
2025 Rhif 126 (Cy. 28)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed 6 Chwefror 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 10 Chwefror 2025
Yn dod i rym 3 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 74(2) a (4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025 a deuant i rym ar 3 Mawrth 2025.
Diwygio Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (articles of association of an RTM company)—
(a) yn erthygl 1 (defined terms)—
(i) ar ôl y diffiniad o “immediate landlord”, mewnosoder—“
 “lease” means a long lease within the meaning of sections 76 and 77 of the 2002 Act;”;
(ii) yn y diffiniad o “qualifying tenant”, yn lle “72” rhodder “75”;
(b) yn erthygl 33(3) (voting: general)—
(i) yn lle is-baragraff (f) rhodder—“
(f) any person who is not otherwise entitled to any votes is entitled to one vote if that person is—
(i) the freeholder of the Premises,
(ii) a landlord under a lease or leases of the whole or any part of the Premises, and
(iii) a member of the company;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (f), mewnosoder—“
(g) the votes exercisable by landlords under leases of the whole or any part of the Premises must be capped at one third of the votes exercisable by qualifying tenants.”
(3) Yn Atodlen 2 (erthyglau cymdeithasu cwmni RTM)—
(a) yn erthygl 1 (diffinio termau)—
(i) ar ôl y diffiniad o “landlord uniongyrchol”, mewnosoder—“
 ystyr “les” yw les hir o fewn ystyr “long lease” yn adrannau 76 a 77 o Ddeddf 2002;”;
(ii) yn y diffiniad o “tenant cymwys”, yn lle “72” rhodder “75”;
(b) yn erthygl 33(3) (pleidleisio: cyffredinol)—
(i) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—“
(dd) mae gan unrhyw berson nad oes ganddo hawl fel arall i unrhyw bleidleisiau yr hawl i un bleidlais os yw’r person hwnnw—
(i) yn rhydd-ddeiliad y Fangre,
(ii) yn landlord o dan les neu lesoedd o’r cyfan neu unrhyw ran o’r Fangre, a
(iii) yn aelod o’r cwmni;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (dd), mewnosoder—“
(e) rhaid i’r pleidleisiau sy’n arferadwy gan landlordiaid o dan lesoedd o’r cyfan neu unrhyw ran o’r Fangre gael eu capio ar draean o’r pleidleisiau sy’n arferadwy gan denantiaid cymwys.”
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2025