
2025 Rhif 119 (Cy. 26)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025
Gwnaed 5 Chwefror 2025
Yn dod i rym 7 Chwefror 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 30(6) a 78 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 79(2)(d) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Chwefror 2025.
Dehongli
2 
Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Addasu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog
3 
Yn Atodlen 13 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—“
Amgylchiadau pan na fo is-anheddau yn cyfrif fel anheddau ar wahân
7A. 

(1) Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—
(a) pan fo—
(i) y prynwr yn unigolyn, a
(ii) prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”),
(b) pan fo un yn unig o’r anheddau a brynir yn annedd gymwys, ac
(c) nad yw paragraff 15 o Atodlen 5 yn gymwys iddo.
(2) Ond nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—
(a) sydd o fewn is-baragraff (1), a
(b) y mae paragraff 18 o Atodlen 5 yn gymwys iddo (rhyng-drafodiad sy’n cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch).
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae’r buddiannau yn yr annedd gymwys a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) ac annedd a brynir (neu fwy nag un annedd a brynir) sy’n is-annedd iddi i’w trin fel pe baent yn fuddiant mewn annedd unigol.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, mae annedd a brynir (“annedd A”) yn is-annedd i annedd gymwys (“annedd B”) pe bai annedd A yn is-annedd i annedd B at ddibenion Atodlen 5 (gweler paragraff 14 o’r Atodlen honno).
(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “annedd gymwys” yw annedd sy’n annedd gymwys at ddibenion Rhan 3 o Atodlen 5 (gweler paragraff 13 o’r Atodlen honno).”
Darpariaethau trosiannol
4 

(1) Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad tir sy’n cael effaith ar 7 Chwefror 2025 neu ar ôl hynny.
(2) Ond nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad tir os—
(a) y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymir iddo ac a gyflawnir yn sylweddol cyn 7 Chwefror 2025, neu
(b) y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymir iddo cyn 7 Chwefror 2025 ac nid yw wedi ei eithrio gan baragraff (3).
(3) Mae trafodiad tir wedi ei eithrio—
(a) os ceir unrhyw amrywiad i’r contract, neu os aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 7 Chwefror 2025,
(b) os rhoddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 7 Chwefror 2025, neu
(c) pan geir, ar neu ar ôl 7 Chwefror 2025, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o destun y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract yr hawl i alw am drosglwyddiad o ganlyniad iddo.
(4) Os yw—
(a) trafodiad tir ôl-gychwyn yn gysylltiol o ran trafodiad tir cyn-gychwyn, a
(b) y trafodiad tir cyn-gychwyn yn drafodiad perthnasol at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 13 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017,
nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad tir ôl-gychwyn.
(5) Ym mharagraff (4)—
(a) ystyr “trafodiad tir cyn-gychwyn” yw trafodiad tir sy’n cael effaith cyn 7 Chwefror 2025 neu sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2)(a) neu (2)(b);
(b) ystyr “trafodiad tir ôl-gychwyn” yw pob trafodiad tir arall.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
5 Chwefror 2025