Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 95 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, gan ddiystyru unrhyw gyfnodau diddymu neu pan fo toriad am fwy na 4 diwrnod.
2025 Rhif 1281 (Cy. 208)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025
Gwnaed 5 Rhagfyr  2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Rhagfyr 2025
Yn dod i rym 1 Ebrill  2026
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2026.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2026 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £130.75 y dunnell,
(b) y gyfradd is yw £8.65 y dunnell, ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £196.15 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2026”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2025