
2025 Rhif 691 (Cy. 115)
Cynllunio Seilwaith, Cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025
Gwnaed 14 Mehefin 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17 Mehefin 2025
Yn dod i rym 15 Rhagfyr 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 30(2), 32(4) a (5), 34(2)(c), 35(1), 38(3), 39, 44(1), (2)(a) ac (c), 60(2)(d) a (4)(d), 65(4), 72(1) a (2), 140(1) a (2) a 141(2)(a) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2025.
Cymhwyso
2 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a) cais am gydsyniad seilwaith o dan Ddeddf 2024 sy’n cynnwys archiad caffael gorfodol, a
(b) archiad i amrywio cais i gynnwys archiad caffael gorfodol am dir ychwanegol.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “archiad caffael gorfodol” (“compulsory acquisition request”) yw archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir;
 ystyr “ardal forol Cymru” (“Welsh marine area”) yw’r môr sy’n gyfagos i Gymru hyd at derfyn atfor y môr tiriogaethol; ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999;
 ystyr “awdurdod archwilio” (“examining authority”) yw person neu banel o bersonau a benodir o dan adran 40 o Ddeddf 2024 mewn cysylltiad â chais penodol;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad seilwaith a wneir o dan adran 32 o Ddeddf 2024 ac mae’n cynnwys cais arfaethedig a chais fel y’i hamrywiwyd;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n cynnig gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais, am gydsyniad seilwaith;
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o Ddeddf 2024;
 mae i “cyfeirlyfr” (“book of reference”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 13;
 ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972););
 mae i “y darpar brynwr” (“the prospective purchaser”) yr un ystyr ag yn adran 72 o Ddeddf 2024;
 mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 a rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007;
 mae i “datganiad declarasiwn breinio cyffredinol” (“general vesting declaration statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 30;
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;
 ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn a wneir o dan Ddeddf 2024 sy’n rhoi cydsyniad seilwaith;
 ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” (“special Senedd procedure”) yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd;
 mae i “hawliad perthnasol” (“relevant claim”) yr ystyr a roddir gan adran 28(13) o Ddeddf 2024;
 mae i “hysbysiad caffael gorfodol” (“compulsory acquisition notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29;
 ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”) yw person a chanddo fuddiant yn y tir y mae’r archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef neu unrhyw ran o’r tir hwnnw;
 ystyr “person ychwanegol a chanddo fuddiant” (“additional interested person”) yw person â chanddo fuddiant na roddwyd hysbysiad ysgrifenedig iddo yn unol â rheoliad 5, 7 neu 16;
 ystyr “Rheoliadau Archwiliadau 2025” (“the 2025 Examination Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025;
 ystyr “Rheoliadau Ceisiadau 2025” (“the 2025 Application Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025;
 mae i “tir” (“land”) yr un ystyr ag yn Neddf 2024 (gweler adran 143) ac mae’n cynnwys unrhyw fuddiant mewn tir neu hawl drosto;
 ystyr “tir categori arbennig” (“special category land”) yw tir y nodir ei fod yn ffurfio rhan o dir comin, man agored, tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu randir tanwydd neu ardd gae;
 ystyr “tir ychwanegol” (“additional land”) yw tir nad yw’n ddarostyngedig i archiad caffael gorfodol naill ai mewn cais a dderbyniwyd fel cais dilys neu mewn cais a amrywiwyd;
 mae i “tir y gorchymyn” (“the order land”) yr un ystyr ag yn adran 72 o Ddeddf 2024.
Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill
4 
Gweler adran 136 o Ddeddf 2024 mewn perthynas â darpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu’n awdurdodi person i—
(a) hysbysu person arall am rywbeth, neu
(b) rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno”, “rhoi” neu derm arall).
RHAN 2 Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais
Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd: hysbysiad ysgrifenedig pan fo cais arfaethedig yn cynnwys archiad caffael gorfodol
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys yn ogystal â rheoliadau 8 a 10 o Reoliadau Ceisiadau 2025.
