
2025 Rhif 16 (Cy. 6)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed 8 Ionawr 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 10 Ionawr 2025
Yn dod i rym
Rheoliadau 1 i 8, 10 i 18, 21 i 32, 34 i 47 a 49 i 51 3 Chwefror 2025
Rheoliadau 9, 19, 20, 33 a 48 6 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 ac adrannau 22(1)(a) a (2)(a) ac (c), a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
RHAN 1 Enwi, dod i rym a chymhwyso
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Chwefror 2025, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Daw rheoliadau 9, 19, 20, 33 a 48 (diwygiadau sy’n ymwneud â statws annomisiliedig) i rym ar 6 Ebrill 2025.
Cymhwyso
2 

(1) Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth, ac â ffioedd a dyfarndaliadau sy’n gymwys, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
(a) rheoliadau 6, 13, 16, 17, 18, 25, 26, 27, 28, 29, 38, 39, 46 ac 47 (myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd);
(b) rheoliadau 31 a 32 (diwygiadau i’r grant at deithio – personau sy’n ymadael â gofal).
(2) Mae rheoliadau 5, 12, 24, 37 a 45 (dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd) yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth, ac â ffioedd a dyfarndaliadau sy’n gymwys, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 mewn cysylltiad â chwrs a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2025 ai peidio.
RHAN 2 Diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1
Cyflwyniad
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
4 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”, yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin;”.
PENNOD 3
Dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd
5 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9C—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), ”;
(ii) ar ôl paragraff (a)(i) hepgorer “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“neu
(iii) yn ddinesydd Prydeinig—(aa) a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw; neu(bb) sy’n ddisgynnydd uniongyrchol person a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw;”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion paragraffau (c) ac (ch) o is-baragraff (1), trinnir person a grybwyllir ym mharagraff (a)(iii) o is-baragraff (1) fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig mewn unrhyw gyfnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig na’r Ynysoedd ynddi.
(4) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (a)(iii) o’r is-baragraff hwnnw.”
PENNOD 4
Myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd
6 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 2(1), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(b) ym mharagraff 2(1)(b), ar y diwedd mewnosoder “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(c) ym mharagraff 2A(1)(a), hepgorer “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(d) ym mharagraff 9C(1)(a)(i), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”.
RHAN 3 Diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
PENNOD 1
Cyflwyniad
7 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
8 
Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”, yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin;”.
PENNOD 3
Diwygiad sy’n ymwneud â statws annomisiliedig
9 
Yn Atodlen 2 (cyfraniad y myfyriwr), ym mharagraff 4(6)(a), hepgorer “neu wedi ymgartrefu” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.
RHAN 4 Diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
PENNOD 1
Cyflwyniad
10 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
11 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”, yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin;”.
PENNOD 3
Dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd
12 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9C—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), ”;
(ii) ar ôl paragraff (a)(i) hepgorer “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“neu
(iii) yn ddinesydd Prydeinig—(aa) a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw; neu(bb) sy’n ddisgynnydd uniongyrchol person a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw;”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion paragraffau (c) a (d) o is-baragraff (1), trinnir person a grybwyllir ym mharagraff (a)(iii) o is-baragraff (1) fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig mewn unrhyw gyfnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig na’r Ynysoedd ynddi.
(4) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (a)(iii) o’r is-baragraff hwnnw.”
PENNOD 4
Myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd
13 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 2(1), hepgorer “, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(b) ym mharagraff 2(1)(b), ar y diwedd mewnosoder “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(c) ym mharagraff 2A(1)(a), hepgorer “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(d) ym mharagraff 9C(1)(a)(i), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”.
RHAN 5 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
PENNOD 1
Cyflwyniad
14 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
15 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”, yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin;”.
PENNOD 3
Myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd
16 
Ym mhob un o reoliadau 15(e) a 82(4)(f), a pharagraff 6(d) o Atodlen 4, yn lle “mharagraff 3(1)(a)” rhodder “mharagraff 2(1)(a), 2A(1)(a) neu 3(1)(a)”.
17 
Ym mhob un o reoliadau 23(12)(d), 49(2)(d) a 111(2)(d), yn lle “mharagraff 3(1)(a)” rhodder “mharagraff 2(1)(a) neu 3(1)(a)”.
18 
Yn Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ym mharagraff 2(1), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(b) ym mharagraff 2(1)(b), ar y diwedd mewnosoder “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(c) ym mharagraff 2A(1)(a), hepgorer “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”.
