Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro gwallau yn O.S. 2024/797 (Cy. 126) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2025 Rhif 230 (Cy. 49)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 27 Chwefror 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 28 Chwefror 2025
Yn dod i rym 21 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8A(7) o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mawrth 2025.
RHAN 2 Diwygio Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) 2024
2 

(1) Mae Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y testun Cymraeg, ar ddiwedd paragraff (f) yn y diffiniad o “cymorth ariannol perthnasol”, mewnosoder “neu”;
(b) ym mharagraff (c) yn y diffiniad o “dyletswydd statudol”, yn lle “deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
(3) Yn rheoliad 3 (cais am gydsyniad y landlord neu amrywio telerau), ym mharagraff (8), yn lle “2 fis” rhodder “4 mis”.
(4) Yn rheoliad 4 (dyfarniadau neu benderfyniadau gan y cymrodeddwr), ym mharagraff (2)(d), ar ôl “dyfarniad” mewnosoder “neuʼr penderfyniad”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2025