
2025 Rhif 193 (Cy. 42)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed 19 Chwefror 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Chwefror 2025
Yn dod i rym 117 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a), (2)(b) ac (c), a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
RHAN 1 Enwi, dod i rym a chymhwyso
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
Cymhwyso
2 
Mae rheoliadau 7 i 20 a 22 i 32 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018) yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
RHAN 2 Diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
4 
Yn rheoliad 6(10D)(b), yn y testun Cymraeg, yn lle “sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder “y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”.
RHAN 3 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
5 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
6 
Yn rheoliad 4(10C)(b), yn y testun Cymraeg, yn lle “sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder “y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”.
7 
Ym mhob un o reoliadau 24(3)(a), 88(3)(a) a 117(2)(a), yn lle “£33,460” rhodder “£34,000”.
8 
Yn rheoliad 26(3), ym mhob un o is-baragraffau (a) a (b), yn lle “£3,353” rhodder “£3,407”.
9 
Yn rheoliad 27—
(a) ym mharagraff (7)(a), yn lle “£189” rhodder “£192”;
(b) ym mharagraff (7)(b), yn lle “£324” rhodder “£329”;
(c) ym mharagraff (9)(a), yn lle “£145” rhodder “£147”.
10 
Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,914” rhodder “£1,945”.
11 
Yn rheoliad 29(2)—
(a) yn lle “£1,192” rhodder “£1,211”;
(b) yn lle “£3,570” rhodder “£3,628”;
(c) yn lle “£4,762” rhodder “£4,839”;
(d) yn lle “£5,960” rhodder “£6,056”.
12 
Yn rheoliad 43—
(a) ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,336” rhodder “£6,438”;
(b) ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£11,465” rhodder “£11,650”;
(c) ym mharagraff (2), ym mhob un o is-baragraffau (iii) a (iv), yn lle “£9,759” rhodder “£9,917”;
(d) ym mharagraff (2)(v), yn lle “£8,185” rhodder “£8,317”;
(e) ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,737” rhodder “£5,830”;
(f) ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£10,440” rhodder “£10,609”;
(g) ym mharagraff (3), ym mhob un o is-baragraffau (iii) a (iv), yn lle “£8,488” rhodder “£8,625”;
(h) ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,582” rhodder “£7,705”.
13 
Yn rheoliad 45—
(a) ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£3,008” rhodder “£3,057”;
(b) ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,638” rhodder “£5,729”;
(c) ym mharagraff (1)(b), ym mhob un o baragraffau (iii) a (iv), yn lle “£4,797” rhodder “£4,875”;
(d) ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£4,011” rhodder “£4,076”;
(e) ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,752” rhodder “£4,829”;
(f) ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,599” rhodder “£8,738”;
(g) ym mharagraff (1)(c), ym mhob un o baragraffau (iii) a (iv), yn lle “£7,319” rhodder “£7,438”;
(h) ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£6,139” rhodder “£6,238”;
(i) ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,286” rhodder “£2,323”;
(j) ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,311” rhodder “£4,381”;
(k) ym mharagraff (2)(b), ym mhob un o baragraffau (iii) a (iv), yn lle “£3,507” rhodder “£3,564”;
(l) ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£3,125” rhodder “£3,176”;
(m) ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,303” rhodder “£4,373”;
(n) ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,830” rhodder “£7,957”;
(o) ym mharagraff (2)(c), ym mhob un o baragraffau (iii) a (iv), yn lle “£6,366” rhodder “£6,469”;
(p) ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,737” rhodder “£5,779”.
14 
Yn rheoliad 50(1)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£94” rhodder “£96”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£181” rhodder “£184”;
(c) ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d), yn lle “£198” rhodder “£201”;
(d) yn is-baragraff (e), yn lle “£142” rhodder “£144”.
15 
Yn rheoliad 56—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,752” rhodder “£4,829”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,599” rhodder “£8,738”;
(c) ym mharagraff (3), ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d), yn lle “£7,319” rhodder “£7,438”;
(d) ym mharagraff (3)(e), yn lle “£6,139” rhodder “£6,238”;
(e) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,303” rhodder “£4,373”;
(f) ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,830” rhodder “£7,957”;
(g) ym mharagraff (4), ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d), yn lle “£6,366” rhodder “£6,469”;
(h) ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,687” rhodder “£5,779”.
