
2025 Rhif 304 (Cy. 60) (C. 9)
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn 10) (Cymru) 2025
Gwnaed 7 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 67(3) o Ddeddf Plant 2004, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn 10) (Cymru) 2025.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 10 Mawrth 2025
2 
Daw adran 29 o Ddeddf Plant 2004 (cronfeydd data gwybodaeth: Cymru) i rym ar 10 Mawrth 2025.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2025