(2) Pan fo’n ofynnol i geisydd gynnal ymgynghoriad o dan adran 30(1) o Ddeddf 2024, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o’r cais arfaethedig i unrhyw berson y gwyddys, ar ôl cynnal ymchwiliad diwyd, ei fod yn berson a chanddo fuddiant.
Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn hysbysiadau
6 
Yn ogystal â’r gofynion yn rheoliad 11 o Reoliadau Ceisiadau 2025, rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys manylion y tir sydd wedi ei gynnwys yn yr archiad caffael gorfodol.
Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd: hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer personau ychwanegol a chanddynt fuddiant
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn nodi person ychwanegol a chanddo fuddiant ar ôl rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 5(2).
(2) Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad ysgrifenedig o’r cais arfaethedig i unrhyw berson ychwanegol a chanddo fuddiant o fewn 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y nodir y person.
(3) Pan fo ceisydd yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2) rhaid iddo ar yr un pryd roi hysbysiad i Weinidogion Cymru yn cadarnhau bod yr hysbysiad wedi ei roi i’r person ychwanegol a chanddo fuddiant.
Estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno cais
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r dyddiad a bennir ar gyfer cael sylwadau yn yr hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 7(2)—
(a) o fewn y 56 o ddiwrnodau olaf o’r cyfnod o 18 mis ar gyfer cyflwyno cais o dan reoliad 14(1) o Reoliadau Ceisiadau 2025 (y cyfnod y mae rhaid gwneud ceisiadau o’i fewn), neu
(b) ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(2) Yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn (1), mae’r cyfnod o 18 mis ar gyfer cyflwyno cais yn cael ei estyn 49 o ddiwrnodau.
(3) Yn y rheoliad hwn, pan fo’r cyfnod o 18 mis ar gyfer cyflwyno cais yn cael ei estyn yn unol â rheoliad 14(2) o Reoliadau Ceisiadau 2025, ystyr y cyfnod o 18 mis yw’r cyfnod hwnnw fel y’i hymestynnir.
RHAN 3 Ceisiadau
Ceisiadau sy’n cynnwys archiad caffael gorfodol: gofynion ychwanegol
9 

(1) Yn ogystal â’r gofynion yn rheoliad 15 o Reoliadau Ceisiadau 2025, rhaid i gais am gydsyniad seilwaith gynnwys—
(a) cyfeirlyfr (gweler rheoliad 13),
(b) datganiad o’r rhesymau sy’n cyfiawnhau’r archiad caffael gorfodol,
(c) datganiad cyllid sy’n esbonio sut y mae’r caffaeliad gorfodol i’w ariannu,
(d) plan sy’n nodi unrhyw dir y mae’r archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef, gan gynnwys y tir hwnnw a fyddai’n cael ei ddiogelu rhag cael ei ddatblygu, unrhyw dir y byddai hawliau preifat drosto yn cael eu diddymu ac unrhyw dir categori arbennig neu dir amnewid, a
(e) dogfen groesgyfeirio.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “dogfen groesgyfeirio” yw dogfen sy’n croesgyfeirio sylwadau cyn gwneud cais oddi wrth bersonau a chanddynt fuddiant â’r cyfeirlyfr ar y ffurf briodol a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
Hysbysiad o bersonau a chanddynt fuddiant mewn tir y mae archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef
10 

(1) O fewn 7 niwrnod i gael hysbysiad o dan adran 33(3) o Ddeddf 2024, rhaid i’r ceisydd roi i Weinidogion Cymru yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 38(2).
(2) Rhaid i’r hysbysiad fod ar y ffurf briodol a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
Hysbysiad o gais dilys
11 
Yn ogystal â’r personau a bennir yn adran 34(2) o Ddeddf 2024 a rheoliad 23 o Reoliadau Ceisiadau 2025, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o gais dilys i unrhyw berson a nodir yn y cyfeirlyfr.
Cynnwys hysbysiad o gais dilys
12 
Yn ogystal ag unrhyw ofynion yn adran 34(4)(a) o Ddeddf 2024 a rheoliad 24 o Reoliadau Ceisiadau 2025, rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys datganiad y caiff y gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi caffael gorfodol.
Ystyr “cyfeirlyfr”
13 

(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cyfeirlyfr” yw dogfen mewn pedair rhan ynghyd â phlan.
(2) Rhaid i’r rhan gyntaf gynnwys manylion enwau, cyfeiriadau a gwybodaeth gyswllt pob person sydd yn—
(a) perchennog, lesddeiliad, tenant neu feddiannwr y tir;
(b) person a chanddo fuddiant yn y tir, neu sydd â’r pŵer i werthu, trawsgludo neu ryddhau’r tir.
(3) Rhaid i’r ail ran gynnwys manylion enwau, cyfeiriadau a gwybodaeth gyswllt pob person sy’n mwynhau hawliau preifat dros y tir, gan gynnwys hawliau mordwyo, y cynigir y byddant yn cael eu diddymu, eu hatal dros dro neu yr ymyrrir â hwy.
(4) Rhaid i’r drydedd ran gynnwys manylion enwau, cyfeiriadau a gwybodaeth gyswllt unrhyw berchennog ar fuddiant y Goron yn y tir.
(5) Rhaid i’r bedwaredd ran gynnwys manylion tir categori arbennig, tir amnewid a thir y gallai gorchymyn cydsyniad seilwaith fod yn ddarostyngedig i Weithdrefn Arbennig y Senedd o ganlyniad iddo.
(6) Rhaid i’r plan ddangos unrhyw dir a fydd yn ddarostyngedig i gaffael gorfodol a nodi—
(a) unrhyw dir na fyddai, pe bai’n cael ei gaffael, yn agored i ddatblygiad;
(b) unrhyw dir a fyddai, pe bai’n cael ei gaffael, yn ddarostyngedig i ddiddymu hawliau preifat;
(c) unrhyw dir categori arbennig a fyddai’n ddarostyngedig i gaffael gorfodol;
(d) unrhyw dir amnewid.
(7) Rhaid i’r manylion a gynhwysir ym mhob rhan o’r cyfeirlyfr gael eu diweddaru gan y ceisydd tan ddiwedd unrhyw gyfnod archwilio a nodir mewn amserlen a osodir neu a ddiweddarir gan yr awdurdod archwilio.
(8) Pan fo’r ceisydd yn diweddaru’r manylion yn y cyfeirlyfr, rhaid iddo roi hysbysiad o’r newid i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(9) Yn y rheoliad hwn mae i “buddiant y Goron” yr ystyr a roddir yn adran 134(3) o Ddeddf 2024.
RHAN 4 Amrywio ceisiadau i gynnwys tir ychwanegol
Gweithdrefn ragnodedig ar gyfer awdurdodi caffael tir yn orfodol
14 
Mae rheoliadau 15 i 20 yn rhagnodi’r weithdrefn at ddibenion adran 65(4) o Ddeddf 2024 (tir y gall awdurdodiad i gaffael yn orfodol ymwneud ag ef).
Ymgynghoriad ar ôl dilysu
15 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r ceisydd, ar ôl i Weinidogion Cymru dderbyn cais fel un dilys o dan adran 33 o Ddeddf 2024, yn nodi person ychwanegol a chanddo fuddiant neu dir ychwanegol y mae archiad caffael gorfodol yn ofynnol ar ei gyfer.
(2) Rhaid i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y nodir y person ychwanegol a chanddo fuddiant neu’r tir ychwanegol, roi hysbysiad i—
(a) unrhyw berson a chanddo fuddiant,
(b) unrhyw berson ychwanegol a chanddo fuddiant,
(c) unrhyw berson a fyddai â hawlogaeth neu a allai fod â hawlogaeth i wneud hawliad perthnasol o ganlyniad i gaffael yn orfodol y tir ychwanegol.
