
2025 Rhif 425 (Cy. 82)
Anifeiliaid, Cymru
Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 2 Ebrill 2025
Yn dod i rym 3 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 17(1), 23 ac 28 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2025.
Diwygio Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 16(1) (datgan parth rheolaeth dros dro) yn lle “must” rhodder “may”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2025