
2025 Rhif 338 (Cy. 67) (C. 11)
Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 3) 2025
Gwnaed 12 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 48 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 3) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Mawrth 2025
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2025—
(a) adran 9(5) (is-grŵp caffael cyhoeddus);
(b) adran 21 (contractau cyhoeddus);
(c) adran 22(1), (3) a (4) (awdurdodau contractio);
(d) adran 23 (caffael cyhoeddus);
(e) adran 24(8) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol);
(f) adran 25(2) a (3) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr);
(g) adran 26(2) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau allanoli gwasanaethau);
(h) adran 27 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr);
(i) adran 32 (y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu);
(j) adran 33 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau allanoli gwasanaethau);
(k) adran 43 (canllawiau);
(l) adran 44 (rheoliadau);
(m) adran 45 (dehongli Rhan 3);
(n) Atodlen 1 (awdurdodau contractio).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Mawrth 2025 i’r graddau a bennir
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a) adran 39 (rheoliadau sy’n ymwneud ag adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(b) adran 40 (rheoliadau sy’n ymwneud â chofrestr gontractau), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 30 Mehefin 2025
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 30 Mehefin 2025—
(a) adran 9(1) i (4) (is-grŵp caffael cyhoeddus);
(b) adran 10 (darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus).
Jack Sargeant
Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2025