
2025 Rhif 182 (Cy. 39)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025
Gwnaed 19 Chwefror 2025
Yn dod i rym 21 Chwefror 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd fersiwn ddrafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror 2025.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Newid i’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2025
2 
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2025—
(a) nid yw paragraff 5(5A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;
(b) at ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai 133.3 yw B.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2025