
2025 Rhif 189 (Cy. 40)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025
Gwnaed 19 Chwefror 2025
Yn dod i rym 21 Chwefror 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 34(1) a 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”).
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw wrth lunio’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Yn unol ag adran 50(6) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror 2025.
Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008
2 

(1) Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodiad 2 (Gofynion sylfaenol ar gyfer systemau cynhyrchu ar gyfer y dulliau ffermio wyau gwahanol), ym mharagraff 1, yn yr ail is-baragraff, ym mhwynt (a)—
(a) cyn “restricted”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “temporarily”,
(b) hepgorer y geiriau o “, provided” hyd at ddiwedd yr is-baragraff.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2025