(3) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—
(a) enw’r ceisydd,
(b) lleoliad y datblygiad arfaethedig,
(c) crynodeb o’r datblygiad arfaethedig,
(d) manylion tir a fyddai’n ddarostyngedig i gaffael gorfodol,
(e) manylion ynghylch sut y gellir cyrchu’r wefan sy’n ofynnol o dan reoliad 25 (Rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau dilys: gwefan) o Reoliadau Ceisiadau 2025,
(f) manylion ynghylch sut y mae unrhyw sylwadau i’w cyflwyno, ac
(g) y dyddiad erbyn pa bryd y mae unrhyw sylwadau i ddod i law, y mae rhaid iddo fod yn 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(4) Pan fo’r ceisydd yn rhoi hysbysiad yn unol â (2) rhaid iddo ar yr un pryd hysbysu Gweinidogion Cymru bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal.
Archiad i amrywio cais i gynnwys caffael tir ychwanegol yn orfodol
16 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r ceisydd, ar ôl i Weinidogion Cymru dderbyn cais fel un dilys, yn gwneud archiad i amrywio’r cais hwnnw i gynnwys archiad caffael gorfodol am dir ychwanegol.
(2) Rhaid i’r ceisydd gyflwyno unrhyw archiad i amrywio’r cais yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ar gyfer y tir hwnnw yn unol â rheoliad 15(3)(g).
(3) Rhaid i’r archiad i amrywio’r cais gynnwys—
(a) cyfeirlyfr,
(b) datganiad o’r rhesymau sy’n cyfiawnhau’r archiad caffael gorfodol,
(c) datganiad o’r rhesymau dros yr amrywio,
(d) datganiad o’r rhesymau pam na chafodd y tir ychwanegol ei gynnwys yn y cais fel y’i gwnaed,
(e) datganiad o’r rhesymau pam na ellid bod wedi gwneud yr archiad i amrywio’r cais yn gynharach,
(f) datganiad cyllid sy’n esbonio sut y caiff y caffaeliad gorfodol ei ariannu,
(g) dogfen sy’n cynnwys manylion unrhyw berson a fyddai neu a allai fod â hawlogaeth i wneud hawliad perthnasol pe bai’r cydsyniad seilwaith arfaethedig yn cael ei weithredu,
(h) dogfen groesgyfeirio,
(i) datganiad o sut, ym marn y ceisydd, y gellid archwilio’r cais a amrywiwyd yn briodol o fewn yr amserlen ar gyfer penderfynu ar y cais yn unol ag adran 59 o Ddeddf 2024, a
(j) unrhyw ffi sy’n ofynnol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “dogfen groesgyfeirio” yw dogfen sy’n croesgyfeirio sylwadau oddi wrth bersonau a chanddynt fuddiant â’r cyfeirlyfr ar y ffurf briodol a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
Derbyn archiad i amrywio cais i gynnwys caffael tir ychwanegol yn orfodol
17 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael archiad i amrywio cais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt benderfynu pa un ai i dderbyn yr archiad o fewn 15 o ddiwrnodau i’r dyddiad y cafwyd yr archiad.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru dderbyn archiad ond os bodlonir y gofynion a nodir yn rheoliad 16.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y bydd y cais fel y’i hamrywiwyd yn arwain at newid sylweddol yn natur y datblygiad y ceisir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer, ni chaniateir iddynt dderbyn yr archiad.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â derbyn archiad, rhaid iddynt roi hysbysiad o’r penderfyniad a’r rhesymau i’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn yr archiad, mae’r cais wedi ei amrywio.
Estyn yr amserlen ar gyfer penderfynu ar archiad i amrywio cais i gynnwys caffael tir ychwanegol yn orfodol
18 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i estyn yr amserlen ar gyfer penderfynu ar archiad i amrywio cais.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd o dan baragraff (1) rhaid iddynt roi hysbysiad ysgrifenedig o’r estyniad i’r ceisydd ac unrhyw berson a hysbysir o dan reoliad 15(2).
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) bennu’r dyddiad erbyn pryd y gwneir penderfyniad ynghylch derbyn yr archiad.
