
2025 Rhif 151 (Cy. 31)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025
Gwnaed 11 Chwefror 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Chwefror 2025
Yn dod i rym 7 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ebrill 2025.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£43.90” rhodder “£44.65”;
(b) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£43.90” rhodder “£44.65”.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
3 
Yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015, ar ôl paragraff 41 mewnosoder—“
42. 
Unrhyw daliad a wneir i A gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o dan Gynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol, y gwneir taliadau odano i bersonau a gafodd eu diswyddo, eu rhyddhau neu eu gorfodi i ymddiswyddo oherwydd gwaharddiad ar aelodau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol o luoedd arfog y Goron rhwng 1967 a 2000.”
Dawn Bowden
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2025