
2025 Rhif 440 (Cy. 85)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025
Gwnaed 3 Ebrill 2025
Yn dod i rym 8 Ebrill 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 29(1)(a), (5) a 66(1)(b) o Ddeddf Plant 2004, a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 66(3) o Ddeddf Plant 2004.
Enwi, cychwyn, dod i ben a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2025 ac maent yn peidio â chael effaith ar 8 Ebrill 2026.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “addysg addas” yr un ystyr â “suitable education” yn adran 436A(3) o Ddeddf 1996;
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn adran 2 o Ddeddf 2018;
 ystyr “awdurdod lleol peilot” (“pilot local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru a restrir yn Atodlen 1;
 ystyr “awdurdod lleol yng Nghymru” (“local authority in Wales”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—
(a) cyngor sir yn Lloegr;
(b) cyngor dosbarth metropolitanaidd;
(c) cyngor dosbarth anfetropolitanaidd ar gyfer ardal nad oes cyngor sir ar ei chyfer;
(d) cyngor bwrdeistref yn Llundain; ac
(e) Cyngor Cyffredin Dinas Llundain (yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod lleol);
 ystyr “cofnod PCA” (“CME record”), mewn perthynas â phlentyn, yw’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gronfa ddata PCA ac sy’n ymwneud â’r plentyn hwnnw;
 mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr un ystyr ag yn adran 3 o Ddeddf 2018;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 ystyr “disgybl cofrestredig” (“registered pupil”) yw plentyn sydd wedi ei gofrestru yn ddisgybl mewn ysgol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996;
 ystyr “y gronfa ddata PCA” (“the CME database”) yw’r gronfa ddata sydd wedi ei sefydlu a’i gweithredu, neu sydd i’w sefydlu a’i gweithredu, gan awdurdod lleol peilot o dan reoliad 3;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
 ystyr “PCA” (“CME”) yw plant sy’n colli addysg;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person o oedran ysgol gorfodol;
 ystyr “rhiant” (“parent”) yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsiblity” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989) neu sydd â gofal am y plentyn ar unrhyw adeg;
 mae i “ysgol” yr un ystyr â “school” yn adran 4 o Ddeddf 1996.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at berson sydd wedi ei gyflogi yn cynnwys person sydd wedi ei gyflogi pa un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a pherson sydd wedi ei secondio i’r awdurdod lleol peilot o dan sylw.
Sefydlu cronfa ddata PCA
3 

(1) Rhaid i awdurdod lleol peilot sefydlu a gweithredu cronfa ddata PCA.
(2) Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (3) mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r gronfa ddata PCA gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 ac sydd ar gael i’r awdurdod lleol peilot mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(3) Yr amodau yw—
(a) bod y plentyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol peilot,
(b) nad yw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, ac
(c) ei bod yn ymddangos i’r awdurdod lleol peilot nad yw’r plentyn yn cael addysg addas, neu nad yw’r plentyn o bosibl yn cael addysg addas.
Dyletswydd Bwrdd Iechyd Lleol a chontractwr GMC i ddatgelu
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf 2006, neu gontractwr GMC, yn dal unrhyw wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol peilot.
(2) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a chontractwr GMC sicrhau bod yr wybodaeth a ddelir ganddo, a bennir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn, yn cael ei datgelu i awdurdod lleol peilot perthnasol y plentyn, a hynny erbyn 30 Ebrill 2025.
(3) “Awdurdod lleol peilot perthnasol” y plentyn yw’r awdurdod lleol peilot y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf 2006 (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
 ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti i gontract GMC, ac eithrio’r Bwrdd Iechyd Lleol;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 mae i “preswylio fel arfer” (“usually resident”) yr un ystyr ag yn rheoliad 2(2) a (3) o Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009.
Y weithdrefn ar gyfer sicrhau cywirdeb gwybodaeth yn y gronfa ddata PCA
5 
Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol peilot fod cofnod PCA y mae’n gyfrifol amdano yn anghywir neu’n anghyflawn, neu y gall fod yn anghywir neu’n anghyflawn, rhaid i’r awdurdod lleol peilot gymryd camau rhesymol i gywiro neu gwblhau’r cofnod.
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn preswylio fel arfer yn rhywle arall
6 
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA bellach yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu awdurdod lleol yn Lloegr (“yr awdurdod lleol derbyn”), neu fod hynny’n debygol o ddigwydd, rhaid iddo—
(a) hysbysu’r awdurdod lleol derbyn am gofnod PCA y plentyn o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daeth yn ymwybodol, a
(b) dileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r plentyn adael ei ardal.
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn wedi gadael yr ardal
7 
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA wedi gadael ei ardal ac nad yw’n gwybod ymhle y mae’r plentyn bellach yn preswylio fel arfer, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn dod yn ddisgybl cofrestredig
8 
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA bellach yn ddisgybl cofrestredig, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn cael addysg addas
9 
Pan fo awdurdod lleol peilot wedi ei fodloni bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA yn cael addysg addas, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn wedi marw
10 
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA wedi marw, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol
11 
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Mynediad at y gronfa ddata PCA
12 

(1) Dim ond person sydd wedi ei gyflogi gan awdurdod lleol peilot, neu sy’n gweithredu ar ran awdurdod o’r fath, mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2) a gaiff gael mynediad at y gronfa ddata PCA at ddiben ychwanegu neu ddarllen gwybodaeth.
(2) Y swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw swyddogaethau o dan—
(a) Rhan 6 (derbyniadau ysgol, presenoldeb yn yr ysgol a ffioedd ysgol) o Ddeddf 1996,
(b) adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 (dyletswyddau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â lles plant), neu
(c) Rhan 2 (anghenion dysgu ychwanegol) o Ddeddf 2018.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
3 Ebrill 2025
ATODLEN 1
Awdurdodau Lleol Peilot
Rheoliad 2

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Sir Caerdydd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir Ynys Môn

ATODLEN 2
Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gronfa ddata PCA
Rheoliadau 3 a 4
1 
Enw’r plentyn (gan gynnwys unrhyw enw blaenorol).
2 
Cyfeiriad y plentyn (neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf), gan gynnwys cod post.
3 
Dyddiad geni’r plentyn.
4 
Enw, cyfeiriad a chod post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost holl rieni’r plentyn.
5 
Enw a chyfeiriad y person sy’n darparu’r cyfan neu ran o’r addysg.
6 
Unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a allai fod gan y plentyn ac unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani.