
2025 Rhif 623 (Cy. 102)
Trafnidiaeth A Gweithfeydd, Cymru
Gorchymyn Rheilffordd Fynydd Aberhonddu (Trosglwyddo) 2025
Gwnaed 27 Mai 2025
Yn dod i rym 5 Mehefin 2025

Mae cais wedi ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 am Orchymyn o dan adrannau 1 a 5 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (“Deddf 1992”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu gwneud Gorchymyn i roi effaith i’r cynnig a gynhwysir yn y cais gydag addasiadau nad ydynt ym marn Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r cynnig.
Cyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru yn y London Gazette ar 23 Mai 2025.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 1, 8, 12, 15 ac 17 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
RHAN 1 Rhagarweiniad
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheilffordd Fynydd Aberhonddu (Trosglwyddo) 2025 a daw i rym ar 5 Mehefin 2025.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Dyddiad Trosglwyddo” (“the Transfer Date”), mewn perthynas â’r rheilffordd, yw’r dyddiad y mae’r teitl yn trosglwyddo o’r Perchennog i’r Ymgymerwr o dan erthygl 3 (trosglwyddo’r rheilffordd i’r Ymgymerwr);
 ystyr “y Gorchymyn Gwreiddiol” (“the Original Order”) yw Gorchymyn Rheilffordd Fynydd Aberhonddu (Rheilffordd Ysgafn) 1980;
 ystyr “y Perchennog” (“the Owner”) yw Brecon Mountain Railway Company Limited, cwmni a ymgorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1967 (rhif cwmni 01409791) fel cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, gyda’i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf Pant, Ponsticill, Merthyr Tudful, Cymru, CF48 2UP;
 ystyr “y rheilffordd” (“the railway”) yw’r rheilffordd a adnabyddir fel ‘Rheilffordd Fynydd Aberhonddu’ (‘Brecon Mountain Railway’) sef rheilffordd 8,720 metr o hyd, neu oddeutu hynny, yn cynnwys twnnel sy’n cychwyn yn Sir Merthyr Tudful ar gyfeirnod map SO 059097 ac yn terfynu yn Sir Powys ar gyfeirnod map SO 059170;
 ystyr “y Trosglwyddai” (“the Transferee”) yw unrhyw berson y mae’r rheilffordd, neu unrhyw ran o’r rheilffordd, yn cael ei phrydlesu neu ei gwerthu iddo o dan y pwerau a roddir gan erthygl 4 (trosglwyddo’r rheilffordd gan Ymgymerwr);
 ystyr “yr Ymgymeriad a Drosglwyddir” (“the Transferred Undertaking”) yw cymaint o’r rheilffordd a brydlesir neu a werthir o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “yr Ymgymerwr” (“the Undertaker”) yw Vale of Rheidol Railway Limited, cwmni a ymgorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 (rhif cwmni 02188631) fel cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, gyda’i swyddfa gofrestredig yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 1PG.
(2) Brasgywir yw’r holl hydoedd a chyfeiriadau a nodir mewn unrhyw ddisgrifiad o’r rheilffordd.
(3) Dehonglir cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at bwyntiau mewn llythrennau, neu lythrennau a rhifau, fel cyfeiriadau at bwyntiau ar y planiau a adneuwyd gyda’r Gorchymyn Gwreiddiol ac sydd ar gael i’w harchwilio yng Ngorsaf Pant, Pontsticill, Merthyr Tudful, Cymru CF48 2UP.
(4) Mae unrhyw ddeddfiadau yr awdurdodwyd adeiladu, cynnal a chadw, defnyddio a gweithredu’r rheilffordd ynddynt yn parhau i gael effaith yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn hwn.
RHAN 2 Trosglwyddo a gweithredu’r rheilffordd
Trosglwyddo’r rheilffordd i’r Ymgymerwr
3 

