
2025 Rhif 1215 (Cy. 198)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025
Gwnaed 19 Tachwedd 2025
Yn dod i rym 6 Ebrill 2027

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 108(1), (3), (4) a (5), 109(4) a 110(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 108(7) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi—
(a) ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r Rheoliadau hyn yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a
(b) cynnal ymgynghoriad â’r personau cynrychiadol yr oedd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Yn unol ag adran 123(2)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2027.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “AEI” (“HIA”) yw asesiad o’r effaith ar iechyd;
 ystyr “asesiad o’r effaith ar iechyd” (“health impact assessment”) yw asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobl Cymru;
 ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw person sydd wedi ei restru yn adran 110(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Yr amgylchiadau y mae AEI yn ofynnol odanynt
3 
Rhaid i gorff cyhoeddus gynnal AEI pan fydd yn bwriadu gwneud penderfyniad o natur strategol ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau.
Sut i gynnal AEI
4 

(1) Wrth gynnal AEI a bennir yn rheoliad 3, rhaid i gorff cyhoeddus—
(a) nodi’r penderfyniad y mae’r AEI yn ymwneud ag ef;
(b) nodi unrhyw grwpiau o’r boblogaeth y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried yn rhesymol y gall y penderfyniad effeithio ar eu hiechyd corfforol neu eu hiechyd meddwl;
(c) nodi ac asesu—
(i) unrhyw effeithiau a fwriedir gan y penderfyniad, ac unrhyw effeithiau nas bwriedir gan y penderfyniad y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried yn rhesymol eu bod yn debygol, ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unrhyw grwpiau o’r boblogaeth a nodir o dan is-baragraff (b),
(ii) mewn perthynas ag unrhyw effeithiau a nodir o dan baragraff (i), unrhyw fesurau y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried yn rhesymol y gallant atal, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu gynyddu unrhyw effeithiau cadarnhaol, a
(iii) unrhyw beth arall y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod yn berthnasol i gynnal yr AEI.
(2) Wrth nodi ac asesu unrhyw effeithiau at ddibenion paragraff (1)(c)(i), rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i’r penderfynyddion iechyd ehangach ac unrhyw ffactorau annhegwch iechyd.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “ffactorau annhegwch iechyd” yw unrhyw wahaniaethau o ran canlyniadau iechyd a chyfleoedd iechyd y gellir eu hesbonio’n rhesymol, neu y gallant fod wedi eu hachosi’n rhesymol, gan unrhyw sail, gan gynnwys—
(i) statws economaidd-gymdeithasol,
(ii) lleoliad daearyddol, a
(iii) presenoldeb nodwedd warchodedig o fewn ystyr “protected characteristic” ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
(b) ystyr “cyfleoedd iechyd” yw mynediad at gyfleoedd sydd ar gael i’r cyhoedd y mae’r corff cyhoeddus sy’n cynnal yr AEI yn ystyried yn rhesymol eu bod yn hybu neu’n gwella iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu y bwriedir iddynt wneud hynny;
(c) ystyr “penderfynyddion iechyd ehangach” yw’r ffactorau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol a all effeithio ar iechyd pobl.
Cymorth gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
5 
Rhaid i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo cyrff cyhoeddus sy’n cynnal AEI.
Cyhoeddi AEI
6 
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cynnal AEI, rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi’r AEI mewn unrhyw fodd y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod yn briodol.
Diwygio adran 110(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
7 

(1) Mae adran 110(1) (ystyr “corff cyhoeddus”) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.
(3) Ar ôl paragraff (d)(ii) mewnosoder—“
(iii) Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;”.
(4) Ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(da) yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)—
(i) Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
(ii) Addysg a Gwella Iechyd Cymru;”.
(5) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“
(m) Gofal Cymdeithasol Cymru;
(n) Awdurdod Cyllid Cymru;
(o) Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013));
(p) Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679));
(q) Cymwysterau Cymru.”
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2025