
2025 Rhif 384 (Cy. 76)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 24 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 26 Mawrth 2025
Yn dod i rym 31 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 9(1), 10(5) a 18A(3) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) (Diwygio) 2025, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2025.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024
2 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y testun Saesneg, yn lle “Regulation 767/2009” rhodder “Regulation (EC) No 767/2009”.
(3) Yn rheoliad 4(1), yn y testun Cymraeg, yn lle “a Rheoliadau diwygio” rhodder “ac sy’n diwygio Rheoliadau”.
(4) Yn rheoliad 13(4), yn y testun Cymraeg, ar ôl “sy’n gymwys” mewnosoder “yn union”.
(5) Yn rheoliad 14(3), yn y testun Cymraeg, ar ôl “sy’n gymwys” mewnosoder “yn union”.
(6) Yn rheoliad 16(3), yn y testun Cymraeg, ar ôl “sy’n gymwys” mewnosoder “yn union”.
(7) Yn Atodlen 8, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y rhes ar gyfer “Darpariaethau eraill”, yn yr ail golofn, ym mhwynt 4, yn y pwynt bwled cyntaf, o flaen “essential trace elements” mewnosoder “of”.
(8) Yn Atodlen 11, yn y testun Cymraeg, yn y geiriau o flaen y tabl, yn lle “technegol” rhodder “technolegol”.
(9) Yn Atodlen 13, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y rhes ar gyfer “Darpariaethau eraill”, yn yr ail golofn, ym mhwynt 2, yn lle “Gellir” rhodder “Caniateir”.
(10) Yn Atodlen 16, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y rhes ar gyfer “Nodweddiad y sylwedd(au) actif”, yn yr ail golofn, yn lle “elfennau” rhodder “cydrannau”.
Sarah Murphy
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2025