
2025 Rhif 19 (Cy. 7)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2025
Gwnaed 8 Ionawr 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 10 Ionawr 2025
Yn dod i rym 6 Chwefror 2025

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraffau 9(1) a 10(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“y Ddeddf”) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw. Mae’r ardal i’w dynodi o dan y Gorchymyn yn ardal o fewn ardal, neu’n ardal sy’n gyfled ag ardal, sydd eisoes wedi ei dynodi’n ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio fel sy’n ofynnol gan baragraffau 9(2) a 10(2) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â’r gofyniad a nodir ym mharagraff 10(4) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Chwefror 2025.
Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau, a
(b) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig sy’n symud.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2025
YR ATODLEN
Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thramgwyddau traffig sy’n symud
Erthygl 2

Ardal gyfan Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac eithrio—
(a) y darn cyfan o’r A4060 o’i chyffordd â chylchfan Abercanaid yr A470 hyd at ei chyffordd â chylchfan Dowlais yr A465 gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Pentrebach, cylchfan Parc Busnes Triangle a chylchfan Mountain Hare;
(b) y darn hwnnw o’r A470 o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 320 o fetrau i’r gogledd o gylchfan Abercynon yr A470 hyd at y ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 895 o fetrau i’r gogledd o gylchfan Cefncoedycymer gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Abercanaid, cylchfan Rhyd-y-car a chylchfan Swansea Road;
(c) y darn hwnnw o’r A470 o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 351 o fetrau i’r de o gyffordd Upper High Street Cefncoedycymer yr A4054 hyd at y ffin â Sir Powys ym Mhont Llysiog, a
(d) y darn hwnnw o’r A465 o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth bwynt oddeutu 550 o fetrau i’r dwyrain o gylchfan Dowlais Top yr A465 hyd at y ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 13 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â’r B4276 Merthyr Road gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael a cherbytffordd gylchredol cylchfan Dowlais yr A465/A4060, cylchfan Dowlais Top yr A465 a chylchfan Cefncoedycymer.
