
2025 Rhif 340 (Cy. 69)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 12 Mawrth 2025
Yn dod i rym 11 Ebrill 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 187(2)(n) o Ddeddf 2016, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2025.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.
Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2016
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2016, mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—“
 mae i “gwasanaeth preswyl ysgol arbennig” (“special school residential service”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023;”.
Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2016
4 
Mae rheoliad 3 (pennu gweithwyr gofal cymdeithasol) o Reoliadau 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (2)(b)—
(i) ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “neu”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (v) mewnosoder “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (v) mewnosoder—“
(vi) â gwasanaeth preswyl ysgol arbennig,”;
(b) ym mharagraff (2)(bb)—
(i) ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “neu”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (v) mewnosoder “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (v) mewnosoder—“
(vi) â gwasanaeth preswyl ysgol arbennig,”;
Dawn Bowden
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2025