
2025 Rhif 1361 (Cy. 223)
Caffael Cyhoeddus, Cymru
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025
Gwnaed 17 Rhagfyr 2025
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 89(3)(a) a 122(3)(b) a (d) o Ddeddf Caffael 2023.

Yn unol ag adran 122(10)(i) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2025.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Caffael 2023.
Diwygio Atodlen 9 i Ddeddf 2023
3 

(1) Mae Atodlen 9 i Ddeddf 2023 (cyflenwyr gwladwriaeth gytuniad (cytundebau rhyngwladol penodedig)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer paragraff B1 a’r penawdau italig o’i flaen ac ar ei ôl.
(3) Ym mharagraff 26 yn lle “In any case other than a procurement regulated by the Welsh Ministers, the” rhodder “The”.
(4) Ym mharagraff 27 yn lle “In any case other than a procurement regulated by the Welsh Ministers, the” rhodder “The”.
Darpariaethau trosiannol
4 

(1) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr mae i “awdurdod contractio” yr ystyr a roddir i (“contracting authority”) gan adran 2(1) o Ddeddf 2023;
 “CBCh y DU ac Irac” (“the UK-Iraq PCA”) yw’r Cytundeb ar Bartneriaeth a Chydweithredu rhwng Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Gweriniaeth Irac a lofnodwyd yn Llundain ar 14 Ionawr 2025;
 ystyr “CPChS y DU a Kazakhstan” (“the UK-Kazakhstan SPCA”) yw’r Cytundeb Partneriaeth a Chydweithredu Strategol rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Kazakhstan a lofnodwyd yn Astana ar 24 Ebrill 2024;
 ystyr “cytundeb perthnasol” (“relevant agreement”) yw, yn ôl y digwydd, CBCh y DU ac Irac neu CPChS y DU a Kazakhstan.
(2) Mae cyfeiriad at y cytundeb perthnasol yn dod i rym yn golygu, mewn cysylltiad ag—
(a) CPChS y DU a Kazakhstan, pan fo Pennod 8 (Caffael gan Lywodraethau) o Deitl III (Masnach a Busnes) yn dechrau bod yn gymwys yn unol ag erthygl 136, neu
(b) CBCh y DU ac Irac, pan ddaw’r cytundeb hwnnw i rym yn unol ag erthygl 115.
(3) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yn effeithio ar unrhyw gaffaeliad sydd wedi ei ddechrau cyn y diwrnod y daw’r cytundeb perthnasol i rym os, cyn y diwrnod hwnnw—
(a) yw hysbysiad tendro wedi ei gyhoeddi yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf 2023 (hysbysiadau tendro a dogfennau tendro cysylltiedig),
(b) yw hysbysiad tryloywder wedi ei gyhoeddi yn unol ag adran 44(1) o Ddeddf 2023 (hysbysiadau tryloywder),
(c) yw hysbysiad tendro sydd o dan y trothwy wedi ei gyhoeddi yn unol ag adran 87(1) o Ddeddf 2023 (contractau rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy: hysbysiadau), neu
(d) mewn cysylltiad â chontract sydd o dan y trothwy nad yw is-baragraff (c) yn gymwys iddo, yw awdurdod contractio wedi cysylltu â chyflenwr er mwyn dechrau dyfarniad y contract hwnnw.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2025