16 
Yn rheoliad 91(3), ym mhob un o is-baragraffau (a) a (b), yn lle “£3,353” rhodder “£3,407”.
17 
Yn rheoliad 92—
(a) ym mharagraff (6)(a), yn lle “£189” rhodder “£192”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “£324” rhodder “£329”;
(c) ym mharagraff (8)(a), yn lle “£145” rhodder “£147”.
18 
Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,914” rhodder “£1,945”.
19 
Yn rheoliad 94(2)—
(a) yn lle “£1,192” rhodder “£1,211”;
(b) yn lle “£3,570” rhodder “£3,628”;
(c) yn lle “£4,762” rhodder “£4,839”;
(d) yn lle “£5,960” rhodder “£6,056”.
20 
Yn Atodlen 5, ym mharagraff 3(3) ac yn Atodlen 6, ym mharagraff 2(3), yn lle “£1,130” rhodder “£1,150”.
RHAN 4 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
21 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
22 
Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 Categori 1 Byw gartref £9,480
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £14,415
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £11,345
Categori 2 Byw gartref £4,740
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £7,205
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £5,670”
23 
Yn rheoliad 56—
(a) yn Nhabl 8—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 Byw gartref £10,480
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £15,415
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £12,345”
(b) yn Nhabl 8A—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 Byw gartref £4,740
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £7,205
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £5,670”
24 
Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 Byw gartref £96
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £184
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £144”
25 
Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 £8,105 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”
26 
Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 £9,105 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”
27 
Yn rheoliad 63(2) ac yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£33,460” rhodder “£34,000”.
28 
Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 £3,407”
29 
Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 £1,945”
30 
Yn rheoliad 76—
(a) ym mharagraff (2), yn Nhabl 13—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 Un plentyn dibynnol £192
Mwy nag un plentyn dibynnol £329”
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£145” rhodder “£147”.
31 
Yn rheoliad 77(1)—
(a) yn lle “£6,332” rhodder “£6,434”;
(b) yn lle “£8,711” rhodder “£8,852”;
(c) yn lle “£9,902” rhodder “£10,062”;
(d) yn lle “£11,100” rhodder “£11,279”.
32 
Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(4), yn Nhabl 15, yng ngholofn 2, yn lle “£1,130” rhodder “£1,150”.
33 
Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1, yn Nhabl 16—
(a) hepgorer y cofnod yn y tabl sy’n ymwneud â “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel partner a ddiogelir”;
(b) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
“person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir” Atodlen 2, paragraff 2ZB”
RHAN 5 Diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
34 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
35 
Yn rheoliad 2(3)—
(a) yn lle “o’r Tabl”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “o Dabl 1”;
(b) ym mhennawd y Tabl, ar y diwedd mewnosoder “1”.
36 
Yn rheoliad 13—
(a) ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “caiff” hyd at y diwedd rhodder—“mae Tabl 2 yn nodi swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y caiff person wneud cais amdano tuag at gostau ymgymryd â chwrs dynodedig—
(a) pan fo Colofn 1 yn pennu’r cwrs y mae swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a bennir yng Ngholofn 2 yn gymwys mewn perthynas ag ef, a
(b) pan fo Colofn 2 yn pennu swm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 2
Colofn 1Cwrs Colofn 2Swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 ond cyn 1 Awst 2025 £28,655
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 £29,130”
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle “£28,655” rhodder “swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sydd ar gael i berson o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â’r cwrs”.
RHAN 6 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
37 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
38 
Yn rheoliad 16(1)(b)(viii), yn y testun Cymraeg, yn lle “sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder “y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”.
39 
Yn rheoliad 31ZA—
(a) ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “swm” hyd at y diwedd rhodder—“mae Tabl A1 yn nodi swm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
(a) pan fo Colofn 1 yn pennu’r cwrs y mae swm y benthyciad cyfrannu at gostau a bennir yng Ngholofn 2 yn gymwys mewn perthynas ag ef, a
(b) pan fo Colofn 2 yn pennu swm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl A1
Colofn 1Cwrs Colofn 2Swm y benthyciad cyfrannu at gostau
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024 ond cyn 1 Awst 2025 £18,950
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 £19,255”
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£18,950” rhodder “swm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan baragraff (2) mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig”.
40 
Yn rheoliad 36A(7), yn lle “£18,950” rhodder “swm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan reoliad 31ZA(2) mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig”.
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2025