
2025 Rhif 1217 (Cy. 199)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Gwnaed 19 Tachwedd 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Tachwedd 2025
Yn dod i rym 5 Ionawr 2026

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 49(2), 50(2) a (3), 53(11)(a) a 105(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Yn unol ag adrannau 49(5) a 50(5) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cynrychiolwyr hynny o awdurdodau perthnasol yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ionawr 2026.
Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
2 

(1) Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol” yr ystyr a roddir i “politically restricted post” gan adran 2(1), (1A) ac (1B) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
 ystyr “swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol” (“senior, cabinet or executive post”) yw—
(a) cadeirydd a etholir o dan adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(b) is-gadeirydd a benodir o dan adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(c) aelod llywyddol a etholir o dan adran 24A(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(d) dirprwy aelod llywyddol a benodir o dan adran 24B(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(e) maer etholedig a etholir o dan adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(f) dirprwy faer a benodir o dan baragraff 1(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(g) arweinydd gweithredol a etholir o dan adran 11(3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(h) aelod o weithrediaeth awdurdod lleol a benodir o dan adran 11(2)(b) neu (3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(i) Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a benodir yn unol ag adran 66 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;
 ystyr “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;.”.
(3) Yn lle rheoliad 6 (aelodau blaenorol awdurdod perthnasol) rhodder—“
6. 

(1) Caiff person sydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw’n aelod mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol yn ddarostyngedig i’r amodau a ganlyn—
(a) ni chaiff unrhyw berson sydd wedi dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol mewn un neu ragor o awdurdodau perthnasol fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol y mae’r person hwnnw wedi dal swydd o’r fath ynddo hyd nes y daw i ben y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf;
(b) ni chaiff unrhyw berson a oedd yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol yr oedd y person hwnnw’n aelod ohono (nad oedd yn dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol) hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw ddiwethaf.
(2) Caiff person sydd wedi bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, ond nad yw’n aelod mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig yn ddarostyngedig i’r amodau a ganlyn—
(a) ni chaiff unrhyw berson sydd wedi dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol mewn awdurdod cyfansoddol cyd-bwyllgor corfforedig fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw hyd nes y daw i ben y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf;
(b) ni chaiff unrhyw berson a oedd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw (nad yw’n dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol yn achos awdurdod cyfansoddol), fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, yr awdurdod cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw ddiwethaf.”
(4) Yn lle rheoliad 7 (swyddogion blaenorol awdurdod perthnasol) rhodder—“
7. 

(1) Caiff person sydd wedi bod yn swyddog i un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw’n swyddog mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol, ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys.
(2) Pan fo’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, neu swydd swyddog cofrestru, mewn awdurdod perthnasol, ni chaiff y person hwnnw fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol y mae’r person hwnnw wedi dal swydd o’r fath ynddo hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf.
(3) Caiff person sydd wedi bod yn swyddog i gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n swyddog i awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol cyd-bwyllgor corfforedig, ond nad yw’n swyddog mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys.
(4) Pan fo’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (3) wedi dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol mewn unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, neu mewn awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, neu wedi dal swydd swyddog cofrestru mewn awdurdod cyfansoddol unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, ni chaiff y person hwnnw fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf.”
Diwygio Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
3 

(1) Mae Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) yn y testun Saesneg, ar ddiwedd y diffiniad o “member”, hepgorer “and”;
(b) yn y testun Cymraeg, ar ddiwedd y diffiniad o “aelod cyfetholedig”, hepgorer “ac”;
(c) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “nodweddion gwarchodedig” yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;”.
(3) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 7 (cydraddoldeb a pharch) yn lle “gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd” rhodder “nodweddion gwarchodedig neu eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol”.
Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
4 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008—
(a) ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “nodweddion gwarchodedig” yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;”;
(b) ym mharagraff 4(a), yn lle “rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd” rhodder “nodweddion gwarchodedig neu eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol”.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2025