
2025 Rhif 707 (Cy. 120)
Caffael Cyhoeddus, Cymru
Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 18 Mehefin 2025
Yn dod i rym 23 Mehefin 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 122(3) o Ddeddf Caffael 2023 a pharagraffau 2(6) a 3(3) o Atodlen 2 iddi.

Yn unol ag adran 122(10)(s) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2025.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2024” yw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024.
Diwygio Rheoliadau 2024
3 

(1) Mae Rheoliadau 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “cyfleustod” yr ystyr a roddir i “utility” gan adran 35(4) o Ddeddf 2023;”.
(3) Yn rheoliad 4 (dehongli Rhan 2), hepgorer y diffiniad o “cyfleustod”.
(4) Ar ôl rheoliad 45D (cyfrifiadau gweithredwyr dŵr) mewnosoder—“
Contractau esempt: cyfrifiadau trefniadau fertigol
45E. 

(1) At ddibenion paragraff 2(2)(c) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023 (contractau esempt), mae canran y gweithgareddau a gyflawnir gan berson i’w chyfrifo yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae canran y gweithgareddau a gyflawnwyd gan berson ar gyfer neu ar ran yr awdurdodau contractio neu’r personau eraill a ddisgrifir ym mharagraff 2(2)(c)(ii) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023 i’w chyfrifo drwy gymryd trosiant priodoladwy y person hwnnw fel canran o gyfanswm ei drosiant, dros y cyfnod perthnasol.
(3) Trosiant priodoladwy person yw ei drosiant sy’n deillio o weithgareddau a gyflawnwyd ar ran yr awdurdodau contractio neu’r personau eraill a ddisgrifir ym mharagraff 2(2)(c)(ii) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023.
(4) Pan na fo trosiant priodoladwy na chyfanswm trosiant person ar gael ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan oherwydd bod y person wedi cael ei greu neu wedi cychwyn ei weithgareddau ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae’r trosiant priodoladwy a chyfanswm y trosiant i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (5).
(5) Mae trosiant priodoladwy a chyfanswm trosiant person i’w gyfrifo—
(a) pan na fu trosiant o gwbl yn ystod y cyfnod perthnasol, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drosiant priodoladwy neu gyfanswm y trosiant, yn ôl y digwydd, a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, ar gyfer cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract,
sydd, o’u cyfuno, yn darparu gwybodaeth a rhagamcanion o ran trosiant ar gyfer y cyfnod cyfan o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhyrchwyd unrhyw drosiant gyntaf yn ystod y cyfnod perthnasol.
(6) Pan na fo trosiant priodoladwy na chyfanswm trosiant person ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan, ar ddyddiad dyfarnu’r contract, yn gynrychioliadol o weithgareddau’r person mwyach oherwydd bod y gweithgareddau wedi newid o ganlyniad i ad-drefnu’r person a ddigwyddodd ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae’r trosiant priodoladwy a chyfanswm y trosiant i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (7).
(7) Mae trosiant priodoladwy a chyfanswm trosiant person i’w gyfrifo—
(a) pan na fo trosiant o gwbl wedi ei gynhyrchu ar ôl ad-drefnu, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drosiant priodoladwy neu gyfanswm y trosiant, yn ôl y digwydd, a gynhyrchwyd ar ôl ad-drefnu, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, ar gyfer cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract,
sydd, o’u cyfuno, yn darparu gwybodaeth a rhagamcanion o ran trosiant ar gyfer y cyfnod cyfan o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhyrchwyd unrhyw drosiant gyntaf ar ôl ad-drefnu.
