 19 Mehefin 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 140(1)(c) a (d), a 3(c) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).

Mae Gweinidogion Cymru—
(a) yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal yr eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid;
(b) wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail, yn unol ag adran 140(6)(b) o Ddeddf 1990, ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw, fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(c) o Ddeddf 1990.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Mehefin 2025.
Diwygio Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 10(1)(j)(iv), mewnosoder—“
(v) sicrhau ei fod yn cael ei gadw neu ei bod yn cael ei chadw at ddiben cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2025