
2025 Rhif 491 (Cy. 89) (C. 20)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2025
Gwnaed 15 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 147(4)(f) o Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2025.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Ebrill 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 16 Ebrill 2025—
(a) adran 73(d) (ardaloedd rheoli mwg: diwygiadau i Ddeddf Aer Glân 1993), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru; a
(b) Rhan 2 o Atodlen 12 (prif ddiwygiadau i Ddeddf Aer Glân 1993: Cymru).
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Ebrill 2025