
2025 Rhif 380 (Cy. 75) (C. 14)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 8) 2025
Gwnaed 24 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 188(1) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 8) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2 
31 Mawrth 2025 yw’r diwrnod penodedig i adran 160(5) o’r Ddeddf ddod i rym.
Dawn Bowden
y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
24 Mawrth 2025