Hysbysiad o gais a amrywiwyd
19 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn archiad i amrywio cais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad o’r cais a amrywiwyd i—
(a) y ceisydd,
(b) pawb a chanddynt fuddiannau mewn tir a nodir yn y cyfeirlyfr nad ydynt eisoes wedi eu hysbysu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 11,
(c) unrhyw berson a fyddai neu a allai fod â hawlogaeth i wneud hawliad perthnasol nad yw eisoes wedi ei hysbysu o dan y rheoliad hwn neu reoliad 23 (Hysbysiad o gais dilys) o Reoliadau Ceisiadau 2025, a
(d) unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y dylid yn rhesymol ei hysbysu am y cais.
(2) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—
(a) enw’r ceisydd,
(b) datganiad bod yr archiad i amrywio cais wedi ei dderbyn gan Weinidogion Cymru,
(c) y dyddiad y derbyniwyd yr amrywiad,
(d) y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i’r cais gan Weinidogion Cymru,
(e) lleoliad y datblygiad arfaethedig,
(f) crynodeb o’r datblygiad arfaethedig,
(g) disgrifiad o’r tir y mae’r archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef,
(h) datganiad o ddiben y caffael gorfodol,
(i) datganiad yn pennu pa un a yw’r cais yn cynnwys datganiad amgylcheddol,
(j) manylion ynghylch ym mha le ac yn ystod pa oriau y mae copi o’r cais ar gael i edrych arno,
(k) manylion ynghylch sut y gellir cyrchu’r wefan sy’n ofynnol o dan reoliad 25 (Rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau dilys: gwefan) o Reoliadau Ceisiadau 2025,
(l) manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau, ac
(m) y dyddiad erbyn pryd y mae unrhyw sylwadau i ddod i law, y mae rhaid iddo fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
Rhoi cyhoeddusrwydd i gais a amrywiwyd
20 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn archiad i amrywio cais o dan reoliad 17.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod copi o’r cais ar gael i’r cyhoedd edrych arno, ar bob adeg resymol, mewn man yn ardal leol yr hyn a fydd yn dir y gorchymyn os rhoddir y cydsyniad seilwaith.
(3) Pan fydd unrhyw ddatblygiad a awdurdodir gan y cydsyniad seilwaith yn digwydd yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru arddangos hysbysiad (“hysbysiad safle”) mewn o leiaf un man ar yr hyn a fydd yn dir y gorchymyn neu gerllaw iddo am ddim llai na 28 o ddiwrnodau.
(4) Pan fo datblygiad yn ymwneud â chynllun llinellol sy’n fwy na 5km o hyd, rhaid arddangos hysbysiad safle bob 5km o leiaf o ddechrau hyd at ddiwedd y llwybr arfaethedig oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny.
(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad safle gynnwys—
(a) enw’r ceisydd,
(b) datganiad bod yr archiad i amrywio’r cais wedi ei dderbyn gan Weinidogion Cymru,
(c) y dyddiad y derbyniwyd yr archiad,
(d) y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i’r cais gan Weinidogion Cymru,
(e) lleoliad y datblygiad arfaethedig,
(f) crynodeb o’r datblygiad arfaethedig,
(g) disgrifiad o’r tir y mae’r archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef,
(h) datganiad o ddiben y caffael gorfodol,
(i) datganiad yn pennu a yw’r cais yn cynnwys datganiad amgylcheddol,
(j) manylion ynghylch ym mha le ac yn ystod pa oriau y mae copi o’r cais ar gael i edrych arno,
(k) manylion ynghylch sut y gellir cyrchu’r wefan sy’n ofynnol o dan reoliad 25 (Rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau dilys: gwefan) o Reoliadau Ceisiadau 2025,
(l) manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau, ac
(m) y dyddiad erbyn pryd y mae unrhyw sylwadau i ddod i law, y mae rhaid iddo fod yn 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y caiff yr hysbysiad ei arddangos gyntaf.
