
2025 Rhif 698 (Cy. 117) (C. 29)
Cynllunio Seilwaith, Cymru
Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025
Gwnaed 16 Mehefin 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 147(2) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.
Enw
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Rhagfyr 2025
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Rhagfyr 2025, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) Rhannau 2 a 3,
(b) Rhan 4 ac eithrio adran 40(2) (penodi awdurdod archwilio i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(c) Rhan 5,
(d) adrannau 63 i 89,
(e) adran 92(1)(a) a (b) a (2),
(f) adrannau 94 a 95,
(g) adran 96(1) i (4) a (7),
(h) adrannau 97 i 102, Rhan 7,
(i) Rhan 8 ac eithrio adran 124(3)(a)(ii) (cyngor, gwybodaeth neu gymorth arall a ddarperir mewn cysylltiad â chais neu gais arfaethedig i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith),
(j) adran 145,
(k) Atodlen 1, ac
(l) Atodlen 3.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Rhagfyr 2025 i’r graddau a bennir
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Rhagfyr 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a) adran 92(3) mewn perthynas â gorchymyn a wneir yn rhinwedd adran 87(4) (cywiro gwallau mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n offeryn statudol), a
(b) adran 96(6) ac (8) (heriau cyfreithiol) mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2025