PENNOD 4
Diwygiadau sy’n ymwneud â statws annomisiliedig
19 
Yn Atodlen 5 (asesiad ariannol), ym mharagraff 5(6)(a), hepgorer “neu wedi ymgartrefu” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.
20 
Yn Atodlen 6 (asesiad ariannol – grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion), ym mharagraff 4(6)(a), yn lle “nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig” rhodder “nad yw A yn preswylio neu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 5
Cywiriadau
21 
Ym mhob un o reoliadau 4(10F)(b), 81(10F)(b) a 110(12F)(b), ar ôl “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “aros yn y Deyrnas Unedig”.
RHAN 6 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 1
Cyflwyniad
22 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
23 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 2ZC(2), yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin,”.
PENNOD 3
Dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd
24 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 6BB—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), ”;
(ii) ym mharagraff (a), daw’r geiriau o “wedi setlo” hyd at y diwedd yn is-baragraff (i);
(iii) ar ôl yr is-baragraff (i) hwnnw mewnosoder—“neu
(ii) yn ddinesydd Prydeinig—(aa) a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw, neu(bb) sy’n ddisgynnydd uniongyrchol person a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw,”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion paragraffau (c) a (d) o is-baragraff (1), trinnir person a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o is-baragraff (1) fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig mewn unrhyw gyfnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig na’r Ynysoedd ynddi.
(4) Nid yw paragraffau (e) ac (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o’r is-baragraff hwnnw.”
PENNOD 4
Myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd
25 
Yn rheoliad 80(2)(b)(iv), yn lle “mharagraff 1(2)(a)” rhodder “mharagraff 1(1)(a), (2)(a) neu (3)(a), neu 6BB”.
26 
Yn rheoliad 81(3)(b)(iii), yn lle “mharagraff 1(2)(a)” rhodder “mharagraff 1(1)(a) neu (2)(a)”.
27 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(b) ym mharagraff 1(1)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(c) ym mharagraff 1(3)(a), hepgorer “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(d) ym mharagraff 6BB(1)(a)(i) (fel y’i hailrifir gan reoliad 24(a)(ii) o’r Rheoliadau hyn), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”.
28 
Yn Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl), ym mharagraff 14(3)(b)(iii), yn lle “mharagraff 1(2)(a)” rhodder “mharagraff 1(1)(a) neu (2)(a)”.
29 
Yn Atodlen 5 (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge), ym mharagraff 4(2)(d), yn lle “mharagraff 1(2)(a)” rhodder “mharagraff 1(1)(a), (2)(a) neu (3)(a), neu 6BB”.
PENNOD 5
Diwygiad i’r grant myfyriwr anabl – blynyddoedd rhyngosod
30 
Yn rheoliad 62 (amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl), ym mharagraff (2), yn Eithriad 6, ar y diwedd mewnosoder—“Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â grant myfyriwr anabl i’r graddau y mae’n ymwneud â darparu cymorth technegol, atgyweirio neu amnewid mewn cysylltiad ag offer sy’n eiddo i’r myfyriwr, pan—
(a) bo’r offer hynny—
(i) wedi eu cyllido’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan grant myfyriwr anabl, neu
(ii) wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru i’w defnyddio gan y myfyriwr at ddibenion grant myfyriwr anabl, a
(b) bo’r grant myfyriwr anabl y cyfeirir ato ym mharagraff (a) wedi ei gymeradwyo mewn cysylltiad ag—
(i) blwyddyn academaidd flaenorol o’r cwrs presennol, neu
(ii) blwyddyn academaidd o gwrs blaenorol, pan fo’r myfyriwr wedi cael cadarnhad gan Weinidogion Cymru y bydd y grant hwnnw yn cael ei drosglwyddo i’r cwrs presennol.”
PENNOD 6
Diwygiadau i’r grant at deithio – personau sy’n ymadael â gofal
31 
Yn rheoliad 65 (grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygol), ym mharagraff (3), yng Ngham 2, ar ôl “flwyddyn honno”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “neu os yw’r myfyriwr cymwys yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 49”.
32 
Yn rheoliad 66 (grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramor), ym mharagraff (2), yn y diffiniad o Y, ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu os yw’r myfyriwr cymwys yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 49”.
PENNOD 7
Diwygiad sy’n ymwneud â statws annomisiliedig
33 
Yn Atodlen 3 (cyfrifo incwm), ym mharagraff 18(2), yn Rheswm 1, ym mharagraff (a), hepgorer “nac wedi ymgartrefu”.