(6) Pan fo hysbysiad safle yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau, trinnir Gweinidogion Cymru fel pe baent wedi cydymffurfio â’r paragraff perthnasol os ydynt wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r cais am un wythnos mewn un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr hyn a fydd yn dir y gorchymyn os rhoddir y cydsyniad seilwaith.
(8) Pan fydd unrhyw ddatblygiad a awdurdodir gan y cydsyniad seilwaith yn digwydd yn ardal forol Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hefyd gyhoeddi hysbysiad o’r cais yn—
(a) Lloyd’s List, a
(b) un cyfnodolyn pysgota, os oes un mewn cylchrediad.
(9) Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (7) neu (8) gynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (5).
RHAN 5 Sylwadau
Sylwadau ynghylch cais
21 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael sylw ynghylch cais oddi wrth berson a nodir yn y cyfeirlyfr, rhaid iddynt roi manylion y sylw hwnnw i’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2) Pan fo ceisydd yn cael manylion sylw, rhaid iddo ddiweddaru unrhyw ddogfen groesgyfeirio a ddarperir o dan reoliadau 9 neu 16.
(3) Pan fo ceisydd yn diweddaru’r ddogfen groesgyfeirio, rhaid iddo ddarparu’r ddogfen wedi ei diweddaru i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad yr oedd y sylw i ddod i law fel y nodir mewn unrhyw hysbysiad.
RHAN 6 Y weithdrefn archwilio a hysbysiad o benderfyniadau
Cyfarfod ynghylch y weithdrefn archwilio
22 

(1) Oni bai bod paragraff (7) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod archwilio gynnal cyfarfod cyn dyfarnu’r weithdrefn ar gyfer archwilio cais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad caffael gorfodol neu sydd wedi ei amrywio i gynnwys archiad caffael gorfodol am dir ychwanegol.
(2) Rhaid i’r awdurdod archwilio wahodd y canlynol i’r cyfarfod—
(a) y ceisydd;
(b) pob person a nodir yn y cyfeirlyfr;
(c) unrhyw berson arall y mae’r awdurdod archwilio yn ystyried y dylid rhoi gwybod yn rhesymol iddo am y cyfarfod.
(3) Rhaid i’r gwahoddiad—
(a) datgan pa un a yw’r cyfarfod i gael ei gynnal yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy ddulliau electronig a darparu manylion ynghylch sut y gellir mynychu’r cyfarfod;
(b) pennu dyddiad ac amser y cyfarfod, y mae rhaid iddo fod o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir y gwahoddiad;
(c) gofyn i bob person a nodir yn y cyfeirlyfr gyflwyno sylwadau ynghylch y weithdrefn ar gyfer archwilio caffael tir yn orfodol.
(4) Caiff person a wahoddir i’r cyfarfod gyflwyno sylwadau, ynghylch y weithdrefn ar gyfer archwilio caffael tir yn orfodol, yn ysgrifenedig cyn i’r cyfarfod gael ei gynnal neu yn y cyfarfod.
(5) Caiff yr awdurdod archwilio gynnal y cyfarfod yn absenoldeb unrhyw berson y rhoddwyd gwahoddiad iddo os yw’n ystyried bod hynny’n hwylus.
(6) Rhaid i’r awdurdod archwilio lunio nodyn o’r cyfarfod a sicrhau ei fod ar gael cyn gynted ag y bo’n ymarferol i unrhyw berson a fynychodd y cyfarfod neu a wahoddwyd iddo.
(7) Pan fo’r awdurdod archwilio eisoes wedi penderfynu bod pwnc caffael tir yn orfodol i’w archwilio drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol, nid oes angen iddo gynnal cyfarfod gweithdrefn, ond caiff wneud hynny os yw’n ystyried bod hynny’n hwylus.
Dyfarnu’r weithdrefn pan fo cais yn cael ei amrywio i gynnwys archiad caffael gorfodol am dir ychwanegol
23 
Rhaid i’r awdurdod archwilio ddyfarnu’r weithdrefn ar gyfer archwilio cais sydd wedi ei amrywio o dan y Rheoliadau hyn, erbyn y diweddaraf o blith—
(a) diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a bennir yn rheoliad 10(1) o Reoliadau Archwiliadau 2025 (dyfarniad o’r weithdrefn), neu
(b) diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir at ddibenion rheoliad 20(5)(m).
