
2025 Rhif 175 (Cy. 37) (C. 7)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025
Gwnaed 16 Chwefror 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 147(4)(g) o Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Enwi a dehongli
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2025
3 
Daw adran 79 (cynlluniau rheoli draenio a charthffosiaeth) o’r Ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2025, i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2025