PENNOD 8
Cywiriadau i’r testun Cymraeg
34 
Yn y testun Cymraeg—
(a) yn Atodlen 2, ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros” rhodder “ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros”;
(ii) yn is-baragraff (3)(b), yn lle “ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros” rhodder “ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros”;
(iii) yn is-baragraff (5), yn lle “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” rhodder “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros”;
(b) yn Atodlen 7, ym mharagraff 1, yn Nhabl 16, yn y golofn gyntaf (ymadrodd), yn lle “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” rhodder “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros”.
RHAN 7 Diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
PENNOD 1
Cyflwyniad
35 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
36 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”, yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin;”.
PENNOD 3
Dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd
37 
Yn Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys), ym mharagraff 10BB—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), ”;
(ii) ym mharagraff (a), daw’r geiriau o “wedi setlo” hyd at y diwedd yn is-baragraff (i);
(iii) ar ôl yr is-baragraff (i) hwnnw mewnosoder—“neu
(ii) yn ddinesydd Prydeinig—(aa) a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw; neu(bb) sy’n ddisgynnydd uniongyrchol person a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw;”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion paragraffau (c) a (d) o is-baragraff (1), trinnir person a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o is-baragraff (1) fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig mewn unrhyw gyfnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig na’r Ynysoedd ynddi.
(4) Nid yw paragraffau (e) ac (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o’r is-baragraff hwnnw.”
PENNOD 4
Myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd
38 
Yn rheoliad 8(e), yn lle “mharagraff 3(1)(a)” rhodder “mharagraff 2(1)(a), 2A(1)(a), 3(1)(a) neu 10BB”.
39 
Yn Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ym mharagraff 2(1), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(b) ym mharagraff 2(1)(b), ar y diwedd mewnosoder “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(c) ym mharagraff 2A(1)(a), hepgorer “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(d) ym mharagraff 10BB(1)(a)(i) (fel y’i hailrifir gan reoliad 37(a)(ii) o’r Rheoliadau hyn), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”.
PENNOD 5
Diwygiadau sy’n ymwneud â Chynllun KESS 2
40 
Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “Cynllun KESS 2”.
41 
Yn rheoliad 3(3)—
(a) ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (m) a’r “neu” o’i flaen.
42 
Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (8), hepgorer is-baragraff (e);
(b) ym mharagraff (11), hepgorer is-baragraff (e) a’r “ac” o’i flaen.
RHAN 8 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
PENNOD 1
Cyflwyniad
43 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiad sy’n ymwneud â chynlluniau Wcráin
44 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 2C(2), yn lle paragraff (a) (ond nid y “neu” ar ei ôl) rhodder—“
(a) o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i) y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii) y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii) y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv) Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin,”.
PENNOD 3
Dinasyddion Prydeinig o dras Chagosaidd
45 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 8BB—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), ”;
(ii) ym mharagraff (a), daw’r geiriau o “wedi setlo” hyd at y diwedd yn is-baragraff (i);
(iii) ar ôl yr is-baragraff (i) hwnnw mewnosoder—“neu
(ii) yn ddinesydd Prydeinig—(aa) a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw, neu(bb) sy’n ddisgynnydd uniongyrchol person a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw,”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion paragraffau (c) a (d) o is-baragraff (1), trinnir person a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o is-baragraff (1) fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig mewn unrhyw gyfnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig na’r Ynysoedd ynddi.
(4) Nid yw paragraffau (e) ac (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o’r is-baragraff hwnnw.”
PENNOD 4
Myfyrwyr sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd
46 
Yn rheoliad 16(1)(b)(iv), yn lle “mharagraff 1(2)(a)” rhodder “mharagraff 1(1)(a), (2)(a) neu (3)(a), neu 8BB”.
47 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(b) ym mharagraff 1(1)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”;
(c) ym mharagraff 1(3)(a), hepgorer “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;
(d) ym mharagraff 8BB(1)(a)(i) (fel y’i hailrifir gan reoliad 45(a)(ii) o’r Rheoliadau hyn), hepgorer “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs”.
PENNOD 5
Diwygiad sy’n ymwneud â statws annomisiliedig
48 
Yn Atodlen 3 (cyfrifo incwm), ym mharagraff 18(2), yn Rheswm 1, ym mharagraff (a), hepgorer “nac wedi ymgartrefu”.
PENNOD 6
Diwygiadau sy’n ymwneud â Chynllun KESS 2
49 
Yn rheoliad 10(1), yn Eithriad 9, hepgorer paragraff (e).
50 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1), hepgorer y diffiniad o “Cynllun KESS 2”.
51 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 1, yn Nhabl 3, hepgorer y cofnod ar gyfer “Cynllun KESS 2”.
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2025