
2025 Rhif 673 (Cy. 111)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025
Gwnaed 11 Mehefin 2025
Yn dod i rym 13 Mehefin 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 255(1)(a) a (2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Yn unol ag adran 256(3) a (5) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 a deuant i rym ar 13 Mehefin 2025.
Diwygio Deddf Landlord a Thenant 1987
2 

(1) Mae Deddf Landlord a Thenant 1987 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 3 (tenantiaid cymwys)—
(a) yn is-adran (1)—
(i) ar ddiwedd paragraff (d) mewnosoder “or”;
(ii) hepgorer paragraffau (e) ac (f);
(iii) ar y diwedd mewnosoder—“
(g) a tenancy that is an occupation contract (within the meaning of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1) (see section 7 of that Act)).”
(b) hepgorer is-adran (5).
Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
3 
Hepgorer paragraff (2) o reoliad 15 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2025