
2025 Rhif 388 (Cy. 77)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 26 Mawrth 2025
Yn dod i rym 31 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 167(3)(a), (b) a (d), a 196(2)(a) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 196(6)(a) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2025.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
Diwygio rheoliad 19 o’r prif Reoliadau
2 

(1) Mae rheoliad 19 o’r prif Reoliadau (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)(a) hepgorer “ranbarthol”.
(3) Hepgorer paragraff (2).
Dawn Bowden
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2025