
2025 Rhif 473 (Cy. 86) (C. 19)
Cyfraith Trosedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025
Gwnaed 9 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 153(5)(b) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008;
 mae i “mangreoedd GIG Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh NHS premises” yn adran 119(4) o’r Ddeddf.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 11 Ebrill 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 11 Ebrill 2025 mewn perthynas â mangreoedd GIG Cymru—
(a) adran 119(4) (y drosedd o achosi niwsans neu aflonyddwch ar fangreoedd y GIG);
(b) adran 120(5) a (6) (pŵer i symud person sy’n achosi niwsans neu aflonyddwch);
(c) adran 121(1) i (3), (5) a (6) (canllawiau ynghylch y pŵer i symud etc.).
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2025