
2025 Rhif 1371 (Cy. 226)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025
Gwnaed 17 Rhagfyr 2025
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 58(1) i (7) a 143A(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Yn unol ag adran 143A(5)(c) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi, drwy benderfyniad.

Yn unol ag adran 58(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r amcan o sicrhau (i’r graddau y bo hynny’n ymarferol) nad yw’r cyfanswm cyfanredol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau bilio ar ffurf ardrethi annomestig o ran pob blwyddyn ariannol benodol sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol yn fwy na’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n debygol o fod yn daladwy heblaw am y Rheoliadau hyn.
RHAN 1 Rhagarweiniol: cyffredinol
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2026 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2029 (“y cyfnod perthnasol”).
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(3);
 ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol;
 mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef” (“chargeable day”) yr ystyron a ganlyn—
(a) mewn perthynas â hereditamentau a feddiennir a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 43(3) o’r Ddeddf;
(b) mewn perthynas â hereditamentau heb eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 45(3) o’r Ddeddf;
(c) mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 54(3) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;
 ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a gynhelir yn unol ag adran 52ZA(10) o’r Ddeddf;
 ystyr “rhestr leol” (“local list”) yw rhestr a gynhelir yn unol ag adran 41ZA(10) o’r Ddeddf;
 ystyr “rhwymedigaeth sylfaenol” (“RhS”) (“base liability” (“BL”)) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 4;
 ystyr “swm tybiannol a godir” (“STG”) (“notional chargeable amount” (“NCA”)) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 5.
Hereditament diffiniedig
3 
Mae hereditament yn hereditament diffiniedig mewn cysylltiad â diwrnod perthnasol os caiff ei ddangos ar restr leol neu ar y rhestr ganolog ar—
(a) 31 Mawrth 2026,
(b) y diwrnod perthnasol, ac
(c) pob diwrnod, os oes un, sy’n dod ar ôl 31 Mawrth 2026 a chyn y diwrnod perthnasol.
RHAN 2 Rhagarweiniol: cyfrifiadau
Rhwymedigaeth sylfaenol
4 
Y RhS ar gyfer hereditament diffiniedig yw’r swm a godir ar gyfer 31 Mawrth 2026 a gyfrifir yn unol ag adran 43 neu 54 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, wedi ei luosi â 365.
Swm tybiannol a godir
5 

(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, yr STG ar gyfer hereditament diffiniedig yw’r swm a godir ar gyfer 1 Ebrill 2026 a gyfrifir yn unol ag adran 43, 45 neu 54 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, wedi ei luosi â 365.
(2) Pan fo, am ddiwrnod ar ôl 1 Ebrill 2026, y swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig a gyfrifir yn unol ag adran 43, 45 neu 54 o’r Ddeddf yn is na’r STG, mae paragraff (1) yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig ac eithrio—
(a) yn lle “1 Ebrill 2026” rhodder “y diwrnod y mae’r newid i’r swm a godir yn cael effaith”, a
(b) yn lle “365” rhodder “nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ariannol y mae’r diwrnod hwnnw yn dod ynddi”.
RHAN 3 Achos y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddo
Disgrifiad rhagnodedig
6 
At ddiben adran 58(2) o’r Ddeddf, mae’r achos sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig yn hereditament diffiniedig—
(a) pan fo’r STG yn fwy na’r swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—RhS±300
,
(b) pan fo’r person a oedd y talwr ardrethi o fewn ystyr “the ratepayer” yn adran 43 neu 54 o’r Ddeddf ar 31 Mawrth 2026 yr un person â’r talwr ardrethi o fewn ystyr “the ratepayer” yn adran 43, 45 neu 54 o’r Ddeddf ar y diwrnod perthnasol,
(c) pan fo’r hereditament wedi ei feddiannu gan y person y cyfeirir ato ym mharagraff (b) ar 31 Mawrth 2026, a
(d) pan na fo unrhyw ddosraniad o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf yn gymwys i’r hereditament nac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.
RHAN 4 Rheolau rhagnodedig
Rheolau ar gyfer canfod y swm a godir
7 
At ddiben adran 58(3) o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo i’w gyfrifo yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 8 i 12.
8 
Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 43, 45 neu 54 o’r Ddeddf, fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 10 i 12 sy’n gymwys.
9 
Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 10 i 12 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.
Y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2026
10 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2026, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—(STG-RhS×0.67)365
Y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2027
11 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2027, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—(STG-RhS×0.34)366
Y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2028
12 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2028, gostyngir y swm a godir yn ôl sero.
RHAN 5 Dirymu
13 
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2025