(1) Caiff y Perchennog a’r Ymgymerwr ymrwymo i gytundebau, bod yn barti i gytundebau a rhoi effaith i gytundebau sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i’r Ymgymerwr, a breinio ynddo, yr holl deitl hwnnw, yr holl hawliau hynny, yr holl fuddiannau hynny a’r holl bwerau hynny a all fod ganddo yn y rheilffordd neu mewn perthynas â’r rheilffordd.
(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Gorchymyn hwn, o’r Dyddiad Trosglwyddo ymlaen—
(a) mae’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r holl ddarpariaethau a chydsyniadau statudol a’r holl ddarpariaethau a chydsyniadau eraill sy’n gymwys i’r rheilffordd ar y dyddiad hwnnw (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny’n parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith), a
(b) mae’r Ymgymerwr, gan eithrio’r Perchennog—
(i) â’r hawl i gael budd o’r holl hawliau, yr holl bwerau a’r holl freintiau sy’n ymwneud â’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni ac arfer yr holl hawliau, yr holl bwerau a’r holl freintiau hynny, a
(ii) yn ddarostyngedig i bob rhwymedigaeth, statudol neu fel arall, sy’n ymwneud â’r rheilffordd neu unrhyw ran ohoni (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny’n parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith) i’r bwriad y bydd y perchnogion yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd o bob un o’r rhwymedigaethau.
Trosglwyddo’r rheilffordd gan yr Ymgymerwr
4 

(1) Ar unrhyw adeg ar ôl y Dyddiad Trosglwyddo caiff yr Ymgymerwr, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, werthu neu brydlesu’r rheilffordd, neu ran ohoni, i unrhyw Drosglwyddai ar y telerau ac amodau hynny y gellir cytuno arnynt rhwng yr Ymgymerwr a’r Trosglwyddai.
(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y Gorchymyn hwn:
(a) bydd yr Ymgymeriad a Drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r holl ddarpariaethau statudol neu ddarpariaethau eraill sy’n gymwys iddo ar ddyddiad y brydles neu’r gwerthiant (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny’n parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith), a
(b) mae’r Trosglwyddai, gan eithrio’r Ymgymerwr—
(i) â’r hawl i gael budd o’r holl hawliau, yr holl bwerau a’r holl freintiau sy’n gymwys i’r Ymgymeriad a Drosglwyddir ac arfer yr holl hawliau, yr holl bwerau a’r holl freintiau hynny, a
(ii) yn ddarostyngedig i bob rhwymedigaeth, statudol neu fel arall, sy’n ymwneud â’r Ymgymeriad a Drosglwyddir (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny’n parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith) gyda’r bwriad bod yr Ymgymerwr yn cael ei ryddhau o bob rhwymedigaeth o’r fath.
(3) Pan fo cytundeb wedi ei wneud yn rhinwedd paragraff (1), bydd cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr Ymgymerwr yn cynnwys cyfeiriadau at y Trosglwyddai.
(4) Mae paragraffau (1), (2) a (3) yn cael effaith tra pery unrhyw brydles a roddir ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant, o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon.
Pŵer i weithredu a defnyddio’r rheilffordd
5 

(1) Ar ac ar ôl y dyddiad y daw’r Gorchymyn i rym, caiff yr Ymgymerwr neu’r Trosglwyddai, yn ôl y digwydd, weithredu a defnyddio’r rheilffordd fel system drafnidiaeth, neu ran o system drafnidiaeth, ar gyfer cludo teithwyr.
(2) Caiff yr Ymgymerwr fynnu, cymryd ac adennill neu hepgor y cyfryw daliadau am gludo teithwyr ar y rheilffordd, neu am unrhyw wasanaethau neu unrhyw gyfleusterau a ddarperir mewn cysylltiad â gweithredu’r rheilffordd, fel y gwêl yn dda.
(3) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a gymhwysir gan y Gorchymyn hwn, yn lleihau effaith nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.
Pŵer symud
6 

(1) Yn ychwanegol at ddarpariaethau erthygl 9 o’r Gorchymyn Gwreiddiol ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff y pŵer symud sydd i’w ddefnyddio ar y rheilffordd gynnwys batri trydan neu unrhyw bŵer symud arall o’r fath y caiff y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ei gymeradwyo yn ysgrifenedig.
(2) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi defnyddio pŵer trydan fel pŵer symud ar y rheilffordd oni ddaw’r pŵer hwnnw o fatris storio neu o ffynhonnell gynhyrchu a gynhwysir yn gyfan gwbl yn y peiriannau a’r cerbydau ac a gludir ynddynt.
(3) Os defnyddir pŵer trydan fel pŵer symud ar y rheilffyrdd, rhaid peidio â defnyddio’r pŵer trydan hwnnw mewn modd a fydd yn peri, neu sy’n debygol o beri, unrhyw ymyrraeth â chyfarpar cyfathrebu electronig, os oes cyfarpar o’r fath, neu wrth ddefnyddio’r cyfarpar hwnnw.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
27 Mai 2025