Penderfynu ar amserlen ar gyfer archwiliad pan fo cais yn cael ei amrywio i gynnwys archiad caffael gorfodol am dir ychwanegol
24 

(1) Pan fo’r awdurdod archwilio wedi dyfarnu’r weithdrefn ar gyfer archwilio cais sydd wedi ei amrywio o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddo lunio amserlen, neu os oes un wedi ei lunio o dan reoliad 11(1) o Reoliadau Archwiliadau 2025, amrywio’r amserlen ar gyfer archwilio’r cais.
(2) Pan fo’r awdurdod archwilio yn llunio neu’n amrywio amserlen o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo wahodd unrhyw berson a nodir yn y cyfeirlyfr i gyflwyno sylwadau pellach ynghylch caffael ei dir yn orfodol mewn unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad lleol os cynhelir un, neu fel arall yn ysgrifenedig.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr amserlen yw amserlen ar y ffurf a nodir yn rheoliad 11(2) o Reoliadau Archwiliadau 2025.
Addasu Rheoliadau Archwiliadau 2025 pan fo cais yn cael ei amrywio i gynnwys archiad caffael gorfodol am dir ychwanegol
25 
Pan fo cais yn cael ei amrywio o dan y Rheoliadau hyn, mae Rheoliadau Archwiliadau 2025 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae’r cyfnod ar gyfer sylwadau yn y diffiniad o “sylwadau ysgrifenedig cychwynnol” i gynnwys y cyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad a bennir o dan reoliad 20(5)(m) o’r Rheoliadau hyn;
(b) mae’r diffiniad o “parti a chanddo fuddiant” yn cynnwys unrhyw berson a nodir yn y cyfeirlyfr.
Hysbysiad o benderfyniadau
26 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniadau ar gais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad caffael gorfodol neu sydd wedi ei amrywio yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 60(2) o Ddeddf 2024 ac Atodlen 2 i Reoliadau Archwiliadau 2025, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i naill ai wneud gorchymyn cydsyniad seilwaith neu wrthod cydsyniad seilwaith i unrhyw berson a restrir yn y cyfeirlyfr.
(3) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 60(4) o Ddeddf 2024 ac Atodlen 2 i Reoliadau Archwiliadau 2025, rhaid i’r awdurdod archwilio roi hysbysiad o’r penderfyniad naill ai bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i gael ei wneud neu i wrthod cydsyniad seilwaith i unrhyw berson a restrir yn y cyfeirlyfr.
Hysbysiad o resymau
27 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddatganiad a lunnir o dan adran 62(1) neu (2) o Ddeddf 2024 mewn perthynas â phenderfyniad ar gais sy’n cynnwys archiad caffael gorfodol neu sydd wedi ei amrywio yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 62(3) o Ddeddf 2024 ac Atodlen 2 i Reoliadau Archwiliadau 2025, rhaid i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio (yn ôl y digwydd) ddarparu copi o’r datganiad i’r personau a restrir yn y cyfeirlyfr.
RHAN 7 Y weithdrefn pan roddir cydsyniad seilwaith
Hysbysiad o awdurdodiad i gaffael yn orfodol
28 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.
(2) Rhaid i’r darpar brynwr—
(a) sicrhau bod copi o’r gorchymyn cydsyniad seilwaith ar gael i’r cyhoedd edrych arno, ar bob adeg resymol, mewn man yn ardal leol tir y gorchymyn;
(b) rhoi hysbysiad caffael gorfodol i unrhyw berson a fyddai’n berson cymwys at ddibenion adran 12(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (hysbysiad i berchnogion, lesddeiliaid, meddianwyr ac eraill);
(c) gosod hysbysiad caffael gorfodol ar wrthrych neu wrthrychau amlwg ar dir y gorchymyn neu gerllaw iddo fel ei fod yn weladwy gan y cyhoedd.
