
2025 Rhif 1367 (Cy. 224) (C. 79)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gorchymyn Deddf Adeiladu 1984 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025
Gwnaed 12 Rhagfyr 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 120(1) a 134(1)(b) o Ddeddf Adeiladu 1984.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Adeiladu 1984 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar XXXX
2 
Daw adran 33 o Ddeddf Adeiladu 1984 (profion cydymffurfio â rheoliadau adeiladu) i rym ar XXXX.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2025