
2025 Rhif 329 (Cy. 65)
Y Gymraeg
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025
Gwnaed 12 Mawrth 2025
Yn dod i rym 26 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 35 a 38 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac wedi cael cymeradwyaeth Senedd Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 26 Mawrth 2025.
Diwygio Atodlen 6
2 
Yn y tabl yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, o dan y pennawd “Cyffredinol”, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
Comisiwn Ffiniau i Gymru (“Boundary Commission for Wales”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”“
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“Future Generations Commissioner for Wales”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”“
Panel Dyfarnu Cymru (“Adjudication Panel for Wales”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2025