(8) Pan na fo canran y gweithgareddau a gyflawnwyd gan berson, fel y’i cyfrifwyd yn unol â pharagraffau (2) i (7), yn fesur addas o’r gweithgareddau a gyflawnwyd gan berson at ddibenion paragraff 2(2)(c) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023, rhaid cyfrifo canran gweithgareddau o’r fath drwy gymryd, dros y cyfnod perthnasol, un o’r canlynol—
(a) y costau yr aed iddynt gan y person ar weithgareddau a gyflawnwyd ar gyfer neu ar ran yr awdurdodau neu’r personau eraill, fel canran o gyfanswm ei gostau;
(b) yr amser a dreuliwyd gan y person ar weithgareddau a gyflawnwyd ar gyfer neu ar ran yr awdurdodau neu’r personau eraill, fel canran o gyfanswm ei amser;
(c) gwerth y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau a gyflenwyd gan y person i’r awdurdodau neu’r personau eraill, fel canran o gyfanswm gwerth y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau a gyflenwyd gan y person;
(d) gwerth y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau a gyflenwyd i’r person gan yr awdurdodau neu’r personau eraill, fel canran o gyfanswm gwerth y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau a gyflenwyd i’r person.
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “ad-drefnu” (“reorganisation”) yw newid, heblaw newid bach iawn neu ansylweddol, i strwythur, gweithrediadau, cyllid neu berchnogaeth person;
 ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod y paratoir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef mewn perthynas â’r person;
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw naill ai—
(a) y cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â dyddiad dyfarnu’r contract, neu
(b) pan na fo gwybodaeth sy’n ymwneud â throsiant ar gyfer y cyfnod yn is-baragraff (a) ar gael ar ddyddiad dyfarnu’r contract, oherwydd amseriad cyfrifon y person, cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â’r dyddiad y mae’r cyfnod cyfrifyddu olaf cyn dyddiad dyfarnu’r contract y mae gwybodaeth o’r fath ar gael ar ei gyfer yn gorffen;
 ystyr “dyddiad dyfarnu’r contract” (“date of contract award”) yw’r dyddiad y penderfynodd yr awdurdod contractio ddyfarnu’r contract.
Contractau esempt: cyfrifiadau trefniadau llorweddol
45F. 

(1) At ddibenion paragraff 3(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023 (contractau esempt), mae canran y gweithgareddau a ystyrir gan y trefniant llorweddol i’w chyfrifo yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae canran y gweithgareddau y bwriadwyd eu cyflawni, heblaw at ddibenion swyddogaethau cyhoeddus yr awdurdodau contractio, i’w chyfrifo drwy gymryd y trosiant amhriodoladwy a gynhyrchwyd gan weithgareddau’r trefniant llorweddol fel canran o gyfanswm y trosiant a gynhyrchwyd gan weithgareddau’r trefniant llorweddol, dros y cyfnod perthnasol.
(3) Trosiant amhriodoladwy trefniant llorweddol yw trosiant a gynhyrchwyd gan weithgareddau’r trefniant llorweddol y gellir ei briodoli i ddibenion heblaw swyddogaethau cyhoeddus yr awdurdodau contractio.
(4) Pan na fo’r trosiant amhriodoladwy na chyfanswm y trosiant a gynhyrchwyd gan weithgareddau trefniant llorweddol ar gael am y cyfnod perthnasol cyfan oherwydd bod y trefniant wedi cael ei greu, neu fod y gweithgareddau wedi eu cychwyn, ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae’r trosiant amhriodoladwy a chyfanswm y trosiant i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (5).
(5) Mae’r trosiant amhriodoladwy a chyfanswm y trosiant a gynhyrchwyd gan weithgareddau trefniant llorweddol i’w gyfrifo—
(a) pan na fu trosiant o gwbl yn ystod y cyfnod perthnasol, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drosiant amhriodoladwy neu gyfanswm y trosiant, yn ôl y digwydd, a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, ar gyfer cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract,
sydd, o’u cyfuno, yn darparu gwybodaeth a rhagamcanion o ran trosiant ar gyfer y cyfnod cyfan o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhyrchwyd unrhyw drosiant gyntaf yn ystod y cyfnod perthnasol.
(6) Pan na fo trosiant amhriodoladwy na chyfanswm y trosiant a gynhyrchwyd gan weithgareddau trefniant llorweddol ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan, ar ddyddiad dyfarnu’r contract, yn gynrychioliadol o weithgareddau’r trefniant llorweddol mwyach oherwydd bod y gweithgareddau wedi newid o ganlyniad i ad-drefnu’r trefniant llorweddol a ddigwyddodd ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae’r trosiant amhriodoladwy a chyfanswm y trosiant i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (7).
