
2025 Rhif 370 (Cy. 73)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025
Gwnaed 19 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Mawrth 2025
Yn dod i rym 27 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45(1), (2) ac 48(1)(b) ac (c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y cynnig i wneud y Rheoliadau hyn.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Mawrth 2025.
Diwygio Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion), yn y cofnod ar gyfer ‘Soliped’, yng ngholofn 2, yn lle “0.04287” rhodder “0.4287”.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) (Cymru) 2025 wedi eu dirymu.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2025