
2025 Rhif 1353 (Cy. 220) (C. 76)
Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru
Caffael Cyhoeddus, Cymru
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025
Gwnaed 16 Rhagfyr 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 48 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Mawrth 2026
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Mawrth 2026—
(a) adran 22(2) (awdurdodau contractio);
(b) adran 24(1) i (7) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol);
(c) adran 25(1) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr);
(d) adran 26(1) (dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau allanoli gwasanaethau);
(e) adran 28 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau);
(f) adran 29 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru);
(g) adran 30 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru);
(h) adran 31 (cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru);
(i) adran 34 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau);
(j) adran 35 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru);
(k) adran 36 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru);
(l) adran 37 (cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru);
(m) adran 38 (strategaeth gaffael);
(n) adran 40 (cofrestr gontractau), at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(o) adran 41 (ymchwiliadau caffael);
(p) Atodlen 2 (amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2026
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2026—
(a) adran 39 (adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol), at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(b) adran 42 (adroddiad blynyddol Gweinidogion Cymru ar gaffael cyhoeddus).
Jack Sargeant
Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2025