
2025 Rhif 1305 (Cy. 211) (C. 67)
Ardoll Ymwelwyr, Cymru
Gorchymyn Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (Cychwyn) 2025
Gwnaed 10 Rhagfyr 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 67(2) a (3)(b) o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (Cychwyn) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2026
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2026—
(a) adran 4 (cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr);
(b) adran 5 (dyletswydd ar ddarparwyr llety ymwelwyr i fod yn gofrestredig);
(c) adran 6(1) i (4) (ceisiadau i fod yn gofrestredig);
(d) adran 8 (pŵer i gofrestru personau pan na fo cais wedi ei wneud i ACC);
(e) adran 9 (dyletswydd i hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau);
(f) adran 11(1) i (3) (pŵer i newid y gofrestr pan na fo hysbysiad wedi ei roi i ACC);
(g) adran 12 (pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol);
(h) adran 14 (dileu person o’r gofrestr ar gais i ACC);
(i) adran 16(1) i (3) (pŵer i ddileu person o’r gofrestr pan nad oes cais wedi ei wneud);
(j) adran 23 (adolygiadau ac apelau) at bob diben ac eithrio mewn cysylltiad â phenderfyniad sy’n ymwneud â chosb o dan Ran 2 o’r Ddeddf;
(k) adran 24 (cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig);
(l) adran 25(a) a (b) (dehongli’r Rhan);
(m) adran 26 (cofrestru: pwerau i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol);
(n) adran 27 (diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 etc.);
(o) adran 55 (ystyr “busnes perthnasol” yn y Bennod hon) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(p) adran 56(1) i (6) (dyletswyddau ac atebolrwyddau partneriaethau a chyrff anghorfforedig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(q) adran 57 (pŵer i wneud darpariaeth bellach ynghylch partneriaethau a chyrff anghorfforedig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(r) adran 58 (marwolaeth, analluedd ac ansolfedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(s) adran 59 (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch marwolaeth, analluedd, ansolfedd ac achosion pan fo person yn peidio â bodoli) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(t) adran 60 (pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(u) Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr);
(v) Rhan 1 o Atodlen 2 (diwygiadau sy’n ymwneud â Rhannau 2 a 3).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2027
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2027—
(a) adran 6(5) (ceisiadau i fod yn gofrestredig);
(b) adran 7 (cosbau am fethu â chofrestru);
(c) adran 10 (cosbau am fethu â hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau);
(d) adran 11(4) (pŵer i newid y gofrestr pan na fo hysbysiad wedi ei roi i ACC);
(e) adran 13 (cosbau am fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 12);
(f) adran 15 (cosbau pan fo person yn methu â gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr);
(g) adran 16(4) (pŵer i ddileu person o’r gofrestr pan nad oes cais wedi ei wneud);
(h) adran 17 (esgus rhesymol);
(i) adran 18 (pwerau i ostwng cosbau, eu hepgor neu eu gohirio);
(j) adran 19 (asesu cosbau);
(k) adran 20 (talu cosbau);
(l) adran 21 (gwahardd cosbi ddwywaith);
(m) adran 22 (atebolrwydd cynrychiolwyr personol);
(n) adran 23 (adolygiadau ac apelau) at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(o) adran 25(c) (dehongli’r Rhan);
(p) adran 56(7) (dyletswyddau ac atebolrwyddau partneriaethau a chyrff anghorfforedig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2025