(3) Dylid cyfeirio hysbysiad a osodir ar wrthrych at unrhyw berson sy’n meddiannu’r tir ac unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir.
Ffurf hysbysiad caffael gorfodol
29 

(1) Rhaid i hysbysiad caffael gorfodol, yn ogystal â’r gofynion yn adran 72(2) o Ddeddf 2024, gynnwys—
(a) enw’r gorchymyn cydsyniad seilwaith (y Gorchymyn),
(b) y dyddiad y gwnaed y Gorchymyn,
(c) datganiad o ddiben y ddarpariaeth sy’n awdurdodi caffael gorfodol,
(d) manylion ynghylch ym mha le ac yn ystod pa oriau y mae copi o’r Gorchymyn ar gael i edrych arno, ac
(e) datganiad na chaniateir herio’r Gorchymyn ond yn unol ag adran 96 o Ddeddf 2024.
(2) Pan fo’r Gorchymyn yn cymhwyso Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, rhaid i’r hysbysiad caffael gorfodol hefyd gynnwys—
(a) enw’r darpar brynwr,
(b) datganiad y caniateir caffael tir drwy weithredu declarasiwn breinio cyffredinol o dan adran 4 o’r Ddeddf honno,
(c) atodlen sy’n nodi tir a allai fod yn ddarostyngedig i ddeclarasiwn breinio cyffredinol,
(d) datganiad declarasiwn breinio cyffredinol, ac
(e) gwahoddiad i unrhyw berson a fyddai’n gallu hawlio digollediad mewn perthynas â’r tir a nodwyd i ddarparu—
(i) enw a chyfeiriad unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir,
(ii) disgrifiad o’r tir y ceir y buddiant ynddo, a
(iii) disgrifiad o’r buddiant a ddelir yn y tir.
Datganiad declarasiwn breinio cyffredinol
30 
Rhaid i ddatganiad declarasiwn breinio cyffredinol gynnwys—
(a) y caiff y darpar brynwr gaffael unrhyw dir a nodwyd drwy weithredu declarasiwn breinio cyffredinol o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981,
(b) bod rhaid i’r darpar brynwr gyflwyno hysbysiad o ddeclarasiwn breinio cyffredinol i bob meddiannydd ar y tir y mae’n ymwneud ag ef, ac i unrhyw berson sydd wedi darparu gwybodaeth berthnasol mewn ymateb i’r gwahoddiad sy’n ofynnol gan reoliad 29(2)(e),
(c) pan gyflwynir yr hysbysiadau yn (b) y bydd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, nad yw’n llai na thri mis, yn dechrau,
(d) ar y dyddiad breinio, sef y diwrnod ar ôl i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad ddod i ben, y bydd y tir a ddisgrifir yn y datganiad yn cael ei freinio yn y darpar brynwr ac y bydd ganddo hawlogaeth i fynd ar y tir a’i feddiannu,
(e) y bydd gan bob person y gallai’r darpar brynwr fod wedi cyflwyno hysbysiad i drafod telerau iddo hawlogaeth i hawlio digollediad am gaffael ei fuddiant yn y tir, ac y bydd llog yn cronni ar y digollediad hwnnw o’r dyddiad breinio,
(f) na fydd declarasiwn breinio cyffredinol yn gymwys i denantiaeth o flwyddyn neu lai, neu denantiaeth hir sydd i ddod i ben o fewn 12 mis i roi’r hysbysiad,
(g) y bydd tenantiaeth o’r fath yn ddarostyngedig i hysbysiad i drafod telerau ar wahân, ac
(h) y bydd breinio’r tir yn ddarostyngedig i denantiaeth o’r fath hyd nes y daw’r denantiaeth i ben neu nes y daw cyfnod o ddim llai na 3 mis ar ôl cyflwyno hysbysiad o fwriad y darpar brynwr i gymryd meddiant o’r tir i’r tenant a phob meddiannydd arall ar y tir i ben.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2025