(7) Mae’r trosiant amhriodoladwy a chyfanswm y trosiant a gynhyrchwyd gan weithgareddau trefniant llorweddol i’w gyfrifo—
(a) pan na fo trosiant o gwbl wedi ei gynhyrchu ar ôl ad-drefnu neu ar ôl y newid mewn gweithgareddau, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drosiant amhriodoladwy neu gyfanswm y trosiant, yn ôl y digwydd, a gynhyrchwyd ar ôl ad-drefnu neu ar ôl y newid mewn gweithgareddau, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, ar gyfer cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dyfarnu’r contract,
sydd, o’u cyfuno, yn darparu gwybodaeth a rhagamcanion o ran trosiant ar gyfer y cyfnod cyfan o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhyrchwyd unrhyw drosiant gyntaf ar ôl ad-drefnu neu ar ôl y newid mewn gweithgareddau.
(8) Pan na fo canran y gweithgareddau y bwriadwyd eu cyflawni, heblaw at ddibenion swyddogaethau cyhoeddus yr awdurdodau contractio, fel y’i cyfrifwyd yn unol â pharagraffau (2) i (7), yn fesur addas o’r gweithgareddau y bwriadwyd eu cyflawni gan y trefniant at ddibenion paragraff 3(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023, rhaid cyfrifo canran gweithgareddau o’r fath drwy gymryd, dros y cyfnod perthnasol, un o’r canlynol—
(a) y costau yr aed iddynt mewn cysylltiad â gweithgareddau’r trefniant llorweddol at ddibenion heblaw swyddogaethau cyhoeddus yr awdurdodau, fel canran o gyfanswm ei gostau;
(b) yr amser a dreuliwyd mewn cysylltiad â gweithgareddau’r trefniant llorweddol at ddibenion heblaw swyddogaethau cyhoeddus yr awdurdodau, fel canran o gyfanswm ei amser;
(c) gwerth y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau a gyflenwyd mewn cysylltiad â gweithgareddau’r trefniant llorweddol at ddibenion heblaw swyddogaethau cyhoeddus yr awdurdodau, fel canran o gyfanswm gwerth y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau a gyflenwyd mewn cysylltiad â’r gweithgareddau.
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “ad-drefnu” (“reorganisation”) yw newid, heblaw newid bach iawn neu ansylweddol, i unrhyw un neu ragor o delerau’r trefniant llorweddol mewn cysylltiad—
(a) â gweithgareddau’r trefniant llorweddol, neu
(b) pan fo’r trefniant yn sefydlu person i ymgymryd â’r gweithgareddau hynny, â strwythur, gweithrediadau, cyllid neu berchnogaeth y person hwnnw;
 ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod y paratoir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef mewn perthynas â gweithgareddau’r trefniant llorweddol;
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw naill ai—
(a) y cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â dyddiad dyfarnu’r contract, neu
(b) pan na fo gwybodaeth sy’n ymwneud â throsiant ar gyfer y cyfnod yn is-baragraff (a) ar gael ar ddyddiad dyfarnu’r contract, oherwydd amseriad paratoi cyfrifon sy’n ymwneud â gweithgareddau’r trefniant llorweddol, cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â’r dyddiad y mae’r cyfnod cyfrifyddu olaf cyn dyddiad dyfarnu’r contract y mae gwybodaeth o’r fath ar gael ar ei gyfer yn gorffen;
 ystyr “dyddiad dyfarnu’r contract” (“date of contract award”) yw’r dyddiad y penderfynodd yr awdurdod contractio ddyfarnu’r contract;
 ystyr “gweithgareddau’r trefniant llorweddol” (“horizontal arrangement’s activities”) yw’r gweithgareddau a ystyrir gan drefniant llorweddol, neu yr ymgymerir â hwy yn unol â threfniant llorweddol.”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2025