
2025 No. 516 (Cy. 92)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 24 Ebrill 2025
Yn dod i rym 8 Mai 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1) a 25 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Mai 2025.
Diwygio Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024
2 

(1) Mae Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1 (enwi, cymhwyso a dod i rym), ym mharagraff (4), yn lle “2025” rhodder “2026”.
(3) Yn lle’r geiriau “o dan oruchwyliaeth”, ym mhob lle y maent yn ymddangos, rhodder y geiriau “o dan gyfarwyddyd”.
(4) Yn erthygl 40 (profi cyn symud), ym mharagraff (2), yn lle “30” rhodder “60”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Ebrill 2025