
2025 Rhif 308 (Cy. 62)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Peilota) (Cymru) 2025
Gwnaed 10 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Mawrth 2025
Yn dod i rym 8 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, dod i rym a dod i ben
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Peilota) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2025 ac maent yn peidio â chael effaith ar 20 Mai 2025.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “awdurdod lleol peilot” (“pilot local authority”) yw awdurdod lleol a restrir yn Atodlen 1;
 ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw’r awdurdod lleol peilot y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal;
 mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(5) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o’r Ddeddf;
 mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person o oedran ysgol gorfodol sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol peilot;
 ystyr “ysgol annibynnol” (“independent school”) yw ysgol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002.
Datgelu gwybodaeth i awdurdod lleol perthnasol
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo perchennog ysgol annibynnol yn dal unrhyw wybodaeth berthnasol.
(2) Rhaid i’r perchennog ddarparu’r wybodaeth berthnasol a ddelir i’r awdurdod lleol perthnasol erbyn 20 Mai 2025.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw unrhyw wybodaeth a bennir yn Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol annibynnol.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2025
Atodlen 1
Awdurdodau Lleol Peilot
Rheoliad 2

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Sir Caerdydd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir Ynys Môn

ATODLEN 2
Yr wybodaeth sydd i’w darparu i’r awdurdod lleol perthnasol
Rheoliad 3
1 
Enw’r plentyn (gan gynnwys unrhyw enw blaenorol).
2 
Cyfeiriad y plentyn (neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf), gan gynnwys cod post.
3 
Dyddiad geni’r plentyn.