
2025 Rhif 286 (Cy. 58)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025
Gwnaed 6 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Mawrth 2025
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 71(1)(a) o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025.
(2) Daw rheoliadau 1, 2, 3 a 4 i rym ar 1 Ebrill 2025.
(3) Daw rheoliadau 5 a 6 i rym ar 1 Ebrill 2026.
Gorchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Awdurdodau Cyhoeddus Ychwanegol) 2010
2 
Yn Rhan 1 (cofnodion a fewnosodir gydag effaith o 1 Hydref 2010) o’r Atodlen i Orchymyn Rhyddid Gwybodaeth (Awdurdodau Cyhoeddus Ychwanegol) 2010, hepgorer “The Independent Remuneration Panel for Wales”.
Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
3 
Yn Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019, hepgorer rheoliad 2 (diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011) a’r pennawd o’i flaen.
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021
4 
Yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, hepgorer rheoliad 4 (Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol) a’r pennawd o’i flaen.
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005
5 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer “ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;”;
(b) yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru;”;“
 “ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013;”.
(3) Yn rheoliad 7(3) (talu lwfansau), yn lle “Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a ddyroddir o dan Ran 8 o Fesur 2011 (aelodau: taliadau a phensiynau)” rhodder “y Comisiwn a ddyroddir o dan Ran 5A o Ddeddf 2013 (swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau a phensiynau)”.
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
6 
Ym mharagraff 12(2)(b)(iv) (buddiannau sy’n rhagfarnu) o’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008, ar ôl “Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011,” mewnosoder “Rhan 5A o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013,”.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2025